Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Ystadau Cymru yn rhan bwysig o’r ffordd strategol y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli asedau tir ac eiddo. Mae cydweithredu yn ymddygiad allweddol ym mholisi rheoli asedau Llywodraeth Cymru. Mae Ystadau Cymru yn chwarae rhan bwysig fel arweinydd strategol o ran cefnogi a hyrwyddo manteision cydweithredu wrth reoli asedau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae nodau allweddol Ystadau Cymru wedi’u rhestru isod: 

  • Archwilio opsiynau hirdymor a thymor canolig ar gyfer darparu gwerth cyhoeddus o asedau sydd yn nwylo sector cyhoeddus Cymru yn ehangach
  • Dylanwadu ar waith rheoli asedau ar y cyd effeithiol, a chefnogi’r gwaith hwnnw ar draws sector cyhoeddus Cymru, ar gyfer Cymru fwy gwyrdd a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Archwilio cyfleoedd i wella’r gwaith o reoli asedau cyhoeddus
  • Cefnogi Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (2005) Cymru, yn benodol y pum ffordd o weithio a’r nodau llesiant .
  • Cefnogi’r Rhaglen Lywodraethu o ran y blaenoriaethau canlynol:
    • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach
    • Datgarboneiddio’r Ystad Gyhoeddus
    • Gwella Bioamrywiaeth
    • Cefnogi’r Economi Sylfaenol
    • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell byth i fyw a gweithio ynddynt.
    • Cefnogi datblygiad canolfannau gweithio o bell a chanolfannau cymunedol 

Bydd Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau (ACPW3) yn ein cefnogi yn ein gwaith ac yn darparu cyllid grant refeniw i brosiectau sy’n cefnogi'r blaenoriaethau hyn.

Anogir ymgeiswyr i fynd i wefan Ystadau Cymruam ragor o wybodaeth. Mae’r wefan yn cynnwys Cylch Gorchwyl Ystadau Cymru, gwybodaeth am grwpiau thematig, prosiectau cyfredol, astudiaethau achos a newyddlenni. 

Trosolwg o ACPW3

Nod grant ACPW3 yw helpu sefydliadau Sector Cyhoeddus Cymru i gydweithio â’i gilydd (partneriaid cydweithio yn unig fydd sefydliadau'r Trydydd Sector, ni fydd ganddynt hawl i wneud cais am y cyllid hwn).

Rhaid i'ch prosiect gynnwys asedau tir neu eiddo'r sector cyhoeddus a bydd naill ai’n dileu rhai o'r rhwystrau ar gyfer cydweithio, neu’n cyfrannu at ddarparu ystâd sector cyhoeddus gynaliadwy yn y dyfodol. 

Bydd croeso arbennig i brosiectau sy'n cyfrannu at y canlynol:

  • Datgarboneiddio adeiladau ac asedau cyhoeddus eraill, a/neu eu haddasu at ddibenion newid hinsawdd
  • Gwella bioamrywiaeth gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Sbarduno neu gefnogi twf neu gydnerthedd economaidd gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Creu gwerth cymdeithasol gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Defnyddio asedau cyhoeddus yn arloesol ac ar y cyd. 

Ceisiadau

Croesewir ceisiadau grant o £5000 hyd at £75,000 ar gyfer prosiectau refeniw.

Dylid gwneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais am grant

Rhaid i brosiectau gynnwys asedau sy'n eiddo cyhoeddus a rhaid cwblhau'r prosiect o fewn blwyddyn ariannol 2025-26 (1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026).

Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hadolygu gan banel grantiau ac os byddant yn llwyddiannus byddant yn cael eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, gydag argymhelliad i gymeradwyo’r cyllid.

Monitro

Bydd gofyn i chi nodi allbynnau’ch cais, a fydd yn rhan o'r Llythyr Cynnig Grant. Fel rhan o'n prosesau monitro grantiau, byddwn yn gofyn i chi roi gwybod inni am allbynnau'r prosiect a gyflawnwyd. Bydd gofyn i chi gael a chadw'r dystiolaeth i gadarnhau’r allbynnau hyn. Byddwn yn gofyn am weld y dystiolaeth o bryd i'w gilydd.  

Ar ddiwedd y prosiect, efallai y gofynnir ichi gwblhau templed astudiaeth achos a fydd ar gael ar wefan Ystadau Cymru. 

GDPR

Ni fydd Dibenion y Dyfarniad Grant hwn yn gofyn am brosesu unrhyw ddata personol ar ran Llywodraeth Cymru. Os ydych chi’n credu y bydd angen prosesu data personol ar ran Llywodraeth Cymru, rhowch wybod i swyddogion Llywodraeth Cymru gan ddarparu’r manylion er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau ysgrifenedig pellach gennym mewn perthynas â phrosesu ar ein rhan. 

Mae hysbysiad preifatrwydd grantiau Llywodraeth Cymru yn egluro sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol mewn perthynas â’ch cais am grant neu eich cais am gyllid grant. 

Caffael

Rhaid i brosiectau gael eu rheoli a'u caffael mewn modd sy'n cydymffurfio â’r rheolau.

Rhaid i nwyddau, gwasanaethau, gwaith ymgynghori, ymchwil neu waith sy’n angenrheidiol i gynnal prosiect, gael eu caffael yn briodol a rhaid gofalu bod pob ymarfer caffael yn deg, yn agored ac yn:

  • cael ei gynnal mewn modd moesegol, cynaliadwy ac atebol sy’n cydymffurfio â rhwymedigaethau gweithdrefnol, cyfreithiol a rhyngwladol;
  • sicrhau gwelliant parhaus o ran gwerth am arian, yn seiliedig ar gost oes gyfan ac ansawdd nwyddau a gwasanaethau
  • yn helpu i wneud cyflenwyr yn fwy cystadleuol;

Dylid caffael gwasanaethau dylunio arbenigol ac asiantau cyflenwi priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau caffael safonol eich sefydliad.  Mae angen i gontractau dros drothwyon yr OJEU gydymffurfio â chyfarwyddebau caffael Ewropeaidd.  Dylai’r broses gaffael gyd-fynd hefyd â Datganiad Polisi Caffael Cymru.

Mae’n dderbyniol defnyddio cytundebau fframwaith presennol cyhyd â’u bod yn cael eu dyfarnu’n briodol. Ni fydd gwariant ar nwyddau, gwasanaethau, gwaith ymgynghori, ymchwil neu waith na chafodd ei gaffael yn unol â’r canllawiau hyn, yn gymwys am gymorth.

Rhaid i Awdurdodau Lleol fabwysiadu eu gweithdrefnau cydymffurfio eu hunain wrth gaffael, ac os ydynt yn cael eu cyflenwi gan drydydd parti dylent sicrhau bod sefydliadau/partner trydydd parti yn dilyn prosesau caffael cadarn sy’n cydymffurfio.

Bydd ymgeiswyr yn cynnal yr ymarfer caffael priodol cyn gwneud cais i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am dystiolaeth o'r broses gaffael wrth arfarnu cais.

Dylid cyflwyno'r dogfennau tendro, gan gynnwys adroddiad tendr, gyda'ch cais.

Rheoli cymhorthdal

(Noder taw canllaw yw’r canlynol a rhaid i'r ymgeisydd gynnal ei ymchwiliadau ei hun i Reoli Cymhorthdal a Chymorth Gwladwriaethol a gwneud asesiad o'i brosiectau ei hun a phrosiectau trydydd parti)  

Mae'r DU yn gweithredu o dan gyfundrefn Cymhorthdal y DU, ers gadael yr UE. 

Gan y gellid ystyried bod unrhyw gymorth cyhoeddus yn Gymhorthdal, gofynnir i ymgeiswyr ystyried a nodi ar y ffurflen gais a yw'r prosiect yn cyfrif fel Cymhorthdal a rhoi'r rhesymau pam, gan ystyried rheolau Cymhorthdal y DU.

Mae cefndir defnyddiol i ymrwymiadau newydd y DU o ran cymorthdaliadau yn y canllaw ‘Summary Guide to Awarding Subsidies’ sydd ar gael ar GOV.UK.

Ffurflen gais

Dylid gwneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais am grant

Rhestr Wirio a Matrics Sgorio'r Panel Sgorio

Bydd aelodau'r panel yn ystyried pob ffurflen gais am grant yn unol â rhestr wirio aelodau'r panel ac yn eu hasesu gan ddefnyddio matrics sgorio unigol. 

Llythyr cynnig grant

Caiff y llythyr cynnig grant ei gwblhau a’i anfon wedi cael cymeradwyaeth at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Bydd gofyn i ymgeiswyr lofnodi copi i ddangos eu bod yn cytuno â’r telerau ac amodau a'i ddychwelyd i flwch post YstadauCymru@llyw.cymru. Rhaid i'r llythyr gael ei lofnodi gan un o lofnodwyr awdurdodedig y Corff Arwain a'r Cyd-bartner(iaid) (gan y Cyd-bartner(iaid) fel cydnabyddiaeth yn unig).

Talu

Caiff Awdurdod Lleol, coleg neu brifysgol, gwasanaeth tân neu awdurdod heddlu ei dalu’n uniongyrchol drwy PayGrants (Rheolwr Grant: Clare Phillips ac RSO: Richard Baker).

Ni fydd unrhyw daliad ymlaen llaw a bydd angen tystiolaeth addas o'r costau sydd wedi’u gwario e.e. anfonebau/costau/offer staff ac ati neu dystiolaeth arall o'r fath yn ôl y gofyn, wrth gyflwyno hawliad am daliad. Nodir y dystiolaeth sydd ei hangen yn yr Atodiadau i’r Llythyr Cynnig Grant.

Crynodeb

  • Ar gyfer prosiectau refeniw yn unig y mae cynllun grant ACPW3 2025/26 yn darparu cyllid
  • Y grant uchaf sydd ar gael yw £75,000, ac isafswm unrhyw gais am grant yw £5000.
  • Rhaid cwblhau prosiectau erbyn 31 Mawrth 2026
  • Ni fydd unrhyw daliad o flaen llaw a rhaid cael tystiolaeth glir o’r holl wariant.
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael llythyr grant y mae’n rhaid ei lofnodi er mwyn dyfarnu’r cyllid
  • Rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r newyddion diweddaraf am y prosiect ar gais
  • Rhaid i brosiectau gyd-fynd â blaenoriaethau allweddol Ystadau Cymru, a bod yn gydweithredol. Ni fydd y panel yn ystyried ceisiadau nad ydynt yn nodi partner.   
  • Rhaid i gydweithrediadau fod rhwng sefydliadau Sector Cyhoeddus Cymru (Partneriaid cydweithio yn unig ddylai sefydliadau’r trydydd sector fod, ac ni allant wneud cais am y cyllid hwn).
  • Rhaid i brosiectau gynnwys asedau tir neu eiddo sector Cyhoeddus ac un ai dileu rhai o’r rhwystrau i gydweithio neu gyfrannu at ddarparu dyfodol cynaliadwy ar gyfer ystad y sector cyhoeddus.
  • Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost at ystadaucymru@llyw.cymru