Bydd busnesau o Gymru sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi niwclear yn gallu manteisio ar gontractau mawr yn y diwydiant niwclear o ganlyniad i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda busnesau tebyg yn Sbaen.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Cydnerthedd yr UE, ymwelodd Fforwm Niwclear Cymru â Santander yn Sbaen i gwrdd â chynrychiolwyr o Glwstwr Diwydiant Niwclear Cantabrian i lofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gydweithredu yn y dyfodol.
Mae aelodau o’r grŵp o Sbaen wedi ennill contractau sylweddol yn ddiweddar i gynhyrchu pwyseddwyr ar gyfer prosiect Hinkley Pwynt C. Gallai hefyd fod potensial i gyflenwi deunyddiau i Sellafield ar gyfer ei raglen storio gwastraff.
Byddai busnesau o Gymru ar eu pennau eu hunain yn debygol o ennill ambell gontract sylweddol, ond bellach mae ganddynt bob cyfle i gymryd rhan drwy eu partneriaeth â'r grŵp o Sbaen.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r prosiect ar y cyd hwn drwy Gronfa Cydnerthedd yr UE. Mae gan sawl cwmni yng Nghymru sgiliau, arbenigedd a phrofiad penodol sy'n werthfawr i'r gadwyn gyflenwi niwclear.
"Mae nifer o gyfleoedd yn y sector hwn, gan gynnwys adeiladu Pwynt Hinkley a datgomisiynu gwaith yn Sellafield a safleoedd eraill. Fel rhan o grŵp mwy o faint, mae ganddynt lawer mwy o gyfleoedd i elwa ar y contractau hyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cadw arbenigedd yn y gadwyn gyflenwi niwclear yng Nghymru, a'r swyddi medrus iawn sy'n rhan ohoni.”
Dywedodd Peter Cornish, Cadeirydd Fforwm Niwclear Cymru:
"Mae Fforwm Niwclear Cymru yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu cyfleoedd i fusnesau o Gymru a Sbaen gael cydweithio â'i gilydd.
"Roedd y daith fasnach i Santander yn un lwyddiannus iawn. Drwy lofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chynnal cyflwyniadau a thrafodaethau, bydd cyfleoedd i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru gefnogi'r gwasanaeth a chyflenwi prosiect Hinkley Pwynt C a phrosiectau eraill ledled y DU.
"Mae Fforwm Niwclear Cymru wedi bod yn hyrwyddo rhagoriaeth Busnesau Bach a Chanolig o Gymru yn y ffordd maent yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau gweithgynhyrchu ar draws Cymru. Bydd yn helpu'r cwmnïau hyn i drafod â sefydliadau contractio mawr sydd wedi ymuno fel partneriaid ac sy'n gallu hybu datblygiad parhaus y sectorau Niwclear ac Ynni ac sy’n gallu helpu i’w cyflenwi'n llwyddiannus.
Y cwmnïau o Gymru a gymerodd ran yn yr ymweliad â Cantabria oedd Acorn Recruitment, Huntingdon Fusion Techniques, Teddington Engineered Solutions, C&P Engineering, Roberts & Prowse a Site Heat Treatment Services.