Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Diwygiodd Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 (“deddf 2024”) Ddeddf Caffael 2023 (“deddf 2023”) a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“deddf 2006”) i roi newidiadau deddfwriaethol ar waith i alluogi Gweinidogion Cymru i ddatgymhwyso darpariaethau deddf 2023 mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae’r pŵer a fewnosodwyd gan ddeddf 2024 yn neddf 2006 yn galluogi i ddarpariaeth amgen gael ei gwneud i’r perwyl hwnnw, gan ddefnyddio dull system gyfan sy’n gydnaws â gwasanaethau iechyd yn darparu’r un gofal o ansawdd uchel, ac â chyflawni canlyniadau iechyd mwy cyfartal i bawb yng Nghymru.

Fel rhan o’r newidiadau deddfwriaethol hyn, mae adran 116A o ddeddf 2023 yn darparu pŵer i ddatgymhwyso’r gyfundrefn gaffael mewn perthynas â chaffael gan y GIG yng Nghymru. Mae adran 10A o ddeddf 2006 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth (amgen) benodol ynghylch caffael gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024 (“y rheoliadau”) a wneir o dan adran 10A o ddeddf 2006 yn cyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer trefnu caffael y gwasanaethau iechyd hynny ar gyfer awdurdodau perthnasol – y Gyfundrefn Dethol Darparwyr (“y gyfundrefn”).

Oherwydd ffocws ar gystadleuaeth, ystyrir bod Deddf 2023 yn creu rhwystrau i gydweithio ac yn arwain at brosesau caffael cymhleth. Felly, drwy’r rheoliadau, bydd caffael gwasanaethau iechyd perthnasol yn cael ei dynnu o gwmpas deddf 2023.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyd-ddatblygu’r gyfundrefn drwy ddefnyddio arbenigedd gweithwyr comisiynu a chaffael proffesiynol sy’n gweithio mewn awdurdodau perthnasol. Yn ogystal, fe wnaeth y Llywodraeth ymgynghori ar egwyddorion gweithredol y rheoliadau fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2023, a daeth 34 o ymatebion i law gan ystod o randdeiliaid. Bu’r ymatebion i’r ymarfer ymgynghori o gymorth i lywio datblygiad ein polisi, y rheoliadau a’r canllawiau statudol.

Croesawodd yr ymatebwyr yr eglurder y byddai’r gyfundrefn newydd yn ei roi i gomisiynwyr a darparwyr: gan symud i ffwrdd oddi wrth gystadleuaeth, rhoi mwy o ffocws ar gydweithio, a chael gwared ar fiwrocratiaeth, yn ogystal â rhoi mwy o hyblygrwydd, cymesuredd a chysondeb, gan hefyd wneud prosesau’n eglur a helpu i wneud prosesau caffael yn dryloyw.

O dan y gyfundrefn, disgwylir i awdurdodau perthnasol:

Mae’r gyfundrefn yn ei gwneud yn bosibl parhau â’r trefniadau presennol ar gyfer darparu gwasanaethau os yw’r trefniadau hynny’n gweithio’n dda ac na fyddai chwilio am ddarparwr arall yn rhoi gwerth i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Pan fo angen ystyried newid trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau, mae’n darparu proses deg, dryloyw a chymesur ar gyfer prosesau caffael, sy’n cynnwys yr opsiwn o ddefnyddio tendro cystadleuol.

Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan adran 10A (6) o Ddeddf 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch cydymffurfio â’r rheoliadau.

Mae’r canllawiau hyn yn nodi sut y mae’n rhaid i’r rheoliadau gael eu dilyn gan yr awdurdodau perthnasol y maent yn gymwys iddynt:

  • cyngor sir
  • cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru
  • bwrdd iechyd lleol
  • ymddiriedolaeth y GIG
  • awdurdod iechyd arbennig yng Nghymru

Mae hefyd yn manylu ar gwmpas y rheoliadau a sut y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol eu cymhwyso wrth ystyried meini prawf allweddol a gofynion tryloywder. Mae’r canllawiau hefyd yn amlinellu sut y disgwylir i awdurdodau perthnasol reoli gwrthdaro buddiannau.

Rhaid i awdurdodau perthnasol gymhwyso’r rheoliadau a rhoi sylw i’r canllawiau hyn, a disgwylir iddynt eu darllen ochr yn ochr â’r atodiadau, sy’n rhoi rhagor o fanylion am y rheoliadau a’r trefniadau pontio sydd ar waith ar gyfer yr adeg pan ddaw’r rheoliadau i rym.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i gyd-fynd â’r canllawiau hyn, y gall sefydliadau ei ddefnyddio wrth gymhwyso’r gyfundrefn i drefnu i ddarparu gwasanaethau iechyd.

Wrth arfer swyddogaethau i gydymffurfio â’r rheoliadau, rhaid i awdurdodau perthnasol barhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill, lle bo hynny’n gymwys.

Nid yw’r canllawiau hyn yn nodi sut i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill.

Mae unrhyw gyfeiriad yn y canllawiau statudol hyn at ddeddfwriaeth neu ddarpariaeth ddeddfwriaethol yn gyfeiriad ati fel y’i diwygir, fel y’i hestynnir neu fel y’i hailddeddfir o bryd i’w gilydd. Cynghorir awdurdodau perthnasol i fod yn ymwybodol hefyd o ofynion a dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi mewn deddfwriaeth. Er enghraifft, disgwylir i awdurdodau perthnasol lynu wrth ofynion allyriadau sero net a chyllideb garbon Llywodraeth Cymru, Cymru Iachach, Nodiadau Polisi Caffael Cymru a Datganiad Polisi Caffael Cymru o ran caffael nwyddau a gwasanaethau’r GIG (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr).