Neidio i'r prif gynnwy

Mike wedi’i gam-drin yn rhywiol a’i dreisio am nifer o flynyddoedd fel plentyn bach.

Cyfeiriodd Mike ei hun i New Pathways* ar gyngor ei feddyg teulu. Roedd ei feddyg teulu wedi argymell ei fod yn chwilio am gwnselydd arbenigol am fod Mike wedi’i gam-drin yn rhywiol a’i dreisio am nifer o flynyddoedd fel plentyn bach. Roedd Mike wedi mynd i rai sesiynau am gyfnod byr yn y gorffennol, ond doedden nhw ddim wedi bod o lawer o fudd iddo. Roedd meddyliau ynghylch hunanladdiad yn ei flino ar ddechrau’r sesiynau cwnsela. Roedd Mike yn ei chael yn anodd cysgu ac yn cael hunllefau. Roedd yn teimlo bod ei orbryder a’i iselder yn effeithio arno ac yn ei rwystro rhag treulio amser gydag eraill, ac yn aml roedd hyn yn peri iddo dynnu’n ôl oddi wrth gwmni pobl eraill. Sylweddolodd Mike ei fod yn cario cywilydd o achos yr hyn oedd wedi digwydd iddo a bod ei hunan-werth yn isel. 

Dechreuodd Mike fynd i sesiynau seicotherapi celf un-i-un. Dechreuodd ganolbwyntio ar ffyrdd i’w helpu i ymdopi â’i feddyliau a’i deimladau a’u prosesu. Sylweddolodd Mike y gallai barddoniaeth a cherddoriaeth fod yn ffordd iddo fynegi ei deimladau. Dechreuodd arbrofi â hyn yn ystod y sesiynau ac yn ei amser ei hun. Roedd y llyfrau a’r erthyglau yr oedd ei therapydd yn eu rhannu ag ef yn help gwirioneddol i ddeall sut roedd ei ymennydd a’i gorff yn adweithio. Dechreuodd feithrin sgiliau a strategaethau ymdopi, a sylweddolodd ei fod yn llwyddo i ganolbwyntio’n fwy ar yr hyn oedd yn digwydd yn y foment. Wrth iddo ymdopi’n gynyddol, dechreuodd Mike a’i therapydd weithio ar brosesu trawma. I ddechrau, roedd prosesu rhai o’r atgofion yn rhyddhad iddo ac roedd yn llwyddo i reoli’r ôl-fflachiau. Fodd bynnag, ar un pwynt ar ei daith drwy’r therapi, daeth y meddyliau am hunanladdiad yn ôl, tynnodd yn ôl a’i ynysu ei hun a cheisiodd gymryd ei fywyd. Yn ystod y cyfnod hwn, sylweddolodd ei fod eisiau byw a’i fod eisiau gweithio gyda’i therapydd, ac roedd hyn yn drobwynt. Drwy ysgrifennu creadigol a chyfansoddi cerddoriaeth, aeth ati i gydweithio â’i gyn-hunan fel plentyn, a dyma oedd rhan fwyaf pwerus y daith. 

Erbyn diwedd y sesiynau cwnsela, roedd Mike wedi dechrau meithrin ei hunan-gred a’i hunan-werth. Doedd e ddim yn defnyddio hiwmor i’w fychanu ei hun bellach. Mae nawr yn ymryddhau o’r cywilydd a’r diffyg cred, ac mae’n dechrau ei dderbyn ei hun a sylweddoli ei werth. Mae hyn wedi arwain at newidiadau positif iddo. Mae nawr yn datblygu ei yrfa gerddorol, yn creu ei gerddoriaeth ei hun ac EP. Mae e’n trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o’r problemau hyn i ddynion eraill sy’n ei chael yn anodd siarad am eu teimladau. Mae e’n codi arian at elusennau ac yn hyrwyddo ei gerddoriaeth ei hun. Mae e hefyd wedi newid ei swydd ac yn teimlo’n bositif ynghylch ei ddyfodol. Mae Mike yn deall bod hunan-gred a hunan-werth yn golygu gwaith ac ymrwymiad, ac mae wedi ymroi i adeiladu’n barhaus ar hyn.

Mae’r enw wedi ei newid

* Cwmni elusennol cofrestredig yw New Pathways sy’n darparu ystod o wasanaethau cwnsela ac eirioli arbenigol i fenywod, dynion, plant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan drais neu gam-drin rhywiol.

Siaradwch â ni nawr

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind wedi dioddef camdriniaeth rywiol, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 i gael cyngor a chymorth 24 awr yn rhad ac am ddim, neu i drafod eich opsiynau. 

Os ydych mewn perygl neu angen sylw meddygol ar frys, ffoniwch 999 i siarad â’r heddlu neu ofyn am ambiwlans.