Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r gofynion ar gyfer addasu contractau neu gytundebau fframwaith yn ystod eu cyfnod wedi’u nodi yn rheoliad 13.

Bydd sefyllfaoedd yn codi pan fydd angen addasu contractau neu gytundebau fframwaith i adlewyrchu neu ystyried newidiadau i wasanaethau neu amgylchiadau yn ystod eu cyfnod.

Un o nodau’r gyfundrefn yw osgoi prosesau nad ydynt ond yn cyflwyno gwerth cyfyngedig i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Felly, mae’r gyfundrefn hon yn caniatáu i rai addasiadau gael eu gwneud i gontractau neu gytundebau fframwaith yn ystod eu cyfnod heb fod angen proses gaffael newydd. 

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellir gwneud addasiadau a ganiateir heb ddilyn proses gaffael newydd, ond mewn rhai achosion bydd angen cyhoeddi hysbysiadau.

O dan y gyfundrefn, ni chaniateir addasiadau sy’n golygu y byddai contract neu gytundeb fframwaith sy’n bodoli eisoes yn sylweddol wahanol o ran cymeriad ac mae’n ofynnol i broses gaffael newydd gael ei chynnal. Mae rhagor o wybodaeth am addasiadau a ganiateir ac na chaniateir isod.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried yr adran hon ar y cyd â darpariaethau addasiadau (amrywiadau) y contract neu’r is-gontract perthnasol (er enghraifft, amrywio contract / manyleb yn nhelerau ac amodau safonol GIG Cymru).

Dim ond i addasu contractau yn ystod eu cyfnod, ac nid i osgoi’r rheoliadau pan ddaw contract i ben a bod angen dyfarnu un newydd, y caniateir defnyddio’r darpariaethau yn yr adran hon.

Addasiadau a ganiateir

O dan y gyfundrefn hon, caniateir rhai addasiadau ac nid oes angen proses gaffael newydd ar eu cyfer.

Addasiadau i gontractau a ddyfarnwyd yn wreiddiol o dan broses dyfarniad uniongyrchol 1

Pan fo’r contract gwreiddiol wedi’i ddyfarnu o dan broses dyfarniad uniongyrchol 1 ac nad yw’r addasiad yn newid cymeriad y contract yn sylweddol, caniateir yr addasiad.

Os gellir priodoli’r addasiad hwnnw i benderfyniad yr awdurdod perthnasol ac os yw’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract ers ymrwymo iddo yn £500,000 neu fwy, caniateir yr addasiad o hyd, ond rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad.

Addasiadau i gontractau a ddyfarnwyd yn wreiddiol o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas, neu gontractau neu gytundebau fframwaith a ddyfarnwyd neu a gwblhawyd yn wreiddiol o dan y broses gystadleuol, neu addasiadau i gontractau neu gytundebau fframwaith a ddyfarnwyd neu a gwblhawyd yn wreiddiol o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015

Pan fo’r contract gwreiddiol wedi’i ddyfarnu o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas, neu gontractau neu gytundebau fframwaith a ddyfarnwyd neu a gwblhawyd yn wreiddiol o dan y broses gystadleuol (gan gynnwys cytundebau fframwaith) neu Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, caniateir addasiadau yn yr achosion canlynol:

  • darperir ar gyfer yr addasiad mewn ffordd glir a diamwys yn nogfennau’r contract neu’r cytundeb fframwaith (hynny yw mae cwmpas a natur y newid posibl wedi’i ddisgrifio’n fanwl yn y contract presennol)
  • dim ond newid yn hunaniaeth y darparwr yw’r addasiad, a hynny oherwydd olyniaeth i safle darparwr yn dilyn newidiadau corfforaethol (er enghraifft o ganlyniad i feddiannu, uno, caffael neu ansolfedd corfforaethol), a phan fo’r awdurdod perthnasol wedi’i fodloni bod y darparwr yn bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol
  • nid yw’r addasiad yn gwneud y contract na’r cytundeb fframwaith yn sylweddol wahanol o ran cymeriad ac mae wedi’i wneud mewn ymateb i ffactorau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod perthnasol a’r darparwr gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
    1. nifer y cleifion neu’r defnyddwyr gwasanaethau
    2. prisiau yn unol â fformiwla y darperir ar ei chyfer yn nogfennau’r contract (er enghraifft cysylltu mynegeion)
  • gellir priodoli’r addasiad i benderfyniad yr awdurdod perthnasol ac nid yw’n newid cymeriad y contract neu’r cytundeb fframwaith yn sylweddol, ac mae’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith o dan £500,000 neu o dan 25% o’i gymharu â gwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith pan ymrwymwyd iddo neu pan gafodd ei gwblhau

Os bydd yr awdurdod perthnasol yn gwneud addasiad a ganiateir i gontract a ddyfarnwyd yn wreiddiol o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas, neu addasiad i gontract neu gytundeb fframwaith a ddyfarnwyd neu a gwblhawyd yn wreiddiol o dan y broses gystadleuol neu Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015), rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad pan fo pob un o’r isod yn gymwys:

  • gellir priodoli’r addasiad hwnnw i benderfyniad yr awdurdod perthnasol
  • mae’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith yn £500,000 neu fwy

Newid cronnus yw gwerth yr holl addasiadau a ganiateir o dan y rheoliadau pan gaiff ei ychwanegu at werth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith ers ymrwymo iddo neu ers iddo gael ei gwblhau. Er enghraifft, os mai gwerth oes amcangyfrifedig contract yw £1 filiwn adeg gwneud y contract, a bod addasiad wedi’i wneud i’r contract yr oedd modd ei briodoli i benderfyniad yr awdurdod perthnasol sy’n werth £350,000 (35%), gwerth y newid cronnus yw £350,000. Os bydd angen addasiad pellach i’r contract y gellir ei briodoli i benderfyniad yr awdurdod perthnasol, ni chaniateir i werth y newid hwnnw fod yn fwy na £150,000 gan y byddai hyn yn golygu mai’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract fyddai £500,000 a 50% o werth oes y contract pan ymrwymwyd iddo. Felly, byddai addasiadau pellach â gwerth mwy na £150,000 yn fwy na’r gwerthoedd addasu a ganiateir o dan y rheoliadau.

Sylwer:

  • rhaid i gontractau yr ymrwymwyd iddynt cyn cychwyn y rheoliadau gael eu haddasu yn unol â’r gyfundrefn hon

Addasiadau na chaniateir

Pan fo modd priodoli’r penderfyniad i wneud yr addasiad i’r awdurdod perthnasol a bod yr addasiad hwnnw’n gwneud y contract neu’r cytundeb fframwaith presennol yn sylweddol wahanol o ran cymeriad, ni chaniateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn hon a bydd angen ymgymryd â phroses gaffael newydd.

Yn ogystal, ni chaniateir addasiadau pan fo’r contract gwreiddiol wedi’i ddyfarnu yn dilyn proses dyfarniad uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas, neu pan fo’r  contract neu’r cytundeb fframwaith gwreiddiol wedi’i ddyfarnu neu ei gwblhau yn dilyn y broses gystadleuol neu o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, a phan fo’r addasiad yn golygu:

  • newid cronnus o £500,000 neu fwy yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith pan ymrwymwyd iddo neu pan gafodd ei gwblhau
  • newid cronnus o 25% neu fwy yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith pan ymrwymwyd iddo neu pan gafodd ei gwblhau

Mewn achos o’r fath, bydd angen cynnal proses gaffael newydd a bydd rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y broses gaffael briodol i ddethol darparwr (neu grŵp o ddarparwyr) ar gyfer y gwasanaeth sydd wedi newid yn sylweddol.

Enghreifftiau o addasiadau i ddyfarniadau contractau presennol o dan reoliad 13(4)(d)

Enghraifft 1

Mae awdurdod perthnasol yn ymrwymo i gontract â gwerth oes amcangyfrifedig o £5 miliwn pan ymrwymwyd i’r contract. Nid oes unrhyw addasiadau wedi bod i’r contract hyd yn hyn. Mae’r awdurdod perthnasol yn cynnig addasu’r contract. Nid yw’r addasiad yn golygu bod y contract yn sylweddol wahanol o ran cymeriad, a gwerth yr addasiad yw £600,000. Er bod yr addasiad hwn dros £500,000, nid yw ond 12% o werth oes amcangyfrifedig y contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract hwnnw. Felly, caniateir yr addasiad o dan reoliad 13(4)(d).

Enghraifft 2

Mae awdurdod perthnasol yn ymrwymo i gontract sydd â gwerth oes amcangyfrifedig o £4 miliwn. Mae’r contract wedi’i addasu o’r blaen, a chyfanswm yr addasiadau hyd yma yw £600,000, sydd felly’n newid cronnus o 15% yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract. Does dim un addasiad wedi bod yn fwy na £500,000 hyd yn hyn. Mae’r awdurdod perthnasol yn bwriadu addasu’r contract ymhellach. Nid yw’r addasiad yn gwneud y contract yn sylweddol wahanol o ran cymeriad. Gwerth oes amcangyfrifedig yr addasiad hwn yw £600,000, sydd, o’i gyfuno â’r addasiadau blaenorol, yn fwy na’r newid o £500,000 yng ngwerth cronnus gwerth oes amcangyfrifedig y contract. Mae’r newid cronnus yn y gwerth (sydd bellach yn £1.2 miliwn) yn gynnydd o 30%, felly mae’n fwy na’r 25% a ganiateir. Felly, ni chaniateir yr addasiad hwn o dan reoliad 13(4)(d).

Enghraifft 3

Mae gan awdurdod perthnasol werth contract o £1 filiwn. Nid yw’r contract hwn wedi’i addasu o’r blaen. Mae’r awdurdod perthnasol yn cynnig addasu’r contract. Gwerth oes amcangyfrifedig yr addasiad yw £600,000. Mae hyn yn fwy na’r terfyn o £500,000 ar gyfer newid cronnus ac mae’n golygu newid cronnus o 60% i werth oes amcangyfrifedig y contract. Felly, ni chaniateir yr addasiad hwn o dan reoliad 13(4)(d).

Addasiadau i gontract mewn sefyllfaoedd brys

Mae’n bosibl bydd angen gwneud addasiadau ar frys i gontract. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i awdurdodau perthnasol fod yn dryloyw o hyd ynglŷn â’u proses gaffael. O ran pryd y gellir addasu contractau ar sail sefyllfaoedd brys, a’r hyn y mae angen ei gyhoeddi a phryd, mae manylion ar gael yn yr adran dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau.