Mwy o wybodaeth am y rhaglen brechu COVID-19 a sut bydd y brechlyn yn cael ei roi ar waith.
Cynnwys
Ynghylch brechlyn COVID-19
Bydd brechlyn diogel ac effeithiol yn rhoi diogelu unigolion rhag COVID-19. Bydd hyn yn ei dro yn diogelu ein hanwyliaid a'n cymunedau.
Bydd brechu'r boblogaeth gyda brechlyn diogel ac effeithiol yn:
- diogelu pobl rhag COVID-19
- ein galluogi i lacio’r cyfyngiadau pan ddaw yr amser
- ein helpu i ddychwelyd i fywyd mwy normal
Ar hyn o bryd mae 2 frechlyn COVID-19 ar gael, un wedi'i ddatblygu gan Pfizer-BioNTech ac un gan Rhydychen-AstraZeneca.
Allwch chi ddim dewis pa un o'r brechlynnau y byddwch yn ei dderbyn, mae'r ddau wedi eu cymeradwyo yn effeithiol a diogel gan reoleiddiwr meddyginiaethau'r DU.
Gallwch ddewis p'un a ydych yn derbyn y brechlyn ai peidio. Byddwch yn derbyn gwybodaeth ynghylch y pigiad i'ch helpu os oes gyda chi unrhyw bryderon.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am y brechlyn COVID-19 ar Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cael eich apwyntiad am frechlyn
Bydd y GIG yn brechu pobl yn nhrefn risg glinigol (ar GOV.UK), yn seiliedig ar grwpiau oedran, o'r hen i'r ifanc. Mae risg rhai pobl o gymhlethdodau o COVID-19 yn llawer uwch nag eraill. Dyna pam fod y brechlyn yn cael ei flaenoriaethu i'w diogelu nhw yn gyntaf.
Bydd pobl mewn cartrefi gofal a'r rheiny sydd methu gadael eu cartref yn derbyn y brechlyn yn eu cartref.
Wrth i fwy o'r brechlyn fod ar gael, byddwn yn ei gynnig i'r bandiau oedran olynol o oedolion. Efallai bydd yn cymryd amser i gyrraedd pawb.
Pan fydd hi'n amser i chi gael y brechlyn, bydd y GIG yn cysylltu gyda chi. Byddant yn cysylltu gyda chi drwy ffonio neu anfon llythyr.
I helpu'r GIG, arhoswch i gael eich gwahodd. Peidiwch ffonio eich meddygfa na'r ysbyty.
Cael ail ddos y brechlyn
Bydd pawb yn cael dau ddos o'r brechlyn ond byddwch yn cael lefel uchel o amddiffyniad ar ôl y dos cyntaf. Byddwch yn cael eich galw yn ôl am eich ail ddos o fewn 12 wythnos o'r cyntaf.
Pan fyddwch yn cael eich brechlyn COVID-19, byddwch yn cael cerdyn imiwneiddio GIG Cymru maint cerdyn credyd. Bydd hyn yn eich atgoffa am eich ail ddos ac yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut i adrodd am unrhyw sgil effeithiau.