Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwn y Garth, sy'n un o'r gynnau troffi Almaenig olaf o'r Rhyfel Byd Cyntaf sydd wedi goroesi ym Mhrydain, wedi'i restru gan CADW erbyn canmlwyddiant diwedd y rhyfel hwnnw.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Saif y gwn — sy'n howitzer maes ysgafn 105mm — ar Dwyn-y-Garth gyda golygfeydd ysgubol dros ddyffryn Gwy a phentref Erwyd ym Mhowys.

Dywedir i fenyw leol, sef Nessa Williams-Vaughan (Mrs Lionel Trafford yn ddiweddarach), gael y gwn gan y Swyddfa Ryfel fel cofeb i'w brawd, Christopher, a dynion lleol eraill a oedd wedi marw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei lladd mewn damwain car — yr un angheuol gyntaf yn Swydd Henffordd yn ôl pob sôn — cyn y gellid danfon y gwn yn 1920. Serch hynny, gwireddwyd ei dymuniad gan gymunedau Erwyd a Llandeilo Graban, a lusgodd yr howitzer i fyny llethrau Twyn-y-Garth a'i osod yn ei le.

Ar ôl bod yn agored i'r tywydd am ddegawdau, roedd cyflwr y gwn wedi dirywio'n sylweddol erbyn 1999. Fodd bynnag, cafodd ei adfer gan Gyngor Cymuned Castell Paun fel prosiect ar gyfer y mileniwm gyda chymorth 6ed Bataliwn y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol a chrefftwyr lleol. Mae bellach wedi'i restru fel enghraifft brin sydd wedi goroesi o'r miloedd o ynnau maes y gelyn a oedd wedi'u gwasgaru ar un adeg ledled y Deyrnas Unedig yn sgil yr hyn yr oedd llawer yn gobeithio y byddai'n ‘rhoi terfyn ar bob rhyfel’.

Cyn i ddigwyddiadau coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau yn 2014, roedd CADW wedi rhestru bron 240 o gofebion rhyfel ledled Cymru, yn amrywio o gafnau dŵr ceffylau i adeiladau ysbytai. Ceir llawer mwy mewn adeiladau dinesig neu addoldai rhestredig neu o'u hamgylch. Serch hynny, nid oedd rhai cofebion nodedig, megis Gwn y Garth, wedi cael eu dynodi.

Ceir cofeb arall a restrwyd yn ddiweddar ym mhentref Nantlle, ar lethrau gorllewinol Eryri, sef llechfaen borffor dywyll wedi'i cherfio, a gafodd ei chloddio, ei gweithio a'i chodi yn 1922. Mae arysgrif Gymraeg yn coffáu 14 o chwarelwyr o chwarel Penyrorsedd gerllaw. Cafodd y gofeb, a osodwyd yn wreiddiol yn y chwarel, ei symud yn ddiweddarach i'w lleoliad presennol o flaen capel y pentref.

O amgylch enwau'r meirwon ceir golygfeydd wedi'u cerfio'n gywrain o'r bywyd gwaith y byddai'r dynion wedi bod yn gyfarwydd ag ef yn y chwarel. Mae dau chwarelwr yn gwylio llechfeini yn cael eu llusgo i fyny wyneb y chwarel i weithdy i'w prosesu. Mae llechi gorffenedig yn disgyn ar reilffordd ar oleddf i'w cludo ymaith. Ar draws gwaelod y gofeb, fodd bynnag, ceir panorama sy'n dangos troedfilwyr yn symud ymlaen i faes brwydr diffaith yn llawn ffosydd a llwyfannau gynnau mawr, sy'n atgoffa'r darllenwr o aberth y dynion. Heddiw, mae'r gofeb ingol hon nid yn unig yn ein hatgoffa o effaith drychinebus y Rhyfel Byd Cyntaf ond hefyd o ddiwydiant a ffynnai ar un adeg ym mynyddoedd gogledd Cymru.

Fel rhan o Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, sef rhaglen coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a arweinir gan Lywodraeth Cymru, lansiodd CADW y cynllun Grantiau ar gyfer Cofebion Rhyfel yng Nghymru. Mae'r cynllun, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, wedi rhoi arian ar gyfer atgyweirio a diogelu cofebion mewn bron 50 o gymunedau ledled Cymru. Parheir i dderbyn ceisiadau tan fis Mawrth 2019.