Gwybodaeth i rieni sy’n byw ar wahân (achosion Cyfraith Breifat)
Weithiau gall teuluoedd ei chael yn anodd cytuno ynglŷn â’r hyn sydd orau i’w plant ac er mwyn gwneud pethau’n haws efallai y byddant yn gofyn i’r llys teulu eu cynorthwyo i ddatrys eu hanghytundeb.
Rhaglen Gweithio Gyda’n Gilydd er mwyn Plant (WT4C)
Cafodd rhaglen Gweithio gyda'n gilydd er mwyn Plant (WT4C) ei chreu er mwyn helpu teuluoedd i ddeall beth sydd ei angen fwyaf ar blant pan fyddent yn gwneud trefniadau i dreulio amser gyda rhieni sydd wedi gwahanu neu aelodau pwysig eraill o'u teulu.
Mae’r rhaglen ar gyfer oedolion sydd angen cymorth i ddod i gytundeb ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer eu plentyn/plant ac i ddysgu sut i reoli unrhyw anawsterau.
Gwasanaethau Cyswllt
Darperir Gwasanaethau Cyswllt gan sefydliadau annibynnol. Amgylcheddau sy'n canolbwyntio ar y plentyn ydynt, sy'n cynnig lleoedd diogel, cyfeillgar a niwtral i blant dreulio amser gyda rhieni neu bobl eraill sy'n bwysig iddynt. Maent yn cefnogi rhieni i'w helpu i flaenoriaethu anghenion eu plant ar ôl iddynt wahanu fel bod modd dod o hyd i ddatrysiadau hirdymor er mwyn i'r plant gadw mewn cysylltiad â'r ddau riant a'r teulu ehangach lle y bo'n ddiogel iddynt wneud hynny. Dim ond darparwyr Cyswllt sydd wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Canolfannau Cyswllt i Blant y mae Cafcass Cymru yn atgyfeirio atynt ac yn cydweithio â nhw.
Cyswllt â chymorth
Lle nad oes materion risg, gallai teuluoedd ddewis hunanatgyfeirio at ganolfan gyswllt i blant a gefnogir ac ariannu hynny, er mwyn galluogi'r plant i gwrdd â rhiant neu aelod arall o'r teulu nad ydynt yn byw gydag ef a threulio amser gyda'r unigolyn hwnnw. Gall teuluoedd ddod o hyd i'w Canolfan Gyswllt i Blant achrededig leol drwy fynd i wefan y Ganolfan Gyswllt i Blant Cenedlaethol a defnyddio'r swyddogaeth chwilio i ddod o hyd i Ganolfan Gyswllt i Blant.
Cyswllt dan oruchwyliaeth
Gellir comisiynu cyswllt dan oruchwyliaeth, a elwir hefyd yn amser teulu dan oruchwyliaeth, gan Cafcass Cymru fel rhan o asesiad, i brofi trefniadau amser teulu a sicrhau bod y plentyn/plant yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel i dreulio amser gyda'i riant cyn i'r llys wneud gorchymyn terfynol. Gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaeth y mae Cafcass Cymru yn ei gomisiynu yn ein taflen ffeithiau. Gall canolfannau cyswllt dan oruchwyliaeth hefyd ganiatáu i deuluoedd ariannu a hunangyfeirio. Gallwch ddarganfod mwy drwy fynd i wefan Ganolfan Gyswllt i Blant Genedlaethol am fwy o wybodaeth.
Profi DNA
Os bydd y llys teulu yn gorchymyn bod prawf DNA i gael ei gynnal i gadarnhau pwy yw rhiant y plentyn mewn achos Trefniant Plentyn (Adran 8), y trefniadau presennol yw y bydd y llys yn anfon cais i Cafcass Cymru ac y byddwn yn cyfarwyddo ein darparwr DNA Legal hyrwyddo casglu’r sampl DNA ar ran y llys.
Mae’r prawf am ddim.
Cymorth a chefnogaeth
Rhowch eich adborth inni
Mae arnom eisiau gwella drwy’r amser. Felly mae arnom eisiau clywed bob amser oddi wrthych beth yr oeddech chi’n ei feddwl am y gwaith a wnaethom gyda chi. Gellwch lenwi ffurflen adborth ac fe gawn ni weld a allwn ni wella.