Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cadarnhau bod Kevin Roberts wedi ei benodi fel Cadeirydd Hybu Cig Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Meddai Lesley Griffiths:

“Dwi’n falch bod Kevin wedi derbyn fy ngwahoddiad i fod yn Gadeirydd Bwrdd Hybu Cig Cymru. Roedd yna sawl ymgeisydd cryf.

“Mae diwydiant cig coch Cymru yn wynebu heriau mawr yn y blynyddoedd nesaf wrth inni gynllunio ar gyfer dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.  Rydym yn gwybod bod Kevin yn ymgeisydd eithriadol ac yn rhywun fydd yn gallu llwyio HCC drwy yr hyn fydd, heb amheuaeth, yn gyfnod anodd.  

“Dwi’n hyderus y bydd gan y Bwrdd newydd, o dan arweinyddiaeth Kevin, y cyfuniad iawn o wybodaeth a phrofiad i weithio ochr yn ochr â swyddogion gweithredol HCC i ddod o hyd i atebion arloesol ac effeithiol i’r heriau sydd o’n blaenau, tra’n manteisio i’r eithaf ar bosibiliadau newydd i hyrwyddo cynnyrch cig coch eiconig Cymru.”    

Bydd Kevin Roberts bellach yn derbyn swydd Cadeirydd parhaol, wedi iddo wneud y gwaith dros dro yn dilyn penodi Bwrdd newydd HCC yn ddiweddarach eleni.  

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Yn yr amser byr ers i Kevin ddechrau ar ei waith dros dro, mae wedi bod yn Gadeirydd hynod boblogaidd ac effeithiol a dwi’n siwr y bydd hyn yn parhau yn y blynyddoedd a ddaw.  

Bywgraffiad Kevin Roberts

Mae Kevin yn gyfrifydd cymwysedig sydd wedi cael sawl swydd yn y sector amaethyddol ers gadael y sector preifat yn 1993.

Bu’n Gyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Cig a Da Byw rhwng 2002 a 2007 a gweithiodd gyda’r Llywodraeth i uno pob bwrdd ardoll i ffurfio un corff o’r enw Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB). Ar ôl hynny, Kevin oedd Prif Weithredwr cyntaf AHDB, cyn ymuno â’r NFU fel Cyfarwyddwr Cyffredinol tan 2013.

Ers bod yn hunangyflogedig, mae Kevin wedi cael sawl swydd anweithredol ac wedi ymgymryd â gwaith i Lywodraeth Cymru yn cynnwys Adolygiad o Gadernid Ffermio yng Nghymru ac Adolygiad o Hybu Cig Cymru (HCC).

Kevin yw Cadeirydd annibynnol Amaeth Cymru, mae’n aelod o Fforwm Ford Gron Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ac mae o hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori y Prif Weinidog.