Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Terfynu contractau

Mae’r gofynion ar gyfer terfynu contractau wedi’u nodi yn rheoliad 24.

Rhaid i awdurdodau perthnasol sicrhau bod pob contract a ddyfernir yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi’r awdurdod perthnasol i’w derfynu:

  • mae angen addasu’r contract ond ni chaniateir yr addasiad o dan y gyfundrefn (gweler addasu contract) heb ddilyn proses gaffael newydd
  • os dylai’r darparwr, adeg dyfarnu’r contract, fod wedi’i wahardd o’r broses gaffael yn unol â’r meini prawf gwahardd a nodir yn rheoliadau 21 a 22

Caiff y darpariaethau sy’n caniatáu terfynu contract fynd i’r afael â sut y byddai terfyniadau o’r fath yn digwydd, er enghraifft drwy nodi hysbysiad terfynu a thrwy fynd i’r afael ag unrhyw faterion canlyniadol a allai godi o’r terfyniad hwnnw. Os nad yw’r contract yn cynnwys darpariaethau penodol sy’n caniatáu i’r awdurdod perthnasol derfynu ar y seiliau a nodir uchod, mae teler ymhlyg mewn unrhyw gontract a ddyfernir o dan y rheoliadau y caiff yr awdurdod perthnasol wneud hynny drwy roi rhybudd rhesymol.