Neidio i'r prif gynnwy

Ein hamcan yw darparu gweithgareddau hamdden awyr agored o’r ansawdd uchaf y gall pobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hawliau tramwy cyhoeddus

Mae gennym dros 20,000 o filltiroedd (33,000 km) o hawliau tramwy cyhoeddus. Rydym yn darparu ar gyfer cerddwyr, seiclwyr, merlotwyr a defnyddwyr cerbydau modur.  I weld y rheolau ynghylch pwy sy’n cael defnyddio beth, ewch i gov.uk.

Tir i chi grwydro ynddo

Mae gennym 460,000 o hectarau o dir ichi grwydro ynddo.  O dan Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, mae un rhan o bump o’r wlad yn agored i gerddwyr. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Rhwydwaith beicio cenedlaethol

Mae gennym dros 1,200 o filltiroedd yn Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Ewch i Sustrans am ragor o wybodaeth.

Lwybrau beiciau mynydd

Mae gennym tua 370 o filltiroedd o lwybrau beiciau mynydd. Ewch i Croeso Cymru  am ragor o wybodaeth.