Caffael gwasanaethau iechyd: canllawiau statudol drafft - Atodiad B: tryloywder
Sut y mae Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024 yn gymwys i drefniant gwasanaethau iechyd o dan y gyfundrefn dethol darparwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gofynion tryloywder
Rhaid cadw at y camau a amlinellir yn y rheoliadau a’r gofynion tryloywder. Mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol ddangos tystiolaeth eu bod wedi arfer yn briodol y cyfrifoldebau a’r hyblygrwydd a roddir iddynt gan y gyfundrefn, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau a wneir am wasanaethau iechyd yn destun craffu ac atebolrwydd priodol. Mae’r atodiad hwn yn nodi’r camau y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol eu cymryd i fod yn dryloyw yn eu proses gaffael o dan y gyfundrefn hon. Rhaid i awdurdodau perthnasol ddilyn y broses dryloywder sy’n berthnasol i’r dull sy’n cael ei ddilyn.
Rhaid cyhoeddi’r holl hysbysiadau y cyfeirir atynt yn yr adran hon gan ddefnyddio’r platfform digidol canolog, Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS) drwy gyflwyno hysbysiad yn gyntaf ar y platfform digidol Cymreig, GwerthwchiGymru (S2W). Os na fydd y platfform digidol Cymreig (S2W) ar gael, caiff awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad neu wybodaeth ar y platfform digidol Canolog (FTS) neu ar FTS drwy ddefnyddio system ar-lein arall. Pan na fo’r platfform digidol Cymreig ar gael, dylid ystyried bod hyn yn bodloni’r gofyniad i gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi, unwaith y bodlonir amodau penodol.
Pan na fo’r platfform digidol canolog ar gael, caiff awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi ar y platfform digidol Cymreig (S2W) yn unig, neu os nad yw S2W ar gael ychwaith, ar system ar-lein arall. Rhaid i awdurdod perthnasol sy’n defnyddio’r platfform digidol Cymreig neu system ar-lein arall gydweithredu â Swyddfa’r Cabinet i sicrhau y cyhoeddir yr hysbysiad neu’r wybodaeth wedyn ar y platfform digidol canolog a bod darparwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn gallu gweld yr hysbysiad neu’r wybodaeth. Os ydynt yn defnyddio system heblaw FTS neu S2W, mae’n ofynnol hefyd i awdurdodau perthnasol sicrhau bod y system hon yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n rhad ac am ddim ac sy’n hawdd i ddarparwyr a phobl anabl ei chyrchu.
Os bydd Swyddfa’r Cabinet yn gwrthod cyflwyno hysbysiad neu wybodaeth, ni fydd cyhoeddiad yr awdurdod perthnasol yn cael ei ystyried mwyach fel un sy’n bodloni’r gofyniad i gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi fel y nodir yn y rheoliadau.
Tabl 1: hysbysiadau y mae angen eu cyhoeddi o dan brosesau’r rheoliadau
Hysbysiadau sydd eu hangen i ddyfarnu contractau o dan y prosesau caffael:
Proses dyfarniad uniongyrchol 1 | Proses dyfarniad uniongyrchol 2 | Y broses darparwr mwyaf addas | Y broses gystadleuol | |
---|---|---|---|---|
Bwriadau clir: cyhoeddi hysbysiad o’r dull arfaethedig ymlaen llaw | Oes | |||
Bwriadau clir: cyhoeddi hysbysiad yn gwahodd cynigion ar gyfer tendr cystadleuol | Oes | |||
Cyfleu penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i ddyfarnu | Oes | Oes | Oes | |
Cadarnhau penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad | Oes | Oes | Oes | Oes |
Addasu contract: cyhoeddi hysbysiad ar gyfer gwneud addasiadau i gontract | Oes | Oes | Oes | Oes |
Hysbysiadau sydd eu hangen ar gyfer prosesau mewn perthynas â chytundebau fframwaith:
Sefydlu cytundeb fframwaith (yn dilyn y broses gystadleuol) | Contractau yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth | Contractau yn seiliedig ar gytundeb fframwaith yn dilyn cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Bwriadau clir: cyhoeddi hysbysiad yn gwahodd cynigion ar gyfer tendr cystadleuol | Oes | ||
Cyfleu penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i ddyfarnu | Oes | Oes | |
Cadarnhau penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad | Oes | Oes | Oes |
Addasu contract: cyhoeddi hysbysiad ar gyfer gwneud addasiadau i fframwaith | Oes | Oes | Oes |
Gofynion tryloywder ar gyfer proses dyfarniad uniongyrchol 1, ac ar gyfer contractau yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth
Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud penderfyniadau o dan broses dyfarniad uniongyrchol 1, ac wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth, rhaid cadw at y gofynion canlynol.
Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad o’r dyfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder), fel hysbysiad dyfarnu contract.
Rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth sydd wedi’i nodi yn atodlen 2 i’r rheoliadau.
At ddibenion dyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth, rydym yn disgwyl i’r hysbysiad gynnwys hefyd:
- p’un ai gwasanaeth newydd neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes yw hwn
- p’un ai darparwr newydd neu ddarparwr presennol yw hwn
Noder, wrth ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 1, neu wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth (yn unol â thelerau’r cytundeb fframwaith hwnnw), nid oes gofyniad i wneud bwriadau’n glir ymlaen llaw nac i gael cyfnod segur.
Os na all yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract neu os nad yw’n dymuno gwneud hynny, rhaid iddo ddilyn y broses ar gyfer rhoi’r gorau i broses gaffael.
Gofynion tryloywder ar gyfer proses dyfarniad uniongyrchol 2
Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud penderfyniadau o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2, rhaid cadw at y gofynion canlynol.
Bwriad i ddyfarnu (proses dyfarniad uniongyrchol 2)
Os yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad sy’n nodi ei fwriad i ddyfarnu contract gan ddefnyddio’r broses gaffael honno. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad dyfarnu contract a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 3 i’r rheoliadau.
Rydym yn disgwyl i’r hysbysiad gynnwys hefyd y dyddiadau y bwriedir darparu’r gwasanaethau rhyngddynt, os ydynt yn hysbys.
Mae cyhoeddi’r hysbysiad bwriad i ddyfarnu yn nodi dechrau’r cyfnod segur.
Hysbysiad yn dilyn dyfarniad (proses dyfarniad uniongyrchol 2)
Unwaith y bydd y cyfnod segur wedi dod i ben, caiff yr awdurdodau perthnasol ddyfarnu’r contract. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r dyfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel corigendwm i’r hysbysiad dyfarnu contract (a gyhoeddwyd cyn y cyfnod segur fel bwriad dyfarnu) a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 4 i’r rheoliadau.
Yn dilyn y cyfnod segur, os na all yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract, neu os nad yw’n dymuno gwneud hynny, rhaid iddo ddilyn y broses ar gyfer rhoi’r gorau i broses gaffael.
Gofynion tryloywder ar gyfer y broses darparwr mwyaf addas
Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud penderfyniadau o dan y broses darparwr mwyaf addas, rhaid cadw at y gofynion canlynol.
Y bwriad i ddilyn y broses darparwr mwyaf addas
Ar ôl i’r awdurdod perthnasol benderfynu dilyn y dull ar gyfer y broses darparwr mwyaf addas, rhaid iddo gyhoeddi ei fwriad i ddilyn y dull hwn. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 5 i’r rheoliadau.
Ni ddisgwylir i’r hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer y broses darparwr mwyaf addas gynnwys manylion ynghylch pa ddarparwyr sydd dan ystyriaeth fel darparwyr addas.
Ni chaiff yr awdurdod perthnasol fwrw ymlaen i asesu darparwyr tan o leiaf 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o fwriad i’w gyhoeddi, fel bod darparwyr yn ymwybodol o’r dull y mae’r awdurdod perthnasol yn ei ddefnyddio i ddethol darparwr.
Bwriad i ddyfarnu i’r darparwr dethol o dan y broses darparwr mwyaf addas
Ar ôl i’r awdurdod perthnasol ddethol darparwr, rhaid iddo gyhoeddi ei fwriad i ddyfarnu contract. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad dyfarnu contract, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 6 i’r rheoliadau.
Rydym yn disgwyl i’r hysbysiad gynnwys hefyd:
- p’un ai gwasanaeth newydd neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes yw hwn
- p’un ai darparwr newydd neu ddarparwr presennol yw hwn
- y dyddiadau y bwriedir darparu’r gwasanaethau rhyngddynt, os ydynt yn hysbys
Mae cyhoeddi’r hysbysiad bwriad i ddyfarnu yn nodi dechrau’r cyfnod segur.
Hysbysiad yn dilyn dyfarniad (y broses darparwr mwyaf addas)
Unwaith y bydd y cyfnod segur wedi dod i ben, caiff yr awdurdod perthnasol ddyfarnu’r contract. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r dyfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel corigendwm i’r hysbysiad dyfarnu contract (a gyhoeddwyd cyn y cyfnod segur fel bwriad dyfarnu) a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 7 i’r rheoliadau.
Yn dilyn y cyfnod segur, os na all yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract, neu os nad yw’n dymuno gwneud hynny, rhaid iddo ddilyn y broses ar gyfer rhoi’r gorau i broses gaffael.
Gofynion tryloywder ar gyfer y broses gystadleuol
Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud penderfyniadau o dan y broses gystadleuol, gan gynnwys mewn perthynas â chwblhau cytundeb fframwaith, rhaid cadw at y gofynion canlynol.
Gwahodd cynigion (y broses gystadleuol ac wrth sefydlu cytundeb fframwaith)
Pan fo’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu dilyn y broses gystadleuol (gan gynnwys sefydlu cytundeb fframwaith), rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad a fydd yn cychwyn y tendr cystadleuol.
Er nad yw hynny’n ofynnol, caiff hefyd gyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) cyn yr hysbysiad am gyfle tendr cystadleuol. Os cyhoeddir PIN, cynghorir awdurdodau perthnasol i gynnwys manylion y gwasanaeth sydd ei angen, hyd arfaethedig y contract ac unrhyw ddarpariaeth arfaethedig ar gyfer estyn neu derfynu’n gynnar, ac unrhyw faterion eraill (hysbys neu a ragwelir) sy’n debygol o fod o ddiddordeb i ddarparwyr posibl.
Rhaid cyhoeddi’r gwahoddiad i wneud cynigion mewn tendr cystadleuol yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder). Rhaid i’r hysbysiad contract, neu’r dogfennau a ddarperir yng nghynnwys yr hysbysiad (er enghraifft dogfennau tendro), gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 8 i’r rheoliadau.
Gwahodd cynigion (wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith yn dilyn y broses gystadleuol)
Wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith yn dilyn y broses gystadleuol, rhaid i’r awdurdod perthnasol wahodd pob darparwr sy’n rhan o’r cytundeb fframwaith i gyflwyno cynnig (bid). Nid oes rhaid cyhoeddi’r gwahoddiad hwn.
Rhaid i’r gwahoddiad gynnwys yr wybodaeth sydd wedi’i nodi yn atodlen 15 i’r rheoliadau.
Bwriad i ddyfarnu (y broses gystadleuol, wrth sefydlu cytundeb fframwaith neu wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith yn dilyn y broses gystadleuol)
Ar ôl i’r awdurdod perthnasol nodi’r darparwyr llwyddiannus (gan gynnwys wrth sefydlu cytundeb fframwaith neu ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith), rhaid iddo gyhoeddi ei fwriad i ddyfarnu contract i’r darparwyr llwyddiannus. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 10 i’r rheoliadau.
Rydym yn disgwyl i’r hysbysiad gynnwys hefyd:
- p’un ai gwasanaeth newydd neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes yw hwn
- p’un ai darparwr newydd neu ddarparwr presennol yw hwn
- y dyddiadau y bwriedir darparu’r gwasanaethau rhyngddynt, os ydynt yn hysbys
Cyfathrebu â darparwyr aflwyddiannus
Ar ôl nodi’r darparwyr llwyddiannus, rhaid i awdurdodau perthnasol gyfleu eu penderfyniad yn ysgrifenedig i’r darparwyr aflwyddiannus cyn cyhoeddi’r hysbysiad o fwriad i ddyfarnu. Rhaid i awdurdodau perthnasol roi gwybodaeth ysgrifenedig i’r darparwyr aflwyddiannus ynghylch pam na fu eu cynnig yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 9 i’r rheoliadau.
Rydym yn cynghori y dylai’r cyfeiriad y dylid anfon sylwadau ysgrifenedig iddo (a gaiff fod yn gyfeiriad e-bost) gael ei ddarparu yn y cyfathrebiad hefyd.
Caiff awdurdodau perthnasol hefyd ddewis rhoi adborth i ddarparwyr aflwyddiannus ar yr hyn a wnaethant yn dda a’r hyn y gallent fod wedi’i wneud i wella eu cynnig.
Mae cyhoeddi’r hysbysiad o fwriad i ddyfarnu yn nodi dechrau’r cyfnod segur. Wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith, er enghraifft yn dilyn mini-gystadleuaeth, dim ond darparwyr a oedd yn barti i’r cytundeb fframwaith ac a gymerodd ran yn y fini-gystadleuaeth ond a fu’n aflwyddiannus, neu a gafodd eu gwahardd o’r fini-gystadleuaeth, a gaiff gyflwyno sylwadau i’r awdurdod perthnasol.
Hysbysiad o ddyfarniad yn dilyn cystadleuaeth (y broses gystadleuol, wrth sefydlu cytundeb fframwaith, ac wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith yn dilyn y broses gystadleuol)
Unwaith y bydd y cyfnod segur wedi dod i ben, caiff yr awdurdod perthnasol ddyfarnu’r contract (gan gynnwys y rhai a ddyfernir ar sail cytundeb fframwaith) neu gwblhau’r cytundeb fframwaith. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel corigendwm i’r hysbysiad dyfarnu contract (a gyhoeddwyd cyn dechrau’r cyfnod segur fel bwriad i ddyfarnu), a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 11 i’r rheoliadau.
Yn dilyn y cyfnod segur, os na all yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract, neu os nad yw’n dymuno gwneud hynny, rhaid iddo ddilyn y broses ar gyfer rhoi’r gorau i’r broses gaffael (gweler isod).
Gofynion tryloywder ar gyfer rhoi’r gorau i broses gaffael
Pan fo awdurdodau perthnasol yn rhoi’r gorau i broses gaffael, mae’r gofynion tryloywder canlynol yn gymwys.
Rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r penderfyniad i roi’r gorau i’r broses gaffael ac i beidio â dyfarnu contract. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel corigendwm i’r hysbysiad diwethaf a gyhoeddwyd, o fewn 30 diwrnod i’r penderfyniad, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 16 i’r rheoliadau.
Gofynion tryloywder ar gyfer addasiadau i gontract neu gytundeb fframwaith
Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud addasiad i gontract a ganiateir o dan y gyfundrefn hon sy’n gofyn am hysbysiad, rhaid cydymffurfio â’r gofynion isod.
Cadarnhad o addasiad
Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r addasiad o fewn 30 diwrnod i addasu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad addasu, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 12 i’r rheoliadau.
Gofynion tryloywder ar gyfer amgylchiadau brys
O dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen i awdurdodau perthnasol weithredu’n gyflym i fynd i’r afael â risgiau uniongyrchol i ddiogelwch ac ansawdd gofal. Gweler yr adran dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontract.
O dan yr amgylchiadau brys hyn, rhaid i awdurdodau perthnasol fod yn dryloyw o hyd ynghylch eu penderfyniadau a dilyn y gofynion isod.
Cadarnhad o ddyfarnu contract o dan amgylchiadau brys
Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r penderfyniad i ddyfarnu contract o dan amgylchiadau brys o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad dyfarnu contract, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 13 i’r rheoliadau.
Cadarnhad o addasiad o dan amgylchiadau brys
O dan amgylchiadau brys, rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’u penderfyniad i wneud addasiad i gontract o fewn 30 diwrnod i wneud yr addasiad i gontract (oni bai bod yr addasiad yn un a ganiateir heb dryloywder; gweler addasiadau i gontract). Rhaid cyhoeddi hwn yn unol â’r weithdrefn a nodir uchod (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad addasu, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 14 i’r rheoliadau.