Lansio ymgyrch newydd heddiw a gynlluniwyd gan oroeswyr camdriniaeth rywiol i helpu pobl i adnabod yr arwyddion.
Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio heddiw, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol, er mwyn rhoi diwedd ar y tawelwch ynghylch cam-drin rhywiol.
Mae ymgyrch 'Cam-drin Rhywiol yw Hyn' yn helpu pobl i adnabod arwyddion cam-drin rhywiol ac yn eu grymuso i chwilio am gymorth.
Mae'r ymgyrch yn taflu goleuni ar y mathau gwahanol o gam-drin rhywiol, gan gynnwys: ymosodiadau rhywiol, treisio, galw enwau rhywiol neu fychanol, cam-drin plant yn rhywiol, llosgach, aflonyddu ac anffurfio organau cenhedlu benywod.
Mae 'Cam-drin Rhywiol yw Hyn' yn rhan o ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar drais domestig yng Nghymru.
Daeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) i rym yn 2015, ac mae gwasanaeth gwybodaeth a chyngor, Byw Heb Ofn, yn cynnig cymorth 24/7 drwy linell gymorth a chyfleuster gwe-sgwrsio byw.
Bu goroeswyr camdriniaeth o'r fath yn helpu i ddatblygu'r ymgyrch, ac mae profiadau go iawn wedi'u hail-greu ar gyfer hysbysebion digidol a radio sy'n cael eu darlledu o heddiw ymlaen. Mae'r hysbysebion yn defnyddio llais go iawn un o gynghorwyr llinell gymorth Byw Heb Ofn.
Nod y straeon pwerus yw helpu pobl i adnabod patrymau ymddygiad y maent efallai yn uniaethu â nhw a sicrhau eu bod yn gwybod bod cymorth ar gael ledled Cymru.
Mae ystadegau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dangos mai cyffwrdd oedd y math mwyaf cyffredin o ymosodiad rhywiol a brofwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ymhlith dynion a menywod.
Treisio oedd i'w gyfrif am ryw un o bob tair trosedd rywiol a gofnodwyd gan yr heddlu.
Heddiw, mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, math o drais rhywiol sy'n addasu neu'n anafu organau rhywiol benywod.
Mae hyn yn anghyfreithlon yn y DU, ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel trosedd yn erbyn hawliau dynol; mae'n nod gan y Cenhedloedd Unedig i ddiddymu'r arfer erbyn 2030.
Yn yr achlysur i lansio'r ymgyrch, bydd y gynulleidfa yn clywed gan oroeswyr, a fydd yn siarad am eu profiadau eu hunain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £5.25miliwn i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn 2020-2021. Yn 2019-20, darparwyd £120,000 ar gyfer sefydliadau a oedd yn delio â thrais rhywiol er mwyn lleihau'r rhestrau aros am sesiynau cwnsela.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
“Rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau mai Cymru yw’r man mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod. Mae’n hymgyrchoedd cyfathrebu arloesol, ‘Paid cadw’n dawel’ a ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’ wedi codi ymwybyddiaeth o’r ffaith nad yw camdriniaeth bob amser yn golygu trais corfforol. Rydyn ni’n gwybod bod nifer fawr o ddioddefwyr wedi cael cymorth o ganlyniad i’r ymgyrchoedd hyn, ac rwy’n hyderus y bydd ‘Cam-drin Rhywiol yw Hyn’ yn parhau yn yr un modd gan helpu nifer fawr o ddioddefwyr i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.”
Dywedodd Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig:
"Mae trais rhywiol yn mynd ymhell y tu hwnt i'r goroeswyr eu hunain. Mae'n effeithio ar y bobl sydd agosaf atyn nhw ac mae'r canlyniadau i gymunedau a chymdeithas ehangach yn ysgubol.
"Mae trais rhywiol yn gymhleth ac i'w weld ym mhob ardal o bob cymuned ledled Cymru. Mae angen inni sicrhau, lle bynnag a sut bynnag y mae dioddefwyr yn chwilio am gymorth, fod modd rhoi cefnogaeth iddyn nhw a'u teuluoedd.
"Bydd ymgyrch heddiw yn cael ei lansio mewn partneriaeth â New Pathways, gwasanaeth cwnsela ac eirioli mwyaf Cymru ar gyfer menywod, dynion, plant a phobl ifanc y mae trais neu gam-drin rhywiol wedi effeithio arnyn nhw."
Mae New Pathways yn pwyso ar bobl i ymrwymo i'r addewid i godi llais i roi diwedd ar y tawelwch ynghylch trais rhywiol - p'un a ydyn nhw wedi dioddef eu hunain neu'n ymwybodol o'r peth o fewn eu teuluoedd, eu cymunedau, eu sefydliadau neu ar-lein.
Dywedodd Jackie Stamp, Prif Swyddog Gweithredol New Pathways:
"Y llynedd, fe wnaeth New Pathways gefnogi mwy na 6,000 o bobl yng Nghymru yr oedd trais a cham-drin rhywiol wedi effeithio arnyn nhw. Ond rydyn ni'n gwybod mai dim ond crafu'r wyneb yw hyn; dyw'r mwyafrif helaeth o bobl byth yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd iddyn nhw ac maen nhw'n parhau i ddioddef yn dawel.Dydyn nhw ddim, felly, yn cael yr help y mae ei angen mor enbyd arnyn nhw.
"Mae angen inni ddysgu o wersi'r gorffennol. Mae angen inni greu cymdeithas lle dyw pobl ddim yn teimlo cywilydd; cymdeithas lle mae gyda nhw'r hyder i siarad heb ofni cael eu barnu nac ofni na fydd pobl yn eu credu.
"Mae ein neges heddiw yn syml ac yn glir. Mae trais rhywiol ym mhobman; ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn os daw pawb at ei gilydd a chodi llais. Mae ein Galwad i Weithredu i bawb mewn cymdeithas, am fod trais rhywiol yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob rhan o gymdeithas, a dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn ni wneud rhywbeth amdano."
Os ydych chi wedi profi trais rhywiol neu gamdriniaeth o unrhyw fath, ffoniwch linell gymorth gyfrinachol Byw Heb Ofn yn rhad ac am ddim ar 0808 8010 800 neu ewch i bywhebofn.llyw.cymru i anfon neges at gynghorydd 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.