Neidio i'r prif gynnwy

Mewn datganiad i'r Cynulliad, mae Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, am gyhoeddi dwy ddogfen bolisi newydd heddiw, yn nodi dulliau newydd o fynd i'r afael â digartrefedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Disgwylir i'r Gweinidog ddweud: 

"Wrth siarad â phobl dw i'n eu cyfarfod, dw i'n aml yn clywed hanesion torcalonnus am dor-perthynas o fewn y teulu, trais domestig, problemau iechyd meddwl, problemau ariannol, camddefnyddio sylweddau a phrofedigaeth.

"Mae'r materion hyn yn gallu peri i rai pobl golli eu cartrefi a chreu cylch cythreulig sy'n eu harwain i orfod cysgu allan. 

"Mae'r cynnydd diweddar yn y niferoedd sy'n cysgu allan yn siom yn wyneb ein hymdrechion a'r arian rydyn ni wedi'i fuddsoddi. Ond dw i o'r farn ei fod, i raddau helaeth, yn adlewyrchu effeithiau cynyddol y cyni sy'n parhau, y cynnydd o ran tlodi mewn gwaith a'r camau sydd wedi'u cymryd i ddiwygio'r system les."

Yn ogystal â chyllid newydd ar gyfer eu setliadau refeniw, bydd cynghorau yng Nghymru yn cael cyllid grant o £2.8m yn 2018/19 er mwyn sefydlu modelau arfer gorau i atal digartrefedd. Bydd hyn yn helpu i leihau'r niferoedd sy'n cysgu allan, yn atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, yn ei gwneud yn haws i bobl gael cartref o fewn y sector rhentu preifat, ac yn cryfhau gwasanaethau i bobl â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau.

Bydd Rebecca Evans AC hefyd yn dweud:

"Heddiw, dw i'n cyhoeddi dogfen bolisi sy'n amlinellu sut y caiff Tai yn Gyntaf ei ddatblygu ledled Cymru. Mae tystiolaeth gref bod Tai yn Gyntaf yn gweithio orau o ddilyn ei egwyddorion craidd - sef bod tai yn cael eu darparu yn ddiamod, bod gwasanaethau cymorth ar gael, a bod modd cael gafael ar gyllid i helpu gydag anghenion unigol.

"Dw i hefyd yn lansio ein Cynllun Gweithredu i leihau cysgu allan. Mae wedi'i ddatblygu ochr yn ochr â sefydliadau fel Shelter Cymru, ac aelodau o Rough Sleepers Cymru, ac mae'n cwmpasu ystod o weithgarwch er mwyn helpu pobl i ddod i gysylltiad â gwasanaethau a gadael y stryd cyn gynted â phosibl.  Mae hefyd yn mynd i'r afael â materion ehangach fel angen blaenoriaethol a'n canllawiau ar gynlluniau tywydd oer.

"Un agwedd ar ddigartrefedd yw cysgu allan. Dim ond os oes gyda ni system sy'n cynnig cartref diogel i bawb y gallwn ni fynd i'r afael â'r broblem mewn gwirionedd. Dim ond hyn a hyn y gall adeiladu cartrefi ac ehangu stoc dai cymdeithasol ei wneud, ac fe fyddaf i'n gweithio gyda'r sector rhentu preifat i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o harneisio eu cyflenwad nhw o dai i ateb y galw. Fe fyddaf i hefyd yn edrych ar sut y gallwn ni barhau i leihau niferoedd y cartrefi sy'n wag.

"Mae gan Lywodraeth Cymru record dda o ran atal digartrefedd, ac fe fyddwn yn parhau i arwain y ffordd i sicrhau ein bod ni'n creu byd lle nad oes angen i bobl gysgu allan yng Nghymru."