Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mutale Merrill, OBE, wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi'r gorau i'w swydd er mwyn rhoi amser i'w holynydd reoli'r cyfnod pontio i gorff Llais y Dinesydd newydd ar gyfer Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd ei phenodi ym mis Tachwedd 2015, ac mae'n bwriadu gadael ei swydd erbyn 30 Tachwedd oherwydd cyfuniad o ymrwymiadau gwaith eraill a rhesymau personol. 

Dywedodd Mutale Merrill: 

“Ar adeg pan fydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i sefydlu corff Llais y Dinesydd newydd ar gyfer Cymru, dylai rôl y Cadeirydd gael ei chyflawni gan rywun sy'n gallu arwain Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru drwy'r cyfnod pontio, sy'n ymestyn y tu hwnt i fy nhymor presennol yn y swydd. 

Hoffwn ddymuno'n dda i fy olynydd yn ystod yr amser pwysig hwn, a byddwn yn hapus i siarad ag unrhyw ddarpar ymgeiswyr ynghylch y rôl.” 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Mutale am y cyfraniad enfawr mae hi wedi'i wneud yn ystod y tair blynedd diwethaf o ran amddiffyn a chryfhau Cynghorau Iechyd Cymuned ar draws Cymru a sicrhau eu bod mewn sefyllfa i allu manteisio ar y newidiadau a'r gwelliannau sydd o'n blaenau. Dw i'n gwybod bod Mutale wedi mwynhau ei hamser yn y swydd, a hoffwn ddymuno'n dda iddi yn y dyfodol.”

Mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio Cadeirydd newydd drwy'r broses Penodiadau Cyhoeddus. Mae taliadau cydnabyddiaeth ar gyfer cyflawni'r swydd hon, a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Tachwedd 2018.