Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James wedi cyhoeddi heddiw fod Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydol Arfordirol, Martin Buckle, wedi cael ei ailbenodi am dair blynedd arall.
Cafodd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ei sefydlu yn 2017. Mae’n darparu cyngor ar bob agwedd ar reoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, ac mae’n cefnogi Gweinidogion Cymru a phob awdurdod rheoli risg yng Nghymru.
Yn dilyn cyfnod llwyddiannus, yn ystod adeg hynod heriol, mae Cadeirydd y Pwyllgor, Martin Buckle, wedi adeiladu perthynas weithio gref ag aelodau’r Pwyllgor a llu o randdeiliaid ehangach.
Yn ystod ei dymor yn y swydd, mae Mr Buckle wedi sefydlu dau is-bwyllgor i ganolbwyntio ar welliannau penodol, sy’n adlewyrchu i awydd i reoli risg llifogydd ac erydu arfordirol yn unol â’r cyfeiriad a bennir gan Weinidogion Cymru.
Felly roedd aelodau’r Pwyllgor yn canmol ei waith yn unfryd, ac mae wedi cael ei ailbenodi i wasanaethu tan fis Awst 2025.
Mae tystiolaeth o lefel anhygoel y gwaith sy’n cael ei wneud i’w gweld yn y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a hefyd drwy fonitro a chyflawni cynllun gwaith y Pwyllgor.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
Wrth i’r hinsawdd newid, rydyn ni’n delio â thywydd sy’n gynyddol anodd ei ragweld drwy gydol y flwyddyn, ac mae hyn yn cynyddu’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol.
O ystyried y bygythiad hwn, rwyf wrth fy mod bod Martin Buckle, gyda’i wybodaeth a’i arbenigedd, wedi cytuno i gadeirio’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Drwy’r gwaith pwysig a gynhaliwyd yn ystod ei dymor blaenorol, mae wedi dangos ei allu i gyflawni blaenoriaethau fel lleihau’r risg i gartrefi a busnesau yn wyneb llifogydd mwy rheolaidd a mwy difrifol, lefelau môr sy’n codi ac erydu cyflymach ar yr arfordir.