Neidio i'r prif gynnwy

Y bydd rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn brysurach nag erioed yr wythnos hon yn sgil Gemau Terfynol a Gŵyl Cynghrair Pencampwyr UEFA a gynhelir yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth groesawu'r ymwelwyr cyntaf i Gymru, nododd Ysgrifennydd yr Economi  y bydd ymwelwyr a phobl leol yn gallu manteisio ar sawl math o drafnidiaeth er mwyn teithio i'r ddinas dros y penwythnos, a phwysleisiodd unwaith eto pa mor bwysig yw cynllunio'n ofalus ymlaen llaw. 

Dywedodd Ken Skates: 

"Hir yw pob aros ond mae'r penwythnos mawr ar fin cyrraedd. Bydd digwyddiad chwaraeon gorau 2017, sef Gemau Terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd y penwythnos hwn. Mae wedi golygu misoedd o waith cynllunio er mwyn sicrhau y bydd ymwelwyr o bedwar ban byd yn ddiogel, yn cael gofal da ac yn cael croeso cynnes i Gymru wrth iddynt fwynhau'r achlysur.   

"Mae disgwyl i ryw 200,000 o ymwelwyr ychwanegol a 2,500 o aelodau o'r cyfryngau deithio i Gaerdydd rhwng 1 a 4 Mehefin. Mae disgwyl i’r Gemau hefyd ddenu cynulleidfa deledu fyd eang o 200 miliwn felly mae'n ddigwyddiad unigryw iawn o ran ei faint a'i gwmpas. Caerdydd yw'r ddinas leiaf erioed i gynnal digwyddiad o'r fath ac mae hynny wedi cyflwyno sawl her, yn enwedig o ran sicrhau bod pob agwedd ar y seilwaith a'r rhwydwaith trafnidiaeth yn barod i wasanaethu De Cymru a'i llu o ymwelwyr yn y ffordd orau bosibl. 

"Dros y penwythnos bydd mwy o drenau yn cael eu darparu ar gyfer hyd at 60,000 o bobl, gyda phartneriaid ar draws y DU yn ein helpu i gynyddu capasiti a nifer y trenau. 

"Bydd dros 1250 o fysiau yn cael eu darparu, terfynfa dros dro ychwanegol ym maes awyr Caerdydd a fydd yn helpu i groesawu hyd at 10,000 o deithwyr awyr i Gymru a bydd bysiau yn gallu defnyddio ffordd gyswllt Dwyrain y Bae. Bydd hefyd sawl cyfleuster parcio a theithio/cerdded ar gael a bydd hyd at 4,000 o fannau parcio ychwanegol yn cael eu cynnig yn y cyfleuster mwyaf newydd o'i fath yn Llan-wern. 

"Enghreifftiau yn unig yw'r rhain o’r mesurau helaeth sydd yn eu lle i helpu ein rhwydwaith trafnidiaeth yn ystod y penwythnos prysuraf erioed. I'r rheini sy'n teithio yng Nghaerdydd ac o amgylch y ddinas, cofiwch sicrhau digon o amser ar gyfer eich taith ac ystyried pob dull trafnidiaeth posibl er mwyn osgoi cymaint o dagfeydd â phosibl.