Neidio i'r prif gynnwy

Dynion ifanc yw llawer o'r rhai sy'n defnyddio'r cyffuriau wrth iddyn nhw geisio newid delwedd eu corff neu wella eu perfformiad mewn chwaraeon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ei haraith yn Stadiwm Principality i symposiwm o bartneriaid allweddol â'r nod o fynd i'r afael â'r broblem, bydd Rebecca Evans yn nodi bod y defnydd o'r cyffuriau hyn yn broblem gynyddol, yn enwedig mewn rhai ardaloedd yn y De.

Dynion ifanc yw llawer o'r rhai sy'n defnyddio'r cyffuriau wrth iddyn nhw geisio newid delwedd eu corff neu wella eu perfformiad mewn chwaraeon.

Yn ôl ymchwil yng Nghymru, o’r rheini sy’n defnyddio rhaglenni ar gyfer offer chwistrellu di-haint i ddefnyddio cyffuriau sy'n gwella perfformiad a delwedd, roedd 36% yn nodi eu bod wedi dechrau defnyddio’r cyffuriau o fewn y tair blynedd diwethaf. Mae hyn yn awgrymu cynnydd diweddar yn y defnydd.

Gall defnyddio’r sylweddau hyn arwain at niwed difrifol, gan gynnwys clefyd y galon a niwed i'r iau. Mae cysylltiad hefyd â phroblemau iechyd meddwl fel ymddygiad ymosodol ac iselder yn ogystal â pherygl o gael haint drwy chwistrellu'r cyffuriau.

A hithau’n siarad cyn y symposiwm, dywedodd Rebecca Evans: 

"Mae’r defnydd o IPEDs yn fwy na phroblem i’r byd chwaraeon yn unig. Mae'n fater i'r gymdeithas gyfan.  Mae'n peri gofid bod cynifer o bobl ifanc, yn enwedig dynion, yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon er lles delwedd a bod rhai wedyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol.

"Rhaid i ni droi'r diwylliant hwn ar ei ben os ydyn ni am warchod cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc rhag y sgil effeithiau difrifol y gall y cyffuriau hyn eu hachosi.

"Dyma pam ei bod yn bleser gweld cynifer o bartneriaid allweddol yn bresennol yn y symposiwm heddiw. Drwy gynnal partneriaeth gref â'r trydydd sector, y sector iechyd, awdurdodau lleol ac asiantau chwaraeon gallwn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud a mynd i'r afael â'r broblem." 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud gwaith sylweddol i fynd i'r afael â'r cyffuriau hyn, gan gynnwys datblygu gwefan IPED i ddarparu gwybodaeth a chyngor i'r rhai sy'n eu defnyddio neu'n ystyried eu defnyddio.  

Dywedodd Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Dros yr ugain mlynedd diwethaf ry'n ni wedi gweld bod llawer mwy o bobl yn defnyddio'r cyffuriau hyn ar draws demograffeg eang.  Mae'r newid yn y diwylliant a’r pwyslais cynyddol ar siâp corff dynion, yn ogystal â’r ffaith bod steroidau anabolig, hormonau tyfu a pheptidau newydd yn haws i’w cael wedi arwain at gynnydd sylweddol yn eu defnydd ac yn y pwysau i ddefnyddio'r cyffuriau hyn o bosib.

“Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau tri pheth, sef: bod gan y bobl yr wybodaeth gywir a'u bod yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth gywir; nad yw unrhyw un yn wynebu pwysau i ddefnyddio’r cyffuriau hyn i newid y ffordd maen nhw’n edrych neu i wella perfformiad; a bod unrhyw un sy'n defnyddio neu'n ystyried defnyddio’r cyffuriau hyn yn gallu cysylltu â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau eraill er mwyn lleisio eu pryderon a gwneud y penderfyniadau iawn."

Mae Chwaraeon Cymru wedi mabwysiadu safiad o beidio â goddef camddefnyddio cyffuriau sy'n gwella perfformiad a delwedd mewn chwaraeon. Dywedodd Brian Davies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Elitaidd Chwaraeon Cymru: 
“Mae'r rhain yn faterion hollbwysig i ni. Mae cystadleuaeth deg yn rhan annatod o chwaraeon lle mae’r unigolion yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau ac yn cymryd rhan yn rhydd o unrhyw gyffuriau i wella perfformiad.
"Mae addysg, profi bwriadol a gwaharddiadau i gyd yn dechnegau sydd wedi cael eu defnyddio i warchod enw da’r byd chwaraeon.
"Ond mae'n bwysig ein bod yn deall yr heriau y mae ein cymunedau'n eu hwynebu a'r pwysau sy'n bodoli yn y gymdeithas sydd ohoni. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn ni wneud hyn. 
"Nawr, gallwn gymryd cam arall ymlaen ac ategu mor bwysig yw hi bod pobl ledled Cymru'n ymwybodol o'r materion hyn."

UK Anti-Doping (UKAD) yw sefydliad cenedlaethol gwrthgyffuriau'r DU ac mae'n gweithio ar draws dros 50 o chwaraeon Olympaidd, Paralympaidd, Gemau'r Gymanwlad a chwaraeon proffesiynol i atal a sylwi ar y defnydd o gyffuriau yn y maes. Dywedodd Nicole Sapstead, Prif Weithredwr UKAD: 
"Mae UKAD yn parhau'n bryderus am y nifer o bobl ifanc sy'n troi at steroidau er mwyn gwella eu perfformiad neu ddelwedd. Yn ogystal â bod yn broblem ym myd chwaraeon, mae hefyd yn datblygu’n fater difrifol i’r gymdeithas ac i genhedlaeth o bobl ifanc."Mae’r symposiwm heddiw'n hanfodol wrth fynd i'r afael â'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad a delwedd yng Nghymru ac ry'n ni'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y mater a chydweithio â nifer o bartneriaid yng Nghymru. Dyma gam cadarnhaol ymlaen wrth fynd i'r afael â'r ffasiwn hwn sy'n peri pryder. Nid cyfrifoldeb i un asiantaeth neu sefydliad yn unig yw camddefnyddio’r cyffuriau hyn. Mae gennym ni i gyd ein rhan i chwarae wrth ddiogelu iechyd ein pobl ifanc."