Cadw coed a choedwigoedd: rheoliadau newydd
Hoffem gael eich barn am y rheoliadau arfaethedig ar gyfer gwarchod coed a choetiroedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Ers dros 80 mlynedd, mae coed a choetiroedd sydd o werth amwynder arbennig wedi cael eu gwarchod gan orchmynion cadw. Mae angen cael cydsyniad gan yr awdurdod cynllunio cyn gwneud unrhyw waith ar goed a choetiroedd o'r fath, yn amodol ar eithriadau amrywiol. Os na cheir cydsyniad, mae gwneud gwaith o'r fath yn drosedd.
Cyflwynodd Deddf Cynllunio 2008 system symlach o reolaeth, fel y bydd gorchmynion cadw yn y dyfodol yn llawer symlach ond yn cadw'r lefel bresennol o warchodaeth ar gyfer coed a choetir. Bydd y weithdrefn ar gyfer gwneud gorchymyn, yr eithriadau i'r angen am gydsyniad a'r weithdrefn ar gyfer cael cydsyniad i gyd wedi'u cynnwys mewn un set o reoliadau.
Rhagwelir y bydd y system newydd a gyflwynir gan Ddeddf 2008 yn dod i rym yng Nghymru pan ddaw Bil Cynllunio (Cymru) i rym, ac o gael cymeradwyaeth y Senedd, cyhoeddir set newydd o reoliadau cysylltiedig.
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn esbonio'r newidiadau a fydd yn cael eu cyflwyno yn y rheoliadau newydd, gyda'r teitl dros dro Rheoliadau Cynllunio (Cadw Coed) (Cymru), ac yn gwahodd rhanddeiliaid i fynegi barn ar y newidiadau hynny.
Bydd y canllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i goed a choetiroedd hefyd yn cael eu diweddaru maes o law.
1. Cyflwyniad
1.1 Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â newidiadau arfaethedig i'r gyfraith sy'n gwarchod coed a choetiroedd yng Nghymru. Yn benodol, mae'n gwahodd barn rhanddeiliaid ar yr egwyddorion sy'n sail i Reoliadau Cynllunio (Cadw Coed) (Cymru) newydd – y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon fel "y rheoliadau newydd”.
1.2 Mae Bil Cynllunio (Cymru) ("y Bil"), y disgwylir iddo gael ei osod gerbron y Senedd tua diwedd tymor y Senedd hon, yn Fil cydgrynhoi a fydd yn ailddatgan yr holl ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud â chynllunio yng Nghymru. Yn benodol, bydd yn disodli Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”), fel y mae'n gymwys yng Nghymru.
1.3 Bydd y Bil yn cynnwys y ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud â gwarchod coed a choetiroedd, gan ddisodli Pennod 1 o Ran 8 o Ddeddf 1990 ac adran 192 o Ddeddf Cynllunio 2008. Ynghyd â hyn, bydd set newydd o reoliadau cadw coed, a ddaw i rym ar yr un pryd. Y rheoliadau hynny yw testun y ddogfen ymgynghori hon.
1.4 Bydd y Bil a'r rheoliadau cysylltiedig hefyd yn ymgorffori'r argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith ym Mhennod 15 o'i Adroddiad Terfynol ar Gyfraith Cynllunio yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2018, i'r graddau y cawsant eu derbyn gan Lywodraeth Cymru. Mae'r argymhellion hynny wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
1.5 Ochr yn ochr â chyflwyno’r Bil, bydd newidiadau canlyniadol yn cael eu gwneud i ddeddfwriaeth arall, a bydd y rhain yn cynnwys ailddatgan adran 193 o Ddeddf 2008, sy’n ymdrin â gorchmynion cadw sydd eisoes ar waith pan ddaw’r Bil i rym.
1.6 Mae'r darnau perthnasol o ddeddfwriaeth bresennol ac arfaethedig a dogfennau cysylltiedig wedi'u rhestru yn Atodiad 1 i'r ddogfen hon.
1.7 Bydd canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi maes o law i ddisodli rhai neu'r cyfan o'r dogfennau a restrir yn Atodiad 2.
Ymgynghoriad ar hyrwyddo gwasanaeth cynllunio cadarn ac sy’n perfformio’n dda
1.8 Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal hefyd sy'n ceisio barn ar wella cadernid a pherfformiad awdurdodau cynllunio a fydd yn dod i ben ar 17 Ionawr. Mae hyn yn cynnwys y potensial i godi ffioedd ar gyfer ceisiadau lle na chodir ffioedd ar hyn o bryd, megis ar gyfer ceisiadau Gorchmynion Cadw Coed.
2. Cefndir
2.1 Mae coed - boed yn sbesimenau unigol, grwpiau neu mewn coetiroedd - yn cael eu gwerthfawrogi gan rai, ond yn anghyfleus i eraill. Maent hefyd yn ddarostyngedig i rymoedd natur, felly bydd angen eu tocio neu eu brigdorri o bryd i'w gilydd, a gallant ddod yn afiach, neu'n beryglus, neu farw. Felly, efallai y bydd perchnogion coed yn dymuno gwneud gwaith i gwympo coed, neu wneud gwaith arall arnynt (neu efallai y bydd yn ofynnol iddynt wneud hynny); a gallai cynigion o'r fath gael eu gwrthwynebu.
2.2 Fel arfer, mae angen trwydded cwympo coed gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967, cyn gwneud gwaith cwympo coed mwy sylweddol. Ond mae'r gofyniad hwnnw'n ddarostyngedig i nifer o eithriadau, ac nid yw'n gymwys i weithrediadau heblaw cwympo coed.
2.3 Ystyrir bod rhai coed a choetiroedd yn deilwng o warchodaeth arbennig, oherwydd eu gwerth amwynder. Mae awdurdodau cynllunio a Gweinidogion Cymru wedi gallu eu gwarchod drwy wneud "gorchymyn cadw coed”.
2.4 Ar ôl i orchymyn gael ei wneud i warchod coeden benodol, rhaid cael cydsyniad yr awdurdod cyn gwneud gwaith arni – ei thorri i lawr, ei thocio, ei brigdorri neu ei dadwreiddio, neu ei difrodi neu ei dinistrio yn fwriadol neu'n ddi-hid. Ond nid yw hyn yn berthnasol os yw'r gwaith yn dod o fewn un o nifer o eithriadau penodol - megis symud coeden sy'n beryglus ymaith, neu lle mae angen ei symud ymaith i gydymffurfio â chaniatâd cynllunio.
2.5 Mae hyn yn galluogi'r angen i gydbwyso gwaith o'r fath yn erbyn dymunoldeb cadw'r goeden. Os gwrthodir cydsyniad, neu os caiff ei roi yn ddarostyngedig i amodau, gellir apelio i Weinidogion Cymru. Ac os bydd penderfyniad o'r fath yn arwain at golled neu ddifrod, efallai y bydd digollediad yn daladwy.
2.6 Pan fo gwaith yn cael ei gynnig i goeden mewn ardal gadwraeth nad yw wedi'i gwarchod gan orchymyn cadw coed, mae angen rhoi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio perthnasol - unwaith eto, yn amodol ar rai eithriadau. Mae hyn yn galluogi'r awdurdod i benderfynu a ddylid gosod gorchymyn i warchod y goeden; os bydd yn gwneud hynny, bydd angen cydsyniad ar gyfer y gwaith, a bydd y goeden yn cael ei gwarchod yn y dyfodol.
2.7 Pan fo gwaith yn cael ei wneud ar goeden sydd wedi'i gwarchod gan orchymyn cadw coed heb gydsyniad, neu le mae gwaith yn cael ei wneud ar goeden mewn ardal gadwraeth heb hysbysiad, bydd hynny'n gyfystyr â throsedd - oni bai bod y gwaith yn dod o fewn un o'r eithriadau perthnasol. Bydd hefyd angen plannu coeden amnewid mewn achosion o'r fath, ac o dan rai amgylchiadau eraill.
3. Y systemau gwarchod coed presennol a newydd
3.1 Gwnaeth adran 192 o Ddeddf Cynllunio 2008 newidiadau sylweddol i Bennod 1 o Ran 8 o Ddeddf 1990. Cyfeirir at y system a oedd yn bodoli cyn i'r newidiadau hynny ddod i rym yn y ddogfen ymgynghori hon fel "y system bresennol”; cyfeirir at y system a gyflwynir gan Ddeddf 2008 fel "y system newydd”.
Y system bresennol
3.2 Yn fyr, o dan y system bresennol, mae'r Ddeddf berthnasol yn grymuso awdurdodau cynllunio a Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion cadw i warchod coed a choetiroedd yr ystyrir bod ganddynt werth amwynder. Mae pwerau o'r fath wedi'u cynnwys ym mhob Deddf cynllunio ers 1943. Roedd y gorchymyn i'w wneud yn unol â'r gorchymyn enghreifftiol a oedd mewn grym ar y pryd, wedi'i ddarparu naill ai mewn canllawiau (cyn 1969) neu mewn rheoliadau (wedi hynny). Mae gorchmynion a wnaed ddegawdau lawer yn ôl o dan y darpariaethau hynny yn dal i fodoli heddiw.
3.3 Roedd rheoliadau o dan y Ddeddf yn darparu ar gyfer y weithdrefn o ran gwneud gorchymyn cadw. Y rhai sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (OS Rhif 1892) – y cyfeirir atynt yn y ddogfen ymgynghori hon fel "Rheoliadau 1999”.
3.4 Ar ôl i orchymyn gael ei wneud mewn perthynas â choeden benodol, roedd angen cydsyniad i wneud gwaith arni, yn amodol ar eithriadau – rhai wedi'u pennu yn y Ddeddf (adrannau 198(6), (7) a 200 o Ddeddf 1990), a rhai yn y gorchymyn perthnasol. Hefyd, pennwyd y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gydsyniad o'r fath yn y gorchymyn, ynghyd â'r hawl i ddigollediad pe bai penderfyniad anffafriol yn cael ei wneud.
3.5 O ganlyniad, roedd pob gorchymyn yn hir ac yn anodd ei ddeall – gweler, er enghraifft, y Gorchymyn Enghreifftiol yn yr Atodlen i Reoliadau 1999 ("Gorchymyn Enghreifftiol 1999”). Ac roedd yr eithriadau amrywiol o'r angen am gydsyniad mewn gwahanol leoedd. At hynny, roedd unrhyw newidiadau i'r rheoliadau (neu'r gorchymyn enghreifftiol yn y rheoliadau) a gyflwynwyd ar ôl gwneud y gorchymyn yn amherthnasol; dim ond drwy wneud gorchymyn newydd y gellid newid dulliau polisi.
3.6 O dan y system bresennol, gellir gwneud gorchymyn fel nad yw’n dod i rym nes ei fod wedi ei gadarnhau. Fel arall, gellir gwneud iddo ddod i rym ar unwaith, dros dro, ond dim ond i aros mewn grym nes iddo gael ei gadarnhau. Yn ymarferol, mae bron pob gorchymyn wedi'i wneud ar y sail olaf – er mwyn osgoi'r coed dan sylw rhag cael eu cwympo cyn i orchymyn dod i rym.
Y system newydd
3.7 O dan y system newydd, mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau cadw coed; ac mae'r rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud gorchymyn, a bron yr holl eithriadau o'r angen am gydsyniad i wneud gwaith. Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu’r weithdrefn gael cydsyniad o'r fath, a'r hawl i ddigollediad. Mae'r gorchymyn ei hun yn nodi'r coed neu'r coetiroedd sydd i'w gwarchod, drwy gyfeirio at atodlen a map.
3.8 Mae hyn yn golygu bod gorchymyn a wneir o dan y system newydd yn llawer byrrach a symlach. Hefyd, daw unrhyw newidiadau i'r rheoliadau i rym ar unwaith, pryd bynnag y gwnaed y gorchymyn.
3.9 Daw pob gorchymyn o dan y system newydd i rym ar unwaith, dros dro, ond dim ond am chwe mis y mae'n parhau i fod mewn grym oni bai ei fod yn cael ei gadarnhau o fewn y cyfnod hwnnw.
3.10 Roedd adran 193 o Ddeddf Cynllunio 2008 yn ymdrin â gorchmynion cadw coed a oedd mewn grym ar y dyddiad y daw'r system newydd i rym. Mae'n darparu bod unrhyw orchymyn a wnaed o dan y system bresennol i gael effaith fel pe bai wedi'i wneud o dan y system newydd. Felly, mae manylion yr eithriadau rhag cydsyniad, y weithdrefn ar gyfer cael cydsyniad a'r hawl i ddigollediad i'w cael drwy archwilio'r rheoliadau sydd ar waith ar hyn o bryd, ac mae unrhyw beth yn y gorchymyn heblaw manylion y coed neu'r coetiroedd sy'n cael eu gwarchod i'w ddiystyru.
3.11 Nid yw'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf 2008 yn effeithio ar yr angen i hysbysu am waith ar goed mewn ardal gadwraeth nad ydynt wedi'u gwarchod gan orchymyn.
Y system newydd yn dod i rym
3.12 Nid yw adrannau 192 a 193 o Ddeddf Cynllunio 2008 - a'r newidiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 192 - wedi dod i rym yng Nghymru eto. Cynigir y bydd adran 192 yn cael ei hymgorffori ym Mil Cynllunio (Cymru), a fydd yn ailddatgan Pennod 1 o Ran 8 o Ddeddf 1990 yn ei ffurf ddiwygiedig, gan gyflwyno'r system newydd. Yn cyd-fynd â hyn y bydd newidiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall, gan gynnwys adran 193 o Ddeddf 2008, sy’n ymdrin â gorchmynion cadw sydd eisoes ar waith pan ddaw’r Bil i rym.
3.13 Er mwyn i'r system newydd weithredu'n effeithiol, bydd angen i set o reoliadau cadw coed fod ar waith yng Nghymru. Byddant yn gweithredu yn yr un modd â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cadw Coed) Lloegr 2012 (OS 605) (y cyfeirir atynt yn y ddogfen ymgynghori hon fel “Rheoliadau 2012”) yn Lloegr, ond ni fyddant yn union yr un fath â nhw. Yn benodol, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith yn yr adroddiad Cyfraith Cynllunio yng Nghymru rai newidiadau y gellid eu gwneud i'r gyfundrefn reoli o dan Reoliadau 1999. Tynnir sylw at y newidiadau arfaethedig hyn yng ngweddill y ddogfen hon.
4. Gorchmynion cadw coetir
4.1 O dan y system bresennol, gall gorchymyn cadw coed warchod un goeden benodol, grŵp penodol o goed, pob coeden o fewn ardal benodol neu bob coeden o fewn coetir penodol. Nododd Comisiwn y Gyfraith fod y Llys Apêl, yn Evans v Waverley BC (1995), wedi cydnabod bod gorchymyn yn gwarchod coetir yn wahanol iawn i un a oedd yn gwarchod ardal o goed – a hyd yn oed yn fwy gwahanol i orchymyn unigol neu grŵp.
4.2 Mae’r gwahaniaethau fel a ganlyn:
- mae gorchymyn coetir yn gwarchod pob coeden o fewn y coetir penodol, p'un a gawsant eu plannu (neu eu hunanhadu) cyn neu ar ôl gwneud y gorchymyn, tra bod unrhyw orchymyn arall yn gwarchod coed unigol a oedd yn bodoli pan wnaed y gorchymyn;
- gellir dadlau bod rhagdybiaeth o blaid rhoi cydsyniad - o leiaf ar gyfer gweithrediadau sy'n cyd-fynd ag arfer coedwigaeth dda; ar gyfer gorchmynion eraill, mae rhagdybiaeth yn erbyn rhoi cydsyniad;
- mae darpariaethau arbennig ynghylch gosod gofyniad i ailblannu coetiroedd a gwympwyd gyda chydsyniad o dan orchymyn coetir yn achos gweithrediadau coedwigaeth;
- mae darpariaethau arbennig ynghylch y digollediad y gellir ei hawlio yn dilyn gosod gofyniad o'r fath; ac
- mae'r dyletswyddau o ran amnewid coed ychydig yn llai beichus, gan nad ydynt yn gymwys i goed a gwympwyd mewn coetir heb gydsyniad oherwydd eu bod yn marw, wedi marw neu'n beryglus.
4.3 Felly, argymhelliad 15-3 yn adroddiad Cyfraith Cynllunio yng Nghymru oedd y dylid cyfeirio at orchymyn cadw coed sy'n gwarchod coetir fel "gorchymyn cadw coetir", ac y gallai'r ddeddfwriaeth berthnasol fod yn gymwys yn unol â hynny. Derbyniwyd yr argymhelliad hwnnw gan Lywodraeth Cymru, a rhagwelir y bydd y Bil yn cael ei fframio drwy gyfeirio at y ddau fath o orchymyn. Bydd y rheoliadau newydd yn gymwys i'r ddau.
4.4 Yn y ddogfen ymgynghori hon, defnyddir y termau "gorchymyn" a "gorchymyn cadw" yn gyffredinol i gyfeirio at orchmynion cadw coed a choetir.
5. Rheoliadau cadw coed
5.1 Mae'r rheoliadau newydd arfaethedig hyn yn seiliedig ar y rheoliadau presennol sy'n gymwys yng Nghymru (Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (OS Rhif 1892)) gyda newidiadau fel yr amlinellir yn y papur hwn. Llywiwyd y rhain hefyd gan y rheoliadau yn Lloegr sy'n cefnogi'r system a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cadw Coed) (Lloegr) 2012 (OS Rhif 605).
5.2 Rhagwelir y bydd y Bil yn cynnwys pwerau cyffredinol i awdurdodau cynllunio a Gweinidogion Cymru wneud dau fath o orchymyn er budd amwynder:
- gorchymyn cadw coed, i warchod y coed unigol, grwpiau o goed ac ardaloedd o goed a nodir yn y gorchymyn; a
- gorchymyn cadw coetir, i warchod y coetiroedd a nodir ynddo.
5.3 Mae'n debygol mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio eu pwerau.
5.4 Bydd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ("rheoliadau cadw coed") ynghylch gorchmynion cadw coed a gorchmynion cadw coetir, ac yn manylu ar yr hyn y gellir ei gynnwys mewn rheoliadau o'r fath. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn ymwneud â'r rheoliadau newydd y disgwylir iddynt gael eu gwneud o dan y pŵer hwn.
5.5 Byddai'r rheoliadau'n dod i rym ar yr un dyddiad â'r rhan o'r Bil sy'n cynnwys y pwerau hyn.
6. Buddiannau amwynder: ffactorau y gellir eu hystyried
6.1 Caiff awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wneud gorchymyn cadw coed neu goetir lle maent o'r farn y byddai gwneud hynny yn "briodol er budd amwynder”.
6.2 Mae paragraffau 15.18 a 15.23 o adroddiad terfynol Cyfraith Cynllunio yng Nghymru Comisiwn y Gyfraith yn nodi fel a ganlyn:
Mae canfyddiad cyffredinol gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ynglŷn â gwerth coed bellach yn seiliedig ar ystod lawer ehangach o ffactorau nag amwynder gweledol yn unig. Mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â choed hynafol, coed hynod a choed treftadaeth. Felly, roeddem o’r farn y byddai’n ddymunol nodi’n glir y gellir gwneud gorchymyn diogelu coed ar sail ffactorau heblaw golwg. Byddai hynny’n gwneud y gyfraith yn fwy eglur ac yn ei chysoni â’r syniadaeth bresennol ynghylch ar ba sail y dylid gwneud gorchymyn.
… mae'n amlwg bod hwn yn fater lle y dylai canllawiau chwarae rôl bwysig. Fodd bynnag, rydym o'r farn y byddai'n ddefnyddiol, rywsut neu'i gilydd, gadarnhau mewn deddfwriaeth yr egwyddor gyffredinol y gellid diogelu coed am resymau heblaw eu golwg yn unig.
6.3 Argymhelliad 15-2, felly, oedd y gallai rheoliadau cadw coed ragnodi materion a ystyrir yn berthnasol i amwynder. Cytunodd Llywodraeth Cymru fod y diffiniad o amwynder wedi newid dros y blynyddoedd a'i fod bellach yn ymestyn y tu hwnt i amwynder gweledol, ac y dylid egluro hynny mewn deddfwriaeth.
6.4 Yn unol â'r argymhelliad hwnnw, cynigir y bydd y Bil yn nodi y gall y rheoliadau bennu ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried wrth benderfynu a yw'n briodol er budd amwynder. Rydym yn nodi isod y materion rydym yn eu hystyried yn berthnasol.
6.5 Rydym o'r farn y dylai'r materion sydd i'w hystyried wrth wneud gorchymyn cadw coed i warchod un neu fwy o goed (p'un ai y cânt eu nodi'n unigol neu drwy gyfeirio at un neu fwy o grwpiau neu ardaloedd) gynnwys y canlynol:
(a) oedran a phrinder y coed sydd i'w gwarchod gan y gorchymyn;
(b) golwg y coed hynny, ar eu pennau eu hunain ac yng nghyd-destun eu hamgylchedd;
(c) y cyfraniad at fioamrywiaeth y gellid ei ddisgwyl gan y coed hynny, ar eu pennau eu hunain ac yng nghyd-destun eu hamgylchedd; a
(d) gwerth hanesyddol, gwyddonol a hamdden y coed hynny, ar eu pennau eu hunain ac yng nghyd-destun eu hamgylchedd.
6.6 Rydym o'r farn y dylai'r materion sydd i'w hystyried wrth wneud gorchymyn cadw coetir i warchod un neu fwy o goetiroedd gynnwys y canlynol:
(a) oedran a phrinder y coed o fewn y coetiroedd sydd i'w gwarchod gan y gorchymyn;
(b) golwg y coetiroedd hynny, a'r coed ynddynt, ar eu pennau eu hunain ac yng nghyd-destun eu hamgylchedd;
(c) y cyfraniad at fioamrywiaeth y gellid ei ddisgwyl gan y coetiroedd hynny, ar eu pennau eu hunain ac yng nghyd-destun eu hamgylchedd; a
(d) gwerth hanesyddol, gwyddonol a hamdden y coetiroedd hynny, ar eu pennau eu hunain ac yng nghyd-destun eu hamgylchedd.
Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno â'r rhestrau o faterion sydd i'w hystyried ym mharagraffau 6.5 a 6.6 o'r Ddogfen hon wrth wneud gorchymyn cadw coed neu orchymyn cadw coetir er budd amwynder?
7. Gwneud, amrywio neu ddirymu gorchmynion cadw
7.1 Bydd y rheoliadau'n darparu y dylai ffurf gorchymyn cadw (hynny yw, gorchymyn cadw coed neu orchymyn cadw coetir) fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau, neu ar ffurf debyg i raddau helaeth. Bydd ffurf gorchymyn o dan y system newydd yn llawer symlach na ffurf gorchymyn o dan y system bresennol.
7.2 Rydym yn cynnig y bydd y rheoliadau newydd yn darparu y dylai gorchymyn cadw coed fod ar y ffurf a nodir yn Atodiad 3 i'r ddogfen hon, ac y dylai gorchymyn cadw coetir fod ar y ffurf a nodir yn Atodiad 4. Bydd y rheoliadau hefyd yn nodi, os bydd unrhyw anghysondeb rhwng yr atodlen a'r map, mai'r map fydd yn drech.
Cwestiwn 2: A ydych yn cytuno â'r gorchymyn cadw coed enghreifftiol yn Atodiad 3 i'r Ddogfen hon? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno â'r gorchymyn cadw coetir enghreifftiol yn Atodiad 4 i'r ddogfen hon? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
7.3 Gall rheoliadau hefyd ddarparu, ar gyfer gorchmynion cadw coed a choetir:
(a) y weithdrefn i'w dilyn mewn cysylltiad â gwneud, amrywio neu ddirymu gorchymyn,
(b) pryd y bydd gorchymyn yn dod i rym,
(c) os na fydd gorchymyn yn dod i rym hyd nes y caiff ei gadarnhau, pwy sydd i'w gadarnhau, sut y mae i'w gadarnhau a sut y mae'n dod i rym dros dro hyd nes y caiff ei gadarnhau, a
(d) sut y bydd gorchymyn yn cael ei gyhoeddi a'i ddarparu i'r cyhoedd ei archwilio.
7.4 Ymdriniwyd â'r materion hyn bob amser mewn rheoliadau. Felly, maent yn ffurfio cynnwys Rhan 2 o Reoliadau 1999. Rydym o'r farn y dylai'r rheoliadau newydd ymdrin â nhw mewn termau tebyg, ac eithrio fel y nodir isod.
7.5 Yn gyntaf, byddant yn cynnwys darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn ar ôl gwneud gorchymyn. Bydd hyn yn adlewyrchu rheoliad 3 o Reoliadau 1999, ac eithrio y bydd yn ei gwneud yn ofynnol bod hysbysiad o'r gorchymyn yn cael ei roi i:
(a) pawb sydd â diddordeb yn y tir mae'r gorchymyn yn effeithio arno - a fydd yn cael ei ddiffinio i gynnwys unrhyw barsel o dir ar, yn, neu uwchben lle mae unrhyw ran o'r goeden sydd i'w gwarchod wedi'i lleoli; a
(b) yn achos gorchymyn a wneir yn dilyn hysbysiad o waith arfaethedig i goeden mewn ardal gadwraeth nad yw wedi'i gwarchod gan orchymyn ar hyn o bryd, y person sy'n darparu'r hysbysiad hwnnw.
7.6 Yn ail, byddant yn cynnwys darpariaethau sy'n cyfateb i reoliadau 4 i 9 o Reoliadau 1999, sy'n ymwneud â:
(a) gwrthwynebiadau a sylwadau ynghylch gorchymyn;
(b) gweithdrefn ar gyfer cadarnhau gorchymyn (gweler paragraff 7.8);
(c) camau gweithredu ar ôl cadarnhau gorchymyn;
(d) camau gweithredu lle nad yw gorchymyn wedi'i gadarnhau;
(e) amrywio gorchymyn; ac
(f) dirymu gorchymyn.
7.7 Byddant yn cynnwys darpariaethau newydd sy'n mynnu, pan fo gorchymyn yn cael ei gadarnhau,
(a) na chaniateir ei addasu er mwyn ychwanegu coeden nad oedd y gorchymyn drafft yn gymwys iddi 39o'r blaen;
(b) rhaid addasu gorchymyn sy'n gwarchod coed drwy gyfeirio at ardal fel ei fod yn dod yn orchymyn sy'n gwarchod coed a bennir naill ai'n unigol neu fel grŵp.
7.8 Mae hyn yn newid o'r sefyllfa bresennol yn Rheoliadau 1999. Argymhelliad 15-3(3) Comisiwn y Gyfraith, fel y'i derbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd y dylai gorchymyn ardal newydd ddarparu gwarchodaeth nes iddo gael ei gadarnhau yn unig. Adeg hynny, rhaid ei droi'n orchymyn sy'n nodi'r coed sydd i'w gwarchod naill ai'n unigol neu fel grŵp.
7.9 Yn drydydd, bydd y rheoliadau'n cynnwys darpariaeth newydd i'r perwyl bod pob gorchymyn yn dod i rym ar unwaith, dros dro, ond dim ond am chwe mis y mae'n parhau i fod mewn grym oni bai y caiff ei gadarnhau.
Cweatiwn 4: A ydych yn cytuno â'r weithdrefn arfaethedig ar gyfer gwneud gorchmynion cadw coed a choetir? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
8. Gweithgareddau y gellir eu gwahardd gan orchymyn cadw coed neu goetir
8.1 Gall rheoliadau cadw coed wahardd unrhyw un neu bob un o'r nifer o weithgareddau penodedig mewn perthynas â choed y mae gorchymyn cadwraeth mewn grym mewn cysylltiad â nhw. Gall y rheoliadau ddarparu ar gyfer eithriadau i'r gwaharddiadau hynny. Ac efallai y byddant yn darparu y gellir cynnal y gweithgareddau gwaharddedig os ydynt wedi cael cydsyniad.
8.2 Mae hyn yn dod â'r gwaharddiad a'r eithriadau i'r rheoliadau eu hunain, gan ddisodli'r system bresennol lle mae'r gwaharddiad rhag gwneud gwaith heb gydsyniad yn erthygl 4 yng Ngorchymyn Enghreifftiol 1999 (neu yn y darpariaethau cyfatebol mewn gorchmynion enghreifftiol cynharach), a lle mae'r eithriadau i'r gwaharddiad hwnnw yn rhannol yn y Ddeddf ac yn rhannol yn y gorchymyn ei hun (a fyddai wedi cael ei wneud yn unol â'r gorchymyn enghreifftiol a oedd mewn grym ar y pryd).
8.3 Rydym o'r farn y dylai'r rheoliadau newydd nodi na fydd unrhyw berson:
(a) yn torri, tocio, brigdorri neu ddadwreiddio unrhyw goeden y mae gorchymyn yn gymwys iddi;
(b) yn difrodi neu'n dinistrio coeden o'r fath yn fwriadol neu'n ddi-hid; neu
(c) yn achosi neu'n caniatáu cyflawni unrhyw un o'r gweithgareddau hynny
ac eithrio gyda chydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod a, lle rhoddir cydsyniad o'r fath yn ddarostyngedig i amodau, yn unol â'r amodau hynny.
Cwestiwn 5: A ydych yn cytuno â'r mathau o waith sydd i'w gwahardd gan orchymyn cadw coed neu goetir fel y nodir ym mharagraff 8.3? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
9. Eithriadau i'r angen am gydsyniad
9.1 Byddai'n anfoddhaol pe bai'n rhaid cael cydsyniad ar gyfer gwaith a oedd yn ddibwys, gwaith yr oedd angen ei wneud ar frys neu waith a oedd eisoes wedi'i awdurdodi mewn rhyw ffordd arall. Yn unol â hynny, mae'r gyfraith bob amser wedi darparu nad oes angen cydsyniad o dan rai amgylchiadau penodol.
9.2 O dan y system bresennol, mae'r eithriadau wedi'u cynnwys yn rhannol yn adrannau 198(6) a (7) a 200 o Ddeddf 1990 ac yn rhannol yn erthygl 5 o Orchymyn Enghreifftiol 1999; cynhwyswyd darpariaethau tebyg mewn gorchmynion enghreifftiol cynharach. O dan y system newydd, bydd yr eithriadau fel arfer i'w gweld yn y rheoliadau newydd a byddant yn berthnasol i goed a warchodir gan orchmynion cadw coed a choetir.
9.3 Rydym yn cynnig cynnwys yr holl eithriadau mewn Atodlen i'r rheoliadau newydd, er hwylustod cyfeirio. Mae hyn yn golygu y gall y rheoliad perthnasol ddarparu nad yw'r gwaharddiad cyffredinol yn gymwys i gyflawni gwaith yn unrhyw un o'r categorïau yn [Atodlen X].
9.4 Dylid cofio nad yw’r eithriadau hyn ond yn arwain at gydsyniad o dan y rheoliadau nad yw'n ofynnol ar gyfer y categorïau penodedig o waith coed. Gellir gwneud mathau eraill o waith yn gwbl gyfreithlon, ond dim ond ar ôl cael cydsyniad.
9.5 Rydym yn disgrifio'r eithriadau arfaethedig yn fanylach isod.
Coed marw, coed sy'n marw a choed peryglus
9.6 O dan y system bresennol, mae adran 198(6) o Ddeddf 1990 yn darparu nad oes angen cydsyniad cyn i goed sy'n marw neu sydd wedi marw neu sy'n beryglus gael eu torri i lawr, eu dadwreiddio, eu tocio neu eu brigdorri. Mae hyn yn arwain at nifer o broblemau. Yn gyntaf, nid yw'n glir pryd mae coeden yn marw, na phryd y mae wedi dod yn beryglus. Nid yw bob amser yn glir chwaith, yn y naill achos neu'r llall, faint o waith y gellir ei wneud heb gydsyniad. Yn ail, gall coeden farw ddarparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt; felly nid oes cyfiawnhad dros roi cydsyniad yn awtomatig ar gyfer symud ymaith coeden farw nad yw'n beryglus.
9.7 Fodd bynnag, rydym o'r farn y dylai fod yn bosibl symud ymaith cangen farw coeden heb gydsyniad, fel rhan o waith cynnal a chadw coed arferol.
9.8 Dylai fod yn bosibl hefyd gwneud gwaith sydd angen ei wneud ar unwaith i gael gwared ar unrhyw berygl a allai gael ei achosi gan goeden ddiffygiol neu ran ddiffygiol o goeden, a allai gwympo ar unrhyw adeg – yn anad dim i gael gwared ar atebolrwydd posibl mewn achos o esgeulustod neu o dan Ddeddfau Atebolrwydd Meddianwyr.
9.9 Mewn achosion eraill, efallai y bydd yn briodol gwneud gwaith ar goeden benodol yr ystyrir ei bod yn marw neu wedi marw, ond dylid profi dymunoldeb gwaith o'r fath mewn ymateb i gais am gydsyniad.
9.10 Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau newydd gynnwys dau gategori o eithriad, fel a ganlyn:
Dosbarth A. Canghennau marw
Symud ymaith ganghennau marw o goeden fyw.
Dosbarth B. Gwaith i osgoi perygl
Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden, i'r graddau bod angen gwneud gwaith o'r fath ar frys i gael gwared ar risg uniongyrchol o niwed difrifol, neu i'r graddau y cytunir arno’n ysgrifenedig gan yr awdurdod cyn i'r gwaith gael ei wneud.
9.11 Mae hyn yn dilyn y dull cyffredinol a fabwysiadwyd yn yr Alban, lle nad oes eithriad ar gyfer coed marw a choed sy'n marw. Ond mae disgwyl i eiriad manwl Dosbarth B ddilyn rheoliad 14(1)(c) o Reoliadau 2012 sy'n gymwys yn Lloegr sy'n amlinellu eithriad lle mae'r goeden yn beryglus ac nad yw wedi marw neu'n marw. Felly, mae’n gweithredu argymhelliad 15-6 Comisiwn y Gyfraith, a oedd yn destun ymgynghoriad ac a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.
9.12 Fodd bynnag, rydym o'r farn y dylai fod amod y gellir gwneud gwaith heb gydsyniad gan ddibynnu ar yr eithriad yn Nosbarth B dim ond os rhoddir hysbysiad ysgrifenedig o'r gwaith i'r awdurdod cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r angen am y gwaith ddod i'r amlwg. Gall hyn fod yn amlwg iawn, megis lle mae coeden yn cael ei tharo gan fellten, neu gall ddod i'r amlwg o ganlyniad i adroddiad ymgynghorydd. Nid yw amod o'r fath wedi'i gynnwys yn Rheoliadau 1999, ond bydd yn helpu i leihau'r tebygolrwydd y caiff yr eithriad ei gamddefnyddio, a bydd yn galluogi'r awdurdod i ystyried yr angen i blannu coeden amnewid.
Cwestiwn 6: A ydych yn cytuno â'r eithriadau arfaethedig sy'n ymwneud â symud ymaith ganghennau marw (Dosbarth A)? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
Cwestiwn 7: A ydych yn cytuno â'r eithriadau arfaethedig sy'n ymwneud â gwaith i gael gwared ar risg o niwed (Dosbarth B)? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
Gwaith sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaethau statudol neu rwymedigaethau eraill
9.13 Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn ofynnol i berchnogion coed wneud gwaith i goed sy'n cael eu gwarchod o ganlyniad i Ddeddf Seneddol neu rwymedigaeth debyg. Mae adran 198(6)(b) o Ddeddf 1990 yn darparu nad oes angen cydsyniad i dorri, dadwreiddio, brigdorri neu docio unrhyw goed yn unol ag unrhyw rwymedigaethau a osodir gan neu o dan Ddeddf Seneddol. Ac mae erthygl 5(1)(aa) ac (ab) o Orchymyn Enghreifftiol 1999 (a fewnosodwyd gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i'r Goron) 2006 (OS Rhif 1282) yn datgan nad oes angen cydsyniad ar gyfer gwaith priffyrdd penodol nac ar gyfer gwaith sydd ei angen ar gyfer diogelwch gwladol.
9.14 Y sail ar gyfer yr eithriadau hyn yw y gellir rhagdybio bod y broses o roi cymeradwyaeth yn y Senedd neu rywle arall wedi cynnwys cydbwyso'r angen am y gwaith arfaethedig yn erbyn dymunoldeb cadw'r coed sy'n cael eu gwarchod.
9.15 Rydym yn bwriadu cadw'r sefyllfa hon. Felly, bydd y rheoliadau newydd yn cadw'r eithriad, mewn termau tebyg, fel a ganlyn:
Dosbarth C. Gwaith i gydymffurfio â rhwymedigaethau statudol neu rwymedigaethau eraill
(1) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden yn unol ag unrhyw rwymedigaeth a osodir gan neu o dan Ddeddf Seneddol neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd Cymru.
(2) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden er mwyn galluogi gweithredu gorchymyn a wneir neu a gadarnheir o dan baragraff 8(1) neu baragraff 15(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Priffyrdd 1980 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud neu gadarnhau gorchmynion neu gynlluniau penodol).
(3) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden sy'n angenrheidiol ar frys at ddibenion diogelwch gwladol.
Cwestiwn 8: A ydych yn cytuno â'r eithriadau arfaethedig sy'n ymwneud â gwaith i gydymffurfio â rhwymedigaethau statudol neu rwymedigaethau eraill (Dosbarth C)? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
Gwaith gan ymgymerwyr statudol a chyrff cyhoeddus eraill
9.16 Mae erthygl 5(1)(a) o Orchymyn Enghreifftiol 1999 yn datgan nad oes angen cydsyniad ar gyfer gwaith arferol a wneir gan ymgymerwyr statudol ar goed gwarchodedig. Mae erthygl 5(1)(e), 5(1)(f) a 5(1)(g) yn darparu nad oes angen cydsyniad ar gyfer gwaith o'r fath a wneir gan gyrff cyhoeddus eraill.
9.17 Mae hyn ar y sail y gellir ymddiried yn y cyrff hyn i wneud gwaith o'r fath yn gyfrifol, a'u bod wedi cydbwyso'r angen am y gwaith arfaethedig yn erbyn dymunoldeb cadw'r coed sy'n cael eu gwarchod. Ond dim ond gwaith arferol y mae'n ymwneud ag ef, ac nid, er enghraifft, symud coed ymaith i alluogi gwaith mawr newydd (er y gallent fod yn ddarostyngedig i'r eithriad o dan Ddosbarth E, isod).
9.18 Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau newydd gadw'r eithriad, mewn termau tebyg, fel a ganlyn:
Dosbarth D. Gwaith gan ymgymerwyr statudol a chyrff cyhoeddus eraill
(1) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden gan neu ar gais ymgymerwr statudol, pan fo'r tir y mae'r goeden wedi'i lleoli arno yn dir gweithredol yr ymgymerwr statudol a bod y gwaith yn angenrheidiol—
(a) er budd gweithrediad diogel yr ymgymeriad;
(b) mewn cysylltiad ag arolygu, atgyweirio neu adnewyddu unrhyw garthffosydd, prif gyflenwadau, pibellau, ceblau neu gyfarpar arall yr ymgymerwr statudol; neu
(c) galluogi'r ymgymerwr statudol i ymgymryd â datblygiad a ganiateir gan neu o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995;
(2) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden gan neu ar gais CNC i'w alluogi i ymgymryd â datblygiad a ganiateir gan neu o dan y rheoliadau datblygu cyffredinol a ganiateir; neu
(3) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden gan neu ar gais corff draenio lle mae'r goeden honno'n ymyrryd, neu'n debygol o ymyrryd, ag arfer unrhyw un o swyddogaethau'r corff hwnnw mewn perthynas â chynnal a chadw, gwella neu adeiladu cyrsiau dŵr neu waith draenio; neu
(4) Cwympo neu docio coeden neu dorri’n ôl ei gwreiddiau gan neu ar gais, neu yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd gan, ddeiliad trwydded o dan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Trydan 1989 (pwerau eraill etc. deiliaid trwydded – cwympo a thocio coed etc.).
Ym mharagraff D(1), mae i "ymgymerwr statudol" yr ystyr a roddir gan adran [XXX] o Ddeddf Cynllunio (Cymru) [20XX]; ac ym mharagraff D(3), bydd i "corff draenio" a "draenio" yr un ystyron ag a roddir i “drainage body” a “drainage” yn adran 72(1) o Ddeddf Draenio Tir 1991.
Cwestiwn 9: A ydych yn cytuno â'r eithriadau arfaethedig sy'n ymwneud â gwaith gan ymgymerwyr statudol a chyrff cyhoeddus eraill (Dosbarth D)? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
Gwaith sy'n ofynnol i wneud datblygiad
9.19 Weithiau, gwneir cais am ganiatâd cynllunio i wneud gwaith datblygu ar dir lle mae coed sy'n cael eu gwarchod gan orchymyn cadw coed neu goetir. Bydd yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, wrth ystyried cais o'r fath, yn ystyried dymunoldeb cadw'r goeden. Os rhoddir caniatâd serch hynny, bydd hynny'n golygu yr ystyrir bod yr angen am y datblygiad (neu ei ddymunoldeb) yn gorbwyso'r angen i gadw'r goeden - ac mae'n bosibl y rhoddir caniatâd yn ddarostyngedig i amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i blannu coed newydd.
9.20 Mae'r eithriad hwn yn gymwys pan roddir caniatâd cynllunio naill ai mewn ymateb i gais (neu apêl) a phan gaiff ei roi mewn rhyw ffordd arall, megis mewn ymateb i apêl orfodi neu wrth gadarnhau gorchymyn terfynu. Mae hefyd yn gymwys lle bernir bod caniatâd yn cael ei roi ar gyfer datblygiad a awdurdodir gan un o adrannau'r Llywodraeth.
9.21 Mewn achos o'r fath, byddai'n feichus yn weinyddol i gydsyniad o dan y rheoliadau newydd fod yn ofynnol i gwympo'r goeden. Mae Erthygl 5(1)(d) o Orchymyn Enghreifftiol 1999 yn rhoi eithriad o'r gofyniad hwnnw.
9.22 Ond nid yw'r eithriad yn gymwys pan fo caniatâd yn cael ei roi gan orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol.
9.23 Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau newydd gadw'r eithriad hwn fel a ganlyn:
Dosbarth E. Gwaith sy'n ofynnol i wneud datblygiad
(1) Mae torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden i'r graddau y mae gwaith o'r fath yn angenrheidiol er mwyn gweithredu caniatâd cynllunio a roddwyd neu y tybir ei fod wedi'i roi o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) [20XX].
Ym mharagraff E(1), nid yw'r cyfeiriad at ganiatâd cynllunio yn cynnwys:
(a) caniatâd cynllunio amlinellol o dan adran [XXX] o Ddeddf Cynllunio (Cymru) [20XX]; neu
(b) heb leihau effaith paragraff D(1)(c), caniatâd a roddir gan orchymyn datblygu a wneir o dan [Bennod X2 o Ran X3] o'r Ddeddf (caniatâd cynllunio a roddir drwy orchymyn).
Cwestiwn 10: A ydych yn cytuno â'r eithriadau arfaethedig sy'n ymwneud â gwaith sy'n angenrheidiol i weithredu caniatâd cynllunio (Dosbarth E(1))?
9.24 Mae'r un egwyddor yn gymwys (yn rhinwedd adran 198(7)(a) o Ddeddf 1990) lle awdurdodwyd cloddio glo brig o dan Ddeddf Glo Brig 1958 i ddigwydd ar dir lle’r oedd coed sy'n cael eu gwarchod. Byddai awdurdodiad o'r fath wedi ystyried presenoldeb y coed.
9.25 Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau newydd gynnwys yr eithriad hwn, fel a ganlyn:
Dosbarth E. Gwaith sy'n ofynnol i wneud datblygiad
(2) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden lle mae'r goeden ar dir sy'n destun cloddio glo brig a awdurdodwyd o dan adran 1 o Ddeddf Glo Brig 1958 cyn 4 Rhagfyr 1987, ac eithrio pan oedd y goeden yn ddarostyngedig i ddynodiad o dan adran 2(4)(c) o'r Ddeddf honno.
Cwestiwn 11: A ydych yn cytuno â'r eithriadau arfaethedig sy'n ymwneud â gwaith sy'n angenrheidiol i weithredu awdurdodiad o dan Ddeddf Glo Brig 1958 (Dosbarth E(2))?
9.26 Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol nad oes cydsyniad o dan Ddeddf 1958 wedi'i gyhoeddi ers diddymu'r weithdrefn o dan y Ddeddf honno ym 1986; a byddai gennym ddiddordeb mewn darganfod a ddibynnir ar yr eithriad hwn (o dan adran 198(7)(a) yn ymarferol.
Cwestiwn 12: A oes gennych unrhyw brofiad o unrhyw achosion yn ymwneud â symud coed ymaith sydd ei angen i wneud gwaith a awdurdodwyd o dan Ddeddf 1958? Os felly, a allwch roi unrhyw fanylion?
Gwaith ar goed ffrwythau
9.27 O dan erthygl 5(1)(b) ac (c) o Orchymyn Enghreifftiol 1999, nid oes angen cydsyniad ar gyfer gwaith arferol i goed ffrwythau. Rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau newydd gynnwys yr eithriad hwn, mewn termau tebyg, fel a ganlyn:
Dosbarth F. Gwaith ar goed ffrwythau
(1) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden sy'n cael ei thrin ar gyfer cynhyrchu ffrwythau ar gyfer busnes neu fasnach, pan fo gwaith o'r fath er budd y busnes neu'r fasnach honno.
(2) Tocio, yn unol ag arferion garddwriaethol da, unrhyw goeden sy'n cael ei thrin ar gyfer cynhyrchu ffrwythau.
Cwestiwn 13: A ydych yn cytuno â'r eithriad arfaethedig sy'n ymwneud â gwaith ar goed ffrwythau (Dosbarth F)?
9.28 Cwestiwn sy'n codi o bryd i'w gilydd yw a yw coeden sy'n cael ei thrin ar gyfer cynhyrchu ffrwythau yn cynnwys coeden gnau. Byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pwynt hwn.
Cwestiwn 14: A ydych yn ystyried y dylai'r rheoliadau ddiffinio "coeden ffrwythau" er mwyn cynnwys "coeden gnau”?
Gweithrediadau coedwigaeth
9.29 Mae adran 200(1)(a) o Ddeddf 1990 yn datgan nad oes angen cydsyniad o dan y rheoliadau cadw coed ar gyfer gweithrediadau a wneir gan CNC neu'r Comisiwn Coedwigaeth, gan y gellir rhagdybio na fyddant yn gwneud gwaith a fyddai'n annymunol.
9.30 Yn yr un modd, mae adran 200(1)(b) a (2) yn darparu nad oes angen cydsyniad o'r fath pan fo gwaith yn cael ei wneud yn unol â chynllun sydd wedi'i gymeradwyo gan CNC neu'r Comisiwn, naill ai o dan gyfamod neilltuo coedwigaeth neu o dan amodau grant.
9.31 Rydym o’r farn y dylai’r esemptiad hwn rhag cydsyniad gael ei estyn i gynlluniau a gymeradwyir gan CNC ar gyfer grantiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chynlluniau rheoli coedwigaeth hirdymor y sector preifat a gymeradwyir hefyd gan CNC.
9.32 Rydym o'r farn y byddai'n fwy defnyddiol pe bai'r eithriad hwn wedi'i gynnwys yn y rheoliadau, ynghyd â'r holl eithriadau eraill. Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau newydd gynnwys yr eithriad hwn, mewn termau tebyg, fel a ganlyn:
Dosbarth G. Gweithrediadau coedwigaeth
(1) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden gan neu ar ran CNC ar dir a roddir iddo i’w ddefnyddio o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 sy’n cael ei reoli neu ei oruchwylio ganddo fel arall.
(2) Torri, brigdorri, tocio neu ddadwreiddio coeden gan neu ar ran unrhyw berson arall yn unol â chynllun perthnasol sydd mewn grym am y tro.
Yn y Dosbarth hwn, mae "cynllun perthnasol" yn golygu cynllun neu gynllun gwaith arall
(a) a gymeradwyir gan y Comisiwn Coedwigaeth neu CNC o dan gyfamod neilltuo coedwigaeth o dan adran 5 o Ddeddf Coedwigaeth 1967, neu
(b) a gymeradwyir gan y Comisiwn Coedwigaeth neu CNC o dan amodau grant neu fenthyciad –
(i) a wneir gan y Comisiwn Coedwigaeth o dan adran 1 o Ddeddf Coedwigaeth 1979, neu
(ii) a wneir gan CNC o dan erthygl 10B o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903),
(c) a gymeradwyir gan CNC o dan amodau grant neu fenthyciad a wneir gan Lywodraeth Cymru, lle mae’r gweithrediadau yn ymwneud â chwympo neu deneuo coed, neu
(d) a gymeradwyir gan CNC fel cynllun rheoli coedwig hirdymor a ddatblygwyd gan CNC ar gyfer y sector coedwigaeth breifat, ac
mae cyfeiriad at unrhyw beth a wneir gan CNC yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw beth a wnaed gan y Comisiynwyr Coedwigaeth cyn 1 Ebrill 2013.
Cwestiwn 15: A ydych yn cytuno â'r eithriad arfaethedig sy'n ymwneud â gweithrediadau coedwigaeth fel y nodir ym mharagraff 9.32 (Dosbarth G) ?
Gwaith i atal neu leihau niwsans
9.33 Mae adran 198(6)(b) o Ddeddf 1990 yn cynnwys eithriad ar gyfer gwaith sy'n angenrheidiol er mwyn atal neu leihau niwsans. Nid yw hyn yn cael ei ailddatgan ym Mil Cynllunio (Cymru), gan fod Deddf Cynllunio 2008 yn darparu y bydd cynnwys eithriadau penodol yn fater i reoliadau ac nid deddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol.
9.34 Mae'r term niwsans yn cyfeirio at y sefyllfa lle mae coeden yn tyfu ar dir sy'n eiddo i berson A, y mae ei gwreiddiau'n ymestyn i bridd yr eiddo cyfagos sy'n eiddo i berson B, a'i changhennau i'r gofod awyr uwchben yr eiddo hwnnw. Yn ôl cyfraith gyffredin, mae gan B yr hawl i leihau y niwsans hwnnw drwy dorri'r gwreiddiau a'r canghennau yn ôl i'r ffin rhwng y ddau eiddo. Ond mae union raddau'r ymadrodd gwaith i leihau niwsans yng nghyd-destun gorchymyn cadw coed neu goetir yn ansicr, a all arwain at ddull anghyson o ymdrin â gwaith ar goed sy'n cael eu gwarchod.
9.35 Mae hefyd yn afresymegol, lle mae gwreiddiau coeden sy'n cael ei gwarchod yn achosi problemau strwythurol i adeilad cyfagos ar yr un eiddo, y bydd angen cydsyniad i wneud gwaith adfer angenrheidiol – tra gall yr eithriad ganiatáu torri coeden sy'n cael ei gwarchod ar eiddo cyfagos heb gydsyniad. Byddai'n well pe gallai'r awdurdod cynllunio benderfynu yn y ddau achos ar dderbynioldeb y gwaith arfaethedig ar sail yr angen amdano, mewn ymateb i gais, yn hytrach na methu â bod yn rhan o'r gwaith dim ond oherwydd bod y goeden yn digwydd bod ar dir cyfagos.
9.36 Yn unol â hynny, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith yn ei Bapur Ymgynghori Cyfraith Cynllunio yng Nghymru na ddylid cynnwys yr eithriad niwsans yn y rheoliadau newydd, gan y byddai hynny'n rhoi eglurder a chydbwysedd; byddai'n caniatáu i'r awdurdod ystyried ym mhob achos yr angen honedig am waith – er enghraifft, oherwydd bod coeden yn tresmasu ar draws ffin yn unig heb achosi unrhyw ddifrod sylweddol, neu oherwydd ei bod yn arwain at ymsuddiant sylweddol - yn erbyn effaith y gwaith hwnnw ar amwynder, heb ystyried perchnogaeth y goeden.
9.37 Cefnogwyd yr argymhelliad hwnnw (15-7) yn helaeth gan randdeiliaid a chefnogodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad gan y cytunwyd y byddai hyn yn darparu eglurder a chydbwysedd, gan ganiatáu i'r awdurdod cynllunio ystyried unrhyw niwsans honedig yn erbyn unrhyw effaith ar amwynder a fyddai'n codi o ganlyniad i'r gwaith adfer arfaethedig. Felly, nid ydym yn bwriadu cynnwys eithriad o'r fath yn y rheoliadau newydd.
10. Coed ardal gadwraeth: achosion lle nad oes angen rhoi hysbysiad o waith coed
10.1 Fel arfer, mae angen rhoi gwybod i'r awdurdod cynllunio am waith arfaethedig i goed mewn ardal gadwraeth nad ydynt yn destun gorchymyn cadw, er mwyn rhoi cyfle i'r awdurdod wneud gorchymyn i warchod y goeden. Ond gall rheoliadau o dan adran 212 o Ddeddf 1990 bennu achosion lle nad yw'r gofyniad hwnnw'n berthnasol.
10.2 Mae rheoliad 10 yn Rheoliadau 1999 yn nodi ar hyn o bryd nad yw'r gofyniad yn gymwys mewn perthynas â:
(a) gwaith a bennir yn adran 198(6) o Ddeddf 1990 a
(b) gwaith a bennir yn erthygl 5 o Orchymyn Enghreifftiol 1999, a
(c) gweithrediadau coedwigaeth amrywiol (fel y nodwyd ym mharagraffau 9.29 a 9.32 uchod);
(d) gwaith sydd wedi cael trwydded cwympo coed;
(e) gwaith gan neu ar ran awdurdod cynllunio; a
(f) gwaith amrywiol ar goed bach.
10.3 Mae'r categorïau (a) i (c) gyda'i gilydd yn cynnwys y gwahanol fathau o waith a bennir yn Nosbarthiadau A i F, ynghyd â gwaith sy'n angenrheidiol i atal neu leihau niwsans.
10.4 Mae categori (d) wedi'i gynnwys er mwyn osgoi'r angen am broses awdurdodi ychwanegol mewn achos lle mae CNC eisoes wedi ystyried dymunoldeb y gwaith arfaethedig.
10.5 Mae categori (f) yn cyfeirio at:
(a) torri neu ddadwreiddio coeden nad yw ei diamedr yn fwy na 75mm, neu 100mm lle mae'r gwaith i wella twf coed eraill; a
(b) brigdorri neu docio coeden nad yw ei diamedr yn fwy na 75mm.
At y diben hwn, mae diamedr coeden i'w ganfod drwy ei mesur (dros ei rhisgl) 1.5m uwchben lefel y ddaear – yn achos coeden aml-goesyn, dylid mesur y coesyn mwyaf.
10.6 Am y rhesymau a nodir ym mharagraffau 9.33 i 9.37 uchod, nid ydym yn bwriadu ailddatgan yr eithriad sy'n ymwneud â gwaith sy'n angenrheidiol i atal neu leihau niwsans. Fel arall, rydym o'r farn y dylai'r eithriadau hyn gael eu trosglwyddo i'r rheoliadau newydd - gan gofio'r pwyntiau a wnaed uchod mewn perthynas â'r gwahanol ddosbarthiadau.
Cwestiwn 16: O ran yr angen i hysbysu am waith ar goed mewn ardal gadwraeth nad ydynt yn cael eu gwarchod gan orchymyn cadw, a ydych yn ystyried bod yr eithriadau presennol yn briodol?
10.7 Mae'r eithriad yng nghategori (f) (sy'n ymwneud â gwaith ar goed bach) wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer; ond byddai gennym ddiddordeb mewn dysgu gan randdeiliaid p'un a ydynt yn ystyried bod y dimensiynau penodedig yn briodol.
Cwestiwn 17: A ydych yn ystyried bod yr eithriad sy'n ymwneud â gwaith ar goed bach mewn ardaloedd cadwraeth yn briodol?
11. Ceisiadau am gydsyniad ar gyfer gweithgareddau gwaharddedig
11.1 Pan fo angen cydsyniad i wneud gwaith i goed sy'n cael eu gwarchod, mae angen gwneud cais amdano i'r awdurdod cynllunio - y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol, neu awdurdod y parc cenedlaethol lle mae un.
11.2 Mae Rheoliadau 1999 yn darparu ar gyfer cyflwyno a phenderfynu ar geisiadau o'r fath, gan greu i bob pwrpas cyfundrefn gydsynio debyg i'r gyfundrefn sy'n llywodraethu cyflwyno a phenderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio, ond un ychydig yn symlach na'r gyfundrefn honno.
11.3 Ers 2012, mae'r darpariaethau ynghylch cyflwyno cais wedi'u cynnwys yn rheoliad 9B, a fewnosodwyd gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2012 (OS Rhif 792).
11.4 Mae'r darpariaethau o ran penderfynu ar gais wedi'u cynnwys mewn darpariaethau amrywiol yn Neddf 1990, a gymhwysir gan Atodlen 2 i Orchymyn Enghreifftiol 1999, fel a ganlyn:
(a) Deddf 1990, adran 69: cofrestr o geisiadau;
(b) Deddf 1990, adran 70(1): penderfynu ar geisiadau (coed heblaw'r rhai mewn coetiroedd); ac
(c) Deddf 1990, adran 70(1A): penderfynu ar geisiadau (coed mewn coetiroedd); a
(d) Deddf 1990, adran 75: effaith cydsyniad.
11.5 Rydym o'r farn y dylai'r rheoliadau newydd gynnwys darpariaethau sy'n cyfateb i'r rhai yn rheoliad 9B o Reoliadau 1999 a'r darpariaethau a nodwyd ym mharagraff 11.4 uchod.
Cwestiwn 18: A ydych yn ystyried bod y gweithdrefnau cydsyniad presennol o dan Reoliadau 1999 yn gweithredu'n foddhaol? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
11.6 Dylai'r rheoliadau hefyd gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gydnabod cais, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn y Gyfraith yn ei adroddiad Cyfraith Cynllunio yng Nghymru (Argymhelliad 15-10). Cafodd hyn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.
11.7 Gellir rhoi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau. Rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau ddarparu ar gyfer y mathau o amodau y gellir eu gosod, fel a ganlyn:
(a) amodau sy'n cyfyngu ar hyd y cydsyniad,
(b) amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth gan yr awdurdod cynllunio;
(c) amodau sy'n pennu i ba safon y mae'n rhaid gwneud y gwaith y rhoddwyd cydsyniad ar ei gyfer;
(d) amodau sy'n pennu y gellir gwneud y gwaith ar sawl achlysur neu o fewn cyfnod penodol yn unig, neu'r ddau;
(e) amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i blannu coed, gan gynnwys amodau ynghylch sut, ble neu bryd y bwriedir plannu; ac
(f) amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bethau gael eu gwneud, neu eu gosod, er mwyn gwarchod unrhyw goed a blannir yn unol ag amodau o fewn paragraff (e).
11.8 Rydym hefyd o'r farn y dylai fod darpariaeth, oni nodir yn wahanol mewn amod,
(a) i unrhyw gydsyniad fod yn ddilys am gyfnod o ddwy flynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddwyd y cydsyniad; a
(b) dim ond unwaith y gellir gwneud y gwaith y rhoddir cydsyniad o'r fath ar ei gyfer.
Cwestiwn 19: A ydych yn ystyried bod y rhestr o fathau o amodau y gellir eu gosod ar gydsyniad yn briodol?
11.9 Mae adran 202D(5) a (6) o Ddeddf 1990, a fewnosodwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008, yn galluogi rheoliadau i gynnwys darpariaeth y gall awdurdod sy'n rhoi cydsyniad i gwympo coeden sy'n cael ei gwarchod gan orchymyn osod y gorchymyn hwnnw ar goed newydd a blannir fel coed amnewid yn yr achos hwnnw. Nid ydym yn awgrymu y dylai'r rheoliadau gynnwys darpariaeth o'r fath, gan ein bod o'r farn ei bod yn fwy priodol i orchymyn newydd gael ei wneud o dan amgylchiadau o'r fath.
11.10 Gellir nodi bod hyn yn wahanol i'r sefyllfa sy'n codi lle gwneir gorchymyn cadw coed i warchod coed sydd i'w plannu o dan amod sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio (er enghraifft, fel rhan o'r cynllun tirlunio sy'n gysylltiedig â datblygiad tai newydd). Yn yr achos hwnnw, gellir gwneud gorchymyn i warchod y coed newydd o'r dyddiad y cânt eu plannu.
Cwestiwn 20: A ydych yn cytuno ei bod yn amhriodol ymestyn gorchymyn cadw presennol i warchod coeden newydd y mae'n ofynnol ei phlannu ac y byddai angen gwneud gorchymyn cadw newydd os yn briodol?
11.11 Mae adran 70(1B) o Ddeddf 1990, fel y'i cymhwysir gan Atodlen 2 i Orchymyn Enghreifftiol 1999, yn darparu efallai na chaniateir i gydsyniad ar gyfer gwaith ar goed mewn coetir fod yn ddarostyngedig i amod i blannu coed amnewid, ond gall cyfarwyddyd i ailblannu gyd-fynd â’r cydsyniad. Ni allwn weld gwahaniaeth rhwng y ddau, ac rydym o'r farn ei bod yn fwy syml caniatáu i gydsyniad o dan orchymyn cadw coetir fod yn ddarostyngedig i amod plannu coed amnewid (gweler paragraff 11.7(e) ac (f)). Felly, nid ydym yn ystyried bod angen darpariaeth ar wahân yn y rheoliadau newydd sy'n cyfateb i adran 70(1B).
Cwestiwn 21: A ydych yn ystyried bod angen darpariaeth sy'n galluogi awdurdod cynllunio i osod cyfarwyddyd i sicrhau coed amnewid mewn coetir, yn hytrach na gosod amod plannu coed amnewid?
12. Cyfyngiadau yn ymwneud â choedwigaeth
12.1 Mae rheoliadau cadw coed bob amser wedi cael effaith yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â choedwigaeth. Mae'r darpariaethau perthnasol i'w gweld ar hyn o bryd yn adran 15 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (ceisiadau am drwydded i gwympo coed y mae gorchymyn cadw coed yn berthnasol iddynt).
12.2 Gwnaeth Atodlen 8 i Ddeddf Cynllunio 2008 ddiwygiadau i adran 15, i adlewyrchu cyflwyno'r system newydd o orchmynion cadw coed. Cyflwynodd paragraffau 2A a 3A newydd hefyd i Atodlen 3 i Ddeddf 1967. Rhagwelir y bydd y diwygiadau hynny’n cael eu cyflwyno i bob pwrpas yng Nghymru pan fydd Bil Cynllunio (Cymru) yn dod i rym.
12.3 Pan fo gwaith ar goed sy'n cael eu gwarchod gan orchymyn cadw yn golygu bod angen trwydded cwympo coed o dan Ddeddf 1967, mae adran 15(5) yn darparu na fydd yr awdurdod cynllunio yn ystyried unrhyw gais am gydsyniad o dan y gorchymyn (o dan y system bresennol) na chydsyniad o dan y rheoliadau (o dan y system newydd). Yn hytrach, rhaid gwneud cais i'r awdurdod coedwigaeth priodol (CNC yng Nghymru) am drwydded cwympo coed. Yna mae tri posibilrwydd.
- Yn gyntaf, os yw CNC yn fodlon caniatáu'r cwympo coed, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod cynllunio o dan adran 15(1)(a), a gall yr awdurdod wedyn wrthwynebu. Os yw'r awdurdod yn gwrthwynebu, dylai CNC gyfeirio'r cynnig o dan adran 15(2)(a) at Weinidogion Cymru, sydd i ymdrin ag ef o dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref. O dan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf 1967, unwaith y bydd mewn grym yng Nghymru, mae hynny'n golygu bod rhaid iddynt benderfynu ar y cais fel pe bai'n gais am gydsyniad i gwympo coed a wnaed o dan y rheoliadau cadw coed.
- Yn ail, os nad yw CNC yn pryderu un ffordd neu'r llall, gall gyfeirio'r cais at yr awdurdod cynllunio o dan adran 15(1)(b), a bydd yr awdurdod wedyn yn ymdrin â'r cais o dan y Deddfau Cynllunio (o dan adran 15(3)(a)). O dan baragraff 3A o Atodlen 3, mae hynny'n golygu bod rhaid i'r awdurdod cynllunio benderfynu ar y cais fel pe bai'n gais o dan y rheoliadau. Yn ymarferol, anaml y dibynnir ar yr opsiwn hwn, a bydd CNC bob amser yn gwneud penderfyniad.
- Yn drydydd, os nad yw CNC yn fodlon caniatáu cwympo coed, waeth beth yw barn yr awdurdod cynllunio, bydd yn gwrthod rhoi trwydded. Byddai unrhyw gwympo coed sy'n digwydd wedyn yn anghyfreithlon, felly nid yw'r cwestiwn o gydsyniad o dan ddeddfwriaeth y gorchymyn cadw yn codi.
12.4 O dan yr hen baragraff 2 o Atodlen 3, i'w ddisodli gan baragraff 2A, roedd y Gweinidog i ymdrin â chais fel pe bai wedi'i alw i mewn o dan adran 22 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1962 – ac os nad oedd y gorchymyn perthnasol yn ymgorffori gweithdrefn galw i mewn, dylid rhagdybio ei fod yn gwneud hynny. Yr unig orchymyn enghreifftiol a oedd yn cynnwys gweithdrefn o'r fath oedd yn yr Atodlen i Reoliadau 1969 (OS 1969/17), a oedd yn cymhwyso adran 22 er mwyn darparu fel a ganlyn:
“(4) Where an application for consent is referred to the Minister under this section, the provisions of articles 4 and 5 of the order [applications for consent under the order] shall apply as they apply to an application which falls to be determined by the authority.
(5) Before determining an application referred to him under this section, the Minister shall, if either the applicant or the authority so desire, afford to each of them an opportunity of appearing before and being heard by, a person appointed by the Minister for the purpose.
(6) The decision of the Minister on an application referred to him under this section shall be final.”
12.5 Rydym o'r farn y byddai'n ddefnyddiol i'r rheoliadau gynnwys darpariaeth mewn termau tebyg, a fyddai'n gymwys pan fydd cais yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru ar ôl iddo gael ei gyfeirio atynt o dan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf 1967. Byddai darpariaeth o'r fath yn cymhwyso'r darpariaethau y cyfeirir atynt o dan y pennawd blaenorol uchod (cydsyniad ar gyfer gweithgareddau gwaharddedig).
Cwestiwn 22: A ydych yn cytuno y dylai fod darpariaeth sy'n llywodraethu'n benodol y broses o benderfynu ar gais am drwydded cwympo coed a gyfeirir at Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf Coedwigaeth?
12.6 Gellir nodi bod diwygiadau wedi'u gwneud i Ddeddf Coedwigaeth 1967 gan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, mewn perthynas â diwygio trwyddedau a roddwyd ar gyfer cwympo coed sy'n destun gorchymyn cadw coed. Fodd bynnag, nid ydynt yn berthnasol i wneud rheoliadau fel y cynigir yn y ddogfen ymgynghori hon.
13. Gwaith gan awdurdodau cynllunio
13.1 Mae gweithdrefn arbennig ar gyfer gwaith ar goed sy'n cael eu gwarchod sy'n eiddo i awdurdodau cynllunio a gwaith gan awdurdodau ar goed eraill sy'n cael eu gwarchod. Mae hyn yn sicrhau bod ceisiadau ar gyfer gwaith o'r fath yn cael cyhoeddusrwydd priodol, ac nad ydynt yn cael eu penderfynu gan y swyddog, y pwyllgor neu'r is-bwyllgor sy'n gyfrifol am reoli'r tir dan sylw, er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posibl.
13.2 Mae'r weithdrefn i'w chanfod ar hyn o bryd yn:
(a) rheoliad 11A o Reoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (OS Rhif 1492), a fewnosodwyd gan reoliad 17(c) o Reoliadau 1999: cyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau am gydsyniad ar gyfer gwaith coed gan awdurdodau cynllunio; a
(b) rheoliadau 11(2) a (3) o Reoliadau 1992, a fewnosodwyd gan reoliad 17(b) o Reoliadau 1999: penderfynu ar geisiadau o'r fath.
13.3 Rydym o'r farn y dylai'r rheoliadau newydd gynnwys darpariaethau sy'n cyfateb i'r rhain. Byddai hynny'n galluogi disodli Rheoliadau 1999 yn eu cyfanrwydd, i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru.
Cwestiwn 23: A ydych yn ystyried bod y trefniadau presennol ar gyfer ymdrin â cheisiadau gan awdurdodau cynllunio ar gyfer eu gwaith eu hunain yn gweithredu'n foddhaol? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
14. Apelau yn ymwneud â phenderfyniadau ar geisiadau am gydsyniad
14.1 Mae Rheoliadau 1999 yn datgan y gellir gwneud apêl:
(a) yn erbyn gwrthod cydsyniad ar gyfer gwaith ar goed, neu pan fo methiant i benderfynu ar gais am gydsyniad o'r fath;
(b) yn erbyn amodau y rhoddir cydsyniad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt; ac
(c) yn erbyn gwrthod cais am gymeradwyaeth sy'n ofynnol gan amod o'r fath, neu pan fo methiant i benderfynu ar gais o'r fath.
Rydym yn cyfeirio at apeliadau o'r fath fel "apelau cydsyniad coed”.
14.2 Ar hyn o bryd, mae'r darpariaethau perthnasol o ran apelau cydsyniad coed i'w gweld yn adrannau 78 a 79 o Ddeddf 1990, fel y'u cymhwysir (gyda diwygiadau) gan Atodlen 2 i Orchymyn Enghreifftiol 1999; ac mae adran 79 yn cyfeirio at adran 70(1), (1A) ac (1B) o Ddeddf 1990, fel y'i cymhwysir felly (gweler uchod). Diwygiwyd yr Atodlen honno i'r Gorchymyn Enghreifftiol yn 2017 (gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) (OS Rhif 548)).
14.3 Mae'r darpariaethau hyn, nad ydynt yn hawdd eu cyrchu, i bob pwrpas yn creu cyfundrefn apelio debyg i'r gyfundrefn apelio sy'n llywodraethu gwneud a phenderfynu ar apeliadau mewn cysylltiad â cheisiadau cynllunio, ond un ychydig yn symlach na'r gyfundrefn honno.
14.4 Credwn y dylai'r rheoliadau gynnwys darpariaethau sy'n gwneud darpariaethau cyfatebol, wedi'u haddasu i gyd-fynd â gweddill y rheoliadau (gan gynnwys, cyfeirio at orchmynion cadw coetir).
14.5 O ran y weithdrefn fanwl i'w dilyn wrth ymdrin ag apelau cydsyniad coed, hynny yw, pwnc Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau (Cymru) 2017 (OS Rhif 544). Mae'r rheoliadau hynny'n ymdrin â phob apêl o'r fath – p'un a ymdrinnir â nhw ar sail sylwadau ysgrifenedig (fel sy'n digwydd yn y mwyafrif helaeth o achosion), neu yn dilyn gwrandawiad neu ymchwiliad – gweler rheoliad 2(2)(b)(i).
14.6 Rydym o'r farn y bydd yn parhau i fod yn ddefnyddiol i bob darpariaeth o ran gweithdrefnau apelio, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â choed, fod mewn un lle. Felly, rydym yn cynnig addasu rheoliad 2(2)(b)(i) yn Rheoliadau 2017, a pharagraff (a)(vi) o'r diffiniad o ddatganiad achos llawn ("full statement of case") yn rheoliad 3, i ystyried y rheoliadau cadw coed newydd. Ond fel arall, gall y Rheoliadau hynny barhau i weithredu'n foddhaol.
Cwestiwn 24: A ydych yn ystyried bod y trefniadau presennol ar gyfer ymdrin ag apelau cydsyniad coed yn gweithredu'n foddhaol? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
15. Hawl i ddigollediad
15.1 Fel arfer, ni thelir digollediad pan wrthodir caniatâd cynllunio neu gydsyniad adeilad rhestredig. Fodd bynnag, mae'n daladwy pan wrthodir cydsyniad (neu os caiff ei roi yn ddarostyngedig i amodau andwyol) ar gyfer gwaith ar goeden sy'n ofynnol gan orchymyn cadw coed neu goetir - neu lle gwrthodir cymeradwyaeth sy'n ofynnol gan amod cydsyniad o'r fath.
15.2 Mae'r darpariaethau presennol o ran hawl i ddigollediad yn erthygl 9 o Orchymyn Enghreifftiol 1999. Ac eithrio fel y nodir isod, nid oes bwriad i newid yr egwyddorion sylfaenol. Felly, rydym o'r farn y bydd y darpariaethau o ran digollediad yn erthygl 9 yn cael eu hailddatgan yn y rheoliadau newydd, er ein bod yn cynnig gwahanu:
(a) y rhai sy’n gymwys i ddigollediad am wrthod cydsyniad ar gyfer cwympo coed o dan orchymyn cadw coed, yn erthygl 9(1) a (3) o adran 11(3)–(5) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (a gymhwysir gan erthygl 9(5)), a'r diffiniad o "perchennog" yn adran 34 o Ddeddf 1967 (a gymhwysir gan erthygl 9(6)).
(b) y darpariaethau sy'n gymwys i ddigollediad ar gyfer penderfyniadau o dan orchymyn cadw coed, yn erthygl 9(1), (2)(b), (4) a (6) (diffiniad o "gwerth datblygu").
15.3 O ran yr olaf, mae angen darpariaeth hefyd sy'n disodli adran 205 o Ddeddf 1990 (cyn ei diwygio gan Ddeddf Cynllunio 2008), mewn perthynas â digollediad am amod neu gyfarwyddyd ynghylch ailblannu coetir (gweler paragraff 11.11 uchod).
15.4 O ran y weithdrefn hawlio, rydym o'r farn y dylai hyn fod mewn rheoliad ar wahân, gan ddwyn ynghyd y darpariaethau sydd ar hyn o bryd yn adran 205 o Ddeddf 1990 (cyn ei diwygio gan Ddeddf Cynllunio 2008) ac erthygl 9(2)(a) o Orchymyn Enghreifftiol 1999.
15.5 Byddai hyn i bob pwrpas yn darparu y dylid gwneud unrhyw hawliad o fewn 12 mis i'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef, ac y dylai'r Uwch Dribiwnlys ddatrys unrhyw anghydfod sy'n deillio o hynny yn unol ag adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961.
Cwestiwn 25: A ydych o'r farn bod y darpariaethau presennol o ran yr hawl i ddigollediad, a'r weithdrefn ar gyfer hawliadau, yn gweithredu'n foddhaol? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
16. Digollediad mewn achosion yn ymwneud â thystysgrif erthygl 5
16.1 Bydd angen i'r rheoliadau newydd gynnwys darpariaeth, a fydd yn gymwys ar sail drosiannol, gan ddelio â'r hawl i ddigollediad yn yr achosion prin lle mae "tystysgrif erthygl 5" yn dal i fod mewn grym. Mae hon yn dystysgrif a arferai gael ei rhoi mewn rhai achosion:
(a) lle’r roedd angen cydsyniad o dan orchymyn cadw coed a wnaed cyn 2 Awst 1999;
(b) lle cafodd cais am gydsyniad o'r fath ei wrthod naill ai gan yr awdurdod cynllunio neu, ar apêl, gan yr Ysgrifennydd Gwladol, y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu lle cafodd ei roi yn ddarostyngedig amodau andwyol; ac
(c) wrth wneud y penderfyniad hwnnw, ardystiodd yr awdurdod neu'r Ysgrifennydd Gwladol [etc.] fod y penderfyniad wedi'i wneud:
- oherwydd bod gan y goeden dan sylw werth amwynder arbennig neu ragorol, neu
- er budd coedwigaeth dda.
16.2 Roedd yn arfer bod yn bosibl apelio yn erbyn rhoi tystysgrif o'r fath. O dan y system newydd, ni fydd darpariaeth yn y Bil ar gyfer rheoliadau i alluogi gorchymyn i gynnwys tystysgrif o'r fath. Mae’n dilyn, yn y dyfodol, na fydd tystysgrif o'r fath yn cyd-fynd ag unrhyw benderfyniadau ar geisiadau am gydsyniad, ac na fydd angen mecanwaith i apelio yn erbyn un.
16.3 Fodd bynnag, lle mae tystysgrif o'r fath wedi'i chyhoeddi ar ryw adeg yn y gorffennol, bydd mewn egwyddor yn parhau mewn grym am gyfnod amhenodol, sy'n ymddangos yn anfoddhaol. Ac am gyhyd ag y bydd tystysgrif o'r fath yn parhau mewn grym, nid oes unrhyw ddigollediad yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad ynghylch y goeden y mae'n ymwneud â hi.
16.4 Rydym o'r farn y dylai'r rheoliadau newydd gynnwys darpariaeth drosiannol:
(a) na fydd unrhyw dystysgrif a gyhoeddwyd (o dan orchymyn cyn 1999) cyn y dyddiad y daw'r rheoliadau newydd i rym ond yn parhau mewn grym am ddeuddeg mis arall ar ôl y dyddiad hwnnw; a
(b) pan fyddai hawl i ddigollediad yn codi fel arall mewn perthynas â phenderfyniad cydsyniad coed a wnaed o fewn y cyfnod 12 mis hwnnw, ni fydd y gyfundrefn ddigollediad arferol yn berthnasol.
16.5 Unwaith y bydd pob hawliad o'r fath wedi'i wneud a'i drin, gellid dirymu'r ddarpariaeth hon.
Cwestiwn 26: A ydych o'r farn bod y trefniadau trosiannol a nodir ym mharagraff 16.4 o'r ddogfen hon yn ffordd foddhaol o ymdrin ag achosion lle mae tystysgrif erthygl 5 yn parhau mewn grym o dan orchymyn cadw coed cyn 1999? A ydych yn ymwybodol o achosion sy'n cynnwys tystysgrifau o'r fath?
17. Amnewid coed
17.1 Gall y gofyniad i blannu coeden amnewid o dan rai amgylchiadau penodol gael ei orfodi drwy gyflwyno hysbysiad amnewid coed, sydd ar hyn o bryd o dan adran 207 o Ddeddf 1990 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008. Darperir hysbysiad enghreifftiol yng Nghylchlythyr 24/97 Gorfodi Rheolaeth Cynllunio: Darpariaethau Deddfwriaethol a Gofynion Gweithdrefnol. Rydym o'r farn y dylai hysbysiad amnewid ddisodli'r ffurf enghreifftiol yn y cylchlythyr a bod ar y ffurf a nodir yn Atodiad 5 i'r ddogfen hon. Cynigir y bydd ffurf enghreifftiol yn cael ei chynnwys mewn canllawiau.
Cwestiwn 27: A ydych yn cytuno â'r hysbysiad amnewid coed enghreifftiol yn Atodiad 5 i'r ddogfen hon? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
17.2 Gall rheoliadau cadw coed ragnodi'r amgylchiadau lle mae'n rhaid i goeden amnewid gael ei phlannu pan fydd coeden sy'n ddarostyngedig i orchymyn cadw coed (ond nid un sy'n ddarostyngedig i orchymyn coetir) yn cael ei symud ymaith, ei dadwreiddio neu ei dinistrio, neu'n marw.
17.3 Os yw'r eithriadau o'r angen am gydsyniad wedi'u cynnwys fel y nodir ym mharagraffau 9.6 i 9.12 uchod, bydd angen darpariaeth i'r perwyl y byddai angen coeden amnewid lle caiff coeden ei symud ymaith heb gydsyniad gan ddibynnu’n llwyr ar Ddosbarth B - a fyddai'n cadw'r sefyllfa bresennol. Mae hynny'n golygu, pan fo coeden yn cael ei thorri i lawr neu ei dadwreiddio oherwydd ei bod yn beryglus, nad yw hynny'n golygu torri'r rheoliadau, ond mae'n rhaid plannu coeden amnewid - oni bai bod yr awdurdod yn dileu'r gofyniad.
17.4 Caiff rheoliadau hefyd ragnodi'r amgylchiadau lle mae'n rhaid plannu coeden amnewid lle mae coeden mewn ardal gadwraeth nad yw'n ddarostyngedig i orchymyn cadw yn cael ei symud ymaith, ei dadwreiddio neu ei dinistrio, neu'n marw. Yma hefyd, bydd angen darpariaeth i'r perwyl y byddai angen coeden amnewid lle caiff coeden o'r fath ei symud ymaith heb rybudd gan ddibynnu’n llwyr ar Ddosbarth B - hynny yw, lle mae angen symud y goeden ymaith er mwyn dileu risg uniongyrchol o niwed difrifol.
Cwestiwn 28: A ydych yn cytuno y dylid plannu coeden amnewid lle caiff coeden sy'n destun gorchymyn cadw coed neu mewn ardal gadwraeth ei symud ymaith er mwyn dileu risg uniongyrchol o niwed difrifol? A allwch wneud sylwadau ar sut mae'r gofyniad hwn yn gweithredu'n ymarferol?
17. 5 Caiff person y cyflwynir copi o hysbysiad amnewid coeden iddo – mewn perthynas â symud ymaith coeden sydd wedi'i gwarchod gan orchymyn cadw coed neu goetir neu un sydd mewn ardal gadwraeth - apelio at Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad.
17.6 Bydd y Bil yn darparu bod nodyn esboniadol ynghylch yr hawl honno i apelio yn cael ei gynnwys gyda phob copi o hysbysiad o'r fath. Mae rheoliad 7 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017 (OS Rhif 530) yn cynnwys gofyniad o'r fath mewn perthynas â chyflwyno copi o hysbysiad gorfodi; bydd angen addasu'r rheoliad hwnnw er mwyn bod yn gymwys i hysbysiadau amnewid coed hefyd.
17.7 Mae hefyd yn darparu y gall rheoliadau nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno gydag apêl amnewid coed. Ar hyn o bryd, darperir ar gyfer hyn yn rheoliad 9 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017 (OS Rhif 530) – ac rydym o'r farn y byddai'n briodol cynnwys cyfeiriad at hynny. Fel arall, nid oes angen newid sylweddol.
17.8 O ran y weithdrefn i'w dilyn wrth ymdrin ag apelau amnewid coed, dyna destun Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) (OS Rhif 544) (gweler uchod). Yma hefyd, mae'r Rheoliadau hynny'n ymdrin â phob apêl o'r fath – p'un a ymdrinnir â nhw ar sail sylwadau ysgrifenedig, neu yn dilyn gwrandawiad neu ymchwiliad – gweler rheoliad 2(2)(e). Bydd angen addasu'r rheoliad hwnnw, a nifer o'r diffiniadau yn rheoliad 3; ond fel arall, gall y Rheoliadau hynny barhau i weithredu'n foddhaol.
Cwestiwn 29: A ydych yn ystyried bod y trefniadau presennol ar gyfer ymdrin ag apelau amnewid coed yn gweithredu'n foddhaol? A oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau?
18. Cadw cofrestrau
18.1 Mae adran 69 o Ddeddf 1990, fel y'i cymhwysir gan Atodlen 2 i Orchymyn Enghreifftiol 1999, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gadw cofrestr o geisiadau am gydsyniad (ac apelau) o dan orchmynion cadw coed.
18.2 Mae adran 214 o Ddeddf 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod hefyd gadw cofrestr o hysbysiadau o waith arfaethedig i goed mewn ardal gadwraeth. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw reoliadau wedi'u gwneud sy'n manylu ar sut y bwriedir gwneud hyn ac rydym yn bwriadu cynnwys manylion o'r fath yn y rheoliadau hyn.
18.3 Rydym o'r farn y dylai'r rheoliadau newydd gynnwys darpariaethau ar gyfer y ddau fath o gofrestr, ar gyfer gorchmynion cadw coed a choetir, gan gynnwys:
(a) a oes unrhyw gais am gydsyniad wedi dod i law neu wedi’i benderfynu i wneud gwaith ar unrhyw un o'r coed a’r grwpiau o goed hynny sydd wedi'u gwarchod felly;
(b) a wnaed unrhyw apêl mewn perthynas ag unrhyw gais o’r fath; ac
(c) pan fo'r tir yn y cyfeiriad hwnnw mewn ardal gadwraeth, a oes unrhyw hysbysiad wedi dod i law o unrhyw gynnig i wneud gwaith i unrhyw goeden ar y tir sydd mewn ardal gadwraeth nad yw’n cael ei gwarchod gan orchymyn cadw.
Cwestiwn 30: A ydych yn cytuno y dylai rheoliadau gynnwys manylion hysbysiad o waith arfaethedig i goed mewn ardal gadwraeth yn ogystal â'r manylion a amlinellir ym mharagraff 18.3?
Cwestiwn 31: A allwch roi manylion ynghylch sut mae cofrestrau'n cael eu cynnal yn ymarferol?
19. Dirymu'r rheoliadau presennol
19.1 Bydd angen dirymu'r rheoliadau canlynol:
(a) rheoliadau 11(2), 11(3) ac 11A o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (OS Rhif 1492), i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru (gweler paragraffau 13.2 a 13.3 uchod);
(b) Rheoliadau 1999 (OS Rhif 1892) (ac eithrio y bydd rheoliad 17 yn parhau i fod yn gymwys yn Lloegr);
(c) Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2012 (OS Rhif 792); a
(d) Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2017 (OS Rhif 548).
19.2 Ni fydd y dirymiadau hyn yn effeithio ar ddilysrwydd parhaus unrhyw orchymyn cadw coed sydd wedi’i wneud o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Interim) 1943, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1962, Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Cadw Coed) 1969, neu Reoliadau 1999 – neu faint o warchodaeth a roddir i unrhyw goeden sy'n cael ei gwarchod ar hyn o bryd gan orchymyn o'r fath. Ond bydd hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau canlyniadol i’w cyflwyno ochr yn ochr â’r Bil newydd, gan gynnwys disodli adran 193 o Ddeddf Cynllunio 2008.
19.3 Bydd angen darpariaeth drosiannol sy'n ymdrin â gorchmynion dros dro a wneir o dan y system bresennol sydd heb eu cadarnhau ar y dyddiad y daw'r system newydd i rym, er mwyn sicrhau nad ydynt yn dirwyn i ben.
19.4 Ni fydd y dirymiadau hyn yn effeithio ar brosesu ceisiadau am gydsyniad ac apelau o dan ddarpariaethau unrhyw orchymyn o dan ddeddfwriaeth hŷn. Hefyd, gweler rhan 16 uchod ynghylch yr angen am ddarpariaeth drosiannol sy'n ymdrin â'r hawl i ddigollediad mewn achosion sy'n ymwneud â thystysgrifau erthygl 5.
20. Canllawiau
20.1 Bydd angen diweddaru a disodli canllawiau cysylltiedig i adlewyrchu'r rheoliadau hyn.
Cwestiwn 32: Beth, yn eich barn chi, y dylid ei gadw neu ei ddisodli o fewn y canllawiau presennol (gweler Atodiad 2)?
21. Asesiadau Effaith
21.1 Bydd y rheoliadau newydd yn cael eu cefnogi gan asesiadau effaith gan gynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae'r cynigion yn y ddogfen ymgynghori hon yn debyg yn fras i'r rhai a wnaed yn Lloegr ar gyfer Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cadw Coed) (Lloegr) 2012 (OS Rhif 605). Nododd yr asesiad effaith ategol ar gyfer y rheoliadau hynny fod swyddogaeth coed awdurdod lleol yn cyfrif am tua 3% o gyfanswm y swyddogaeth gynllunio. Yna defnyddiwyd hyn i lywio'r cyfrifiadau manwl ar gyfer y newidiadau. Cynigir defnyddio'r un amcangyfrif o'r gost ar gyfer y swyddogaeth coed yng Nghymru a chyfrifo cost y newidiadau ar sail hyn.
21.2 Dylid nodi y gall canlyniad yr ymgynghoriad presennol ar wella cadernid a pherfformiad awdurdodau cynllunio (gweler paragraff 1.8) hefyd effeithio ar y gwaith hwn, a bydd yn cael ei adolygu’n gyson.
Cwestiwn 33: A ydych yn cytuno â'r dull arfaethedig o gyfrifo effaith cost y newidiadau? Os na, a allech ddarparu tystiolaeth ynghylch cost y swyddogaethau coed ar gyfer awdurdodau cynllunio yng Nghymru.
22. Effaith ar y Gymraeg
22.1 Bydd y rheoliadau newydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd hyn yn gwella eu hygyrchedd i bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw effeithiau tebygol eraill, yn gadarnhaol neu'n negyddol, ar y Gymraeg. Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 34: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r 'Cadw coed a choetiroedd: rheoliadau newydd' yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai? Sut y gellid gynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol?
Cwestiwn 35: Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y polisi arfaethedig 'Cadw coed a choetiroedd: rheoliadau newydd' gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a peidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
23. Pwyntiau eraill
23.1 Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau i'w gwneud am faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw yn benodol, byddem yn falch o'u derbyn.
Atodiad 1: deunydd deddfwriaethol perthnasol
A. Deddfwriaeth sylfaenol bresennol yng Nghymru:
- Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Rhan 8, Pennod 1, fel y mae'n gymwys yng Nghymru ar hyn o bryd
- Deddf Cynllunio 2008, adrannau 192, 193 (yn gymwys yng Nghymru a Lloegr, ond nid yw mewn grym yng Nghymru eto)
B. Is-ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru:
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (OS 1892), fel y maent yn gymwys yng Nghymru ar hyn o bryd (yn dilyn eu diwygio gan OS 2012/792, a 2017/548)
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 (OS 544)
C. Cynigion ar gyfer newid:
- Adroddiad Comisiwn y Gyfraith Cyfraith Cynllunio yng Nghymru, Tachwedd 2018, HC 1788, Pennod 15 (Coed a Choetir Gwarchodedig)
- Ymateb manwl Llywodraeth Cymru i argymhellion Comisiwn y Gyfraith, Tachwedd 2020
D. Deddfwriaeth sylfaenol arfaethedig yng Nghymru:
- Bil Cynllunio (Cymru) [20XX], (Cadw Coed a Choetir)
E. Is-ddeddfwriaeth yn Lloegr:
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cadw Coed) (Lloegr) 2012 (OS 605)
F. Deddfwriaeth berthnasol arall
- Deddf Coedwigaeth 1967 (yn enwedig adran 15), a gymhwyswyd yn wreiddiol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- Mae Gorchymyn Cyfoeth Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (OS 755), yn diwygio Deddf 1967 yng Nghymru
- Gorchymyn Deddf Coedwigaeth a Rheoli Tir (Yr Alban) 2018 (Darpariaethau Canlyniadol ac Addasiadau) 2019 (OS 734), yn diwygio Deddf 1967 yng Nghymru a Lloegr
Atodiad 2: deunydd polisi perthnasol
A. Canllawiau presennol:
- Polisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 12, Chwefror 2024 (yn enwedig paragraffau 6.4.15 i 6.4.17, Y Dull Fesul Cam, a pharagraffau 6.4.33 i 6.4.44, Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd)
- Y Swyddfa Gymreig Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 10, Gorchmynion Gwarchod Coed, Hydref 1997
- Coed wedi’u Gwarchod: Canllawiau ar orchmynion diogelu coed, 2017
B. Cylchlythyrau:
- Y Swyddfa Gymreig Cylchlythyr 64/78, Coed a Choedwigaeth, 3 Mai 1978
- Y Swyddfa Gymreig Cylchlythyr 61/92, Strategaethau Coedwigaeth Dangosol, 15 Rhagfyr 1992
- Y Swyddfa Gymreig Cylchlythyr 24/97, Gorfodi Rheolaeth Cynllunio: Darpariaethau Deddfwriaethol a Gofynion Gweithdrefnol, 31 Rhagfyr 1997 (Atodiad 2, paragraffau 2.58 i 2.66 ac Atodiad 4; Atodiad 6, paragraffau 6.15 i 6.19)
C. Canllawiau gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar goetiroedd a choedwigoedd
Atodiad 3: ffurf gorchymyn cadw coed
Deddf Cynllunio (Cymru) [20XX]
[Teitl y Gorchymyn (gan gynnwys y flwyddyn)]
Mae [enw awdurdod cynllunio], drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan [adran [XXX(1)] o Ddeddf Cynllunio (Cymru) [20XX] ("y Ddeddf") yn gwneud y Gorchymyn canlynol—
Enw
- Enw’ Gorchymyn hwn yw [teitl y Gorchymyn (gan gynnwys y flwyddyn)].
Dehongli
(1) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "yr Awdurdod" yw [enw'r awdurdod cynllunio sy'n gwneud y Gorchymyn].
(2) Yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran â’r rhif hwnnw yn Neddf Cynllunio (Cymru) [20XX] ac mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad â’r rhif hwnnw yn Rheoliadau Cynllunio (Cymru) (Cadw Coed) [20XX].
Effect
—(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod i rym dros dro am [nodwch amser] ar y dyddiad y'i gwneir, ac eithrio mewn perthynas â choeden y mae erthygl 4 yn gymwys iddi.
(2) Ni fydd unrhyw berson—
- yn torri, yn brigdorri, yn tocio, yn dadwreiddio, yn difrodi'n fwriadol, neu’n dinistrio'n fwriadol unrhyw goeden a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw goeden mewn grŵp o goed neu mewn unrhyw ardal a nodir felly; neu
- yn achosi neu’n caniatáu torri, brigdorri, tocio, difrodi'n fwriadol neu ddinistrio'n fwriadol mewn perthynas ag unrhyw goeden o'r fath,
ac eithrio gyda chydsyniad ysgrifenedig yr Awdurdod yn unol â [Rhan - X o Reoliadau Cynllunio (Cadw Coed) (Cymru) 20XX] ("y Rheoliadau"), neu Weinidogion Cymru yn unol â [Rhan X] o'r Rheoliadau, a, phan roddir cydsyniad o'r fath yn ddarostyngedig i amodau, yn unol â'r amodau hynny.
(3) Ni fydd is-baragraff (2) yn berthnasol i gyflawni gwaith yn unrhyw un o'r dosbarthiadau gwaith a bennir yn [Atodlen X] i'r Rheoliadau.
[Cais i blannu coed yn unol ag amod
- Mewn perthynas ag unrhyw goeden a nodir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen gan y llythyren "C", sef coeden i'w phlannu yn unol ag amod a osodwyd o dan [baragraff (a) o adran XXX] o'r Ddeddf (caniatâd cynllunio i gynnwys darpariaeth briodol ar gyfer cadw a phlannu coed), daw'r Gorchymyn hwn i rym o'r adeg pan gaiff y goeden ei phlannu.]
Dyddiedig [nodwch ddyddiad y Gorchymyn] diwrnod [mis a blwyddyn]
[Os yw rheolau sefydlog yr awdurdod cynllunio yn gofyn am selio dogfennau o'r fath:]
Gosodwyd Sêl Gyffredin [enw'r awdurdod cynllunio] i'r Gorchymyn hwn ym mhresenoldeb
……………………………………]
[Os nad yw rheolau sefydlog yr awdurdod cynllunio yn gofyn am selio dogfennau o'r fath:]
[Llofnodwyd ar ran [enw'r awdurdod cynllunio]
……………………………………...
Awdurdodwyd gan yr Awdurdod i lofnodi ar ei ran]
[Cadarnhau Gorchymyn
Cadarnhawyd y Gorchymyn hwn gan [enw'r awdurdod cynllunio] heb addasiadau ar [dyddiad y cadarnhad] o [mis a blwyddyn]
Erthygl 3(2), 4
ATODLEN
MANYLEB COED
Coed wedi'u nodi'n unigol (gyda chylch du amdanynt ar y map)
Cyfeirnod ar y map | Disgrifiad | Sefyllfa |
---|---|---|
[T1] | [onnen] | [cwblhewch os oes angen i nodi lleoliad y coed yn fwy manwl gywir] |
Grwpiau o goed (o fewn llinell ddu doredig ar y map)
Cyfeirnod ar y map | Disgrifiad (gan gynnwys nifer y coed o bob rhywogaeth yn y grŵp) | Sefyllfa |
---|---|---|
[G1] | [2 goeden onnen, 3 coeden fedwen a 3 coeden dderwen] | [cwblhewch os oes angen i nodi lleoliad y coed yn fwy manwl gywir] |
Coed a bennir drwy gyfeirio at ardal (o fewn llinell ddu ddotiog ar y map)
Cyfeirnod ar y map | Disgrifiad | Sefyllfa |
---|---|---|
[A1] | [coed (o ba bynnag rywogaethau) o fewn yr ardal sydd wedi ei marcio’n A1 ar y map] | [cwblhewch os oes angen i nodi lleoliad y coed yn fwy manwl gywir] |
[A2] | [y coed ynn, ffawydd, llarwydd a derw o fewn yr ardal sydd wedi ei marcio’n A2 ar y map] | [cwblhewch os oes angen i nodi lleoliad y coed yn fwy manwl gywir] |
MAP YN DANGOS LLEOLIAD COED
Atodiad 4: ffurf gorchymyn cadw coed coetir
Deddf Cynllunio (Cymru) [20XX]
[Teitl y Gorchymyn (gan gynnwys y flwyddyn)]
Mae [enw'r awdurdod cynllunio], drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan [adran [XXX(1)] o Ddeddf Cynllunio (Cymru) [20XX] ("y Ddeddf") yn gwneud y Gorchymyn canlynol—
Enw
- Enw’r Gorchymyn hwn yw [teitl y Gorchymyn (gan gynnwys y flwyddyn)].
Dehongliad
(1) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "yr Awdurdod" yw [enw'r awdurdod cynllunio sy'n gwneud y Gorchymyn].
(2) Yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran â’r rhif hwnnw yn Neddf Cynllunio (Cymru) [20XX] ac mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad â’r rhif hwnnw yn Rheoliadau Cynllunio (Cymru) (Cadw Coed) [20XX].
Effaith
—(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod i rym dros dro am [nodwchamser] ar y dyddiad y'i gwneir, ac eithrio mewn perthynas â choeden y mae erthygl 4 yn gymwys.
(2) Ni fydd unrhyw berson—
- yn torri, yn brigdorri, yn tocio, yn dadwreiddio, yn difrodi'n fwriadol, neu’n dinistrio'n fwriadol unrhyw goeden mewn unrhyw goetir a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; neu
- yn achosi neu’n caniatáu torri, brigdorri, tocio, difrodi'n fwriadol neu ddinistrio'n fwriadol unrhyw goeden o'r fath
ac eithrio gyda chydsyniad ysgrifenedig yr Awdurdod yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Cynllunio (Cadw Coed) (Cymru) 20XX] ("y Rheoliadau"), neu Weinidogion Cymru yn unol â Rhan 5 o'r Rheoliadau, a, lle rhoddir cydsyniad o'r fath yn ddarostyngedig i amodau, yn unol â'r amodau hynny.
(3) Ond ni fydd is-baragraff (2) yn gymwys i gyflawni gwaith yn unrhyw un o'r dosbarthiadau gwaith a bennir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau.
[Cais i blannu coed yn unol ag amod
- Mewn perthynas ag unrhyw goeden a nodir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen gan y llythyren "C", sef coeden i'w phlannu yn unol ag amod a osodir o dan [baragraff (a) o adran XXX] o'r Ddeddf (caniatâd cynllunio i gynnwys darpariaeth briodol ar gyfer cadw a phlannu coed), daw'r Gorchymyn hwn i rym o'r adeg pan gaiff y goeden ei phlannu.]
Dyddiedig [nodwch ddyddiad y Gorchymyn] diwrnod [mis a blwyddyn]
[Os yw rheolau sefydlog yr awdurdod cynllunio yn gofyn am selio dogfennau o'r fath:]
Y Sêl Gyffredin [enw'r awdurdod cynllunio]
Wedi'i osod i'r Gorchymyn hwn ym mhresenoldeb —
……………………………………]
[Os nad yw rheolau sefydlog yr awdurdod cynllunio yn gofyn am selio dogfennau o'r fath:]
[Llofnodwyd ar ran [enw'r awdurdod cynllunio]
……………………………………...
Awdurdodwyd gan yr Awdurdod i lofnodi ar ei ran]
[Cadarnhad o orchymyn
[Cadarnhawyd y Gorchymyn hwn gan [enw'r awdurdod cynllunio] heb addasiadau ar [dyddiad y cadarnhad] o [mis a blwyddyn]
Erthyglau 3(2), 4
ATODLEN
MANYLEB COED
Coetiroedd (o fewn llinell ddu barhaus ar y map)
Cyfeirnod ar y map | Disgrifiad | Sefyllfa |
---|---|---|
[W1] | [pren caled cymysg (derw, ynn a gwern yn bennaf)] | [cwblhewch os oes angen i nodi lleoliad y coed yn fwy manwl gywir] |
[W2] | [conwydd a choed collddail (pinwydd a bedw yn bennaf)] | [cwblhewch os oes angen i nodi lleoliad y coed yn fwy manwl gywir] |
MAP YN DANGOS LLEOLIAD COED
Atodiad 5: ffurf hysbysiad amnewid coed
Pwysig – mae'r hysbysiad hwn yn effeithio ar eich eiddo
Deddf Cynllunio (Cymru) [20XX], adran XXX
Hysbysiad AMNEWID Coed
Hysbysiad amnewid coed - model
Gorchymyn Cadw Coed / Gorchymyn Cadw Coetir: [lle bo'n briodol, rhowch deitl y gorchymyn (gan gynnwys y flwyddyn)]
Cyhoeddwyd gan: [Rhowch enw'r awdurdod cynllunio]
Mae'r hysbysiad hwn yn cael ei gyflwyno gan [rhowch enw'r awdurdod cynllunio] ("yr Awdurdod") o dan adran XXX o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 20XX ("y Ddeddf") am ei bod yn ymddangos iddo:-
[nad ydych wedi cydymffurfio â dyletswydd i blannu [coeden/coed] o dan adran XXX o'r Ddeddf.]
[nad ydych wedi cydymffurfio ag amod o'r caniatâd a roddwyd o dan y gorchymyn cadw [coeden] [coetir] uchod sy'n ei gwneud yn ofynnol plannu [coeden newydd] [rhowch nifer y coed] [o goed newydd.]
[nad ydych wedi cydymffurfio â dyletswydd i blannu [coeden][coed] mewn ardal gadwraeth o dan adran XXX o'r Ddeddf.]
- Yr ardal y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi
Tir yn [rhowch gyfeiriad y tir], a ddangosir o fewn ymyl goch ar y plan atodedig.
- Rhesymau dros gyflwyno'r hysbysiad hwn
[Ar neu o'i gwmpas [rhowch ddyddiad], cafodd [rhowch fanylion y goeden/coed] a ddiogelir gan y gorchymyn cadw [coed] [coetir] uchod [ei thorri] [eu torri] i lawr am y rheswm bod gwneud hynny'n angenrheidiol i ddileu'r risg byw y [gallai] [gallent] achosi niwed difrifol. O dan adran xxx o'r Ddeddf mae perchennog y tir o dan ddyletswydd i blannu coeden arall. Ymddengys i'r Awdurdod na chydymffurfiwyd â'r ddyletswydd hon.]
[Ar [ddyddiad], rhoddodd yr Awdurdod ganiatâd i gwympo [rhowch fanylion y goeden neu'r coed] a ddiogelir gan y gorchymyn cadw [coeden] [coetir] uchod, yn amodol ar amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i blannu [coeden newydd] [rhowch nifer] o goed] [rhowch fanylion yr amod]. Ymddengys i'r Awdurdod na chydymffurfiwyd â'r amod hwn.]
[Ar neu o gwmpas [dyddiad], cafodd [rhowch fanylion y goeden/coed] a leolir yn [teitl yr ardal gadwraeth] [ei] [eu] gwaredu, yn groes i adran xxx o'r Ddeddf. O dan adran XXX o'r Ddeddf mae perchennog y tir o dan ddyletswydd i blannu [coeden newydd][coed newydd]. Ymddengys i'r Awdurdod na chydymffurfiwyd â'r ddyletswydd hon.]
[Yna nodwch unrhyw gefndir perthnasol sy'n arwain at benderfyniad yr awdurdod cynllunio i gyhoeddi'r hysbysiad (e.e. cyfeiriadau at ohebiaeth gyda pherchennog y tir).]
- Yr hyn y mae'n ofynnol i chi ei wneud
Mae'n ofynnol i chi blannu [nifer, rhywogaeth a maint y goeden/coed i'w phlannu/plannu] yn y lleoliad(au) a ddangosir ar yr Atodlen i'r hysbysiad hwn.
- Amser ar gyfer cydymffurfio
[Rhowch nifer] o fisoedd o'r dyddiad a nodir ym mharagraff 6 isod
- Pryd bydd yr hysbysiad hwn yn cael effaith
Mae'r hysbysiad hwn yn dod i rym ar [nodwch y dyddiad, rhaid iddo fod yn ddim llai na 28 diwrnod clir ar ôl dyddiad cyflwyno copïau], oni bai bod apêl yn cael ei gwneud yn ei erbyn cyn hynny.
- Eich hawl i apelio
Gallwch apelio yn erbyn yr hysbysiad hwn, ond rhaid i'r apêl gael ei derbyn, ei phostio mewn pryd i gael ei derbyn neu ei hanfon yn electronig i gael ei derbyn, gan Weinidogion Cymru cyn y dyddiad hwnnw a bennir ym mharagraff 6 o'r Hysbysiad. Ceir apelio ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau canlynol—
- Nad yw darpariaethau'r ddyletswydd i amnewid coed neu'r amodau cydsynio sy'n gofyn am amnewid coeden/coed, yn gymwys neu'ch bod wedi cydymffurfio â nhw;
- Yn holl amgylchiadau'r achos, dylai'r ddyletswydd i amnewid coed gael ei hepgor mewn perthynas ag unrhyw goeden neu goed;
- Bod gofynion yr hysbysiad yn afresymol mewn perthynas â'r cyfnod y mae'r gwaith i'w wneud ynddo neu faint o goed neu rywogaethau'r coed a nodir ynddo;
- Nad oes angen plannu coeden neu goed yn unol â’r hysbysiad er budd amwynder neu y byddai gwneud hynny’n groes o ran arfer coedwigaeth dda;
- Bod y man lle mae gofyn plannu’r goeden neu’r coed yn anaddas at y diben hwnnw.
Rhaid i chi hefyd nodi'r ffeithiau y mae eich apêl yn seiliedig arnynt.
- Peidio â chydymffurfio
Os na fyddwch yn cydymffurfio â'r hysbysiad hwn, gall yr Awdurdod fynd ar y tir, plannu'r goeden neu'r coed ac adennill oddi wrthych chi unrhyw gostau rhesymol a ysgwyddir. Mae person sy'n rhwystro rhywun sydd â'r Awdurdod i arfer y pŵer hwnnw yn cyflawni trosedd, a gellir ei gosbi trwy ddirwy o hyd at Lefel 3.
- Cyngor
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn neu os hoffech gael cyngor ar sut i gydymffurfio ag ef, cysylltwch â [enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad a rhif ffôn swyddog priodol yr Awdurdod Cynllunio].
Dyddiedig y [rhowch ddyddiad yr Hysbysiad] dydd o fis [rhowch y mis a'r flwyddyn]
[Os yw rheolau sefydlog yr awdurdod cynllunio yn gwneud selio dogfennau o’r fath yn ofynnol:]
Gosodwyd Sêl Gyffredin [rhowch enw'r awdurdod cynllunio] ar yr Hysbysiad hwn ym mhresenoldeb
……………………………………]
[Os nad yw rheolau sefydlog yr awdurdod cynllunio yn gwneud selio dogfennau o’r fath yn ofynnol:]
[Llofnodwyd ar ran [rhowch enw’r awdurdod cynllunio]
……………………………………...
Awdurdodwyd gan yr Awdurdod i lofnodi yn y cyswllt hwnnw]
YR ATODLEN
MANYLION Y COED I'W PLANNU
MAP YN DANGOS LLEOLIAD Y COED I'W PLANNU
Sut i ymateb
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 15 Chwefror 2025, a gallwch ymateb yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- drwy e-bost: dylech gwblhau'r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad a’i hanfon i: planconsultations-g@llyw.cymru. Dylech gynnwys "Rheoliadau Coed – WG50523" yn llinell pwnc eich e-bost.
- drwy’r post: dylech gwblhau'r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad a’i hanfon i:
Ymgynghoriad Rheoliadau Coed,
Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NQ.
Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan y staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru’n cael eu cadw am ddim mwy na tair blynedd.
Eich hawliau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Manylion cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth:
- drwy e-bost: planconsultations-g@llyw.cymru
- dros y ffôn: Gemma Wheeler ar 0300 025 6657
Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd.