Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad C: gwasanaethau gofal sylfaenol

Mae'r atodiad hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol am sut y disgwylir i'r gyfundrefn gael ei chymhwyso wrth gynnal proses gaffael ar gyfer darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, pan fo'r gwasanaethau hynny o fewn cwmpas y gyfundrefn. Bydd angen i awdurdodau perthnasol ystyried a yw'r gyfundrefn yn gymwys i'w trefniadau ar gyfer gwasanaethau fesul achos a dylent gael cyngor cyfreithiol annibynnol pan fo'n briodol. Dylid darllen yr atodiad hwn ochr yn ochr â deddfwriaeth berthnasol, a chanllawiau.

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn cyfeirio at wasanaethau meddygol sylfaenol, fferyllfeydd cymunedol, gofal deintyddol sylfaenol, a gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol. Mewn rhai amgylchiadau, bydd caffael gwasanaethau gofal sylfaenol o fewn cwmpas y gyfundrefn.

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal meddygol sylfaenol a gofal deintyddol sylfaenol yn bennaf, yn aml yn cael eu darparu o dan gontractau, nad oes ganddynt ddyddiad gorffen penodol, ac felly maent yn rhedeg hyd nes eu y byddant yn terfynu. Felly, nid yw'r contractau hyn yn cael eu haildrefnu fel mater o drefn gan awdurdodau perthnasol.

Fodd bynnag, bydd sefyllfaoedd pan fydd rhaid i awdurdodau perthnasol ddewis darparwr newydd ar gyfer gwasanaeth; er enghraifft, wrth ymateb i derfyniadau contract sydd wedi'u cynllunio neu heb eu cynllunio, pan fydd contractau â therfynau amser (megis gwasanaethau meddygol darparwr amgen neu wasanaethau deintyddol personol, neu wasanaethau atodol) yn dod i ben, neu pan drefnir gwasanaethau newydd (megis meddygfeydd newydd o fewn ystad neu ddatblygiad newydd). Yn y sefyllfaoedd hyn, pan fo'r gyfundrefn yn gymwys, rhaid i awdurdodau perthnasol ddilyn y broses gaffael briodol.

Fel rheol gyffredinol mewn achosion lle mae'r gyfundrefn yn gymwys:

  • rhaid i wasanaethau gofal sylfaenol newydd lle mae awdurdod perthnasol yn ymrwymo i'r contract arfaethedig gyda darparwr gael eu trefnu drwy gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol
  • gellir parhau â'r gwasanaethau presennol pan fo contract y darparwr presennol yn dod i ben a bod yr awdurdod perthnasol yn dymuno parhau gyda'r darparwr presennol ac yn penderfynu bod y darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol (gan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso'r meini prawf dethol sylfaenol), ac nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol), drwy ddyfarnu o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2
  • gellir gwneud addasiadau i gontractau presennol yn unol â'r gyfundrefn (gweler addasiadau i gontractau)

Gwasanaethau meddygol sylfaenol

Mae'r adran hon yn rhoi enghreifftiau o sut y gellir cymhwyso'r gyfundrefn wrth gynnal proses gaffael ar gyfer gwasanaethau meddygol sylfaenol ar draws pum senario:

  1. parhad contractau presennol
  2. addasu contractau presennol
  3. darparwr yn gadael mewn ffordd wedi'i chynllunio
  4. newidiadau sydyn neu heb eu cynllunio i gontractau presennol
  5. gwasanaethau newydd ac integredig

1. Parhad contractau presennol

Mae gan ddarparwr practis meddyg teulu gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) presennol

Mae hwn yn gontract a negodir yn genedlaethol, a wneir o dan adran 42(2) o ddeddf 2006 ar y telerau a nodir o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 ('Rheoliadau GMS’). Mae'r contractau hyn yn benagored [troednodyn 1] oni bai bod yr awdurdod perthnasol neu'r darparwr yn eu terfynu.

Mae'r contract eisoes wedi'i ddyfarnu a bydd yn parhau i redeg yn barhaus ac ni fydd yn dod i ben oni bai ei fod yn cael ei derfynu. Felly, ni chynhelir proses gaffael.

Mae gan ddarparwr practis meddyg teulu gontract Gwasanaethau Meddygol Darparwr Amgen (APMS) presennol

Mae APMS yn golygu trefniadau a wneir o dan adran 41(2) o ddeddf 2006 ar delerau a nodir o dan gyfarwyddydau a ddyroddir o bryd i'w gilydd.

Mae'r contract hwn yn un am amser cyfyngedig, felly mae’n para cyfnod penodedig, gyda'r darparwr penodedig ac felly mae angen ei ail-ddyfarnu o bryd i'w gilydd. Mae'r opsiynau canlynol ar gael i awdurdodau perthnasol wrth gaffael contract APMS newydd pan fydd y contract presennol yn dod i ben:

  • os nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol) a bod y darparwr yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol, yna gall yr awdurdod perthnasol ddyfarnu'r contract gan ddefnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2
  • os yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol) neu os yw'r awdurdod perthnasol am geisio darparwr (darparwyr) newydd, yna caiff yr awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael gan ddefnyddio naill ai'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol

2. Addasu contractau presennol

Uno dau bractis meddyg teulu neu fwy yn arwain at newidiadau i gontractau presennol

Gall uno olygu newidiadau mawr i gontractau. Efallai y bydd rhai cynigion yn fwy syml (hynny yw, uno dau gontract GMS), tra bod eraill yn debygol o fod yn fwy cymhleth (hynny yw uno contractau GMS ac APMS). Os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu bwrw ymlaen â chynnig o'r fath, efallai y bydd angen iddo benderfynu a ddylid parhau â chontract presennol neu gynnal proses gaffael.

Mae uno sy'n arwain at yr un gwasanaethau yn parhau, ond gyda grwpiau neu unigolion gwahanol, o dan un o'r contractau a oedd yn bodoli cynt, yn addasiadau a ganiateir o dan y gyfundrefn. Felly, ni fyddai angen cynnal proses gaffael. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y gyfundrefn.

Os yw uno'n arwain at newidiadau sylweddol i'r contract, megis newid sylweddol i'r gwasanaethau, mae’n ofynnol cynnal proses gaffael. Rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol oherwydd bod yr awdurdod perthnasol i bob pwrpas yn comisiynu gwasanaeth newydd.

Unig ymarferydd neu bartneriaeth yn dymuno disodli ei gontract neu ei chontract gydag un newydd, fel ei fod yn cael ei ddal gan gorff corfforaethol

Os yw'r awdurdod perthnasol yn cytuno i'r cynnig, gall y math hwn o addasiad i gontract fod yn addasiad a ganiateir o dan y gyfundrefn, ar yr amod nad yw'r gwasanaeth yn newid. Felly, os yw hwn yn addasiad a ganiateir, nid oes angen cynnal proses gaffael. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y gyfundrefn.

Newidiadau sylweddol i gontractau presennol

Er enghraifft, ychwanegu meddygfa gangen newydd o dan gontract neu gyflwyno newidiadau mawr i fecanweithiau talu contract. Os yw'r newid ei hun yn dderbyniol i'r awdurdod perthnasol, caniateir caniatáu'r math hwn o addasiad contract o dan y gyfundrefn, yn dibynnu ar faint yr addasiad a’r rheswm amdano, a'r effaith y mae'n ei chael ar y gwasanaethau a ddarperir. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y gyfundrefn.

Partneriaeth meddyg teulu yn newid aelodau (newid a wneir gan y practis) pan nad oes unrhyw newidiadau i'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu

Mae partïon y contract yn newid ond nid yw hyn yn arwain at newidiadau i'r gwasanaethau a ddarperir.

Gall y math hwn o addasiad contract fod yn addasiad a ganiateir o dan y gyfundrefn ar yr amod nad yw'r gwasanaeth yn newid. Felly, os yw hwn yn addasiad a ganiateir, nid oes angen cynnal proses dethol darparwr. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y gyfundrefn.

Mae partneriaeth meddyg teulu yn diddymu, ac mae'r cyn-bartneriaid yn anghytuno ynghylch pwy ddylai ysgwyddo’r contract i ddarparu'r gwasanaethau

Pan fo hyn yn ymwneud â chontract GMS, bydd y contract yn aros gyda'r bartneriaeth hyd nes y bydd y partneriaid yn enwebu un partner i gymryd y contract. Yn achos contract APMS, bydd angen adolygu darpariaethau'r contract perthnasol i bennu canlyniadau diddymu.

Yn achos contract GMS, pan nad yw partneriaeth wedi cyflwyno hysbysiad sy'n enwebu un o'r partneriaid i ymgymryd â'r contract ac, yn hytrach, ei bod wedi rhoi hysbysiad yn terfynu ei chontract presennol, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael.

Rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Newidiadau sylweddol i gontractau GMS neu APMS presennol

Os yw'r trefniadau contractio yn newid yn sylweddol (gan nodi bod yn rhaid i unrhyw addasiadau gydymffurfio o hyd â rheoliadau'r GMS neu gyfarwyddydau APMS (fel sy’n briodol), yna ni chaniateir yr addasiad.

O ganlyniad, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael a rhaid iddo gymhwyso naill ai'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i ddethol y darparwyr ar gyfer y gwasanaeth newydd.

3. Darparwr yn gadael mewn ffordd wedi'i chynllunio

Darparwr yn gadael contract GMS, neu APMS, mewn ffordd wedi’i chynllunio

Yn y sefyllfaoedd hyn, y penderfyniad yw naill ai gwasgaru'r rhestr cleifion i'r practisau cyfagos pan nad yw maint y rhestr cleifion yn sylweddol, ac os felly ni chynhelir proses dethol darparwr, neu ddewis darparwr newydd.

Os yw darparwr newydd yn cael ei ddewis er enghraifft, pan fo'r rhestr cleifion yn sylweddol, yna rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

4. Newidiadau sydyn neu heb eu cynllunio i gontractau presennol

Terfynu contract GMS neu APMS presennol yn sydyn

Er enghraifft, o ganlyniad i ddiffyg ar ran contractwr neu fod y contractwr yn peidio â bod yn gymwys neu oherwydd marwolaeth meddyg teulu sy’n unig ddeiliad y contract neu golli ei gofrestriad â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

Yn y sefyllfaoedd hyn, y penderfyniad yw:

  • gwasgaru'r rhestr cleifion i'r practisau cyfagos, ac os felly nid yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael
  • dewis darparwr newydd – gall hyn fod naill ai fel contract dros dro neu ateb tymor hwy
  • i fwrdd iechyd lleol ddarparu'r gwasanaethau meddygol sylfaenol ei hun mewn practis gwasanaethau meddygol bwrdd iechyd lleol, ac os felly nid yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael

Os yw darparwr newydd yn cael ei ddewis, yna gellir defnyddio'r darpariaethau brys (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau) o fewn y gyfundrefn i sicrhau anghenion dybryd, er enghraifft, sefydlu trefniadau dros dro. Fodd bynnag, gan mai trefniant dros dro fydd hwn, rhaid ei ailystyried ar ôl cyfnod penodol (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau am ragor o wybodaeth). I nodi, dim ond am uchafswm o ddwy flynedd y gellir rhoi contract dros dro o dan reoliadau'r GMS ar waith.

Yn bwysig, rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu trefniant parhaol newydd.

Mae angen darpariaeth frys i gyflenwi gwasanaeth oherwydd bod darparwr wedi optio allan o'i ddarparu

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • mae darparwr yn gadael y farchnad yn annisgwyl
  • mae angen aildrefnu gwasanaeth atodol o dan gyfarwyddyd yn gyflym oherwydd bod darparwr wedi gwrthod cymryd rhan yn annisgwyl

Yn y sefyllfaoedd hyn, y penderfyniad yw naill ai gwasgaru'r rhestr cleifion i'r practisau cyfagos, ac os felly nid yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael, neu ddewis darparwr newydd - gall hyn fod naill ai fel gwasanaeth cyflenwi dros dro neu ateb parhaol hirdymor.

Os yw darparwr newydd yn cael ei ddewis i gyflenwi gwasanaeth dros dro, yna gellir defnyddio'r darpariaethau brys (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau) o fewn y gyfundrefn i sicrhau anghenion dybryd, er enghraifft, sefydlu trefniadau dros dro. Fodd bynnag, gan mai trefniant dros dro fydd hwn, rhaid ei ailystyried ar ôl cyfnod penodol (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau am ragor o wybodaeth).

I nodi, dim ond am uchafswm o ddwy flynedd [troednodyn 2] y gellir rhoi contract dros dro o dan reoliadau'r GMS ar waith. Dim ond lle gellir cyfiawnhau hynny fel amgylchiad eithriadol y dylid cymhwyso uchafswm hyd contract dros dro o dan reoliadau'r GMS o dan y gyfundrefn. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfyngu ar dymor y contract i'r hyn sy'n gwbl angenrheidiol yn unol â rheoliad 15. Os yw'r dyfarniad brys yn fwy na 12 mis, yna rhaid i awdurdodau perthnasol gyfeirio'n benodol at y rhesymau pam mae’n para mwy na 12 mis yn eu hysbysiad o ddyfarniad brys o dan atodlen 13 (paragraff 7 o atodlen 13).

Yn bwysig, rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu trefniant parhaol newydd.

5. Gwasanaethau newydd ac integredig

Sefydlu gwasanaeth meddygol sylfaenol newydd (gan ddefnyddio contractau GMS neu APMS)

O dan yr amgylchiadau hyn, mae darparwr newydd yn cael ei ddewis ar gyfer y contract arfaethedig, ac felly mae'n rhaid i awdurdodau perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Trefnu gwasanaeth newydd o dan gontract APMS

Er enghraifft, trefnu gwasanaeth meddygol sylfaenol galw i mewn newydd mewn ysbyty. Gall hwn fod yn gontract APMS annibynnol sydd wedi'i leoli yn yr ysbyty, neu gall bwrdd iechyd lleol ddyfarnu contract APMS ar gyfer y gwasanaeth, neu gyflogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol yn uniongyrchol.

Pan fo'r awdurdod perthnasol yn caffael contract a bod darparwr yn cael ei ddethol ar gyfer y gwasanaeth newydd, rhaid i awdurdodau perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau gofal nad ydynt yn rhai sylfaenol cymysg

Er enghraifft, gwasanaethau 111 y GIG integredig, sydd fel arfer yn cael eu sefydlu o dan Gontract Gwasanaethau Meddygol Darparwr Amgen Safonol (Cymru) ac sy'n cynnwys gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau gofal brys.

Gan fod darparwr yn cael ei ddethol ar gyfer gwasanaeth newydd, rhaid i awdurdodau perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Comisiynu gwasanaethau atodol lleol

Er enghraifft, meddygon teulu sydd ag arbenigedd arbenigol (hynny yw, mewn dermatoleg neu fasdoriadau) yn cynnal gwasanaethau iechyd gofal eilaidd 'traddodiadol' mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Gellir cynnal y gwasanaethau hyn o dan gontract gyda bwrdd iechyd lleol neu drwy weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gyflogir gan yr awdurdod perthnasol. Yn achos y cyntaf, oherwydd bod darparwr yn cael ei ddethol ar gyfer gwasanaeth newydd, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Pan fo'r awdurdod perthnasol yn gwahodd pob practis meddyg teulu i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau ymarfer cyffredinol neu i ddarparu eu gwasanaethau ymarfer cyffredinol craidd i safon uwch, yna gellir cynnal y gwasanaethau hyn o dan addasiad i gontract. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y gyfundrefn.

Comisiynu gwasanaeth atodol o dan gyfarwyddyd na ellir ei ddarparu ond gan unig ddarparwr i ddiwallu anghenion y boblogaeth ehangach (cynllun triniaeth amgen er enghriafft, cleifion treisgar)

Fel arfer, sicrheir gwasanaethau o'r fath trwy gontractau APMS, ac o dan yr amgylchiadau hyn caiff darparwr newydd ei ddethol ar gyfer y contract arfaethedig. Felly, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Gwasanaethau deintyddol sylfaenol

Mae'r adran hon yn rhoi enghreifftiau o sut y gellir cymhwyso'r gyfundrefn i gontractau gwasanaethau gofal deintyddol sylfaenol ar draws pedair senario:

  1. parhad contractau presennol
  2. addasu contractau presennol
  3. darparwr yn gadael mewn ffordd wedi’i chynllunio
  4. newidiadau sydyn neu heb eu cynllunio i gontractau presennol

1. Parhad contractau presennol

Mae gan bractis deintyddol gontract GDS presennol gydag awdurdod perthnasol

Ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig, mae hwn yn gontract parhaol a negodir yn genedlaethol, a wneir o dan adran 57 o ddeddf 2006 ar y telerau a nodir o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 [troednodyn 2], oni bai ei fod yn cael ei derfynu gan yr awdurdod perthnasol neu'r darparwr. Caniateir diweddaru'r contract o bryd i'w gilydd i sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â'r rheoliadau hynny, ond nid yw'r gwasanaeth yn newid yn sylweddol.

Mae'r contract eisoes wedi'i ddyfarnu a bydd yn parhau i redeg yn barhaus ac ni fydd yn dod i ben oni bai ei fod yn cael ei derfynu. Felly, ni chynhelir proses gaffael.

Mae gan bractis deintyddol gontract PDS presennol gydag awdurdod perthnasol.

Mae hwn yn gontract a wneir o dan adran 64 o ddeddf 2006 ar y telerau a nodir o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006.

Gellir defnyddio contractau PDS i drefnu gwasanaethau gorfodol neu wasanaethau arbenigol fel tawelyddu, neu wasanaethau cartref, ac yn gyffredinol mae terfyn amser arnynt – sydd fel arfer yn cael ei adolygu bob rhyw bum mlynedd. Mae contractau PDS yn cael eu negodi gyda chontractwyr cymwys a gallant ddod i ben (ac felly’r angen i’w hadnewyddu) o bryd i'w gilydd.

Pan ddaw contract PDS i ben a bod angen ei adnewyddu, mae'r opsiynau canlynol ar gael i awdurdodau perthnasol wrth gaffael contract PDS newydd pan fydd y contract presennol yn dod i ben:

  • os nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol) a bod yr awdurdod perthnasol yn fodlon bod y darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol, gall ddyfarnu'r contract gan ddefnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2
  • os yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol) neu os yw'r awdurdod perthnasol eisiau canfod darparwyr newydd, yna gall gynnal proses gaffael gan ddefnyddio naill ai'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol

2. Addasu contractau presennol

Unig ymarferydd neu bartneriaeth yn dymuno disodli ei gontract gydag un newydd, fel ei fod yn cael ei ddal gan gorff corfforaethol

Os yw'r awdurdod perthnasol yn cytuno i'r cynnig, gall y math hwn o addasiad i gontract fod yn addasiad a ganiateir o dan y Gyfundrefn, ar yr amod nad yw'r gwasanaeth yn newid. Felly, os yw hwn yn addasiad a ganiateir, nid oes angen cynnal proses gaffael. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn.

Newidiadau sylweddol i gontractau presennol

Er enghraifft, ychwanegu deintyddfa gangen newydd o dan gontract neu gyflwyno newidiadau mawr i fecanweithiau talu contract. Os yw'r newid ei hun yn dderbyniol i'r awdurdod perthnasol, caniateir caniatáu'r math hwn o addasiad contract o dan y gyfundrefn, yn dibynnu ar faint yr addasiad a’r rheswm amdano, a'r effaith y mae'n ei chael ar y gwasanaethau a ddarperir. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y gyfundrefn.

Partneriaeth ddeintyddol yn newid aelodau (newid a wneir gan y practis deintyddol) pan nad oes unrhyw newidiadau i'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu

Mae partïon y contract yn newid ond nid yw hyn yn arwain at newidiadau i'r gwasanaethau a ddarperir.

Gall y math hwn o addasiad contract fod yn addasiad a ganiateir o dan y gyfundrefn ar yr amod nad yw'r gwasanaeth yn newid. Felly, os yw hwn yn addasiad a ganiateir, nid oes angen cynnal proses dethol darparwr. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y gyfundrefn.

Mae partneriaeth ddeintyddol GDS yn diddymu, ac mae'r cyn-bartneriaid yn anghytuno ynghylch pwy ddylai ysgwyddo’r contract i ddarparu'r gwasanaethau

Pan fo hyn yn ymwneud â chontract GDS, mae mecanwaith yn y contract y gall partneriaid y contract ei ddefnyddio i drosglwyddo’r contract i un o’r partneriaid.

Os nad yw’r bartneriaeth wedi cyflwyno hysbysiad sy'n enwebu un o'r partneriaid i ymgymryd â'r contract ac, yn hytrach, ei bod wedi rhoi hysbysiad yn terfynu ei chontract presennol, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael.

Rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Newidiadau sylweddol i gontractau GDS neu PDS presennol

Os yw'r trefniadau contractio yn newid yn sylweddol, yna ni chaniateir yr addasiad.

O ganlyniad, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael a rhaid iddo gymhwyso naill ai'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i ddethol y darparwyr ar gyfer y gwasanaeth newydd.

3. Darparwr yn gadael mewn ffordd wedi'i chynllunio

Darparwr yn gadael contract GDS neu PDS mewn ffordd wedi’i chynllunio

Yn y sefyllfaoedd hyn, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol ddewis darparwr newydd. Rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol oherwydd bod yr awdurdod perthnasol i bob pwrpas yn comisiynu gwasanaeth newydd.

4. Newidiadau sydyn neu heb eu cynllunio i gontractau presennol

Terfynu contract GDS neu PDS presennol yn sydyn, er enghraifft, o ganlyniad i ddiffyg gan gontractwr neu os yw'r contractwr yn peidio â bod yn gymwys

Os oes rhaid penodi darparwr newydd ar unwaith i gyflenwi gwasanaeth dros dro, yna gellir defnyddio'r darpariaethau brys (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau) o fewn y gyfundrefn i sicrhau anghenion dybryd, er enghraifft, sefydlu trefniadau dros dro. Fodd bynnag, gan mai trefniant dros dro fydd hwn, rhaid ei ailystyried ar ôl cyfnod penodol (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau am ragor o wybodaeth). Yn bwysig, rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu trefniant parhaol newydd.

Gwasanaethau fferyllol

Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 yn nodi'r trefniadau contractio sy'n benodol i wasanaethau fferyllol cymunedol ac felly nid yw'r rhain yn dod o dan y gyfundrefn. Fodd bynnag, mae gwasanaethau iechyd eraill sy'n cael eu darparu gan fferyllfeydd o fewn cwmpas y gyfundrefn, gan gynnwys:

Pan fydd comisiynu gwasanaethau newydd o fewn cwmpas y gyfundrefn (megis yr enghreifftiau uchod), yna gellir cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu'r gwasanaethau hyn.

I barhau â'r trefniadau presennol (hynny yw, dyfarnu'r contract arfaethedig i ddarparwr presennol pan fo'r contract presennol yn dod i ben), gall proses dyfarniad uniongyrchol 2 fod yn opsiwn, ar yr amod nad yw'r gwasanaethau'n newid sylweddol (gweler newid sylweddol), ac mae'r awdurdod perthnasol yn fodlon bod y darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol.

Gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol

Mae'r sefyllfa, gyda darparu gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol, yn wahanol i'r sefyllfa mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau deintyddol sylfaenol. Dylid ystyried trefniadau fesul achos a cheisio cyngor cyfreithiol annibynnol pan fo hynny'n briodol.

Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023 ("y Rheoliadau Gwasanaethau Offthalmig")  a chyfarwyddydau eraill a ddyroddir i fyrddau iechyd lleol yn nodi'r trefniadau sy'n benodol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol o dan Ddeddf y GIG (Cymru) 2006.

Ystyrir y byddai darparu gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol, pan nad oes cyfyngiad ar nifer y darparwyr ymarferwyr cymwysedig, yn debygol o fod yng nghwmpas y Rheoliadau Gwasanaethau Offthalmig a'r Cyfarwyddydau ac na fyddai'n dod o fewn cwmpas y gyfundrefn.

Fodd bynnag, pan wneir unrhyw ymdrechion i gyfyngu ar nifer yr ymarferwyr gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol, megis yn ôl pris, er enghraifft, mae'r gwasanaethau hyn yn debygol o fod o fewn cwmpas y gyfundrefn.

Wrth adnewyddu gwasanaethau presennol, sy'n dod o fewn cwmpas y gyfundrefn, pan fo’r awdurdod perthnasol yn dymuno parhau gyda'r darparwr presennol, rhaid iddo asesu a yw'r darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol (gan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso'r meini prawf dethol sylfaenol). Pan fo'r awdurdod perthnasol yn penderfynu bod y darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o allu bodloni'r contract arfaethedig, ac nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol), gellir dyfarnu'r contract arfaethedig o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2.

Pan fydd comisiynu gwasanaethau newydd o fewn cwmpas y gyfundrefn, gellir defnyddio'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu'r gwasanaethau hyn.

Mae unrhyw gaffael arall o wasanaethau gofal llygaid sylfaenol nad yw’n unol â'r rheoliadau a chyfarwyddydau gofal llygaid sylfaenol perthnasol (i'r graddau y’i caniateir gan y rheoliadau gofal llygaid sylfaenol), megis pan nad oes darpariaeth ddigonol (a bod gwasanaethau ar gontract allanol), yn debygol o fod o fewn cwmpas y gyfundrefn.

Cydweithredfeydd a chlystyrau proffesiynol

Pan nad yw cydweithredfeydd neu glystyrau proffesiynol yn endidau cyfreithiol, ni allant ddal contract. Mae hyn yn golygu naill ai y bydd practis arweiniol yn dal pob contract ar gyfer y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol, neu bydd gan yr awdurdod perthnasol gontract gyda phob practis unigol yn y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol a all wedyn ddod at ei gilydd trwy gytundeb cydweithio. Mae rhai cydweithredfeydd neu glystyrau proffesiynol wedi sefydlu cwmni (neu endid corfforaethol arall) i gyflawni gwasanaethau neu swyddogaethau eraill ar eu rhan. Mae'r cwmni hwnnw'n endid cyfreithiol ar wahân, a gellir trin cwmni o'r fath fel unrhyw ddarparwr posibl arall wrth ystyried cynnal proses gaffael o dan y gyfundrefn.

Pan gomisiynir y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol i ddarparu gwasanaethau presennol sy'n dod o fewn cwmpas y gyfundrefn, mae'r contract yn dod i ben ac mae'r awdurdod perthnasol yn dymuno parhau â'r gydweithredfa broffesiynol bresennol neu'r clwstwr proffesiynol presennol a’i fod yn penderfynu bod y gydweithredfa broffesiynol bresennol neu'r clwstwr proffesiynol presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol (gan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso'r meini prawf dethol sylfaenol), ac nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol), caniateir dyfarnu'r contract arfaethedig o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2.

Os yw'r contract arfaethedig ar gyfer darparu gwasanaethau newydd sy'n dod o fewn cwmpas y gyfundrefn, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu'r gwasanaethau hyn.

Nid oes angen cymhwyso'r gyfundrefn wedi hynny pan fydd y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol yn is-gontractio i sefydliadau eraill o fewn y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol (er efallai y bydd angen caniatâd yr awdurdod perthnasol, yn dibynnu ar y telerau contractiol neu delerau eraill sy'n gymwys i'r gwasanaeth).

Troednodiadau

[1] Ac eithrio mewn rhai amgylchiadau lle gellir defnyddio contract GMS dros dro (contractau meddyg teulu brys).

[2] Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (deddfwriaeth.gov.uk)