Neidio i'r prif gynnwy

Castell Caergwrle yw’r 43fed castell yng ngofal Cadw ar ôl cytundeb mewn egwyddor gyda cheidwaid presennol y castell, cyngor cymuned Yr Hob. Dyma'r castell newydd cyntaf i Cadw ei brynu am 25 mlynedd.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r castell yn dyddio'n ôl i 1277, gan iddo gael ei adeiladu'n gyntaf gan Dafydd ap Gruffudd. Mae ganddo le unigryw  yn hanes Cymru fel y castell olaf i gael ei adeiladu gan Dywysog o Gymru, a bu iddo chwarae rhan bwysig yn y digwyddiadau a ddaeth i ben gyda marwolaeth Llywelyn ger Llanfair ym Muallt yn 1282 a phan gafodd Dafydd ei ddal a'i farwolaeth erchyll yn yr Amwythig yn 1283.

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas:

O Gaerffili i Gaernarfon, o Gonwy i Gastell  Coch, mae gennym rai o'r cestyll gorau a mwyaf nodedig yn y byd, gan ddenu mwy o ymwelwyr nac erioed a hybu economi nifer o'n trefi a'n dinasoedd.

Ond mae nifer o gestyll ar garreg ein drws sydd, efallai yn llai adnabyddus ond yn unigol ac fel casgliad, yn ffordd weledol o'n hatgoffa o'n hanes a'n treftadaeth. Mae'r rhain, i mi, yn gestyll gwir Gymreig - wedi'u hadeiladu neu'n gartref i rai o Gymry amlwg y gorffennol - gan Llywelyn, yr Arglwydd Rhys a Glyndŵr ymysg eraill. Tywysogion Cymru a ymladdodd dros Gymru ac a fu'n gymorth i lunio Cymru a Chymreictod fel a welwn heddiw.

Mae Cadw eisoes yn gofalu am nifer o gestyll  tywysogion Cymru, gan gynnwys Dinefwr a Dryslwyn yn y de a Dolbadarn a Chastell y Bere yn y gogledd. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda chyngor y gymuned i ychwanegu Caergwrle at eu niferoedd - gan sicrhau ei fod yn parhau ar agor, bod rhywun yn gofalu amdano a'i fod ar agor i bawb.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Dwi'n awyddus inni wneud mwy o gestyll ein tywysogion amlwg yng Nghymru a'u gwaddol ac i wneud yn siŵr bod hanes hir a balch Cymru yn cael ei adrodd a'i ddeall drwy ein cestyll a deunyddiau atodol. Dwi'n gobeithio dweud mwy am y ffordd yr wyf am gyflawni hyn yn y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, hoffwn annog y rhai hynny ledled Cymru sydd heb ymweld â'u castell lleol eto neu sydd am ddeall mwy am y chwedlau sy'n byw drwy ein waliau cerrig i grwydro a gwerthfawrogi eu hardal leol.

Mae Caergwrle yn lle arbennig ac rwy'n edrych ymlaen at y bartneriaeth newydd hon gan sicrhau bod gwaith da y cyngor cymuned yn parhau - a gwneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosib yn gallu parhau i'w fwynhau am flynyddoedd i ddod.

Christine Cunnah, Cadeirydd Cynghorwyr Cyngor Cymuned Yr Hob:

Mae Cyngor Cymuned Yr Hob yn falch iawn o fod mewn partneriaeth â Cadw, fydd yn sicrhau bod ein safle hanesyddol unigryw yng Nghastell Caergwrle yn cael ei amddiffyn er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. Gyda'n gilydd, byddwn yn ceisio cynnig lle arbennig i'r gymuned leol ac i ymwelwyr. Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r Arglwydd Dafydd Elis Thomas am gefnogi'r fenter hon a hefyd mae'n hynod ddiolchgar i Cadw am gydnabod pwysigrwydd hanesyddol enfawr y safle hwn.