Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

1. Pwynt i’w nodi

Ni ddylid trin y nodyn cyfarwyddyd hwn fel cyngor cyfreithiol pendant a dylai ATLl ofyn am eu cyngor cyfreithiol eu hunain ynghylch trefniadau gwaith partneriaeth arfaethedig gydag LCC.

2. Y materion a drafodir

Mae’r nodyn cyfarwyddyd hwn wedi ei lunio gan Lywodraeth Cymru i roi gwybodaeth i’r Awdurdodau Tai Lleol ("ATLl") i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch gweithio mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (“LCC”) i ddarparu eu rhaglenni datblygu o dan y Cyfrif Refeniw Tai.

3. Lledaenu a rhychwant

Mae'r nodyn cyfarwyddyd 02/20 hwn yn gymwys yn uniongyrchol i bob ATLl yng Nghymru a dylid ei gylchredeg (er gwybodaeth) o fewn eich sefydliad, gan dynnu sylw ato yn arbennig ymysg y rhai sy'n cyflwyno rhaglenni datblygu o dan y Cyfrif Refeniw Tai.

4. Gwybodaeth gefndir mewn perthynas â Chyfarwyddebau Caffael yr UE a Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (“Rheoliadau 2015”)

Ar hyn o bryd, mae'r Deyrnas Unedig wedi ei rhwymo i gydymffurfio â Chyfarwyddebau'r Undeb Ewropeaidd ("UE") a hefyd â chytundebau a wnaed gan yr UE â gwledydd eraill. Gan hynny, diben Cyfarwyddebau Caffael yr UE yw sicrhau cystadleuaeth agored a thryloyw am gontractau cyhoeddus Ewropeaidd, cefnogi'r farchnad rydd a helpu i sicrhau gwerth am arian ym maes prynu cyhoeddus.

Yn achos contractau dros werth trothwy, sef gwerth sy'n amrywio gan ddibynnu ar yr hyn sy'n cael ei brynu, mae Cyfarwyddebau'r UE yn gofyn bod cyfleoedd yn cael eu hysbysebu yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ("OJEU"); maen nhw hefyd yn gofyn bod contractau'n cael eu dyfarnu yn unol â rheolau safonol penodol ar weithdrefnau, er enghraifft ar amserlenni ar gyfer y broses gontractio, hysbysebu, gwybodaeth y dylai cyflenwyr posibl ei darparu, a'r sail ar gyfer asesu ceisiadau. Mae Gyff Sector Cyhoeddus Cymru hefyd wedi'u rhwymo gan egwyddorion yn y Cytuniad sy'n gwahardd gwahaniaethu rhwng gweithredwyr economaidd ac sy’n gofyn bod gweithdrefnau caffael yn sicrhau triniaeth gyfartal a’u bod yn dryloyw. Ymadawodd y DU â’r UE yn swyddogol ar 31 Rhagfyr 2019 a daw'r cyfnod pontio i ben ar 31 Rhagfyr 2020, er na fydd hynny’n cael unrhyw effaith ar unwaith ar Reoliadau 2015. Efallai y bydd gwaith caffael yn cael ei ddiwygio yn y dyfodol ond ar ddiwedd y cyfnod pontio bydd Rheoliadau 2015 yn dal i sefyll. Mae offeryn statudol wedi ei osod gerbron Senedd y DU a fydd yn mynd i'r afael â rhai o’r agweddau ar Reoliadau 2015 y mae’n amhosibl eu defnyddio, megis hysbysebu yn yr OJEU. Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu system e-hysbysu newydd o'r enw Gwasanaeth Chwilio am Dendr (FTS) i ddisodli’r OJEU/TED ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Ymadawodd y DU â’r UE yn swyddogol ar 31 Rhagfyr 2019 a daw'r cyfnod pontio i ben ar 31 Rhagfyr 2020, er na fydd hynny’n cael unrhyw effaith ar unwaith ar Reoliadau 2015. Efallai y bydd gwaith caffael yn cael ei ddiwygio yn y dyfodol ond ar ddiwedd y cyfnod pontio bydd Rheoliadau 2015 yn dal i sefyll. Mae offeryn statudol wedi ei osod gerbron Senedd y DU a fydd yn mynd i'r afael â rhai o’r agweddau ar Reoliadau 2015 y mae’n amhosibl eu defnyddio, megis hysbysebu yn yr OJEU. Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu system e-hysbysu newydd o'r enw Gwasanaeth Chwilio am Dendr (FTS) i ddisodli’r OJEU/TED ar ddiwedd y cyfnod pontio.

I’r Gyff Sector Cyhoeddus Cymru yn y DU, y rheolau yw'r rhai a nodir yn Rheoliadau 2015, sy'n rhoi Cyfarwyddeb Contractau Cyhoeddus 2014 ar waith. Mae ystyr caffael wedi ei ddiffinio’n bendant yn Rheoliadau 2015 fel hyn:

the acquisition by means of a public contract of works, supplies or services by one or more WPS bodies from economic operators chosen by those WPS bodies, whether or not the works, supplies or services are intended for a public purpose

Mae Rheoliadau 2015 yn nodi'r gweithdrefnau y mae'n ofynnol i’r Gyff Sector Cyhoeddus Cymru eu dilyn wrth osod contract cyhoeddus ac yn sefydlu trothwyon lle mae rhychwant llwyr y rheoliadau’n gymwys, o’u croesi. Mae rhagor o wybodaeth am y trothwyon presennol ar gael drwy'r ddolen hon.

Mae darpariaethau wedi eu cynnwys yn Rheoliadau 2015 sy'n nodi'n bendant na ddylai proses gaffael gael ei dylunio gan fwriadu ei chau allan o rychwant Rheoliadau 2015 neu gan fwriadu culhau’r gystadleuaeth mewn modd artiffisial. Ar ben cydymffurfio â’r dyletswyddau presennol ynglŷn â chymesuredd, tryloywder, triniaeth gyfartal a pheidio â gwahaniaethu, wrth gydymffurfio â Rheoliadau 2015 mae’n rhaid i’r Gyff Sector Cyhoeddus Cymru sicrhau bob amser fod penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn modd cymesur a rhesymol a hynny yn unol ag egwyddorion y gyfraith gyhoeddus.

Mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus bob amser wedi bod yn agored i her yn y gyfraith gyhoeddus drwy gyfrwng adolygiad barnwrol. Er bod ATLl yn gyrff cyhoeddus ac felly'n agored i adolygiad barnwrol, nid yw statws LCC wedi bod mor glir. Yn R (on the application of Weaver) v London & Quadrant Housing Trust [2009] EXCA Civ 587, dyfarnodd y Llys Apêl fod penderfyniad a wnaed gan gymdeithas dai mewn perthynas â therfynu tenantiaeth yn weithred o natur gyhoeddus a fyddai'n peri bod y gymdeithas dai yn awdurdod cyhoeddus, ac felly, yn agored i adolygiad barnwrol.

Mae'r gofynion ynglŷn â chaffael a nodir yn Rheoliadau 2015 yn gymwys i gyrff sy'n "Gyff Sector Cyhoeddus Cymru". Mae'r diffiniad o Gyff Sector Cyhoeddus Cymru yn eang ac yn cynnwys llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a lleol, ac unrhyw gorff arall sy'n dod o dan y gyfraith gyhoeddus.

Mae rheoliad 2 o Reoliadau 2015 yn dweud bod unrhyw endid cyfreithiol yn dod o dan Reoliadau 2015 os yw'n gorff sy'n cael ei lywodraethu gan y gyfraith gyhoeddus ac sydd â'r holl nodweddion a ganlyn:

  1. ei fod wedi ei sefydlu yn unswydd er mwyn ateb anghenion er budd cyffredinol, heb fod iddo gymeriad diwydiannol na masnachol
  2. bod iddo bersonoliaeth gyfreithiol, ac
  3. bod iddo un neu ragor o’r nodweddion a ganlyn:
    1. ei fod yn cael ei ariannu, ar y cyfan, gan y wladwriaeth, awdurdodau rhanbarthol neu leol, neu gan gyrff eraill sy'n cael eu llywodraethu gan y gyfraith gyhoeddus
    2. ei fod o dan oruchwyliaeth reoli yr awdurdodau neu’r cyrff hynny, neu
    3. bod iddo fwrdd gweinyddu, rheoli neu oruchwylio y penodir mwy na hanner ei aelodau gan y Wladwriaeth, awdurdodau rhanbarthol neu leol, neu gan gyrff eraill sy'n cael eu llywodraethu gan y gyfraith gyhoeddus.

At ddibenion Rheoliadau 2015, mae LCC fel arfer yn “gyrff sy'n cael eu llywodraethu gan y gyfraith gyhoeddus” (h.y. Gyff Sector Cyhoeddus Cymru).

Mae hyn yn golygu bod angen i'r holl weithgarwch caffael a gyflawnir gan ATLl ac LCC ddilyn y gweithdrefnau llawn a nodir yn Rheoliadau 2015, oni bai bod y broses gaffael yn is na'r trothwyon a ddangosir ym mharagraff 7 (fe all fod angen ymarfer caffael o hyd os oes yna ddiddordeb yn y contract ar draws ffiniau) neu pan fo'r contract yn dod o dan esemptiad, megis un o'r esemptiadau hynny a geir yn rheoliad 12 o Reoliadau 2015.

5. Esemptiad Rheoliad 12 rhag Rheoliadau 2015

Mae rheoliad 12(7) o Reoliadau 2015 yn darparu esemptiad rhag y gofyniad bod rhaid cyhoeddi hysbysiad contract ac ymgymryd â thendr a reoleiddir, a hynny pan fo contract yn cael ei wneud rhwng dau neu fwy o Gyff Sector Cyhoeddus Cymru yn unig a pha fo pob un o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni:

  • the contract establishes or implements a co-operation between the participating WPS bodies with the aim of ensuring that public services they have to perform are provided with a view to achieving objectives they have in common
  • the implementation of that co-operation is governed solely by considerations relating to the public interest, and
  • the participating WPS bodies perform on the open market less than 20% of the activities concerned by the co-operation (Esemptiad Rheoliad 12).

Nid yw Rheoliadau 2015 yn rhoi diffiniad penodol o "wasanaethau cyhoeddus" ond mae Cyfarwyddeb Contractau Cyhoeddus 2014/24/EU (y "Gyfarwyddeb") yn darparu'r canlynol ym Mharagraff 33

"…all types of activities related to the performance of services and responsibilities assigned to or assumed by the participating authorities, such as mandatory or voluntary tasks of local or regional authorities or services conferred upon specific bodies by public law. The services provided by the various participating authorities need not necessarily be identical; they might also be complementary."

Mae’r safbwynt hwn wedi ei gadarnhau hefyd gan farn yr Adfocad Cyffredinol (ISE v Stadt Koln Case C-796/18), a ddywedodd fod cydweithredu sy'n ymwneud â gweithgareddau i gefnogi gwasanaeth cyhoeddus yn ddigonol pan fo'r gweithgaredd ategol mor sylfaenol bwysig i'r gwasanaeth cyhoeddus fel na ellid cyflawni'r gwasanaeth cyhoeddus hebddo.

Gan hynny, fe allai datblygiad tai cymdeithasol gan ATLl ac LCC gael ei gynnwys o dan wasanaethau cyhoeddus a chyfateb i wasanaethau cyhoeddus o fewn ystyr y Gyfarwyddeb (ac felly o fewn ystyr Rheoliadau 2015). Byddai angen i unrhyw drefniant gan ATLl ac LCC mewn perthynas â chydweithredu fel hyn gael ei lywodraethu gan "ystyriaethau sy’n ymwneud â’r budd cyhoeddus" yn unig.

Er hynny, pe bai mwy nag 20% o'r gweithgareddau sy'n ymwneud â'r cydweithredu yn cael eu cyflawni ar y farchnad agored ni fyddai Esemptiad Rheoliad 12 yn gymwys a byddai angen i'r ATLl ddilyn Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn llawn.

Wrth benderfynu sut i gyfrifo’r ganran o’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw, defnyddir cyfanswm trosiant y tair blynedd blaenorol, neu, os nad yw hynny ar gael, mesur arall sy'n seiliedig ar weithgareddau megis tair blynedd o gostau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth, y cyflenwad neu'r gwaith (i gael esboniad llawnach gweler Nodyn Cyfarwyddyd Gwasanaeth Masnachol y Goron sydd i'w weld yn y cyfeiriad a ganlyn). Rhaid i Gyff Sector Cyhoeddus Cymru gadw tystiolaeth gadarn o'r amcangyfrifon o werthoedd.

Er enghraifft, pe bai ATLl yn bwriadu darparu tai cymdeithasol drwy adfywio ystâd mewn cydweithrediad ag LCC dim ond oherwydd ystyriaethau budd cyhoeddus a’i fod yn bwriadu gwneud hyn drwy glirio’r cartrefi rhent cymdeithasol presennol ac ailddatblygu'r ystâd gyda chymysgedd mwy amrywiol o ddeiliadaethau yn yr ardal (er enghraifft 20% o werthiant ar y farchnad agored ac 20% o ranberchnogaeth), byddai angen iddo amcangyfrif:

  1. gwerth yr 20% o werthiant ar y farchnad agored, a
  2. gwerth y gyfran o'r eiddo rhanberchenogaeth a fyddai'n eiddo preifat, a
  3. gwerth yr eiddo a gâi ei gadw ar gyfer tai cymdeithasol 'traddodiadol'

Pe bai gwerth “1)” a “2)” yn 20% neu fwy o gyfanswm gwerth “1)”, “2)” a “3)” yna fyddai Esemptiad Rheoliad 12(7) ddim ar gael ac fe fyddai angen i’r ATLl ymgymryd ag ymarfer caffael llawn i benodi partner datblygu i gyflawni ei amcanion.

6. Enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth ag LCC

Mae'r adran hon yn rhoi enghreifftiau cyffredin o feysydd lle gallai ATLl ac LCC gydweithio, i helpu’r ATLl i gyflymu'r gwaith o gyflawni rhaglen ddatblygu'r Cyfrif Refeniw Tai a chofio am eu rhwymedigaethau o dan Reoliadau 2015 yr un pryd.

6.1. ATLl yn defnyddio LCC yn rheolwr datblygu

Gallai'r math hwn o drefniant fodloni gofynion yr Esemptiad yn Rheoliad 12 os oes modd dangos bod pob amod yn Rheoliad 12(7) wedi ei fodloni, er y bydd angen penderfynu ar hyn fesul achos.

Os yw diben y trefniant yn debyg i gontract gwasanaethau safonol, mae’n annhebygol y byddai'r Esemptiad yn Rheoliad 12(7) yn gymwys a byddai angen i'r ATLl gaffael yn unol â Rheoliadau 2015. Os yw'r cynllun yn is na'r trothwy, ni fydd y trefniant yn dod o dan Reoliadau 2015 ond fe all fod yn destun tendr yn unol ag egwyddorion y Cytuniad. Hyd yn oed os yw'r cytundeb yn is na'r trothwy ac nad oes angen tendro o dan egwyddorion y Cytuniad, fe fydd gan yr ATLl ei Reolau Sefydlog ei hun i sicrhau’r gwerth gorau a bydd angen dilyn y rhain wrth benodi rheolwr datblygu.

6.2. ATLl yn prynu eiddo Oddi ar y Silff oddi wrth LCC sy’n bartner iddo

Yn y sefyllfa hon mae LCC yn berchen ar safle, neu mae ganddo opsiwn i brynu safle, ac mae'n cysylltu â'r ATLl perthnasol gan gynnig adeiladu ar y safle gyda'r ATLl yn prynu'r eiddo oddi wrth yr LCC pan fydd y datblygiad wedi'i gwblhau. Ni fyddai'r trefniant hwn fel arfer yn bodloni'r tri amod yn Esemptiad Rheoliad 12. Yn hytrach, gallai'r Gyff Sector Cyhoeddus Cymru ystyried a yw'r trefniant yn dod o dan Reoliad 32(2)(b)(iii) o Reoliadau 2015, a fyddai'n galluogi'r ATLl i negodi gyda'r LCC heb gyhoeddi galwad am gystadleuaeth yn yr OJEU na gofyn am dendrau. Er hynny, mae defnyddio Rheoliad 32 yn cael ei ddehongli’n llym a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y mae ar gael. Bydd angen asesu ei ddefnydd fesul achos a bydd angen i'r ATLl sicrhau bod ganddo lwybr archwilio manwl sy'n cefnogi'r defnydd o Reoliad 32. Os yw'r amgylchiadau'n wirioneddol eithriadol fel bod Rheoliad 32(2)(b)(iii) yn gymwys, bydd angen i'r ATLl ei fodloni ei hun ei fod yn sicrhau gwerth am arian yn y trefniant hwn. Ar y llaw arall, efallai y bydd yn bosibl bwrw ymlaen â'r opsiwn hwn ar sail trafodiad tir esempt, er bod yna gyfraith achosion sylweddol yn y maes hwn a bydd angen edrych ar bob cytundeb fesul achos.

6.3. ATLl yn ceisio rhannu risg datblygu safle

Yn y sefyllfa hon byddai'r ATLl yn darparu'r tir neu’r adnoddau eraill a byddai'r LCC yn rhoi ei sgil a'i brofiad ar waith fel bod y ddau barti yn elwa yn yr ystyr bod y ddau yn cymryd cartrefi, etc. Byddai'r trefniant rhannu risg yn caniatáu i gartrefi rhent cymdeithasol gael eu codi ar y safle i’r ATLl a’r LCC, a hefyd yn caniatáu codi nifer o gartrefi i'w gwerthu neu i’w gwerthu'n rhannol.

Cytundeb datblygu fyddai'r cyfrwng contractiol i ddarparu trefniant o'r fath fel rheol. Dyma fath adnabyddus o gontract sy'n cynnwys materion fel:

  • y trosglwyddiadau tir a fydd yn digwydd (gall y rhain fod naill ai ar ddechrau'r cyfnod adeiladu neu ar ôl cwblhau'r gwaith);
  • pwy sy'n cael pa unedau;
  • unrhyw daliadau y mae angen i'r naill barti neu'r llall eu gwneud (os oes rhai);
  • unrhyw rag-amodau ynglŷn â’r trosglwyddiadau tir (e.e. sicrhau cyllid a/neu ganiatâd cynllunio, a/neu gymeradwyaeth ddylunio gan y Cyngor);
  • rhwymedigaethau ynghylch sicrhau caniatâd cynllunio a chydsyniadau angenrheidiol eraill;
  • rhwymedigaethau ynghylch mabwysiadu priffyrdd a gwasanaethau;
  • rhwymedigaethau adeiladu – nifer yr unedau, dyluniad, ffyrdd a gwasanaethau, safonau ac ansawdd, y rhaglen ar gyfer eu cwblhau;
  • y broses trosglwyddo ac ardystio;
  • prosesau llywodraethu; a
  • hawliau contract (e.e. cynlluniau unioni, iawndal penodedig am ohirio, terfynu, cyfyngiadau atebolrwydd, etc.).

Os nad yw'r trefniant arfaethedig yn bodloni pob un o'r tri amod yn yr Esemptiad yn Rheoliad 12, yna bydd angen caffael y cytundeb datblygu yn unol â Rheoliadau 2015. Er bod rhai cytundebau datblygu yn drafodiadau tir esempt neu’n gonsesiynau, gall cytundebau datblygu eraill ddod o fewn y diffiniad o gontract gwaith cyhoeddus a bydd angen eu caffael yn unol â Rheoliadau 2015 os ydyn nhw’n uwch na'r trothwy. 

6.4. Trefniant partneriaeth

Yn y sefyllfa hon byddai'r ATLl yn gwneud cytundeb partneriaeth strategol gydag LCC, yn debyg i'r rhai a wneir yn gyffredin rhwng cyrff y GIG a Chynghorau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd ac a elwir yn "drefniadau adran 33". Fe allai’r math hwn o drefniant fodloni gofynion yr Esemptiad yn Rheoliad 12 os gellir dangos bod yr holl amodau yn Rheoliad 12(7) wedi eu bodloni.

Mewn trefniant o'r fath fe geid contract cyffredinol ("Cytundeb Partneriaeth") a fyddai'n nodi:

  • y gwasanaethau cyhoeddus y bydd y partïon yn cydweithio i'w cyflawni;
  • yr ystyriaethau budd cyhoeddus sy’n bwysicach na dim byd arall a natur y cydweithredu;
  • y strwythur llywodraethu;
  • y cyfraniadau y bydd pob un yn eu gwneud i'r bartneriaeth (boed ar ffurf arian, swyddfeydd/mangreoedd, profiad, etc.); 
  • y broses ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo cynlluniau penodol. Mae'r Cytundeb Partneriaeth yn gweithio fel cytundeb ymbarél ac efallai na fydd ganddo gynlluniau pendant ar y dechrau, neu efallai y bydd rhai cynlluniau wedi'u nodi, gyda'r gallu i ddod ag eraill i mewn yn ddiweddarach;
  • hyd y bartneriaeth; 
  • cyfrifoldebau dros sicrhau bod canran y gweithgareddau'n cael ei monitro, yn ogystal â'r broses ar gyfer terfynu'r trefniant os eir y tu hwnt i’r 20%; a
  • rhwymedigaethau’r ddau barti dros golledion ac ynglŷn â diwedd y bartneriaeth/terfynu'r bartneriaeth.

Byddai angen cael cytundeb datblygu safonol fel atodlen i'r Cytundeb Partneriaeth, a fyddai'n cael ei gwblhau a'i ddiwygio yn ôl yr angen ar gyfer pob cynllun, ac yna'n cael ei wneud rhwng y partïon fel contract ar wahân. Bydd angen i bob cytundeb datblygu fodloni gofynion yr Esemptiad yn Rheoliad 12 cyn bod modd ymrwymo iddo.

7. Nodyn ar ddewis partneriaid i’r ATLl

Er bod dibynnu ar Esemptiad Rheoliad 12 yn golygu bod y broses gaffael wedi ei hesemptio o Ran 2 o Reoliadau 2015, gall gweithredwyr economaidd herio dyfarniad contract. Dylid gofyn am gyngor cyfreithiol bob amser cyn ceisio dibynnu ar Esemptiad Rheoliad 12(7) a chadw’r llwybr archwilio llawn o'r rhesymau a roddwyd dros ddefnyddio Esemptiad Rheoliad 12.

Mae unrhyw benderfyniad a wneir gan ATLl yn agored i adolygiad barnwrol. Pan fo’n debygol y byddai gan fwy nag un LCC ddiddordeb mewn cydweithio â'r ATLl, mae'n hanfodol bod yr ATLl yn datblygu proses ar gyfer dewis partner sy'n dryloyw ac yn deg. Rhaid i benderfyniadau a wneir gan y partïon contractio fod yn gyfreithlon, yn rhesymegol ac yn unol ag egwyddor Wednesbury, sef yn rhesymol er mwyn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw her drwy adolygiad barnwrol.

Mewn amgylchiadau lle mae'r ATLl yn penderfynu bod Esemptiad Rheoliad 12 yn gymwys a bod mwy nag un LCC am gydweithio â'r ATLl (er enghraifft pan fo ATLl am rannu'r risg ar ddatblygiad mawr neu drefniant partneriaeth tymor hirach), dylai'r ATLl gynnal proses ddethol wedi’i chofnodi sy'n cydymffurfio ag egwyddorion tryloywder a thriniaeth gyfartal. Mae proses o'r fath yn debygol o gynnwys y canlynol:

  • cyfathrebu ysgrifenedig â phob LCC sy'n gweithredu yn ardal yr ATLl, gan roi gwybodaeth am fwriad yr ATLl i gydweithio a'u gwahodd i gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar ffurf ragnodedig, sy'n nodi eu profiad a'u statws ariannol;
  • dewis y rhai sy'n ymgeisio ac sy’n bodloni'r safonau sylfaenol i gyflwyno ymatebion ysgrifenedig ffurfiol i set o ofynion a nodir mewn dogfen dendro. Mae'n bwysig bod y meini prawf ar gyfer dyfarnu'r bartneriaeth wedi'u nodi'n glir yn y ddogfen dendro;
  • penodi partner o LCC yn unol â’r meini prawf a nodwyd yn y ddogfen dendro; a
  • rhoi adborth i’r LCCau a wnaeth gais aflwyddiannus.

8. Nodyn ar drefniadau cydweithredu ag LCC sy’n ymwneud â gwaredu tir yr ATLl

Rhaid i ATLl gofio'r ddyletswydd a amlinellir yn adran 123(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i sicrhau'r gwerth gorau o ran gwaredu tir a chofio hefyd y gall fod angen sicrhau cydsyniad Gweinidogion Cymru (oni bai bod eithriad yn gymwys). Bydd y cwestiwn a oes angen cydsyniad i waredu tir ai peidio yn dibynnu ar ffeithiau pob achos. Gall materion cymorth gwladwriaethol godi hyd yn oed os bydd caniatâd yn cael ei roi a dylid gofyn am gyngor cyfreithiol ynglŷn â hyn.

9. Deddfwriaeth

Y ddeddfwriaeth sy’n gymwys i WPPN 02/2020 yw:

  • Cyfarwyddeb Contractau Cyhoeddus 2014/24/EU (y "Gyfarwyddeb")
  • Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (“Rheoliadau 2015”)
  • Adran 123(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

10. Amseru

Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn effeithiol o'r dyddiad cyhoeddi nes iddo gael ei ddisodli neu ei ganslo.

11. Manylion cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Nodyn Cyfarwyddyd hwn, cysylltwch â:

12. Cydnabod

Defnyddiwyd y cyhoeddiadau a'r sefydliadau a ganlyn (darperir dolenni lle bo'n briodol) wrth baratoi'r Nodyn Cyfarwyddyd hwn: