Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, wedi cymryd camau heddiw i leddfu’r pwysau sydd ar feddygon teulu yn ystod cyfnod y gaeaf hwn, sy’n fwy prysur nag arfer.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Vaughan Gething, mewn partneriaeth â BMA Cymru Wales, wedi penderfynu y bydd yr elfen Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau o gontract meddygon teulu yn cael ei llacio tan 31 Mawrth 2017.

Drwy weithredu fel hyn, bydd gan feddygon teulu a nyrsys practis fwy o gapasiti i reoli’r cleifion sydd fwyaf agored i niwed a’r rhai mwyaf sâl yn ystod cyfnod y gaeaf pan fo cynnydd sylweddol yn y galw am eu gwasanaethau.   

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Bydd y camau cadarnhaol rydyn ni wedi eu cymryd heddiw yn helpu i leddfu’r pwysau ar ofal sylfaenol. Hoffwn i ddiolch i feddygon teulu a nyrsys practis ym mhob cwr o Gymru am eu gwaith caled, a’u hymrwymiad i’w cleifion, yn ystod y cyfnod y gaeaf prysur hwn.  

“Yn hytrach na galw cleifion i mewn yn awtomatig am apwyntiadau rheolaidd ar adeg brysuraf y flwyddyn, bydd amser meddygon a nyrsys practis yn cael ei ryddhau i weld cleifion, a bydd y rheini sydd angen apwyntiad ar frys oherwydd eu bod nhw’n sâl yn cael blaenoriaeth.

“Mae BMA Cymru Wales a Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi ymrwymo i weithio’n gadarnhaol, ac i gydweithio, er mwyn gwella mynediad at wasanaethau. Ni fydd unrhyw bractis meddygon teulu ar ei golled yn ariannol oherwydd bod yr elfen Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau yn cael ei llacio.   

“Dw i’n gobeithio y bydd gofal sylfaenol a chleifion yng Nghymru yn elwa ar y penderfyniad hwn. Mae’n ddull synnwyr cyffredin ac mae’n dangos pa mor hyblyg yw Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru – yn enwedig pan fo’r Gwasanaeth o dan bwysau.”

Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Cyngor Meddygon Teulu Cymru:

“Mae’r weithred hwn i’w groesawu gan y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar bractisau trwy leihau biwrocratiaeth, yn ogystal â rhyddhau capasiti a fydd yn galluogi meddygon teulu a nyrsys practis i ganolbwyntio ar anghenion gofal cymhleth eu cleifion ar adeg arbennig o brysur.  

“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i barhau i wella amodau gweithio meddygon teulu yng Nghymru, ac mae’r cytundeb hon yn dangos beth y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio ar weledigaeth gytûn.”