Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru yn mabwysiadu diffiniad o gaffael sy'n sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei ystyried yn yr ystyr ehangaf wrth gontractio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru:

- Caffael - y broses lle mae sefydliadau yn diwallu eu hanghenion o ran nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau mewn ffordd sy’n sicrhau gwerth am arian ar sail oes gyfan yn nhermau cynhyrchu buddion i’r gymdeithas a’r economi, gan greu’r difrod lleiaf i’r amgylchedd.

Egwyddor 4 Datganiad Polisi Caffael Cymru yw dull gweithredu polisi Budd i’r Gymuned ac mae'n ceisio gweithredu'r diffiniad ehangach hwn o werth am arian drwy gyflawni'r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangaf wrth sicrhau'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith sy'n ofynnol gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae cyflawni Budd i'r Gymuned drwy gaffael yn y sector cyhoeddus yn cydfynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae'n cyflawni yn erbyn ei hamcanion. Mae'n canolbwyntio'n arbennig ar gyflawni:

  • Cymru Lewyrchus – i gynyddu cyflogaeth, cefnogi datblygu sgiliau a thyfu busnesau bach a chanolig er mwyn cael effaith gadarnhaol ar economi Cymru
  • Cymru Iachach - i greu a diogelu cyfleoedd cyflogaeth a fydd yn helpu pobl i ddod o hyd i swydd neu gadw swydd
  • Cymru fwy cyfartal drwy weithio i ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant, a hefyd addysg a chymorth i'r gymuned ar draws holl ardaloedd Cymru ac ar draws pob lefel economaidd-gymdeithasol

Mae polisi Budd i'r Gymuned yn darparu llwybr i gaffaelwyr gyfrannu'n uniongyrchol at y nodau hyn pan fyddant yn gwario'r £5.5 biliwn o wariant caffael blynyddol yng Nghymru.

Rho'r polisi ar waith

Wrth gynllunio caffael cyhoeddus yng Nghymru, mae'n rhaid i bolisi Budd i'r Gymuned fod yn ystyriaeth annatod, a dylid ei roi ar waith os gall buddion o'r fath gael eu sicrhau. Mae ystyriaethau allweddol yn cynnwys gwerth am arian, hyd a natur y contract, gan gynnwys gofynion y gweithlu a chadwyni cyflenwi.

Hynny yw, wrth dendro am gontractau yn y sector cyhoeddus mae'n rhaid rhoi polisi Bydd i'r Gymuned wrth wraidd pob strategaeth gaffael. Mae'n rhaid i gaffaelwyr nodi unrhyw gyfle i gyflawni un neu fwy o'r buddion canlynol dros gyfnod y contract:

  • Cyfleodd gwaith i bobl economaidd anweithgar
  • Cyfleoedd hyfforddi i bobl economaidd anweithgar
  • Cyfleoedd i’r gweithlu presennol gadw’u swyddi a chael hyfforddiant
  • Hyrwyddo cadwyni cyflenwi agored a hygyrch sy'n rhoi cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig gynnig am waith; a hyrwyddo mentrau cymdeithasol a busnesau a gynorthwyir
  • Cyfraniad i addysg yng Nghymru drwy ymgysylltu â chwricwla ysgolion, colegau a phrifysgolion
  • Cyfraniadau i fentrau cymunedol sy'n mynd i'r afael â thlodi ledled Cymru ac sy'n cael effaith hirdymor yn y gymuned 
  • Cyfleoedd i leihau effaith y contract ar yr amgylchedd a hyrwyddo buddion amgylcheddol

Mae Egwyddor 4 Datganiad Polisi Caffael Cymru wedi pennu trothwy £1 miliwn ar gyfer cymhwyso buddion cymunedol o ran rhoi'r polisi ar waith a mesuro'r canlyniadau.

Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau ar waith ‘Budd i'r Gymuned: Sicrhau’r Gwerth Gorau am Arian Cymru’ i roi arweiniad a gwybodaeth am wasanaethau i helpu caffaelwyr i roi'r polisi ar waith yn eu sefydliadau. Mae Offeryn Mesur Budd i'r Gymuned ar gael er mwyn galluogi rheolwyr contractau i gofnodi’r buddion sy'n cael eu cyflawni gan eu contractau.