Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i gynorthwyo a chefnogi pobl ifanc.

Weithiau pan fydd eich teulu yn methu â chytuno ar yr hyn sydd orau i chi, efallai y bydd y llys teulu yn gofyn i rywun o Cafcass Cymru ddod i’ch cyfarfod chi. Fe fydd y person yma yn siarad â chi am y ffordd yr ydych chi’n teimlo ac yn sicrhau bod y llys teulu yn cael clywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud.

Sut rydym yn mynd i’ch helpu?

Dyma beth rydych angen ei wybod am Cafcass Cymru.

Mae’r llythyr yma’n egluro sut y byddwn yn cysylltu â chi. 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd cynghorwr llys teulu (CLlT) neu weithiwr cymdeithasol llys teulu (GCLlT) yn dod i siarad â chi ac i wrando am sut yr ydych chi’n teimlo ynglŷn â phopeth. 

Byddem yn sicrhau bod y barnwr neu’r ynadon sy’n gwneud y penderfyniadau yn eich cylch chi a’ch teulu yn cael clywed sut yr ydych chi’n teimlo a beth hoffech chi ei weld yn digwydd.

Byddem yn gwneud hyn drwy ysgrifennu adroddiad i esbonio'r hyn rydych chi wedi ei ddweud a beth mae’r bobl sy’n malio amdanoch chi wedi ei ddweud. Bydd hyn yn helpu oedolion i wneud y penderfyniadau gorau ynghylch eich trefniadau. Fe wnawn drafod hefo chi beth fydd yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Bydd eich rhieni gweld yr adroddiad a gall aelodau arall o’ch teulu os ydynt yn rhan o’r achos. Os ydych chi’n poeni am hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym ac fe allwn ni helpu.

Efallai y bydd yr adroddiad yn cynnwys:

  • rhai neu'r cyfan o’r materion yr ydych chi wedi eu trafod gyda ni
  • eich dymuniadau a’ch teimladau ynglŷn â’ch sefyllfa
  • pam mae pobl yn bryderus yn eich cylch
  • yr hyn yr ydym ni’n meddwl sydd orau i chi
  • fe allwn hefyd eich helpu i ysgrifennu llythyr eich hun i’r llys ac ei ychwanegu efo’r adroddiad.

Beth fydd yn digwydd yn y llys?

A family court

Mae llys teulu yn edrych ychydig yn debyg i swyddfa. Yn rhai llysoedd mae pawb yn eistedd o amgylch bwrdd ac mewn rhai eraill bydd y barnwr neu’r ynad yn eistedd yn y tu blaen. Ar brydiau, bydd y llys yn trefnu ‘gwrandawiad o bell’ sy’n cymryd lle dros y ffon neu trwy fideoalwad, yn hytrach na mynychu’r llys. Nid llys y mae pobl yn mynd iddo os ydyn nhw wedi gwneud rhywbeth o’i le ydy’r llys teulu; mae’n lle y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud er mwyn gwneud pethau’n well i chi a’ch teulu. Weithiau bydd y ‘partïon’ (y bobl sydd â rhan yn yr achos, fel eich rhieni neu aelodau eraill o’r teulu) yn cael cymorth cyfreithiol arbennig; gall hwn fod yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr.

Mae’r bobl hyn yn gwybod am gyfraith plant a theuluoedd a byddant yn siarad â’r llys i egluro dymuniadau a theimladau y bobl y maent yn eu cynrychioli. Weithiau bydd y ‘partïon’ yn eu cynrychioli eu hunain ac yn siarad yn uniongyrchol â’r llys.

Nid yw plant a phobl ifanc yn mynd i’r gwrandawiad llys. Gallwch ddweud wrthym os ydych eisiau cyfarfod y barnwr neu’r ynadon a fydd yn gwneud y penderfyniadau amdanoch. Fe wnawn adael y llys wybod a bydd y barnwr yn penderfynu os fydd hyn yn iawn. Gall cyfarfodydd rhwng plant a phobl ifanc a’r barnwyr yn cymryd lle unai yn adeilad y llys neu trwy fideoalwad.

Mae’r barnwyr a’r ynadon yn y llys teulu wedi cael eu hyfforddi’n arbennig cyn dechrau gwneud penderfyniadau yn y llys teulu.

Bydd y barnwyr a’r ynadon yn darllen yr adroddiad ac yn meddwl am y cyngor gennym ni. Byddant yn gwrando ar yr hyn sydd gan bawb i’w ddweud cyn gwneud penderfyniad ar yr hyn y maent yn meddwl sydd orau i chi. Weithiau nid yw hynny yr un fath â’r hyn yr oedd arnoch chi ei eisiau ond fe fydd y llys bob amser yn gwneud yr hyn y mae’n meddwl sydd orau i chi.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y llys?

Mae yna lawer o faterion y gofynnir i’r llys efallai wneud penderfyniad arnynt, fel:

  • Gyda phwy y dylech chi fyw
  • Pa mor aml y dylech chi weld un o’ch rhieni
  • Ble a gyda phwy y cewch chi fynd ar wyliau
  • Ble y byddwch chi’n mynd i’r ysgol.

Does dim dau achos yr un fath; mae pawb yn wahanol ac felly efallai y bydd canlyniad eich achos chi yn wahanol i ganlyniad achos rhywun arall. Bydd pob penderfyniad gan y llys yn unigryw i’r hyn y maent yn credu sydd orau i chi.

Yn eithaf aml, gofynnir i’r llys benderfynu gyda phwy y byddwch chi’n byw neu bwy y byddwch yn cael ei weld. Os bydd y llys yn penderfynu ar ble y dylech chi fyw, efallai y bydd hefyd yn dweud pa mor aml y dylech weld eich rhiant arall (yr un nad ydych chi’n byw gydag ef/hi) ac o bosibl ble a phryd y dylech ei gyfarfod. Efallai y bydd hyn yn y lle y mae’n byw neu mewn lle arall megis canolfan gyswllt.

Pan fydd y llys wedi penderfynu ar yr hyn y mae’n meddwl sydd orau i chi, eich teulu fel arfer fydd y rhai fydd yn dweud wrthych chi beth sydd wedi cael ei benderfynu.

Os bydd arnoch eisiau siarad â rhywun gallwch weld rhestr o sefydliadau sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc yn ein hadran Cymorth a Chefnogaeth isod.

 

Hawliau Plant (CCUHP) a’r gyfraith ynglŷn â phlant

Mae gan bob plentyn hawliau, pwy bynnag ydyw ac o ble bynnag y mae’n dod. Mae hawliau yn bethau y dylech eu cael fel person, fel yr hawl i gael addysg neu’r hawl i fywyd.

Cytundeb rhwng gwledydd ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac mae’n egluro’r holl hawliau y dylai pob plentyn eu cael.

Os oes arnoch eisiau gwybod rhagor, gellwch wylio’r fideo byr hwn neu fynd i wefan Comisiynydd Plant Cymru.

Cymorth a chefnogaeth

Rydym ni’n gweithio gyda llawer o bobl wahanol i sicrhau’r gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Os oes arnoch chi eisiau cael mwy o gymorth, edrychwch ar ein rhestr isod, adolygu ein llyfryn gwybodaeth neu siaradwch â ni ac fe fyddwn ni’n hapus i’ch cynorthwyo.

Sefydliadau eraill ac elusennau

Childline

Cewch gysylltu â Childline ynghylch unrhyw beth – does yr un broblem yn rhy fawr nac yn rhy fychan. Beth bynnag yr ydych yn poeni amdano, mae’n well iddo ddod allan nag i chi ei gadw i mewn.
https://www.childline.org.uk

Nyas Cymru

Mae’n darparu cynrychiolaeth eiriol gyfrinachol i blant a phobl ifanc agored i niwed ar draws Cymru ar ran awdurdodau lleol.
https://www.nyas.net/nyas-cymru

Kooth

Gwasanaeth cwnsela ar-lein cyfrinachol, dienw ac am ddim ar gyfer pobl ifanc 11-19 mlwydd oed. Cewch siarad â chynghorwr hyfforddedig am unrhyw beth sydd yn eich poeni chi.
https://kooth.com

Bullies Out

Cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i unigolion, ysgolion, lleoliadau ieuenctid a lleoliadau cymunedol y mae bwlio yn effeithio arnynt.
https://bulliesout.com

Tros Gynnal

Darparwr eiriolaeth blaenaf Cymru, yn cefnogi’r plant a’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
https://www.tgpcymru.org.uk

Meic

Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed yng Nghymru.
http://meiccymru.org

Comisiynydd Plant Cymru

Mae’n sefyll dros blant a phobl ifanc a’i nod yw sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu a’u lleisiau yn cael eu clywed.
http://www.childcomwales.org.uk

Gweithredu dros Blant

Mae’n darparu cymorth pwrpasol i bobl ifanc agored i niwed a’r rhai sydd wedi eu hallgáu’n gymdeithasol ar draws y DU.
http://www.actionforchildren.org.uk

Dewis Cymru

Mae Dewis Cymru yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ynglŷn gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Trwy ddarllen y tudalennau yma, gallwch ganfod gwybodaeth a ellir helpu chi ganolbwyntio ar beth sydd o bwys i chi nawr. Mae pob tudalen yn cynnwys dolen i’w cyfeiriadur adnoddau, lle gewch wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol neu genedlaethol a ellir fod o gymorth.
https://www.dewis.cymru/children-and-young-people

Camdriniaeth ddomestig

Cam-drin domestig yw un person yn camddefnyddio grym a rheolaeth dros un arall o fewn perthynas agos neu o fewn y teulu. Mae’n gallu bod yn gam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol, ariannol neu rywiol neu gyfuniad o’r rhain i gyd.

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Childline: 08001111 neu Llinell gymorth yr NSPCC: 0808 8005000 help@nspcc.org.uk

Beth fydd Cafcass Cymru yn ei wneud?

Os byddwn yn dod i ddeall fod yna gam-drin domestig yn eich achos chi ar hyn o bryd, neu wedi bod yn y gorffennol, byddwn yn dweud wrth y llys fel y gall y barnwr wneud penderfyniad ynghylch rhoi blaenoriaeth i’ch diogelwch.

Sut ydym yn cefnogi anghenion amrywiol

Mae pob plentyn ac unigolyn ifanc yn unigryw ac ag anghenion gwahanol. Yn Cafcass Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chi mewn ffordd sy'n gweddu orau i'ch anghenion personol. Byddwn yn ceisio deall eich unigoliaeth er mwyn gweithio gyda chi mewn ffordd sy'n cefnogi ac yn dathlu gwahaniaeth, ac sy'n eich galluogi i fynegi eich dymuniadau a'ch teimladau fel bod y rhain yn gallu cael eu hystyried gan y llys teulu. Er enghraifft, os nad ydych fel arfer yn siarad Saesneg, mae’n bosibl y byddwn yn gallu dod o hyd i rywun i siarad yn yr iaith yr ydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus ynddi; gallai hefyd fod yn bosibl cael y llyfrynnau yn eich iaith, felly rhowch wybod inni pe hoffech ddarllen ein deunydd yn eich iaith eich hun. Rydym wedi gweithio gyda llawer o bobl ifanc ag anghenion gwahanol, felly peidiwch â phoeni am roi gwybod inni.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a'n taflen ffeithiau.

Rhowch eich adborth inni

Mae arnom eisiau gwella drwy’r amser. Felly mae arnom eisiau clywed bob amser oddi wrthych beth yr oeddech chi’n ei feddwl am y gwaith a wnaethom gyda chi. Gellwch lenwi ffurflen adborth ac fe gawn ni weld a allwn ni wella.