Neidio i'r prif gynnwy

Cael prawf i ddarganfod a oes gennych coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cymhwysedd ar gyfer profion llif unffordd COVID-19 y GIG am ddim

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru bellach yn cael eu cynghori i gymryd prawf llif unffordd os oes ganddynt symptomau COVID-19. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar gyfer pobl â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 yma.

Sut i gael prawf

Gallwch gael profion am ddim os ydych yn un o’r grwpiau sy’n gymwys i gael triniaethau COVID-19 am ddim.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys, siaradwch â’ch meddyg neu arbenigwr yn yr ysbyty a all eich cynghori.

Os ydych yn gymwys, gallwch gasglu profion o fferyllfa gymunedol.

Os ewch i fferyllfa i gael cyflenwad o brofion, efallai y gofynnir ichi am eich hanes meddygol i gadarnhau eich bod yn gymwys. Os oes gennych gopi o lythyr neu e-bost a gawsoch gan y GIG sy’n dweud eich bod yn gymwys am driniaeth COVID-19, ewch ag ef gyda chi. Nid yw llythyr neu e-bost yn hanfodol, ond bydd yn ei gwneud yn haws i’r fferyllfa gadarnhau’ch bod yn gymwys i gael profion am ddim.

Gall rhywun arall gasglu profion ar eich rhan, er enghraifft, ffrind, perthynas neu ofalwr. Bydd angen iddyn nhw roi’ch manylion i’r fferyllfa, gan gynnwys eich:

  • enw llawn
  • cyfeiriad
  • dyddiad geni
  • rhif GIG (os yw ar gael)
  • cyflwr/cyflyrau meddygol i gadarnhau’ch bod yn gymwys

Dylent hefyd fynd â chopi o unrhyw lythyrau neu e-byst yr ydych wedi’u cael gan y GIG ynglŷn â thriniaethau COVID-19 os ydynt gennych.

Dewch o hyd i fferyllfa leol i chi sy’n cyflenwi profion llif unffordd y GIG.

Os ydych chi eisiau prawf ond nad ydych yn gymwys i gael profion llif unffordd (LFT) am ddim, maent ar gael i’w prynu mewn sawl lle.

Os oes angen cyngor meddygol arnoch am eich symptomau

Ewch i’r wiriwr coronafeirws ar-lein 111 y GIG neu cysylltwch â’ch meddyg teulu os ydych chi’n teimlo nad yw eich symptomau’n gwella neu os oes angen cyngor arnoch. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, ffoniwch 111. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mewn argyfwng meddygol yn unig, ffoniwch 999 a rhowch wybod i’r sawl sy’n delio â’r alwad neu’r gweithredwr fod gennych chi neu’ch perthynas symptomau COVID-19.