Neidio i'r prif gynnwy

Cais am safbwyntiau ar gyflog ac amodau athrawon gan Grŵp Adolygu

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y llynedd, roedd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cyhoeddi y byddai Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol yn cael ei sefydlu.  Bydd y Grŵp yn adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer cyflog ac amodau athrawon, er mwyn ystyried sut y gallai'r system gael ei gwella.

Nod cyffredinol y Grŵp yw deall sut y mae’r strwythur cyflog ac amodau yn cyfrannu at broffesiwn addysgu sy'n gryf ei gymhelliad, ac sydd yn ei dro yn sail i gyflenwi system addysg o ansawdd uchel.

Caiff y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei gadeirio gan yr Athro Mick Waters, a fydd yn cael ei gynorthwyo gan yr Athro Melanie Jones a Syr Alasdair Macdonald.

Bydd y Grŵp yn adrodd yn ôl ei argymhellion erbyn yr hydref.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflog ac amodau athrawon yn gam ymlaen hynod bwysig i Gymru ac i'n system addysg.  Dyw'r system yn Lloegr ddim yn briodol, yn berthnasol nac o fantais i'r proffesiwn yma bellach.

“O'r cychwyn cyntaf, rydyn ni am wneud yn siŵr bod gyda ni system sy'n seiliedig ar werthoedd tegwch a rhagoriaeth. Mae'n bwysig ei bod yn system sydd hefyd yn seiliedig ar ymrwymiad i addysg gynhwysol sy’n wasanaeth cyhoeddus. Mae hynny'n hollbwysig er mwyn cefnogi a chryfhau'r proffesiwn addysgu.

“Rwy'n gwbl hyderus y bydd ein Panel Annibynnol o arbenigwyr yn cynnig yr arbenigedd a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gyflwyno system a fydd yn gallu cefnogi ein hathrawon a chodi safonau er budd pawb. 

“Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod ni'n cynnwys athrawon fel rhan o'r broses hon, a gwrando ar eu safbwyntiau ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau bod y system newydd yn llwyddo.

“Dyna pam rydyn ni'n galw ar bawb sydd â diddordeb, gan gynnwys y rheini sy'n rhan o'r proffesiwn a'r tu allan iddo. Rydyn ni am iddyn nhw leisio'u barn am beth y maen nhw'n meddwl am y system bresennol, sut y gallwn ni ei gwella, a sut y gallwn ni greu system sydd wedi'i thargedu'n benodol ar gyfer anghenion Cymru a'r proffesiwn yma.”