Mae Caergybi wedi croesawu mordaith gyntaf y tymor yng Nghymru wrth i'r Astoria gyrraedd heddiw.
Y tymor hwn, bydd porthladdoedd Cymru yn croesawu 37,000 o deithwyr a 15,000 o staff y llongau - cynnydd o 33% yn nifer y mordeithiau o gymharu â llynedd.
Mae'r Astoria yn cludo 580 o deithwyr a 236 o staff ac yn cael ei rhedeg gan cwmni Cruise and Maritime Voyages. Wedi cyrraedd Caergybi, roedd gan y teithwyr ddewis o deithiau yn cynnwys ymweld ag Ynys Mon, Eryri ac arfordir y gogledd orllewin.
Mae'r farchnad mordeithiau yn fusnes mawr i Gymru ac mae Cruise Wales a'i bartneriaid yn gweithio'n galed i ddatblygu'r farchnad. Mae nifer cynyddol o ymwelwyr o'r Almaen yn dod i dde-orllewin Cymru trwy fordeithiau sy'n aros yn Aberatwe, Porthladd Aberdaugleddau, Penfro ac Abergwaun. Yn dilyn cyllid y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth ar gyfer y pontŵn yn Abergwaun i ganiatáu i longau mwy angori, mae'r nifer sy'n galw yn Abergwaun wedi cynyddu o 5 yn 2015 i 29 yn 2017.
Bydd Abergwaun yn croesawu mordaith gyntaf y tymor pan fydd llong y National Geographic ’Explorer’ - yn galw am y tro cyntaf ar 6 Mai. Mae'r fordaith yn ganlyniad ymweliad gan y National Geographic y llynedd i weld beth oedd gan Gymru i'w gynnig fel cyrchfan fordeithiau. Mae teithwyr wedi cael cynnig o deithiau i weld uchafbwyntiau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
"Mae'r farchnad fordeithiau wedi ei nodi yn strategaeth twristiaeth Cymru fel un ffordd o ddatblygu'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru 10% erbyn 2020 a'r sector Mordeithiau yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf o flwyddyn i flwyddyn. Rydym yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid allanol ac yn bwriadu gwneud datblygiadau amrywiol i'r seilwaith ar gyfer y farchnad fordeithiau. Rwy'n gobetihio y bydd cwmnïau mordeithiau a theithwyr yn hapus â'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig ac y byddant yn dychwelyd eto yn y dyfodol."