Neidio i'r prif gynnwy

Bydd camerâu cyflymder cyfartalog yn cael eu treialu ar Allt Rhuallt yr A55 tua’r gorllewin er mwyn gwneud yr ardal yn fwy diogel, meddai Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r camerâu’n cael eu gosod ar ôl i ddata a gasglwyd rhwng 8 Mawrth a 27 Mawrth ddangos fod miloedd o bobl yn torri’r terfyn cyflymder cyfreithlon wrth yrru i lawr Allt Rhuallt.

Casglodd y system radar gyflymder 394,326 o gerbydau a dangosodd fod 217,642 ohonynt yn teithio mwy na 70mya ar y gerbytffordd tua’r gorllewin. Fe gafodd y data eu casglu o dri lleoliad er mwyn rhoi darlun manylach o oryrru yn ardal Allt Rhuallt.

Mae gosod camerâu cyflymder cyfartalog yn un o’r ymyriadau syml ond effeithiol a nodwyd yn yr astudiaeth ar gydnerthedd yr A55 a gynhaliwyd y llynedd i weld sut orau i wella profiadau teithwyr a lleihau nifer ac effeithiau digwyddiadau a cherbydau sy’n torri i lawr.

Roedd yr astudiaeth eisoes wedi tynnu sylw at oryrru ar Allt Rhuallt tua’r gorllewin cyn i’r data diweddaraf gael eu casglu a bellach o’i herwydd a’r data goryrru diweddaraf, mae system mesur cyflymder cyfartalog yn cael ei threialu.

Bydd camerâu’n yn cael eu gosod wrth C28, C29 a C30 ac mae disgwyl i’r system fod yn weithredol yng nghanol mis Mai ar ôl ei phrofi’n drylwyr. Bydd arwyddion yn cael eu gosod yn yr ardal ar yr A55 yn ystod y cyfnod prawf i hysbysu gyrwyr pan na fydd y camerâu’n weithredol. Ar ôl symud yr arwyddion hyn i ffwrdd, bydd y system yn weithredol.

Bydd gwybodaeth am yr adegau y bydd y system yn weithredol ar gael hefyd ar wefan Traffig Cymru a thudalen Traffig y Gogledd a’r Canolbarth (@TraffigCymruG).

Bydd y gwaith i osod y camerâu’n cael ei wneud yn ystod y nos yn unol ag ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet na fydd unrhyw un o lonydd yr A55 yn cael ei chau yn ystod y dydd ar gyfer gwaith ffordd tan fis Medi.

Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

“Mae diogelwch ar y ffyrdd yn un o’n blaenoriaethau ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf hon am oryrru yn dangos yn glir pam rydyn ni’n cymryd camau mewn cysylltiad ag Allt Rhuallt ar yr A55 tua’r gorllewin.

“Mae nifer y cerbydau sy’n goryrru ar y darn hwn o’r gerbytffordd yn destun pryder mawr a bydd y mesurau rydyn ni’n eu rhoi ar waith nawr yn sicrhau bod y cyhoedd yn fwy diogel ac yn helpu i leihau nifer y gwrthdrawiadau yn yr ardal. Byddant hefyd yn sicrhau bod yr A55 yn gallu ymdopi â thraffig yn well.

“Rhaid inni gofio y gallwn ni i gyd gyfrannu at ddiogelwch ein ffyrdd. Gall gwrthdrawiadau ar y ffyrdd ddigwydd am nifer o resymau, a goryrru yw un o’r rhesymau mwyaf cyffredin.

“Mae treialu camerâu cyflymder cyfartalog yn ardal Allt Rhuallt yn un o nifer o ymyriadau rydyn ni’n eu rhoi ar waith yn sgil yr astudiaeth ar gydnerthedd yr A55 a wnes i gomisiynu’r llynedd a bydd yn sicrhau bod traffig yn llifo mewn amgylchedd mwy diogel.”