Neidio i'r prif gynnwy

Gall fusnesau bellach wneud cais am gyllid o drydydd cam Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnoss ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dyblu y cam hwn o’r gronfa, gan sicrhau bod bron £300 miliwn ar gael i gefnogi busnesau sy’n parhau i weld effaith COVID-19.

O ganlyniad i’r “cyfnod atal byr”, ddechreuodd ddydd Gwener 23 Hydref ac sy’n parhau tan ddydd Llun 9 Tachwedd, bu’n rhaid i amryw o fusnesau gau dros dro neu leihau eu gweithrediadau. Bydd y trydydd cylch o’r Gronfa Cadernid Economaidd yn sicrhau rhagor o gymorth i fusnesau ledled Cymru.

Hyd yma, mae’r gronfa wedi cefnogi dros 13,000 o fusnesau. Mae hyn wedi helpu i warchod dros 100,000 o swyddi allai fod wedi eu colli fel arall.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhan o becyn cymorth gwerth dros £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau ac mae’n ategu’r cynlluniau cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cam diweddaraf yn gweld:

  • Meicro-fusnesau, BBaChau a chwmnïau mwy yn gallu gwneud cais am gyllid gan y gronfa grant Datblygu Busnes gwerth £100 miliwn. Bydd £20 miliwn o hwn yn cael ei neilltuo ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch.
  • Taliadau o hyd at £5,000 ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden sy’n gorfod cau ac sydd mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £50,000. Bydd busnesau yn gymwys yn awtomatig ar gyfer y cyllid hwn, ond bydd angen iddynt gofrestru a diweddaru eu manylion drwy Busnes Cymru neu eu Hawdurdod Lleol i’w dderbyn.
  • Taliadau o £1,000 i fusnesau sy’n gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach ac sydd mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Er y bydd busnes yn gymwys yn awtomatig am y taliad hwn, bydd angen iddynt gofrestru a diweddaru eu gwybodaeth a’u manylion banc drwy Busnes Cymru neu eu Hawdurdod Lleol i dderbyn y cyllid hwn. Bydd y busnesau sy’n gymwys ar gyfer y grant hwn hefyd yn gallu gwneud cais am gymorth ychwanegol os ydynt wedi cael eu gorfodi i gau yn ystod y cyfnod atal. Bydd busnesau cymwys, yn amodol ar gyfyngiadau lleol cyn y cyfnod atal yn gallu gwneud cais am swm ychwanegol o gymorth ariannol.
  • Bydd busnesau cymwys sydd ddim yn gymwys am y grantiau sy’n gysylltiedig â’r ardrethi busnes yn gallu gwneud cais am hyd at £2,000 o gronfa ddewisol gwerth £25 miliwn drwy eu hawdurdod lleol.

Meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

“Bydd cam diweddaraf y Gronfa Cadernid Economaidd yn darparu £300 miliwn o gymorth hanfodol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal sy’n hollol hanfodol i arafu lledaeniad y coronafeirws.

“Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd a heriol ar gyfer y gymuned fusnes a dyna pam ein bod yn mwy na dyblu y swm sydd ar gael ar gyfer y cylch yma o’r gronfa.

“O heddiw ymlaen, bydd busnesau yn gallu gwneud cais am gymorth a byddwn yn gweithio’n galed i gael yr arian allan mor gyflym â phosibl.

“Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud popeth y gallwn i warchod swyddi a helpu cwmnïau drwy’r pandemig ac yn erbyn y cefndir ansicr o ddiwedd cyfnod pontio yr UE.

“Hoffwn ddiolch hefyd i awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - rydym yn gweithio’n agos â hwy i sicrhau y gallwn dderbyn y cymorth pwysig hwn i fusnesau.

Ewch i Busnes Cymru am rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am gyllid.