Codi ymwybyddiaeth a rhoi gwybod am bryderon ynghylch caethwasiaeth fodern a cham-fanteisio.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae Strategaeth Orfodi Marchnad Lafur y DU 2023 i 2024 wedi nodi bod y sector gofal yn sector risg uchel o ran diffyg cydymffurfiaeth yn y farchnad lafur. Mae hyn yn cynnwys caethwasiaeth fodern a mathau eraill o gam-drin gweithwyr, gan beri risg i weithwyr ac i bobl sy'n derbyn gofal.
Beth yw caethwasiaeth fodern?
Caethwasiaeth fodern yw cam-fanteisio’n anghyfreithlon ar bobl er budd personol neu fasnachol. Yn aml mae'n drosedd anweledig, ac mae'n gwbl groes i hawliau dynol.
Gall achosion edrych yn wahanol iawn i'w gilydd, ond gallant gynnwys:
- cam-fanteisio ar weithwyr: drwy orfodi dioddefwyr i weithio am ychydig bach o dâl neu ddim tâl o gwbl, neu mewn amodau gwaith gwael
- masnachu pobl: lle mae dioddefwyr yn cael eu symud drwy rym neu dwyll
- defnyddio grym, neu’r bygythiad o rym corfforol, yn erbyn dioddefwyr neu aelodau o'u teulu
- caethiwed corfforol neu gaethiwed drwy fygythiadau: nid yw dioddefwyr yn gallu gadael na cheisio cymorth, a gallai hyn gynnwys mynd â'u dogfennau teithio neu fewnfudo oddi wrthynt
- twyll: rhoddir gwybodaeth ffug i ddioddefwyr am eu hamodau byw neu gyflogaeth
- twyll: mae cyfrifon neu gyllid dioddefwyr yn cael eu rheoli gan y sawl sy'n eu cam-drin
- caethiwed trwy ddyled: gorfodir dioddefwyr i dalu llawer gormod, er enghraifft am gostau teithio neu lety
Gall unrhyw un ddioddef cam-fanteisio. Mae’n bosibl nad yw dioddefwyr bob amser yn ymwybodol eu bod yn cael eu hecsbloetio.
Beth yw arwyddion caethwasiaeth fodern?
Gall arwyddion caethwasiaeth fodern fod yn anodd eu gweld. Fodd bynnag, mae arwyddion posibl.
Ymddangosiad corfforol
- Ymddangos yn ofnus, yn bryderus, yn ddigalon, yn rhy barod i ufuddhau, o dan straen neu'n nerfus/paranoid.
- Ymddwyn mewn modd anarferol o ofnus neu orbryderus.
- Ymddangos yn dawedog.
- Osgoi cyswllt llygad.
- Amharod i ofyn am help.
- Dangos arwyddion diffyg gofal iechyd / gofal deintyddol.
- Dangos arwyddion y gallent fod yn dioddef o ddiffyg maeth.
- Dangos arwyddion o gam-drin corfforol a/neu rywiol, eu bod yn cael eu hatal yn gorfforol, eu caethiwo, neu eu harteithio.
Eu bod wedi eu hynysu
- Ddim yn cael teithio ar eu pen eu hunain.
- Anaml iawn yn ymwneud â phobl eraill.
- Anghyfarwydd â'u cymdogaeth neu lle maent yn gweithio.
- Yn ymddwyn fel eu bod o dan reolaeth eraill.
Diffyg rheolaeth
- Ychydig neu ddim eiddo personol.
- Dim rheolaeth dros eu harian eu hunain, dim cofnodion ariannol na chyfrif banc.
- Dim rheolaeth dros eu dogfennau adnabod eu hunain (ID neu basbort).
- Dim yn cael eu caniatáu i siarad drostynt eu hunain, neu ddim yn gallu siarad drostynt eu hunain (mae'n bosibl bod trydydd parti yn mynnu bod yn bresennol a/neu gyfieithu).
- Gwisgo'r un dillad ddydd ar ôl dydd, neu ddillad sy'n amhriodol ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud.
Amodau byw gwael
- Byw mewn amgylchedd cyfyng budr.
- Byw mewn llety gorlawn.
- Byw a gweithio yn yr un lle.
Amseroedd teithio anarferol
- Cael eu gollwng a'u casglu ar gyfer gwaith yn rheolaidd, a hynny naill ai'n gynnar iawn neu'n hwyr yn y nos.
Mae'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn darparu gwybodaeth bellach am arwyddion cyffredin i gadw llygad amdanynt. Gellir gweld rhestr fanylach yn llyfryn ymwybyddiaeth caethwasiaeth fodern Llywodraeth y DU.
Camddealltwriaeth a chamsyniadau cyffredin
Nid yw'n amlwg bob amser bod y rheini sy'n dioddef caethwasiaeth fodern yn cael eu hecsbloetio.
Mae gorfodaeth yn aml yn rhywbeth sy'n anodd ei weld. Ni ddylid ystyried y ffaith bod unigolyn yn cael rhyddid i symud, neu ei fod yn ymddangos fel ei fod yn cydsynio i wneud ei waith, yn dystiolaeth bendant nad yw'r unigolyn hwnnw'n cael ei ecsbloetio. Gallai dioddefwyr caethwasiaeth fodern fod yn gysylltiedig â'r sawl sy'n eu hecsbloetio, neu'n cael perthynas â nhw.
Gall dioddefwyr caethwasiaeth fodern ddod o unrhyw wlad neu genedl. Yn 2022, cofnodwyd mwy o wladolion Prydeinig a oedd yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yng Nghymru na phobl o unrhyw genedl arall.
Beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n amau bod gweithwyr gofal yn cael eu hecsbloetio
Os ydych chi'n gweld rhywbeth amheus, rhowch wybod amdano neu cysylltwch â llinell gymorth i drafod eich pryderon:
- ffoniwch 999 os credwch y gallai’r unigolyn fod mewn perygl uniongyrchol ac y gallai ddioddef niwed
- rhowch wybod i'r heddlu drwy ffonio 101 os nad oes perygl uniongyrchol o niwed
- cysylltwch â'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio drwy ffonio 08000 121 700 neu cofnodwch eich pryderon ar-lein
- cysylltwch â'r Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr (GLAA) gan ddefnyddio ei ffurflen adrodd ar-lein
Dylai gweithwyr gofal ddilyn gweithdrefnau diogelu eu sefydliad, os ydynt yn teimlo'n ddiogel i wneud hynny. Os nad ydynt yn teimlo'n ddigon diogel, gweler isod o dan chwythu'r chwiban.
Dylai sefydliadau yng Nghymru ddilyn Llwybr Diogelu Cymru mewn perthynas â Chaethwasiaeth Fodern.
Nid oes angen ichi aros nes eich bod yn siŵr eich bod wedi canfod achos o gaethwasiaeth fodern. Nid oes angen i chi ddeall yn llawn y mathau a'r diffiniadau o gaethwasiaeth fodern neu gam-fanteisio cyn ichi gymryd y cam o roi gwybod am eich pryderon. Nid eich rôl chi yw ymchwilio cyn rhoi gwybod, a gallai gwneud hynny beryglu ymchwiliad troseddol a rhoi pobl mewn perygl. Cofiwch y gallai fod yn anniogel cysylltu â'r dioddefwr yn uniongyrchol.
Os ydych chi'n weithiwr o dramor ac eisiau cwestiynu eich amodau gwaith
Efallai nad yw cyflogwr yn dilyn y rheoliadau a'r cyfreithiau mewn perthynas â gweithwyr o dramor. Gallai hyn fod yn fwriadol neu'n anfwriadol.
Mae cyfraith y DU yn diogelu eich hawliau fel gweithiwr, ac mae gennych hawl i’r canlynol:
- cael copi o'ch telerau ac amodau
- ennill o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol
- cael slipiau cyflog wedi'u heitemeiddio
- cael didyniadau teg a chyfreithiol o'ch cyflog
- cael seibiannau ac amser i ffwrdd o'r gwaith
- cael gwyliau â thâl a thâl salwch
- cael hyfforddiant perthnasol
- cael amgylchedd gwaith diogel
Mae gan y sefydliadau canlynol fwy o wybodaeth a/neu gallant eich cefnogi.
Acas
Mae Acas yn rhoi cyngor am ddim ar faterion sy'n ymwneud â'r gweithle.
Bawso
Mae Bawso yn sefydliad gwirfoddol yng Nghymru sy'n darparu cymorth arbenigol i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern.
Ffoniwch 0800 731 8147.
Llywodraeth Cymru
Dod o hyd i wybodaeth a chymorth i ddeall eich hawliau mewn ieithoedd gwahanol.
Llywodraeth y DU
Profi eich hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig i'ch cyflogwr.
Undebau Llafur
Siaradwch â chynrychiolydd undeb llafur yn eich gweithle neu ystyriwch ymuno ag undeb llafur.
Unseen
Mae Unseen yn rhedeg Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio y DU.
Ffoniwch 08000 121 700 neu rhowch wybod am bryderon ar-lein.
Darparwyr gofal cymdeithasol sy'n cyflogi (neu sydd eisiau cyflogi) gweithwyr o dramor
Mae rheolau a rheoliadau cyflogaeth sy'n berthnasol i bob aelod o staff. Ond mae ystyriaethau ychwanegol wrth gyflogi gweithwyr o dramor.
Mae'r cod ymarfer ar gyfer recriwtio personél iechyd a gofal cymdeithasol o dramor yn weithredol yng Nghymru a Lloegr.
Mae Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) wedi datblygu canllawiau ar gyfer recriwtio a chynefino gweithwyr cymdeithasol yn rhyngwladol. Gellir defnyddio'r rhan fwyaf o'r safonau a'r egwyddorion yn y canllawiau hyn ar gyfer gweithwyr gofal.
Rydym wedi cyhoeddi adnoddau i helpu darparwyr i recriwtio drwy:
- gynlluniau ar gyfer pobl o Wcráin a ffoaduriaid
- fisas gweithwyr iechyd a gofal
- fisas myfyrwyr a graddedigion
Mae'n anghyfreithlon yn y DU (ac yn groes i safonau llafur rhyngwladol) i ofyn i weithwyr dalu ffioedd recriwtio am ddod o hyd i swyddi iddynt neu am geisio gwneud hynny. Gellir tynnu sylw’r GLAA at achosion o hyn.
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru dudalen cefnogi cyflogwyr ar ei wefan.
Chwythu’r chwiban
Gall unrhyw weithiwr yn y sector gofal cymdeithasol ddarparu gwybodaeth yn ddi-enw, sef chwythu'r chwiban.
Mae hyn yn wir os yw rhywun yn amau camymddwyn yn ei sefydliad ac yn teimlo na fyddai'n ddiogel pe bai'n rhoi gwybod yn uniongyrchol i'w gyflogwr.
Rhaid i bob gwasanaeth cofrestredig weithredu polisi chwythu'r chwiban a ddylai fod ar gael yn rhwydd i bob gweithiwr.
Gallwch gael gwybodaeth am chwythu'r chwiban a 'datgeliad gwarchodedig' ar wefan Protect, elusen chwythu'r chwiban sy'n cynnig cyngor a chymorth.
Os ydych chi am wneud 'datgeliad gwarchodedig' am eich cyflogwr, mae Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn 'gyrff rhagnodedig' y gellir gwneud cwynion iddynt er mwyn chwythu'r chwiban am ofal cymdeithasol. Dyma restr o bobl a chyrff rhagnodedig er gwybodaeth ichi.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am adnabod arwyddion caethwasiaeth fodern ar gael ar wefannau GLAA a Byddin yr Iachawdwriaeth.
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Cyngor gan AGC ar ddarparu llety brys i weithwyr gofal.
Comisiwn Ansawdd Gofal
Datganiad y Comisiwn Ansawdd Gofal ar gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.
Gofal Cymunedol
Adroddiad ar pam fod lefel y risg o ddioddef caethwasiaeth fodern yn uchel i staff gofal sy'n byw i mewn.
Llywodraeth y DU
Darllenwch fwy am y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr. Mae'r wybodaeth ar gael mewn 11 o ieithoedd tramor.
Unseen
Adroddiad gan yr elusen gaethwasiaeth fodern ar faterion caethwasiaeth fodern yn y sector gofal cymdeithasol.