Ein mentrau i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru.

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth

Stephen Chapman yw Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Cymru. Ei waith yw atal caethwasiaeth yng Nghymru a chydgysylltu cymorth a chefnogaeth i oroeswyr.

Llywodraeth Cymru yw'r unig lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sydd â Chydgysylltydd Atal Caethwasiaeth.

Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru

Mae'r grŵp hwn yn cyfarfod â sefydliadau eraill i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru.

Amcanion y grŵp yw:

  • nodi'r lefel caethwasiaeth yng Nghymru
  • datblygu protocolau rhannu gwybodaeth a nodi'r hyfforddiant sydd ar gael
  • sefydlu Cynllun Cyswllt Cyfathrebu  Atal Caethwasiaeth Cymru
  • nodi cymorth a chyngor i i ddioddefwyr

Mae Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru yn helpu sefydliadau i gydweithio er mwyn lleihau caethwasiaeth.