Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad D: meini prawf allweddol

Diffinnir y meini prawf allweddol yn rheoliad 6.

Nodir rhagor o fanylion am y meini prawf allweddol isod, gan fanylu ar yr hyn a gwmpesir gan bob un o’r meini prawf allweddol a’r materion y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol roi ystyriaeth ddyladwy iddynt wrth sefydlu eu meini prawf allweddol.

Rhaid ystyried yr holl feini prawf allweddol wrth ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas neu’r broses gystadleuol, a rhaid cofnodi sut y cânt eu hystyried. Rydym yn disgwyl na fydd unrhyw un o’r meini prawf allweddol yn cael ei ddiystyru. Nid yw’r gyfundrefn yn nodi sut y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol gydbwyso’r meini prawf allweddol; fodd bynnag disgwylir i awdurdodau perthnasol fod yn ymwybodol o ofynion neu ddyletswyddau ehangach wrth ystyried penderfyniadau caffael, megis:

Nid yw’r hyblygrwydd a gynigir gan y gyfundrefn yn golygu nad oes rhaid i awdurdodau perthnasol gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried y pwysoliadau a’u canlyniadau wrth ystyried y gwasanaeth i’w ddarparu, a chyn dechrau proses gaffael.

Maen prawf 1: ansawdd

Ansawdd

Rhaid i awdurdodau perthnasol roi ystyriaeth ddyladwy i ansawdd y gwasanaethau sydd i’w darparu gan ddarparwr.

Beth yw gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel?

Mae’r Fframwaith ansawdd a diogelwch Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at nodweddion ansawdd mewn gofal iechyd a ddisgrifiwyd gan y sefydliad meddygaeth, fel yr oedd ar y pryd, ym 1999:

  • diogel: osgoi niwed
  • effeithiol: priodol a seiliedig ar dystiolaeth
  • canolbwyntio ar yr unigolyn: llawn parch ac yn ymateb i anghenion a dymuniadau unigolion
  • amserol: ar yr amser iawn 
  • effeithlon: osgoi gwastraff 
  • teg: siawns gyfartal o gael yr un canlyniad, ni waeth beth fo’r lleoliad, statws economaidd-gymdeithasol ac ati

Mae’r nodweddion ansawdd hyn yn cyd-fynd â’n hegwyddorion iechyd a gofal darbodus:

  • cyflawni iechyd a llesiant, a’r cyhoedd, cleifion a gweithwyr proffesiynol yn bartneriaid cyfartal yn y broses drwy gydgynhyrchu (canolbwyntio ar yr unigolyn)
  • gofalu am y rhai sydd â’r anghenion iechyd mwyaf yn gyntaf, gan wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r holl sgiliau ac adnoddau (amserol, effeithlon, effeithiol)
  • gwneud dim ond yr hyn sydd angen ei wneud: dim mwy, dim llai (diogel, effeithlon)
  • lleihau amrywiadau amhriodol gan ddefnyddio arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn modd cyson a thryloyw (teg, effeithiol, effeithlon)

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried gwybodaeth leol a chenedlaethol berthnasol am ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, lle mae ar gael.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried i ba raddau y bydd y canlyniadau a ddymunir o ran ansawdd yn cael eu cynnal neu eu gwella oherwydd y darparwr/y trefniadau sy’n cael eu hystyried.

Pan fo gwasanaeth newydd neu arloesol yn cael ei ystyried ac nad oes data ar ansawdd ar gael, cynghorir awdurdodau perthnasol i bwyso a mesur gwerth posibl y gwasanaeth newydd neu arloesol yn erbyn y risg na fydd y gwasanaeth yn darparu’r ansawdd disgwyliedig ac i ddeall sut y bydd perfformiad yn cael ei asesu, risgiau’n cael eu rheoli a’r gwasanaeth yn cael ei werthuso.

Rydym yn cynghori y dylai’r broses gaffael ar gyfer unrhyw wasanaeth newydd neu arloesol gynnwys asesiad o sut y bydd y gwasanaeth yn darparu gwybodaeth neu ddata ar ansawdd y ddarpariaeth ac yn monitro diogelwch gweithrediadau (o ystyried na fydd yn gallu dibynnu ar ddulliau neu ddangosyddion presennol).

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried parodrwydd a gallu’r darparwr i nodi, monitro a lliniaru risgiau yn barhaus, ymgysylltu â phrosesau llywodraethiant clinigol a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau wrth gynllunio a goruchwylio gwasanaethau.

Asesu’r dystiolaeth ar ansawdd

Mae asesu ansawdd gwasanaethau darparwr yn gymhleth ac yn gofyn am ddealltwriaeth dda o’r cyd-destun y bydd y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu ynddo. Mae hefyd yn gofyn am ddealltwriaeth o ba ffynonellau tystiolaeth sydd ar gael, yn ogystal â pha un sy’n darparu tystiolaeth orau mewn perthynas â’r darparwr dan sylw.

Gall ffynonellau gwybodaeth gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • model gwasanaeth y darparwr
  • holl adroddiadau arolygu diweddar rheoleiddwyr (gan gynnwys unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ansawdd a ddisgrifir yn yr adroddiad, sgoriau ansawdd cyffredinol a data ar fabwysiadu arloesedd) er enghraifft adroddiadau arolygu gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • mewnwelediad AGIC neu AGC
  • fframwaith perfformiad GIG Cymru
  • wrth gomisiynu gwasanaeth arbenigol, yr holl archwiliadau clinigol cenedlaethol neu adolygiadau canlyniadau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth hwnnw
  • data rheoli contract
  • data dangosyddion perfformiad allweddol, gan gynnwys data ar gydraddoldebau ac anghydraddoldebau iechyd
  • boddhad y comisiynydd neu’r darparwr arweiniol ag ansawdd contractau neu is-gontractau blaenorol (lle bo hynny’n gymwys)
  • tystiolaeth bod cleifion a gofalwyr di-dâl sydd â phrofiad bywyd perthnasol yn cael cyfrannu fel partneriaid at wella profiad ac ansawdd
  • adborth gan gleifion a gofalwyr di-dâl ar ddarpariaeth gwasanaethau, gan gynnwys canlyniadau arolygon a chamau gweithredu sy’n cael eu cymryd mewn ymateb
  • data sy’n ymwneud â’r defnydd o arloesedd profedig

Sylw i sylwadau Llais 

Wrth ystyried gwybodaeth leol a chenedlaethol berthnasol am ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, rhaid i awdurdodau perthnasol roi sylw i unrhyw sylwadau a geir gan Llais.

Corff statudol annibynnol yw Llais, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Ar 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith cyngor iechyd cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd. Mae Llais yn adeiladu ar waith y cynghorau iechyd cymuned â phwerau ychwanegol i gynyddu dylanwad y cyhoedd ar lunio gwasanaethau’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwaith Llais yn cael ei sbarduno gan bryderon pobl Cymru, gan gefnogi a deall pryderon a godir a sicrhau bod pawb yn cael eu cynrychioli, yn enwedig lleisiau’r rhai nad ydynt yn cael eu clywed fel arfer.

Mae adran 15(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“deddf 2020”) yn rhoi pŵer i gorff llais y dinesydd (sy’n cael ei adnabod yn weithredol fel Llais) i gyflwyno sylwadau i gorff GIG ac awdurdod lleol (y rhestrwyd y ddau fel awdurdodau perthnasol at ddibenion y rheoliadau) ynghylch unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd neu ddarparu gwasanaethau cymdeithasol. Mae adran 15(3) yn nodi bod rhaid i awdurdodau perthnasol roi sylw i sylwadau a gyflwynir iddynt gan Llais wrth iddynt arfer unrhyw swyddogaeth y mae’r sylwadau’n berthnasol iddi.

Yng nghyd-destun y rheoliadau, rhaid i awdurdodau perthnasol roi sylw i’r cyfryw sylwadau a geir gan Llais sy’n ymwneud ag unrhyw wasanaethau a gomisiynir ganddynt gan drydydd partïon, neu a ddarperir o dan gontract gan drydydd partïon.

Mae’r canllawiau statudol sy’n cyd-fynd â deddf 2020 yn darparu y dylai awdurdodau perthnasol fod â gweithdrefnau ar waith i ymdrin â sylwadau o’r fath (ac yn enwedig paragraff 25):

[g]wneud darpariaeth i rannu’r sylwadau [Llais] â’r personau cyfrifol priodol ar gyfer y darparwr/darparwyr dan sylw a rhoi cyfle iddynt gyfrannu at yr ymateb.

Yn ogystal, er y bydd pryderon am ofal neu driniaeth unigolion fel arfer yn cael eu cyflwyno drwy’r weithdrefn gwyno berthnasol yn hytrach na sylwadau adran 15, mae paragraff 27 o’r canllawiau’n nodi y dylai awdurdodau perthnasol:

ddilyn eu gweithdrefnau perthnasol eu hunain er mwyn sicrhau bod pob unigolyn sy’n destun honiadau a gynhwysir mewn sylwadau corff llais y dinesydd yn cael amddiffyn ei hawl i’r drefn briodol.

Arloesi

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol asesu hefyd i ba raddau y gallai trefniant gyda darparwr arwain at welliannau a chynyddu gwelliannau wrth hybu a mabwysiadu arloesedd profedig wrth ddarparu gofal.

Wrth asesu arloesedd, cynghorir awdurdodau perthnasol i roi ystyriaeth briodol i unrhyw ddulliau arloesol penodol a gynigir gan ddarparwyr a allai helpu i sicrhau canlyniadau iechyd gwell.

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol ystyried sut y gall eu penderfyniadau wella neu gyfyngu ar allu tymor hwy pob awdurdod perthnasol i barhau i arloesi a diwallu anghenion iechyd. Disgwylir iddynt ystyried a all trefniant gyda darparwr amharu ar ddatblygu a mabwysiadu arloesedd, a sut y gall eu penderfyniadau effeithio ar allu’r farchnad darparwyr i gefnogi mynediad at wasanaethau newydd neu arloesol, neu ddatblygiad gwasanaethau o’r fath, i gleifion yn y dyfodol.

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol:

  • ystyried sut y gall eu penderfyniadau wella neu waethygu anghydraddoldebau o ran mynediad at wasanaethau iechyd, profiad o’r gwasanaethau hynny neu ganlyniadau sy’n deillio ohonynt
  • gweithredu gyda’r bwriad o sicrhau gwell ansawdd gwasanaethau mewn cysylltiad ag atal salwch, rhoi diagnosis o salwch a thrin salwch
  • wrth ymrwymo i gytundeb gyda darparwr, ystyried yr effaith ar leihau anghydraddoldebau o ran hygyrchedd gwasanaethau iechyd, ac ansawdd y canlyniadau a gyflawnir ar gyfer pob person cymwys ar ôl darparu gwasanaethau iechyd

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol ystyried sut y mae darparwyr yn gallu ymwneud ag ymchwil iechyd ac ymgymryd ag ymchwil iechyd, a’u parodrwydd i wneud hynny, a chânt eu cynghori i wneud trefniadau sy’n hyrwyddo a chefnogi ymchwil glinigol a’r defnydd o dystiolaeth ymchwil ar faterion sy’n berthnasol i’r gwasanaeth iechyd.

Dyletswyddau sy’n gysylltiedig ag ansawdd

Mae adran 12A, 20A a 24A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020) yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig i arfer eu swyddogaethau gyda’r bwriad o sicrhau gwelliant parhaus yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Diffinnir ansawdd fel ansawdd o ran effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd, diogelwch gwasanaethau iechyd, a phrofiad unigolion y darperir gwasanaethau iechyd iddynt, ymhlith pethau eraill.

Maen prawf 2: gwerth

Gwerth

Rhaid i awdurdodau perthnasol roi ystyriaeth briodol i’r angen i sicrhau gwerth da o ran costau, manteision cyffredinol a goblygiadau ariannol trefniant. Wrth asesu gwerth gwasanaeth/trefniant gyda darparwr, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried:

  • manteision y trefniant gyda darparwr: gellir gwerthuso manteision mewn perthynas â’r meini prawf eraill yn y gyfundrefn a gallant fod yn berthnasol i gleifion (o ran canlyniadau neu brofiad cleifion), y boblogaeth (o ran gwell iechyd a llesiant) a threthdalwyr (drwy leihau baich cost salwch gydol oes gyfan y trefniant o fewn yr adnoddau sydd ar gael)
  • costau (neu gostau tebygol) y trefniant, gan gynnwys effeithlonrwydd y gwasanaeth, y gost dros hyd y contract, gwerth am arian, prisiad marchnad hanesyddol gwasanaethau penodol ac unrhyw feincnodi costau yn erbyn gwasanaethau tebyg eraill
  • unrhyw nodau ariannol lleol neu cenedlaethol perthnasol

Wrth farnu gwerth, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried costau a manteision trefniant gyda darparwr dros gyfnod disgwyliedig y contract, gan gynnwys amrywiadau mewn tueddiadau allanol a’r amrywiad posibl yng ngwerth y gwasanaeth dros hyd y contract.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried a allai trefniant penodol gyda darparwr effeithio’n gadarnhaol neu’n negyddol ar gostau neu fanteision gwasanaethau cysylltiedig eraill, neu flaenoriaethau comisiynu eraill.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried y costau i’r darparwr yn sgil newid trefniadau presennol neu sefydlu rhai newydd, ochr yn ochr â chost ddisgwyliedig y contract ei hun wrth asesu gwerth. Er enghraifft, gall trefnu gwasanaeth gyda darparwr newydd gynnig arbediad ariannol i’r awdurdod perthnasol dros gyfnod contract cymharol hir ond, os yw’r gost a ragwelir yn sgil newid i ddarparwr newydd, gan gynnwys unrhyw gyllid cychwynnol sydd ei angen, yn fwy na’r arbedion y mae’r darparwr newydd yn eu cynnig, mae angen ystyried ai trefniant o’r fath sy’n rhoi’r budd mwyaf i drethdalwyr wedyn. 

Caiff awdurdodau perthnasol:

  • ddefnyddio data cyhoeddedig (megis offeryn meincnodi) i feincnodi costau
  • gofyn i ddarparwyr am yr wybodaeth sydd ei hangen i bennu’r gwerth y maent yn ei gynnig (er enghraifft dadansoddiad o gostau)
  • ddefnyddio’r broses gystadleuol i bennu’r gwerth y mae darparwyr yn ei gynnig (gweler y broses gystadleuol)

Dyletswyddau sy’n gysylltiedig â gwerth

Mae adran 172 a 175 o ddeddf 2006, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, yn gosod dyletswyddau ariannol ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i beidio â mynd y tu hwnt i’r terfynau adnoddau cyfalaf a refeniw a bennir bob blwyddyn ariannol.

Mae adran 21 a pharagraff 2(1) o atodlen 4 i ddeddf 2006 yn gosod dyletswydd ar ymddiriedolaethau’r GIG i:

ensure that its revenue is not less than sufficient, taking one financial year with another, to meet outgoings properly chargeable to revenue account.

Yn ogystal â’r dyletswyddau statudol hyn, mae Cymru iachach – sy’n gymwys i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig – yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff hynny roi sylw dyladwy i’r system "iechyd da", sy’n ceisio cefnogi a rhag-weld anghenion iechyd, atal salwch a lleihau effaith iechyd gwael, drwy system deg lle bydd gwasanaethau a chymorth yn darparu’r un safon uchel o ofal, ac yn sicrhau canlyniadau iechyd mwy cyfartal, i bawb yng Nghymru.

Gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth

Mae Cymru Iachach yn nodi’r angen i wasanaethau gael eu trawsnewid fel y gallant fodloni heriau’r dyfodol a helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau. Yn ystod hydref 2019, lansiwyd cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd seiliedig ar werth yng Nghymru a oedd yn manylu ar raglen dair blynedd i wreiddio’r fethodoleg gofal iechyd seiliedig ar werth er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion gan ddefnyddio adnoddau’n dda hefyd.

Mae datblygu a darparu dulliau gofal iechyd seiliedig ar werth yn cynnwys casglu a defnyddio data canlyniadau yn well ac ailddylunio llwybrau clinigol. Lle y bo’n briodol, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried archwiliadau clinigol ac adolygiadau o ganlyniadau, a Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) i alluogi i ddull gofal iechyd seiliedig ar werth gael ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau.

Lle y bo’n briodol, cynghorir awdurdodau perthnasol i sicrhau bod y broses gaffael yn rhan o broses ailddylunio gofal iechyd seiliedig ar werth a bod penderfyniadau’n gyson â dull gofal iechyd seiliedig ar werth o ran gwasanaethau i gleifion. Wrth asesu’r meini prawf hyn, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y bydd y darparwr sydd dan ystyriaeth yn gallu cefnogi archwiliadau clinigol, adolygiadau canlyniadau a PROMs ac a allai penderfyniad naill ai wella neu effeithio’n andwyol ar ddulliau casglu data canlyniadau ar gyfer gwasanaethau cysylltiedig. Disgwylir hefyd i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y bydd y gwaith a wneir gan y darparwr yn helpu’r awdurdod perthnasol i symud tuag at ddarparu gwasanaeth Iechyd a gofal iechyd seiliedig ar werth.

Maen prawf 3: cydweithredu a chynaliadwyedd gwasanaethau

Cydweithredu

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y gellir darparu’r gwasanaethau mewn ffordd gydweithredol.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i sicrhau bod eu penderfyniadau’n gyson â chynlluniau lleol a chenedlaethol ynghylch gwasanaethau i gleifion.

Wrth asesu’r meini prawf hyn, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y bydd y darparwr dan ystyriaeth yn gallu cydweithredu â gwasanaethau cysylltiedig eraill mewn ffordd sy’n gwella gofal (gan gydnabod nad yw cael gwasanaethau i gydweithredu o reidrwydd yn golygu bod rhaid i’r un darparwr ddarparu’r holl wasanaethau hynny).

Beth yw gwasanaethau cydweithredol?

Mae gwasanaethau cydweithredol yn wasanaethau a ddarperir ar y cyd mewn ffordd ddi-dor a chydlynol, i hyrwyddo gwasanaethau iechyd hygyrch, cynhwysfawr a pharhaus.

Gall gwasanaethau fod yn gydweithredol ar wahanol batrymau daearyddol (er enghraifft ar lefel cymdogaeth, lle neu lefel).

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried a all penderfyniad naill ai wella neu effeithio’n andwyol ar lwybrau gofal a theithiau cleifion drwy wasanaethau cysylltiedig eraill, yn ogystal â’r gwasanaeth sy’n cael ei ystyried, a cheisio osgoi tarfu diangen neu ddarnio gwasanaethau lle bo hynny’n bosibl.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried a allai cydweithredu:

  • wella ansawdd y gwasanaethau hynny (gan gynnwys canlyniadau eu darparu)
  • lleihau anghydraddoldebau rhwng pobl o ran eu gallu i gael mynediad at y gwasanaethau hynny
  • lleihau anghydraddoldebau rhwng pobl mewn o ran canlyniadau darparu’r gwasanaethau hynny

Wrth ystyried manteision posibl cydweithredu, cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried unrhyw gysylltiadau presennol rhwng y darparwyr sydd dan ystyriaeth a sefydliadau cysylltiedig, ac a yw’r rhain yn debygol o wella’n ddigonol i arwain at fanteision gweladwy i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried:

  • a fydd llif data cleifion yn cael ei wella neu ei rwystro gan y penderfyniad
  • a yw arferion gwaith, diwylliant, seilwaith a systemau’r darparwyr sy’n ymwneud â gwasanaethau cysylltiedig yn debygol o alluogi gwell cydweithredu
  • lleoliad y gwasanaethau a gynigir gan ddarparwyr ac a allai hyn effeithio ar allu’r darparwyr i integreiddio

Partneriaeth

Mae Cymru Iachach yn nodi’r angen i wasanaethau drawsnewid fel y gallant fodloni heriau’r dyfodol a helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau. Mae newidiadau o’r fath yn gofyn am "synnwyr cryf o bartneriaeth a gwerthoedd cyffredin". Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi caniatáu "gofal yn y gymuned sy’n croesi ffiniau traddodiadol sefydliadau a gwasanaethau", gan ganiatáu gwelliannau yn "iechyd a llesiant pawb yng Nghymru" sy’n "rhywbeth y gallwn ni oll [barhau i] gyfrannu tuag ato, drwy fath newydd o waith mewn partneriaeth gyhoeddus".

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol gefnogi trefniadau partneriaeth nawr ac yn y dyfodol sy’n caniatáu:

  • cyfleoedd partneriaeth strategol sy’n darparu modelau newydd o ofal di-dor ac yn darparu gwasanaethau integredig
  • dull cyfannol o gefnogi iechyd a llesiant
  • i gleifion adfer eu hannibyniaeth
  • modelau newydd o bartneriaeth rhwng darparwyr ac unigolion, gan alluogi pobl i leihau eu harhosiad yn yr ysbyty

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol ystyried a all penderfyniad naill ai wella neu effeithio’n andwyol ar weithio mewn partneriaeth ar draws y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol:

  • geisio sicrhau bod y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau yn anelu at fanteisio’n llawn ar drefniadau partneriaeth ar gyfer gwella gofal cleifion
  • ystyried sut y gallai’r trefniadau gyda darparwyr dan ystyriaeth effeithio ar drefniadau partneriaeth nawr ac yn y dyfodol
  • ystyried i ba raddau y caiff ddarparwyr weithredu i gynyddu trefniadau partneriaeth yn eu gweithgareddau eu hunain, a sut y gall gweithgareddau o’r fath arwain at welliannau eraill mewn canlyniadau iechyd i gleifion

Cynaliadwyedd gwasanaethau

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried a allai’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau effeithio ar sefydlogrwydd a chynaliadwyedd gofal cleifion yn lleol a sut.

Wrth asesu cynaliadwyedd gwasanaethau, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried sawl ffactor, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • effaith ariannol ar wasanaethau eraill
  • effeithiau ar barhad gwasanaethau cysylltiedig eraill
  • effaith bosibl ar ansawdd gwasanaethau cysylltiedig neu ddibynnol eraill (gan gynnwys y rhai a drefnir gan gyrff eraill)
  • sefydlogrwydd a chynaliadwyedd darparwyr eraill yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir
  • effaith ar allu’r farchnad ehangach i ddarparu’r gwasanaethau gofynnol yn y dyfodol

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried a allai’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau gael effaith barhaus a sylweddol ar y gweithlu gwasanaethau iechyd lleol a sut, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: 

  • gadw gweithlu lleol medrus
  • gyfleoedd hyfforddi perthnasol i’r gweithlu lleol ar gael yn barhaus (er enghraifft prentisiaethau, strwythur hyfforddi, lleoliadau clinigol)
  • yr effaith ar dimau sefydledig
  • a yw’r modelau cyflogaeth a ddefnyddir gan ddarparwyr yn gyson â blaenoriaethau polisi cyfredol y GIG ar gyfer y gweithlu

Disgwylir i awdurdodau perthnasol osgoi ansefydlogi darparwyr drwy eu proses gaffael. Os yw’r cynigion yn debygol o gael effaith negyddol ar sefydlogrwydd, hyfywedd neu ansawdd gwasanaethau eraill o ansawdd da ar unwaith neu dros amser, cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried a yw manteision ehangach y cynnig yn cyfiawnhau hyn.

Maen prawf 4: gwella mynediad a lleihau anghydraddoldebau iechyd

Gwella mynediad

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y gallai’r trefniadau gyda darparwr gefnogi anghenion iechyd y boblogaeth leol, a sicrhau bod pob grŵp o gleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau mor rhwydd â phosibl.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried sut y gall darparwyr wneud y canlynol orau:

a) diwallu anghenion grwpiau lleol sy’n profi mynediad gwaeth na’r cyfartaledd
b) gwella mynediad at wasanaethau, a phrofiad a chanlyniadau cleifion, ar gyfer grwpiau difreintiedig ac agored i niwed a grwpiau â nodweddion gwarchodedig
c) ymdeimlo â’r poblogaethau y maent yn ceisio eu gwasanaethu, a’u deall
d) ehangu mynediad at wasanaethau drwy eu modelau cyflenwi
e) mynd i’r afael ag allgáu digidol
f) darparu gwasanaethau mewn lleoliadau sy’n hygyrch i gleifion

Lleihau anghydraddoldebau a gwahaniaethau iechyd

Mae’r Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn helpu i godi dealltwriaeth o’r effaith y mae ein hymddygiadau unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru. 

Mae’r fframwaith yn adlewyrchu dull cwrs bywyd a’r ffactorau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ehangach a all ddylanwadu’n gadarnhaol neu’n negyddol ar iechyd a llesiant unigolyn, cymuned neu gymdeithas. O enedigaeth hyd at oedran hŷn, dim ond drwy weithredu’n ddiwyd ar y cyd y gellir mynd i’r afael â’r penderfynyddion hyn, gan amrywiaeth o wasanaethau yn gweithio mewn partneriaeth ar lefel leol a chenedlaethol. Mae’r fframwaith yn offeryn y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan bawb sy’n ymwneud â dylunio neu ddarparu polisïau neu wasanaethau a all gyfrannu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at newidiadau neu ganlyniadau cadarnhaol yn iechyd y boblogaeth.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried y ffyrdd y bydd y trefniant gyda darparwr yn effeithio ar anghydraddoldebau iechyd ac, wrth drefnu gwasanaethau, geisio lleihau anghydraddoldebau a gwahaniaethau iechyd. Er enghraifft, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai carfannau o’r boblogaeth i arfer dewis a disgwylir i’r cymorth hwn gael ei gynnig a’i ddarparu’n rhagweithiol.

Beth yw anghydraddoldebau iechyd?

Mae anghydraddoldebau iechyd yn wahaniaethau annheg y gellir eu hosgoi mewn iechyd ar draws y boblogaeth, a rhwng gwahanol grwpiau o fewn cymdeithas. Mae’r rhain yn cynnwys pa mor hir mae pobl yn debygol o fyw, y cyflyrau iechyd y gallent eu profi a’r gofal sydd ar gael iddynt. Maent yn codi oherwydd yr amodau y cawn ein geni ynddynt ac rydym yn tyfu, yn byw, yn gweithio ac yn heneiddio ynddynt. Mae’r amodau hyn yn dylanwadu ar sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu, a gallant effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol. O fewn y cyd-destun ehangach hwn, mae anghydraddoldebau yn y gwasanaeth iechyd yn ymwneud â’r mynediad sydd gan bobl at wasanaethau iechyd a’u profiad a’u canlyniadau.

Mae enghreifftiau o benderfynyddion iechyd ehangach yn aml yn gydgysylltiedig, ac maent yn cynnwys y ffactorau isod (nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr):

  • statws economaidd-gymdeithasol ac amddifadedd, er enghraifft:
    • di-waith
    • incwm isel
    • byw mewn ardaloedd difreintiedig (er enghraifft, tai gwael, addysg wael neu ddiweithdra)
  • nodweddion gwarchodedig:
    • oedran
    • anabledd
    • ailbennu rhywedd
    • priodas neu bartneriaeth sifil
    • beichiogrwydd a mamolaeth
    • hil
    • crefydd neu gred
    • rhyw
    • cyfeiriadedd rhywiol
  • grwpiau agored i niwed mewn cymdeithas neu grwpiau "iechyd cynhwysiant", er enghraifft: 
    • mudwyr agored i niwed
    • cymunedau sipsiwn, Roma, a theithwyr
    • pobl sy’n cysgu ar y stryd a phobl ddigartref
    • gweithwyr rhyw
  • daearyddiaeth, er enghraifft:
    • trefol
    • gwledig

Dyletswyddau sy’n gysylltiedig â lleihau anghydraddoldebau a gwahaniaethau iechyd

Mae Cymru Iachach yn gosod dyletswyddau ar gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig. Ymysg y dyletswyddau mae’r canlynol:

  • angen canolbwyntio ar atal
  • gwella iechyd ac anghydraddoldeb fel allwedd i ddatblygu cynaliadwy
  • iechyd da a llesiant cenedlaethau o bobl Cymru yn y dyfodol
  • helpu pobl yn rhagweithiol drwy gydol eu hoes
  • ledled Cymru, gan wneud ymdrech arbennig i gyrraedd at y rhai mwyaf anghenus er mwyn helpu i leihau’r anghydraddoldebau iechyd a llesiant sy’n bodoli
  • lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd poblogaeth Cymru

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 149) a’r rhwymedigaethau ehangach yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyladwy i’r angen i ddileu gwahaniaethu neu aflonyddu anghyfreithlon, hybu cyfle cyfartal rhwng y rhai sydd â nodwedd warchodedig a’r rhai nad oes ganddynt nodwedd warchodedig a meithrin cysylltiadau da.

Nod y ddyletswydd yw sicrhau bod y rhai sy’n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb wrth gyflawni eu busnes o ddydd i ddydd.

Maen prawf 5: cyfrifoldeb cymdeithasol

Cyfrifoldeb cymdeithasol

Rhaid i awdurdodau perthnasol geisio sicrhau bod y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau wedi’u hanelu at sicrhau’r canlyniadau llesiant gorau posibl drwy gyfrannu at welliannau mewn canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau lleol.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i fod yn ymwybodol o ofynion a dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi mewn deddfwriaeth. Er enghraifft, mae disgwyl i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig gadw at y:

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn darparu fframwaith i wella llesiant Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus, a hynny drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, caffael cyhoeddus sy’n gyfrifol yn gymdeithasol a hyrwyddo gwaith teg. Mae’r ddeddf yn cynnwys dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ymgymryd â chaffael cyhoeddus sy’n gyfrifol yn gymdeithasol gyfrifol, i bennu amcanion ynghylch nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth gaffael ac adroddiadau blynyddol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff sicrhau y ceisir canlyniadau sy’n gyfrifol yn gymdeithasol drwy gadwyni cyflenwi.

Wrth asesu cyfrifoldeb cymdeithasol, disgwylir i awdurdodau perthnasol feddwl sut y mae’r trefniadau gyda darparwyr sydd dan ystyriaeth yn effeithio ar y canlynol:

a) materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy, gan gynnwys mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gwneud a bodloni ymrwymiadau ynghylch lleihau allyriadau, llygredd aer a defnydd a gwastraff, drwy hyrwyddo egwyddorion economi gylchol, yn ogystal â gwella’r amgylchedd naturiol ac adeiledig fel y bo’n gymwys

b) cyflawni mewn ffordd sy’n gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd, a hynny’n benodol drwy gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant a restrir yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

c) cyflogaeth gynhwysol a "da" a nodweddir gan egwyddorion gwaith teg lle mae gweithwyr yn cael eu talu’n deg, yn cael eu clywed a’u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu symud ymlaen mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau’n cael eu parchu, ac yn cefnogi cyfleoedd i bobl leol neu grwpiau poblogaeth sy’n profi anghydraddoldebau iechyd neu anghydraddoldebau eraill ac yn mynd i’r afael â risgiau caethwasiaeth fodern

d) cydlyniant cymunedol ac iechyd a llesiant ehangach y boblogaeth, gan gynnwys drwy helpu cymunedau i reoli ac adfer o effaith COVID-19

e) penderfynyddion cymdeithasol iechyd (er enghraifft, cyflogaeth, incwm, tai, yr amgylchedd lleol, bwyd, trafnidiaeth, cymuned, diogelwch)

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried i ba raddau y mae darparwyr wedi gweithredu i gynyddu canlyniadau llesiant yn eu gweithgareddau eu hunain, a sut y gall hyn arwain at welliannau eraill mewn canlyniadau iechyd.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried cyfrifoldeb cymdeithasol mewn perthynas â’r meini prawf eraill yn y gyfundrefn hon. Er enghraifft:

  • gall integreiddio gwell sy’n arwain at lai o deithiau cleifion arwain at fanteision amgylcheddol hefyd
  • gall gwasanaeth sy’n arwain at well ansawdd aer gyfrannu at well canlyniadau iechyd dros amser ac felly arbedion a ragwelir

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried sut y mae polisïau ac arferion darparwr yn cyd-fynd â’r canlynol:

  • symud tuag at sero net wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau
  • cynyddu effaith sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd fel sefydliadau angori a phartneriaid mewn lleoedd

Disgwylir i awdurdodau perthnasol beidio â gwneud trefniadau gyda darparwyr sy’n llesteirio’r potensial ar gyfer datblygu a mabwysiadu cynaliadwyedd o fewn y gwasanaethau neu’n arwain at farchnad darparwyr lleol na fydd o bosibl yn gallu cefnogi datblygiad gwasanaethau newydd neu gynaliadwy i gleifion yn y dyfodol.

Dyletswyddau a chanllawiau sy’n gysylltiedig â chanlyniadau llesiant

Gosodir dyletswyddau ar awdurdodau perthnasol i ddarparu sero net a chymryd camau i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn eu gweithrediadau a’u cadwyni cyflenwi.

Yr economi sylfaenol

Mae rhaglen yr economi sylfaenol yn pwyso a mesur sut y gallwn wario arian yng Nghymru i esgor ar ganlyniadau buddiol. Mae mwy na hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyrannu i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, felly mae’n bwysig canolbwyntio ar sut y mae’r arian hwn yn cael ei wario a sicrhau bod yr holl benderfyniadau’n cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn dod â’r budd mwyaf i bobl Cymru a’n heconomi.

Mae rhaglen yr economi sylfaenol yn canolbwyntio ar:

  • y nwyddau neu’r gwasanaethau uniongyrchol rydym yn eu prynu (er enghraifft, bwyd ar gyfer ysbytai)
  • y gweithlu rydym yn ei gyflogi’n uniongyrchol
  • sut y mae lleoli a chydleoli ein gwasanaethau yn effeithio ar gymunedau a sut y gallant gael mynediad at wasanaethau

Edrych ar sut y gall y nwyddau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu caffael helpu economi Cymru a chefnogi poblogaeth Cymru. Dylai ffocws o’r fath gefnogi cwmnïau o Gymru i ddarparu swyddi a hyfforddiant o fewn cadwyn gyflenwi leol a fydd hefyd yn gwneud gwelliannau i’n hamgylchedd. Bydd ystyriaethau o’r fath yn helpu pobl i sicrhau cyfleoedd hyfforddi neu ddod o hyd i waith ac i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i’r boblogaeth leol.

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol:

  • geisio sicrhau bod y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau wedi’u hanelu at wneud y gorau o’r "economi sylfaenol"
  • ystyried sut y gallai’r trefniadau gyda darparwyr sydd dan ystyriaeth effeithio ar bobl Cymru a’n heconomi
  • canolbwyntio ar sut y gall y nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu caffael helpu economi Cymru a chefnogi poblogaeth Cymru drwy gynyddu gwariant yng Nghymru i gefnogi cwmnïau o Gymru sy’n darparu swyddi a hyfforddiant o fewn cadwyn gyflenwi leol
  • ystyried i ba raddau y gall darparwyr weithredu i gynyddu’r economi sylfaenol yn eu gweithgareddau eu hunain, a sut y gallai gwelliannau o’r fath yn yr economi sylfaenol arwain at welliannau eraill mewn canlyniadau iechyd yn sgil creu cymunedau cryfach a mwy gwydn

Disgwylir i awdurdodau perthnasol beidio â gwneud trefniadau gyda darparwyr a allai effeithio’n negyddol ar y gweithlu y maent yn ei gyflogi’n uniongyrchol neu y gallent ei gyflogi’n uniongyrchol neu a fyddai’n effeithio ar hygyrchedd gwasanaethau yn ein cymunedau.