Sut rydym yn rheoli ein gwaith o gaffael nwyddau a gwasanaethau
Trosolwg
Rydym yn gwario oddeutu £440 miliwn y flwyddyn wrth brynu nwyddau, gwasanaethau, gwaith, TGCh ac offer/gwasanaethau digidol.
Ein nod yw sicrhau ein bod yn gwario’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn ffordd a fydd yn sicrhau’r manteision mwyaf i’n cymdeithas.
Rydw i’n gyflenwr, sut allaf gyflwyno cynnig am gontractau?
GwerthwchiGymru
Rydym yn defnyddio GwerthwchiGymru wrth hysbysebu ein holl gontractau sydd werth dros £25,000. Rydym yn defnyddio cyfleuster Dyfynbris Cyflym GwerthwchiGymru ar gyfer contractau mwy cymhleth ac is eu gwerth.
Mae’n rhaid i gyflenwyr sy’n dymuno trafod busnes â ni gofrestru ar GwerthwchiGymru.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru byddwch yn gallu gweld ein hysbysiadau contract cyfredol.
Rydym yn cyhoeddi ein hysbysiadau contractau caffael a manylion dyfarnu contractau.
Mae cyngor ynghylch ennill contractau Llywopdraeth Cymru ar gael.
Dyma’n dull o fynd i’r afael â chaffael:
- hyrwyddo cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi
- bod yn atebol a chydymffurfio â rhwymedigaethau gweithdrefnol, cyfreithiol a rhyngwladol
- ymrwymiad i egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru
- pwyslais ar gyflawni gwerth gorau am arian ar gyfer punt Cymru
- bod yn ystyriol a chyson er mwyn helpu i symleiddio prosesau cynnig ar gyfer darpar gyflenwyr.
eGaffael
Rydym yn defnyddio eDendroCymru ar gyfer cynnal prosesau caffael sydd werth dros £25,000.
eDendroCymru:
- yn rhoi mynediad hwylus i gyflenwyr at ddogfennau tendro
- yn cynnig ffordd ddiogel o ddychwelyd tendrau
- yn cynnig proses dryloyw ar gyfer codi ymholiadau yn ystod y broses dendro.
Sut rydym yn rheoli ein gwaith o gaffael nwyddau a gwasanaethau?
Ein timau
Polisi a Chyflenwi Masnachol
Rydym yn darparu’r canlynol:
- cyngor ar bolisi caffael, safonau penodol ac rydym hefyd yn gwirio gwaith mabwysiadu a chanlyniadau.
- Mae tîm masnachol Brexit yn arwain ar y goblygiadau caffael sy’n deillio o Brexit.
Gwasanaethau Caffael Corfforaethol (CPS)
Rydym yn darparu’r canlynol:
- cyngor ar arferion gorrau ym maes caffael a llywodraethu corfforaethol ar gyfer adrannau mewnol
- rheoli sawl contract at ddefnydd corfforaethol nad ydynt yn gysylltiedig â TGCh.
TGCh Masnachol a Chaffael (CPICT)
Rydym yn darparu’r canlynol:
- cyngor ar gaffael, cymorth/llywodraethu arv gyfer caffael mewnol sy’n gysylltiedig â materion Digidol a TGCh.
- cytundebau fframwaith Digidol/TGCh ar gyfer Cymru gyfan a rheoli contractau.
- cyflawni Cynllun Gweithredu Digidol eGaffael a rheoli contractau mewn perthynas â’r offer eGaffael a ddefnyddir gan Sector Cyhoeddus Cymru.
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol
- Rydym yn datblygu strategaethau caffael cenedlaethol ac yn cyflawni cytundebau fframwaith ar gyfer Cymru gyfan.
- Ymysg y categorïau rydym yn ymwneud â nhw mae:
- Pobl
- Gwasanaethau Corfforaethol
- Fflyd
- Gwasanaethau Proffesiynol
- Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau a Chyfleustodau
View the NPS frameworks on Sell2Wales.
Rhagor o wybodaeth
VWPolicy@gov.wales
CPSProcurementAdvice@gov.wales
ICTProcurement@gov.wales
NationalProcurementService@gov.wales