Ni fydd bellach angen caniatâd cynllunio i godi sied neu dŷ gwydr ar randir yng Nghymru, o dan gynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru i symleiddio rheolau cynllunio.
Caiff rhandir ei ddefnyddio fel arfer i dyfu cynnyrch ffres, er ar adegau gall hefyd gael ei ddefnyddio i dyfu planhigion, cadw ieir, cwningod neu wenyn.
Mae fel arfer yn rannau mawr o dir sydd wedi'u rhannu yn blotiau llai. Yr awdurdod lleol sy'n berchen ar y safle fel arfer, neu caiff ei reoli gan gymdeithas randiroedd gyda'r plotiau unigol yn cael eu trin gan un person neu deulu.
Mae strwythurau fel siediau a thai gwydr yn cael eu gosod ar randiroedd yn aml.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer codi sied neu dŷ gwydr ar randir.
Y bwriad yw caniatáu codi sied a thŷ gwydr ar bob plot, ar yr amod bod digon o le iddynt.
I atal y cynnydd yn nwysedd datblygiadau i lefel annerbyniol ar randiroedd rydym yn bwriadu cyfyngu ar nifer y siediau a'r tai gwydr i un ar bob 125 metr sgwâr (sy'n cyfateb â hanner plot).
Meddai y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James:
Nid oes angen sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer sied neu dŷ gwydr ar randir, sy'n fach ac heb gael llawer o effaith. Mae'n golygu costau di-angen i unigolion ac awdurdodau cynllunio lleol.
Dwi am i gymunedau y dyfodol yng Nghymru fod yn lleoedd ble y mae pobl am fyw, gweithio a mwynhau gweithgareddau hamdden. Mae rhoi cymorth i dyfu bwyd yn y gymuned a'r seilwaith gwyrdd yn hollbwysig i gyflawni'r weledigaeth hon.
Nid yw ein rhandiroedd ar gyfer tyfu ein bwyd ein hunain yn unig, maent yn enghraifft wych o leoedd sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer hamdden a rhyngweithio cymdeithasol, ac ar yr un pryd yn cefnogi dull o fyw iach a llesol.
Dwi'n gobeithio y bydd y newidiadau rydyn ni'n bwriadu eu gwneud i'r rheolau cynllunio yn caniatáu i'n rhandiroedd dyfu a ffynnu ymhell i'r dyfodol.
Mae yn lleihau nifer y ceisiadau cynllunio llai, gan ganiatáu i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddefnyddio eu hadnoddau ar geisiadau mawr mwy cymhleth.
Mae'r ymgynghoriad do i ben ar 28ain Chwefror.