Neidio i'r prif gynnwy

Rydym ni’n sefydliad sy’n adolygu’n barhaus y ffordd yr ydym yn gweithio er mwyn darparu gwasanaeth gwell, ac i’n cynorthwyo i wneud hyn rydym yn adolygu ein perfformiad yn fisol.

Mae rhan o’r adolygiad misol hwn yn golygu ein bod yn myfyrio ar y nifer o geisiadau Adran 31 yr ydym yn eu derbyn a sut y gallwn ymateb orau i’r galw hwn.

Bob blwyddyn, rydym hefyd yn llunio ein hadroddiad blynyddol sy’n amlinellu ein perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf.

Hyfforddiant

Mae ein staff i gyd, sydd yn ymwneud yn uniongyrchol ag achosion Llys Teulu, yn weithwyr cymdeithasol profiadol, cymwysedig, sydd eisiau gwella bywydau plant yng Nghymru. Maent i gyd wedi eu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

I gael gwybod mwy am ein rhaglen hyfforddi ewch i dudalen ein staff.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

AGC sy’n gyfrifol am arolygu gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf i blant a theuluoedd yng Nghymru.

Cynhaliwyd gwiriad sicrwydd diweddaraf AGC o Cafcass Cymru yn Mehefin 2022.

Rydym yn parhau’n ymrwymedig i wella ein gwasanaethau fel y gallwn roi’r gwasanaeth gorau i blant a’u teuluoedd. Mae arnom eisiau clywed gennych chi ac felly, os oes gennych unrhyw awgrymiadau sut y gallem wella ein gwasanaeth, ewch i’n tudalen adborth, os gwelwch yn dda.

Beth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni

Rydym am fod yn sefydliad agored sy'n darparu cyngor a gwybodaeth o ansawdd uchel, amserol, annibynnol ac arbenigol i blant a theuluoedd yng Nghymru. Er mwyn i ni wneud hyn, mae'n hanfodol ein bod yn hyrwyddo dealltwriaeth o'n rôl a'n cylch gwaith i blant a theuluoedd fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl gennym. Yn ogystal â'n gwerthoedd sefydliadol rydym wedi datblygu dogfennau disgwyliad penodol fel y gall unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth neu asiantaeth bartner gael mynediad i wybodaeth ynghylch pa wasanaeth y dylent fod yn ei dderbyn mewn meysydd penodol o'n gwaith. 

Os ydych yn teimlo bod y gwasanaeth a gawsoch yn methu bodloni'r disgwyliadau a nodwyd yn ein dogfennau gwerthoedd neu ddisgwyliad mae croeso i chi gysylltu â'n swyddfeydd a siarad ag aelod o'n staff a fyddai'n fwy na pharod i'ch cynorthwyo.

Os ydych dal yn anfodlon, cymerwch yr amser i ddarllen drwy ein dogfen Canllaw i Gwynion i ystyried os ydych eisiau mynd a'ch mater ymhellach.

Ein Pwyllgor Ymgynghorol

The Cafcass Cymru Advisory Committee supports the Cafcass Cymru Senior Management team in the strategic development of the organisation and to advise them on relevant stakeholder issues.

Mae Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru yn cefnogi tîm Rheolwyr Uwch Cafcass Cymru wrth ddatblygu’r sefydliad yn strategol ac yn eu cynghori ynghylch materion rhanddeiliaid perthnasol.

Nid oes gan y Pwyllgor bwerau gweithredol a’i ddiben yw cynghori, sef:

  1. Cynrychioli buddiannau rhanddeiliaid a chynnig awgrymiadau i Cafcass Cymru ar nifer o faterion ymarferol.
  2. Gweithredu fel pwynt cyfeirio allanol mewn perthynas â datblygu strategaethau a pholisïau.
  3. Sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn sail i ddatblygiad strategol a chyflawniad y sefydliad.
  4. Ystyried effaith deddfwriaeth newydd a datblygiadau yn y system cyfiawnder teuluol mewn perthynas â datblygiad y sefydliad yng Nghymru.
  5. Rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor godi materion ar gyfer eu trafod sy’n berthnasol i swyddogaethau Cafcass Cymru sy’n effeithio ar eu sefydliadau hwy.

Mae’r pwyllgor yn cyfarfod 3 gwaith y flwyddyn ac ar hyn o bryd mae’n cael ei gadeirio gan Tracey Holdsworth - Cyfarwyddwr Cynorthwyol NSPCC Cymru, Pennaeth Gwasanaethau Lleol Cymru.

Darllenwch gofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Ymgynghorol.

Sefydliadau sy’n aelod o’r Pwyllgor Ymgynghorol: