Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Iau 19 Mawrth) Mae'r Prif Swyddog Fferyllol, Andrew Evans, wedi cyhoeddi pum cam syml y gallwch eu cymryd i helpu’ch fferyllfa gymunedol i roi'r cymorth y mae ei arnoch ei angen yn ystod y cyfnod prysur hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • Dilynwch gyngor Llywodraeth Cymru a pheidiwch ag ymweld â fferyllfa os oes gan unrhyw un yn eich cartref wres uchel neu beswch newydd a pharhaus, hyd yn oed os yw'n ysgafn.
  • Cynlluniwch ymlaen llaw lle bo modd. Mae fferyllfeydd yn gweithio'n galed i ddarparu presgripsiynau, ond ceisiwch archebu eich presgripsiwn nesaf saith niwrnod cyn y dyddiad penodedig i’w gasglu. Bydd hyn yn helpu'r fferyllydd i ddelio â cheisiadau ac ymholiadau brys.
  • Rhowch eich manylion cyswllt ar eich presgripsiwn fel y gall fferyllfeydd roi gwybod i chi pan fydd eich meddyginiaethau'n barod i'w casglu. Bydd hyn yn lleihau faint o amser y mae angen i chi fod yn y fferyllfa. Pan fyddwch yn darparu eich manylion cyswllt, arhoswch i'r fferyllfa gysylltu â chi a cheisiwch beidio â ffonio'r fferyllfa oni bai ei fod yn fater brys.
  • Os ydych yn hunanynysu gofynnwch i'ch teulu, ffrindiau neu gymdogion drefnu i gasglu eich meddyginiaeth ar eich cyfer, ac os nad oes gennych unrhyw un sy'n gallu casglu eich moddion, siaradwch â'ch fferyllfa gymunedol am gyngor ynghylch sut y gallant helpu.
  • Os yw’ch iechyd yn iawn a’ch bod yn gallu ymweld â'r fferyllfa eich hun, meddyliwch sut y gallwch chi helpu'ch teulu, eich ffrindiau a'ch cymdogion sy'n hunanynysu drwy gasglu eu moddion ar eu rhan (efallai y bydd angen i chi fynd ag ID gyda chi ac fe fydd angen i chi wybod enw a chyfeiriad y person yr ydych yn casglu ar ei gyfer).

Dywedodd Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol:

Mae ein fferyllwyr, technegwyr fferyllfeydd a'u timau wedi ymrwymo i helpu cleifion a'r cyhoedd i barhau i gael eu meddyginiaethau ac i gynnig cymorth a chyngor.

Er hynny, maent o dan gryn bwysau ar hyn o bryd yn wyneb y galw digynsail, yn ogystal â’r ffaith bod llawer o'u staff eu hunain yn methu â gweithio am eu bod yn hunanynysu er mwyn cadw eu hunain a'r cyhoedd yn ddiogel.

Cofiwch y bydd timau fferyllfeydd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pobl yn gallu cael y meddyginiaethau y mae arnynt eu hangen pan fydd eu hangen arnynt, felly byddwch cystal â dangos iddynt y parch y maent yn ei haeddu. Drwy ddilyn y pum cam syml hyn gallwch helpu eich fferyllfa i barhau i roi'r cymorth sydd ei angen ar bawb.