Neidio i'r prif gynnwy

Sut y bydd y rheoliadau arfaethedig, Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) yn gymwys i drefniant gwasanaethau iechyd o dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Y diweddaraf

Mae'r rheoliadau drafft, Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024, a osodwyd gerbron y Senedd ar 13 Awst, wedi'u tynnu'n ôl.

Gellir dod o hyd i'r manylion yn y datganiad ysgrifenedig.

Bydd y rheoliadau drafft yn cael eu hailosod gerbron y Senedd i'w cymeradwyo yn y dyfodol.

O gael cytundeb y Senedd i'r rheoliadau drafft, cynigir y bydd Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru yn cychwyn ar 24 Chwefror 2025.

Yn y cyfamser, mae dogfennau ategol gan gynnwys y canllawiau statudol drafft a'r deunyddiau hyfforddi drafft ar gael i helpu cyrff cyhoeddus i baratoi ar gyfer y newidiadau o ganlyniad i gyflwyno'r gyfundrefn arfaethedig, Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru.

Bydd y dogfennau ategol yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd ac ar ôl i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau drafft.

Bydd y rheoliadau arfaethedig, Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) yn ddarostyngedig i gytundeb y Senedd.

Rydym wedi cyhoeddi'r canllawiau drafft i helpu cyrff cyhoeddus i baratoi ar gyfer y gyfundrefn arfaethedig, Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru. Mae'r canllawiau yn amodol hyd nes y bydd y rheoliadau'n dod yn gyfraith maes o law.

Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru'r canllawiau o bryd i'w gilydd ac ar ôl i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau.

Hyfforddiant

Rydym wedi datblygu hyfforddiant gyda GIG Cymru i helpu i weithredu'r gyfundrefn arfaethedig, Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru.

Mae'r hyfforddiant ar gael yn rhad ac am ddim yn Dysgu@Cymru ar ôl ichi gofrestru.

Ar ffurf ddrafft mae'r hyfforddiant a bydd yn cael ei adolygu ar ôl i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau.