Sut allwch chi gael bwyd a chyflenwadau hanfodol os ydych yn agored i niwed, hunanynysu neu yn weithiwr hanfodol.
Cynnwys
Pobl eithriadol o agored i niwed
Cynghorwyd pobl oedd yn 'eithriadol o agored i niwed' i gymryd camau ychwanegol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn ystod brig y pandemig, yng Nghymru galwyd hyn yn 'gwarchod'.
O 1 Ebrill 2021 mae’r mesurau gwarchod wedi seibio, a gall y rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ac ar y Rhestr Gwarchod Cleifion fynd i'r siopau os ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny. Fodd bynnag, bydd slotiau blaenoriaeth yn yr archfarchnadoedd yn parhau i fod ar gael.
Mae pob archfarchnad sy'n cynnig danfon i'r cartref yng Nghymru wedi cael manylion y bobl sydd wedi derbyn y llythyr yma. Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaethau danfon trwy wefannau'r archfarchnadoedd.
Os oes gwirfoddolwr neu ofalwr yn siopa ar eich rhan, mae rhai archfarchnadoedd yn gwerthu cardiau anrheg a thalebau y gallant ddefnyddio i dalu am eich siopa.
Mae'r llythyr yn esbonio y dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol i gael cyflenwadau hanfodol os na all teulu na ffrindiau helpu.
Pobl sy'n hunanynysu
Os ydych yn hunanynysu, dylech ofyn i ffrindiau, teulu neu gymdogion sydd yn iach i fynd allan i gael bwyd a hanfodion eraill i chi, neu ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.
Os nad oes teulu na ffrindiau all eich helpu chi, galch chi gael help gan sefydliadau gwirfoddol yn eich ardal. Gallant roi cyngor i chi ar y gefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu gyda gweithgareddau fel siopa bwyd.
Os oes gwirfoddolwr neu ofalwr yn siopa ar eich rhan, mae rhai archfarchnadoedd yn gwerthu cardiau anrheg a thalebau y gallant ddefnyddio i dalu am eich siopa.
Gorchuddion wyneb
Bydd angen gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus o dan do, ar gyfer cwsmeriaid a staff sy'n gweithio yn y mannau cyhoeddus hynny o dan do. Mae hyn yn cynnwys archfarchnadoedd. Mae'r gofyniad yn berthnasol i bawb sy’n 11 oed a throsodd. Er hynny, mae rhai eithriadau y gellir eu gweld yn ein canllawiau ar orchuddion wyneb.
Archfarchnadoedd sy'n cynnig danfon i'r cartref
Mae rhai siopa cyfleustra a siopau cornel hefyd wedi dechrau cynnig gwasanaethau danfon i'r cartref hefyd. Yn aml caiff y rhain eu hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol neu wefannau lleol.
Mae rhai archfarchnadoedd yn cynnig gwasanaethau danfon nwyddau i fyfyrwyr ar hyn o bryd. Mae mwy o wybodaeth ar wefannau'r archfarchnadoedd.
Archfarchnadoedd sy'n cynnig gwasanaethau clicio a chasglu
Archfarchnadoedd sy'n darparu bocsys bwyd hanfodol
Amseroedd blaenoriaeth siopa ar gyfer pobl agored i niwed
Archfarchnad |
Pwy |
Pryd |
---|---|---|
Tesco (ac eithrio Express) |
Henoed ac agored i niwed |
Gwiriwch eich siop leol |
Sainsbury's |
Henoed, anabl ac agored i niwed |
Blaenoriaeth mynediad drwy'r amser |
Aldi |
Henoed ac agored i niwed |
Llun i Sadwrn 30 munud cyn agor ar gyfer edrych heb brynu |
Co-op |
Agored i niwed a'u gofalwyr |
Llun i Sadwrn rhwng 8am a 9am, a Sul rhwng 10am a 11am |
Waitrose |
Henoed ac agored i niwed |
Llun, Mercher a Gwener yn ystod awr gyntaf masnachu |
Dewisiadau talu ar gyfer siopa
Os ydych yn aros gartref a bod rhywun yn siopa ar eich rhan, mae rhai archfarchnadoedd yn gwerthu cardiau anrheg a thalebau y gellir eu defnyddio i dalu am eich siopa.
Gellir eu prynu ar-lein gan y person sy'n aros gartref ac yna gall y person sy'n siopa eu defnyddio.
- Lleiafswm a mwyafswm gwerth: rhwng £5 a £150
- Rhif llinell gymorth: 0800 50 55 55
- Gellir e-bostio’r cerdyn i'r prynwyr neu'r gwirfoddolwr ddefnyddio yn y siop
- Gellir ei ddefnyddio yn y siop wedi ei argraffu neu ar sgrin ffôn. Ni ellir ei wario ar-lein
- Ni ellir rhoi mwy o arian ar gardiau, ond gellir eu defnyddio hyd nes bod yr holl arian wed ei wario
- Gellir cael balans y cerdyn drwy ffonio 0345 0757757
- Lleiafswm a mwyafswm gwerth: rhwng £5 a £150 (£100 ar gerdyn go-iawn)
- Rhif llinell gymorth: 0800 5193333
- Gellir e-bostio’r cerdyn i'r prynwyr neu'r gwirfoddolwr ddefnyddio yn y siop
- Gellir ychwanegu mwy o arian ar-lein
- Mae cardiau go-iawn y gellir eu llwyth ag arian hefyd ar gael. Gellir ychwanegu arian iddynt ar-lein a'u hanfon drwy'r post at berson o'ch dewis chi
- Gellir ei ddefnyddio yn y siop wedi ei argraffu neu ar sgrin ffôn
- Lleiafswm a mwyafswm gwerth: rhwng £5 a £250
- Rhif llinell gymorth: 0371 2001597
- Gellir e-bostio’r cerdyn i'r prynwr neu'r gwirfoddolwr ddefnyddio yn y siop
- Ni ellir anfon cardiau anrheg drwy'r post
- Gallwch weld eich balans ar-lein
- Bydd y prynwr yn derbyn e-bost pan fydd y cerdyn yn cael ei agor ar yr e-bost a phob tro y bydd yn cael ei ddefnyddio
- Gellir ei ddefnyddio yn y siop wedi ei argraffu neu ar sgrin ffôn. Ni ellir defnyddio'r cerdyn ar-lein
- Ar hyn o bryd mae rhai eitemau na ellir eu prynu gyda cherdyn anrheg, yr unig eitem bwyd yw fformiwla babanod
- Lleiafswm a mwyafswm gwerth: rhwng £10 a £250
- Rhif llinell gymorth: 0344 3815042
- Mae cardiau go-iawn ac e-gardiau ar gael. Gellir postio cardiau go-iawn i'r derbynnydd neu dros e-bost fel e-gerdyn
- Gellir eu defnyddio mewn unrhyw siop Morrisons, wedi eu hargraffu neu ar sgrin ffôn. Ni ellir eu defnyddio ar-lein
- Gellir cael balans y cardiau go-iawn drwy ffonio rhif ar gefn y cerdyn, a gellir gwirio e-gardian ar-lein
- Ni ellir rhoi mwy o arian ar gardiau anrheg
- Lleiafswm a mwyafswm gwerth: rhwng £10 a £500
- Rhif llinell gymorth: 0330 123 0350
- Gellir e-bostio’r cerdyn i'r prynwr neu'r gwirfoddolwr ddefnyddio
- Gellir defnyddio'r cardiau ar-lein neu yn y siop
- Lleiafswm a mwyafswm gwerth: rhwng £10 a £500
- Rhif llinell gymorth: 0333 0148444
- Gellir e-bostio’r cerdyn i'r prynwr neu'r gwirfoddolwr ddefnyddio
- Gellir defnyddio'r cardiau ar-lein neu yn y siop
- Gellir hefyd prynu cardiau anrheg o siopau Marks and Spencer, ond nid yw'r rhain wedi eu cysylltu â'r cynllun cardiau gwirfoddol
- Lansiwyd menter siopwr agored i niwed ar gyfer gwarchod neu hunanynysu
- Ffoniwch 0800 029 4592, rhif ffôn arbennig y Co-op
- Gellir prynu cardiau a'u rhannu gyda gwirfoddolwyr
- Gall y llinell gymorth hefyd gyfeirio pobl at gynlluniau cefnogi gwirfoddol awdurdodau lleol
- Gellir prynu talebau ar-lein a'u postio at eraill i siopa ar eu rhan.
- Ar gael mewn lluosrifau o £5 a £10, dim cost postio ychwanegol
- Rhif ffôn gwasanaeth cwsmeriaid: 0800 042 0800
- Gall pobl brynu taleb glas (sy'n eithrio prynu loteri) neu daleb oren (sy'n eithrio alcohol a loteri)
- Os yw gwerth y siopiad yn llai na chost y daleb yna ni roddir newid ac ni chedwir unrhyw swm ar y daleb.
Amseroedd blaenoriaeth siopa ar gyfer gweithwyr hanfodol
Archfarchnad |
Pwy |
Pryd |
---|---|---|
Tesco |
Staff GIG, gweithwyr gofal a gweithwyr eraill y gwasanaethau argyfwng. |
Blaenoriaeth mynediad drwy'r amser |
Sainsbury's |
Gweithwyr GIG a gofal cymdeithasol |
Blaenoriaeth mynediad drwy'r amser |
Morrisons |
Gweithwyr GIG |
Llun i Sadwrn rhwng 6am a 7am, a Sul rhwng 9am a 9:30am |
ASDA |
Gweithwyr GIG a gofal |
Blaenoriaeth mynediad Llun, Mercher a Gwener rhwng 8am a 9am, a Sul rhwng 9am a 10am (edrych heb brynu) |
Aldi |
Gweithwyr gwasanaethau argyfwng, gweithwyr gofal cymdeithasol, ymatebwyr cyntaf a staff Ambiwlans Sant Ioan (deiliaid cerdyn Blue Light) |
Sul am 30 munud cyn agor a blaenoriaeth mynediad bob adeg arall |
Co-op |
Gweithwyr GIG |
Llun i Sadwrn rhwng 8am a 9am, a Sul rhwng 10am a 11am |
Waitrose |
Gweithwyr GIG a gofal cymdeithasol |
Blaenoriaeth mynediad i siopau a mannau talu |