Caffael gwasanaethau iechyd: canllawiau statudol drafft - Adran 2: cwmpas y rheoliadau
Sut y mae Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024 yn gymwys i drefniant gwasanaethau iechyd o dan y gyfundrefn dethol darparwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
I ba sefydliadau y mae’r canllawiau hyn yn gymwys?
Mae’r canllawiau hyn yn gymwys i’r awdurdodau perthnasol canlynol yng Nghymru y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r rheoliadau o dan adran 10A o Ddeddf 2006:
- cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru
- byrddau iechyd lleol
- ymddiriedolaethau’r GIG
- awdurdodau iechyd arbennig
Pryd y bydd y gyfundrefn yn gymwys?
Mae’r rheoliadau’n pennu bod y gyfundrefn yn gymwys pan fydd awdurdodau perthnasol yn caffael gwasanaethau iechyd perthnasol at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau ynghylch caffaeliad cymysg).
Diffinnir y gwasanaeth iechyd (‘health service’) yn adran 206(1) o ddeddf 2006 fel y gwasanaeth iechyd, a barheir o dan adran 1(1) o’r ddeddf honno ac o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006. Mae adran 1(1) o ddeddf 2006 yn cyfeirio at:
[…] the promotion in Wales of a comprehensive health service designed to secure improvement—
(a) in the physical and mental health of the people of Wales, and
(b) in the prevention, diagnosis and treatment of illness.
Mae’r diffiniad hwn yn cwmpasu gwasanaethau iechyd y GIG a’r gwasanaeth iechyd cynhwysfawr a ddarperir wrth gyflawni swyddogaethau iechyd y cyhoedd Gweinidogion Cymru o dan ddeddf 2006.
Yn hynny o beth, nid yw’r gwasanaethau iechyd sy’n ddarostyngedig i’r gyfundrefn hon ond yn cynnwys y gwasanaethau (boed yn driniaeth, yn ddiagnosis neu’n atal cyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol) a ddarperir i unigolion (hynny yw cleifion neu ddefnyddwyr gwasanaethau) neu grwpiau o unigolion (er enghraifft pan fo triniaeth yn cael ei darparu i grŵp megis ar ffurf therapi grŵp).
Dim ond gwasanaethau iechyd perthnasol a gwmpesir gan y rheoliadau, ac maent wedi’u diffinio gan godau’r eirfa gaffael gyffredin a nodir yn atodlen 1 (a restrir yn atodiad A).
I grynhoi, mae gwasanaeth o fewn cwmpas pan fydd awdurdod perthnasol yn comisiynu neu’n is-gontractio gwasanaeth:
- a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd, boed hynny drwy’r GIG neu drwy wasanaethau iechyd y cyhoedd yng Nghymru
- sy’n cynnwys darparu gwasanaethau iechyd i unigolion neu grwpiau o unigolion
- sy’n perthyn i un neu fwy o’r codau GGG penodedig
Mae gwasanaethau iechyd o fewn cwmpas yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr yn y sectorau'r Mentrau Cymdeithasol, Cymunedol a Wirfoddorol (VCSE) a’r sector annibynnol. Yn fras, mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu trefnu gan yr awdurdod perthnasol megis ysbyty, cymuned, iechyd meddwl, gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal lliniarol, ambiwlans a gwasanaethau cludo cleifion y mae’r darparwr angen cofrestriad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) neu Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar eu cyfer, yn ogystal â gwasanaethau a drefnir gan awdurdodau perthnasol sy’n canolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau, iechyd rhywiol ac atgenhedlu ac ymweliadau iechyd.
Mae’r diffiniad hwn yn gwahardd yn fwriadol wasanaethau ‘nad ydynt yn wasanaethau iechyd’ neu wasanaethau ‘cyfagos ag iechyd’ rhag cael eu trefnu o dan y gyfundrefn. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na chaniateir trefnu ymgynghoriaeth fusnes, arlwyo, gwasanaethau gweinyddol, gwasanaethau cludo cleifion nad oes angen cofrestriad AGIC neu AGC ar eu cyfer, na gwasanaethau eraill a allai gefnogi seilwaith y gwasanaeth iechyd, ond nad ydynt yn darparu gwasanaethau iechyd yn uniongyrchol i bobl, o dan y gyfundrefn (ac eithrio pan fyddant yn rhan ddilys o gaffaeliad cymysg).
Rhaid i wasanaethau iechyd sydd o fewn cwmpas y gyfundrefn berthyn i un neu fwy o godau’r Eirfa Gaffael Gyffredin (GGG), a nodir yn atodlen 1 i’r rheoliadau. Mae atodiad A yn rhestru’r codau GGG sy’n cyfateb i’r gwasanaethau a gwmpesir gan y gyfundrefn hon a rhaid i ymarferwyr caffael ddefnyddio’r rhain i gefnogi penderfyniadau ynghylch cwmpas. Rhaid i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r cod(au) GGG mwyaf perthnasol ar gyfer y gwasanaeth iechyd y maent yn ei gaffael. Pan nad oes cod manylach ar gael, disgwylir i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r cod cyffredinol ar gyfer ‘gwasanaethau iechyd’.
Pa sefydliadau na chaiff ddefnyddio’r gyfundrefn?
Dim ond sefydliadau a ddiffinnir fel awdurdodau perthnasol yn adran 10A(9) o ddeddf 2006 a gaiff ddefnyddio’r gyfundrefn hon. O’r herwydd, ni chaiff Gweinidogion Cymru ei defnyddio i drefnu gwasanaethau iechyd yn uniongyrchol.
Fodd bynnag, mae’n werth nodi y bydd cyrff sy’n gweithredu o dan fwrdd iechyd lleol, ymddiriedolaeth GIG, cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru neu awdurdod iechyd arbennig yn dal i gael eu hystyried yn awdurdod perthnasol. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru sy’n gyd-bwyllgor o’r saith bwrdd iechyd sy’n gweithredu ar y cyd ar eu rhan.
Mae’n bosibl y bydd Gweinidogion Cymru yn comisiynu gwasanaethau iechyd gan awdurdodau perthnasol (hynny yw cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig). Mewn achosion o’r fath, os yw’r awdurdod perthnasol hwnnw wedyn yn is-gontractio ymhellach y gwasanaethau hyn sydd o fewn cwmpas y rheoliadau, rhaid i’r awdurdod perthnasol hwnnw ddilyn y rheoliadau wrth is-gontractio.
Beth na chaniateir ei drefnu o dan y gyfundrefn?
Mae trefniadau na fyddent yn cael eu hystyried yn gaffael, gan nad ydynt yn bwriadu creu rhwymedigaethau cyfreithiol, yn annhebygol o ddod o dan gwmpas deddfwriaeth caffael. Er enghraifft, trefniadau a ystyrir yn ‘gontractau’r GIG’ (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel contractau’r GIG i’r GIG) fel y’u diffinnir o dan adran 7 o ddeddf 2006, neu wasanaethau fferyllol cymunedol a ddarperir gan drefniadau a wneir o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
Hefyd, rhaid i nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau iechyd, sydd o fewn cwmpas y gyfundrefn, gael eu trefnu o dan y rheolau sy’n llywodraethu caffael cyhoeddus ehangach oni bai eu bod yn dod o fewn y diffiniad o gaffaeliad cymysg a nodir yn y gyfundrefn.
Dyma enghreifftiau o gaffaeliadau nad ydynt o fewn cwmpas y gyfundrefn hon:
- nwyddau (er enghraifft meddyginiaethau, offer meddygol)
- gwasanaethau gofal cymdeithasol
- gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau iechyd neu wasanaethau cyfagos ag iechyd (er enghraifft gwaith cyfalaf, ymgynghoriaeth fusnes, arlwyo, gwasanaethau gweinyddol ysbytai, gwasanaethau dillad gwely ysbytai neu ymgyrchoedd marchnata iechyd y cyhoedd) nad ydynt yn darparu gwasanaethau iechyd i unigolyn
Ystyriaethau sector-benodol
Gwasanaethau meddygol, deintyddol, fferyllol ac offthalmig sylfaenol
Mae rhai gwasanaethau gofal sylfaenol o fewn cwmpas y gyfundrefn, gan gynnwys gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol[troednodyn 1] a gwasanaethau gofal llygaid. Nid yw gwasanaethau fferyllol cymunedol a ddarperir gan drefniadau a wneir o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 o fewn cwmpas y rheoliadau. Bydd y ffordd y caniateir ymdrin â gwahanol fathau o ofal sylfaenol o dan y gyfundrefn yn dibynnu ar y sefyllfa a’r contractau nue gytundebau dan sylw.
Mae gwasanaethau gofal sylfaenol craidd yn aml yn cael eu comisiynu yn seiliedig ar gontractau parhaus sy’n rhedeg nes iddynt ddod i ben ac nad oes angen i awdurdodau perthnasol eu had-drefnu fel mater o drefn. Pan fo awdurdod perthnasol yn trefnu gwasanaethau gofal sylfaenol, rhaid iddo ystyried pa broses gaffael sy’n briodol (gweler prosesau caffael o dan y rheoliadau). Ceir rhagor o fanylion am sut y mae’r rheoliadau’n gymwys i ofal sylfaenol yn atodiad C.
Caffaeliad cymysg
Gallai contractau i ddarparu gwasanaethau iechyd gynnwys sawl elfen: rhai ohonynt yn wasanaethau iechyd sy’n amlwg o fewn cwmpas y rheoliadau, a rhai ohonynt, pe baent yn cael eu caffael ar eu pennau eu hunain, a fyddai o fewn cwmpas y rheolau caffael cyhoeddus ehangach (gweler deddf 2023).
Nid yw’r rheoliadau’n darparu ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau nad ydynt ymwneud ag iechyd ar eu pen eu hunain.
Pan fydd contract yn cynnwys cymysgedd o wasanaethau iechyd sydd o fewn cwmpas y rheoliadau a gwasanaethau neu nwyddau sydd y tu allan i’r cwmpas, dim ond pan fodlonir y ddau ofyniad isod y caniateir i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r rheoliadau hyn:
- bod prif bwnc y contract yn wasanaethau iechyd sydd o fewn y cwmpas
- bod yr awdurdod perthnasol o’r farn na ellid cyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau eraill yn rhesymol o dan gontract ar wahân
Mae prif bwnc y contract yn cael ei bennu gan ba un o’r canlynol yw’r uchaf:
- gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau iechyd
- werth oes amcangyfrifedig y nwyddau neu’r gwasanaethau eraill
Ystyr gwerth oes amcangyfrifedig contract yw ei werth am yr amser sy’n cael ei amcangyfrif gan yr awdurdod perthnasol yn unol â rheoliad 4. Bydd hwn yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
- yn achos contract cyfnod penodol, yr uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu
- yn achos contract heb gyfnod penodol, yr uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract mewn unrhyw gyfnod o fis, wedi’i luosi â 48
- ar gyfer cytundeb fframwaith, swm gwerth oes amcangyfrifedig yr holl gontractau sydd wedi’u dyfarnu, neu a allai gael eu dyfarnu, yn unol â’r fframwaith hwnnw
Gwerth oes amcangyfrifedig
Mae’r enghreifftiau canlynol o werth oes amcangyfrifedig yn cyfeirio’n benodol at ei gymhwysiad o ran caffaeliadau cymysg a phenderfynu ar y prif bwnc. Mae rheoliad 13 ‘addasiadau’ a rheoliad 7 (10) ‘newid sylweddol’ yn cyfeirio’n benodol at werth oes amcangyfrifedig, felly cyfeirir at ei gymhwysiad hefyd yn ‘Pennu nad yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol i’r contract presennol’ ac ‘Addasiadau a ganiateir’ yn y canllawiau hyn.
Gwerth oes amcangyfrifedig yw’r cyfanswm y gallai awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan gontract. Mae hyn yn cynnwys gwerth unrhyw wasanaethau a fydd yn cael eu darparu gan y darparwr o dan y contract ac eithrio ar gyfer talu, gwerth unrhyw opsiynau ar gyfer gwasanaethau ychwanegol pe bai’r awdurdod perthnasol yn arfer opsiwn o’r fath, gwerth unrhyw opsiynau i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract, unrhyw ffioedd ychwanegol sy’n daladwy o dan y contract, ac unrhyw symiau sy’n cynrychioli gwobrau neu daliadau a allai fod yn daladwy i ddarparwr sy’n cymryd rhan mewn caffaeliad. Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried yr holl amgylchiadau sy’n berthnasol i’r amcangyfrif ar yr adeg y cyfrifir yr amcangyfrif.
Wrth gymhwyso hyn i’r meini prawf ar gyfer caffaeliad cymysg, mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol gyfrifo’r gwasanaethau iechyd a’r elfennau nwyddau a gwasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ i gyfrifo a oes gan y dadansoddiad o werth oes amcangyfrifedig elfen gwasanaeth iechyd uwch; os felly, gwasanaethau iechyd perthnasol yw’r prif bwnc. Os mai’r nwyddau neu wasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ yw’r prif bwnc (hynny yw o werth uwch), ni fydd modd i’r awdurdod perthnasol ddyfarnu contract o dan y rheoliadau a rhaid ymgymryd â’r broses gaffael yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach.
Enghreifftiau o gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig mewn caffaeliadau cymysg
Contractau cyfnod penodol
Gwerth oes amcangyfrifedig awdurdod perthnasol ar gyfer contract cyfnod penodol yw’r uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract, gan gynnwys, pan fo’n gymwys, symiau a dalwyd eisoes.
Er enghraifft:
a) Os dyfernir contract am gyfnod o 24 mis gyda’r opsiwn i’w estyn am gyfnod o 12 mis, y cyfanswm sy’n daladwy i’r darparwr ar gyfer yr holl wasanaethau dan gontract ac opsiynau estyn ychwanegol a arferir fyddai’r gwerth a fyddai’n daladwy dros gyfnod o 36 mis.
b) Os dyfernir contract am gyfnod o 24 mis gydag opsiynau wedi’u cynnwys mewn perthynas â gwasanaethau ychwanegol, premiymau, ffioedd, comisiynau ac ati, y gwerth a fyddai’n daladwy yw’r gwerth 24 mis ynghyd â’r holl wasanaethau, premiymau a ffioedd ychwanegol yn ystod y cyfnod taladwy.
Unwaith y bydd yr awdurdod perthnasol wedi cyfrifo ‘gwerth oes amcangyfrifedig’ y contract yn ei gyfanrwydd, bydd angen iddo gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau iechyd a’r nwyddau neu’r gwasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ yn erbyn cyfanswm amcan(a) y gwerth 36 mis neu (b) y gwerth 24 mis. Os mai’r nwyddau neu gwasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ fydd y gwerth mwyaf, ystyrir mai nhw yw’r prif bwnc ac ni fydd modd i’r awdurdod perthnasol ddyfarnu contract o dan y rheoliadau.
Un maes nodedig lle defnyddir caffaeliadau cymysg yw trefnu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol gyda’i gilydd mewn un contract. Byddai contract o’r fath yn cynnwys cymysgedd o wasanaethau iechyd sydd o fewn y cwmpas a gwasanaethau gofal cymdeithasol sydd y tu allan i’r cwmpas. Pe bai’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried yn rhai ‘cysylltiedig’ â’r gwasanaethau iechyd, bydd angen i’r awdurdod perthnasol sicrhau mai gwasanaethau iechyd yw prif bwnc y contract arfaethedig drwy gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y contract cyfan yn gyntaf, ac yna bennu gwerth yr elfennau iechyd (o fewn y cwmpas) a gofal cymdeithasol (y tu allan i’r cwmpas).
Er enghraifft, pe bai gwerth oes amcangyfrifedig y contract arfaethedig yn £1 filiwn, byddai angen i’r gwasanaethau iechyd fod yn brif bwnc y contract ac felly yr elfen â’r gwerth uchaf. Felly, er mwyn caffael y contract o dan y rheoliadau fel caffaeliad cymysg, byddai angen i gyfanswm gwerth y gwasanaethau iechyd fod yn £500,001 neu fwy (mwy na 50%) a’r elfen gofal cymdeithasol yn £499,999 neu lai (llai na 50%). Pan mai gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau gofal cymdeithasol yw’r mwyaf, ni fodlonir y profion caffaeliad cymysg, ac nid yw’r rheoliadau’n gymwys. Rhaid ymgymryd â’r broses gaffael yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach.
Contractau heb gyfnod penodol
Gwerth oes amcangyfrifedig awdurdod perthnasol ar gyfer contract heb gyfnod penodol yw’r uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract mewn cyfnod o fis, wedi’i luosi â 48. Er enghraifft, bydd contractau a ddyfernir heb gyfnod penodol y cytunwyd arno hynny yw contract penagored a ddyfernir o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (y ‘rheoliadau GMS’), yn parhau i redeg yn barhaus ac ni fyddant yn dod i ben oni bai eu bod yn cael eu terfynu. Dylai awdurdod perthnasol y mae’n ofynnol iddo gyfrifo’r gwerth oes amcangyfrifedig ddefnyddio’r uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract mewn cyfnod o fis, ac yna ei luosi â 48; bydd y ffigur hwn wedyn yn cynrychioli’r gwerth oes amcangyfrifedig.
Mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau iechyd a’r nwyddau a’r cydrannau gwasanaethau ‘cysylltiedig’ eraill er mwyn cyfrifo a oes gan y dadansoddiad o werth oes amcangyfrifedig elfen gwasanaeth iechyd uwch. Os felly, y gwasanaethau iechyd yw’r prif bwnc. Os mai’r nwyddau neu wasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ (y tu allan i’r cwmpas) yw’r prif bwnc (y gwerth mwyaf), ni fydd yr awdurdod perthnasol yn gallu dyfarnu contract caffaeliad cymysg o dan y rheoliadau. Rhaid ymgymryd â’r broses gaffael yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach.
Cytundebau fframwaith
Gwerth oes amcangyfrifedig ar gyfer cytundeb fframwaith yw swm gwerthoedd amcangyfrifedig yr holl gontractau sydd wedi’u dyfarnu, neu a allai gael eu dyfarnu, yn unol â’r fframwaith hwnnw. Er enghraifft, er mwyn cyfrifo prif bwnc cytundeb fframwaith ar gyfer caffaeliad cymysg, rhaid i awdurdod perthnasol:
- gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y cytundeb fframwaith (hynny yw swm gwerth oes amcangyfrifedig yr holl gontractau sydd wedi’u dyfarnu, neu a allai gael eu dyfarnu, o dan y fframwaith)
- cyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau iechyd a gwerth oes amcangyfrifedig y nwyddau ‘cysylltiedig’ a gwasanaethau eraill sy’n debygol o gael eu trefnu yn ôl y gofyn drwy’r cytundeb fframwaith
Os mai gwerth oes amcangyfrifedig elfen gwasanaethau iechyd y contract yw’r mwyaf, a bod yr holl feini prawf eraill o ran caffaeliad cymysg eraill yn cael eu bodloni, caiff awdurdod perthnasol gwblhau cytundeb fframwaith caffaeliad cymysg o dan y rheoliadau. Os mai gwerth oes amcangyfrifedig y nwyddau neu wasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ sydd â’r gwerth uchaf, ni fydd yr awdurdod perthnasol yn gallu cwblhau cytundeb fframwaith caffaeliad cymysg o dan y rheoliadau hyn. Rhaid ymgymryd â’r broses gaffael yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach.
Ni all nwyddau neu wasanaethau sydd y tu allan i’r cwmpas gael eu hystyried yn rhan o gaffaeliad cymysg ond pan fo’r awdurdod perthnasol o’r farn na ellir eu gwahanu oddi wrth y gwasanaethau iechyd sydd o fewn y cwmpas fel rhan o’r un contract. Dim ond pan fo’r awdurdod perthnasol o’r farn y byddai caffael y gwasanaethau iechyd a’r nwyddau neu’r gwasanaethau eraill ar wahân yn cael effaith andwyol sylweddol, neu’n debygol o gael effaith o’r fath, ar allu’r awdurdod perthnasol i weithredu yn unol â’r egwyddorion caffael y caiff awdurdod perthnasol benderfynu na ellid cyflenwi nwyddau neu wasanaethau eraill yn rhesymol o dan gontract ar wahân.
Er enghraifft, gallai awdurdodau perthnasol rag-weld anawsterau wrth ddarparu gwasanaethau os ydynt yn cynnal dau gaffaeliad o dan wahanol gyfundrefnau caffael (hynny yw un ar gyfer y gwasanaethau iechyd o dan y rheoliadau a nwyddau neu wasanaethau eraill o dan gyfundrefn gaffael ehangach) gan y gallai arwain at ddyfarnu contractau i ddau gyflenwr gwahanol. Gallai hyn fod yn broblem lle gallai’r ddau wasanaeth fod i’r un claf unigol neu grŵp o gleifion, a gallai arwain at ddarpariaeth gymhleth neu wasanaethau o safon is yn sgil bod â dau ddarparwr gwahanol.
Bydd angen i awdurdodau perthnasol ystyried hyn fesul achos a rhaid iddynt gadw cofnod mewnol o’r rhesymeg dros eu penderfyniad i ymgymryd â chaffaeliad cymysg, gan y byddai hyn yn rheswm dros y penderfyniad a wneir (gweler tryloywder).
Pan fodlonir y profion uchod, mae’r rheoliadau’n gymwys, a gellir ymgymryd â chaffaeliad cymysg gan ddefnyddio’r rheoliadau. Os na fodlonir y profion hyn, nid yw’r gyfundrefn yn gymwys i’r gwasanaethau sydd y tu allan i’r cwmpas a rhaid ymgymryd â’r elfen honno o’r broses gaffael yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach (gweler deddf 2023).
Gweler isod rai enghreifftiau eraill o wasanaethau y gellir eu trefnu o dan y rheoliadau, ond a allai olygu bod angen defnyddio rhyw gymaint o gaffaeliad cymysg ar gyfer gwasanaethau iechyd a gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd i gyflawni eu hamcanion craidd:
- gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol a drefnir o dan drefniant partneriaeth (o dan adran 33 o Ddeddf GIG Cymru 2006) gan awdurdod perthnasol gyda darparwr yn y sector annibynnol neu wirfoddol
- cludiant cleifion, sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd (y mae’r darparwr angen cofrestriad AGIC neu AGC ar eu cyfer) a gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd (lle nad oes angen cofrestriad AGIC neu AGC)
- pecynnau a drefnir o dan y Gronfa Gofal Integredig
- gwasanaethau Rhyddhau i Adfer yna Asesu (D2RA)
- gwasanaethau ôl-ofal iechyd meddwl, megis gwasanaethau cymorth a drefnir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
- gwasanaethau carchar sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd
- gwasanaethau ceiswyr lloches sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd
- gwasanaethau cyn-filwyr sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd
Troednodiadau
[1] Mae gwasanaethau deintyddol cymunedol a ddarperir o dan a3(1)(c) o ddeddf 2006 hefyd wedi'u cynnwys o fewn cwmpas y rheoliadau, er nad ydynt wedi'u dosbarthu fel gwasanaethau gofal sylfaenol fel y'u diffinnir yn neddf 2006.