rgb(185,218,248)
rgb(37,51,108)
Pryderon ynghylch diogelwch plentyn ac ‘achos gofal’
Weithiau mae pobl sy’n eich adnabod yn gallu bod yn bryderus iawn nad ydych yn derbyn gofal iawn neu eich bod mewn perygl o gael niwed.
Os bydd pobl yn mynd yn bryderus nad ydych yn derbyn gofal iawn neu eich bod mewn perygl o gael niwed, gall achos gofal gychwyn.
Achos 'Gofal’ neu ‘Oruchwylio’ yw lle mae Awdurdod Lleol wedi gwneud cais i’r Llys Teulu i amddiffyn plentyn pan fydd pryderon difrifol ynghylch diogelwch neu les plentyn.
Beth yw Cafcass Cymru?
Sefydliad o fewn Llywodraeth Cymru yw Cafcass Cymru sy’n rhoi llais i unrhyw blentyn yng Nghymru sy’n ymwneud â’r System Cyfiawnder Teuluol. Pan gawn ein penodi gan y llysoedd teulu, byddwn yn gweithio gyda theuluoedd a sefydliadau eraill i ddarganfod datrysiadau tymor hir i’r plentyn.