Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ein hamcanion, blaenoriaethau ac egwyddorion.

Cafcass Cymru Cynllun Strategol 2020 i 2025

Datblygwyd y strategaeth hon gyda’n staff ac ar eu cyfer. Bydd yn rhoi cyfeiriad a phwyslais i’r hyn yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn ei wneud ac yn sicrhau bod ein rhan ym mywydau plant a theuluoedd yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Mae ein strategaeth yn cynnwys 3 nod cyffredinol sy’n disgrifio sut y byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar gyflawni ein diben. Mae’r nodau hyn yn canolbwyntio ar Ein Gwasanaeth, Ein Staff a’n Rhanddeiliaid.

  • Ein gwasanaeth – Rydym eisiau darparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i gefnogi gwell canlyniadau i bob plentyn, person ifanc a theulu yr ydym yn gweithio â nhw.
  • Ein staff – Rydym eisiau amgylchedd a diwylliant dysgu lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u lles yn cael ei gefnogi.
  • Ein Rhanddeiliaid – Rydym eisiau rhannu ein gwybodaeth, dysgu gan bartneriaid a defnyddio ein dylanwad ar y cyd i wella’r system cyfiawnder teuluol a gofal cymdeithasol plant yng Nghymru.

Mae’n bwysig i ni fod gan ein staff, defnyddwyr gwasanaethau, partneriaid a rhanddeiliaid hyder yn y ffordd yr ydym yn gweithio.

Wrth ddatblygu’r cynllun 5 mlynedd hwn, fe wnaethom ymgysylltu ac ymgynghori â’n staff i ddatblygu gwerthoedd craidd ar gyfer y sefydliad h.y. sy’n llywio ac yn adlewyrchu sut yr ydym yn ymddwyn tuag at ein gilydd a’r rhai yr ydym yn gweithio â nhw. Mae’r gwerthoedd hyn yn sail i’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ac rydym yn disgwyl i’n holl staff eu croesawu a’u hyrwyddo ym mhopeth a wnawn.

  • Canolbwyntio ar Blant –Mae plant a phobl ifanc wrth wraidd ein holl waith.
  • Cynhwysol –Rydym yn parchu gwahaniaeth, yn herio gwahaniaethu, yn hybu cynhwysiant ac yn croesawu amrywiaeth.
  • Uniondeb a Pharch – Rydym yn gweithio mewn ffordd deg, onest, a thryloyw gyda phawb, gan werthfawrogi a pharchu eu hunigoliaeth.

Partneriaethau cymdeithasol

Yr ydym yn gweithio gydag undebau llafur i fod yn gyflogwr teg a chynhwysol

Fel rhan o Lywodraeth Cymru, mae'r berthynas sydd gennym â'n hundebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Credwn mai'r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy i reolwyr ac undebau llafur gydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:

Mae ein cydweithwyr yn undebau llafur Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i roi gwir lais i'w haelodau yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau'n cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau, gwella telerau ac amodau ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel telerau ac amodau, cyflog, newid sefydliadol, polisïau a gweithdrefnau.

Mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'i undebau llafur. Rydym yn annog staff i gymryd rhan. Rydym yn cefnogi staff i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gweithio mewn partneriaeth.