Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i gynorthwyo plant a’u cefnogi

 

Dw'i o Cafcass Cymru, dwi yma i helpu

Weithiau gall pobl sy’n eich adnabod fod yn bryderus iawn nad ydych yn derbyn y gofal iawn neu eich bod mewn perygl o gael niwed.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i’r awdurdod lleol wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel a bydd yn gofyn i’r llys teulu gynorthwyo i benderfynu beth sydd orau i chi.

Bydd y llys yn gofyn i ni siarad â’r holl bobl sy’n bwysig yn eich bywyd chi i gael gwybod a ydych chi’n ddiogel a rhoi gwybod i’r llys am yr hyn y byddwn wedi ei ddarganfod.

Bydd y llys yn gwneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â chi a’ch teulu.

 

Beth sy'n digwydd yn y llys teulu?

A family court

Mae llys teulu yn edrych ychydig yn debyg i swyddfa.

Yn rhai llysoedd mae pawb yn eistedd o amgylch bwrdd ac mewn rhai eraill bydd y barnwr neu’r ynadon yn eistedd yn y tu blaen.

Nid llys y mae pobl yn mynd iddo os ydynt wedi gwneud rhywbeth o’i le yw’r llys teulu. Mae’n lle y mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud megis ble y dylech chi fyw a phwy y dylech chi ei weld.

 

Beth mae barnwr ney ynad yn ei wneud?

Rwy'n farnwr, byddaf yn gwrando ar beth sydd gan pawb ei ddweud

Bydd barnwyr ac ynadon yn gwrando’n ofalus ar yr hyn sydd gan bawb i’w ddweud ac yn rhoi cyfle i bob un siarad.

Fe fyddant hefyd yn gofyn cwestiynau ac eisiau i bawb ddweud y gwir.

Ni fydd barnwyr ac ynadon yn gwisgo wig am eu pen yn y llysoedd teulu.

Fe fyddant yn penderfynu beth sydd orau i chi a beth fydd yn digwydd nesaf.

 

Fydd rhaid i mi fynd i'r llys?

Alla i ysgrifennu llythyr neu dynnu llun ar gyfer y llys?

Does dim rhaid i blant fynd i’r llys.

Os oes arnoch chi eisiau, cewch ysgrifennu llythyr neu wneud llun i ddweud sut yr ydych yn teimlo. Fe wnawn ni eich helpu os oes arnoch chi eisiau help. Byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei anfon i’r llys.

Efallai y bydd arnoch eisiau cyfarfod â’r person sy’n gwneud penderfyniadau yn eich cylch. Os oes arnoch eisiau gwneud hyn, dywedwch wrthym a byddwn yn siarad â’r llys i weld a fydd hynny’n iawn.

 

Hawliau Plant (CCUHP) a'r gyfraith ynglŷn â phlant

Beth yw hawliau plant?Mae gan bob plentyn hawliau, pwy bynnag ydyw ac o ble bynnag y mae’n dod. 

Mae hawliau yn bethau y dylech eu cael fel person, fel yr hawl i gael addysg neu’r hawl i fywyd.

Cytundeb rhwng gwledydd ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac mae’n egluro’r holl hawliau y dylai pob plentyn eu cael.

Os oes arnoch eisiau gwybod rhagor, fynd i wefan Hawliau Plant Cymru.

 

Cymorth a chefnogaeth

Lle gallaf gael rhagor o help?

Rydym ni’n gweithio gyda llawer o bobl wahanol i sicrhau’r gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Os oes arnoch chi eisiau cael gwybod mwy am y bobl hyn, disgwlwch ar ein llyfryn gwobodaeth neu siaradwch â ni ac fe fyddwn ni’n eich cynorthwyo i gael i gysylltiad â nhw.

Os ydych chi’n poeni neu os oes arnoch angen cymorth gellwch hefyd siarad â Childline ar 0800 1111 neu sgwrsio â nhw ar-lein.

 

Mae arnom eisiau gwybod beth yr ydych chi'n ei feddwl

Mae arnom eisiau gwella drwy’r amser. Felly mae arnom eisiau clywed bob amser oddi wrthych beth yr oeddech chi’n ei feddwl am y gwaith a wnaethom ni gyda chi. Gellwch lenwi ffurflen adborth ac fe gawn ni weld a allwn ni wella.