Mae Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cadarnhau y llwybr a ffefrir ar gyfer gwelliannau rhwng Cylchdro Penblewin a Redstone Cross ar yr A40.
Byddai’r cynnig – Opsiwn 2B – yn cael ei adeiladu am gost a amcangyfrifir fydd yn £20 miliwn. Byddai’n rhoi darpariaethau ychwanegol i oddiweddu ar yr A40 i gyfeiriad y dwyrain a’r gorllewin, gyda lonydd modern ar ffurf “2+1”.
Byddai hefyd yn cynnwys darparu trosbont ar y B4313, a fyddai’n cynnal y cysylltiad lleol rhwng y gogledd a’r de ac yn gwella diogelwch. Mae llwybr a rennir newydd ar gyfer beicwyr a cherddwyr yn cael ei ystyried er mwyn annog teithio llesol.
Mae’r penderfyniad yn dilyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus wyth wythnos o fis Gorffennaf i fis Medi eleni, pan gafodd Opsiwn 2B y gefnogaeth fwyaf. Bydd modd i drigolion lleol ddod i wybod mwy am y cynllun mewn arddangosfa gwybodaeth i’r cyhoedd ar 16 Rhagfyr, i’w chynnal yn Neuadd y Frenhines, Arberth rhwng 12:00 i 20:00.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
Wrth wneud y penderfyniad hwn rydym wedi gwrando yn ofalus ar drigolion lleol ac yn credu y byddai’r gwelliannau arfaethedig yn sicrhau manteision gwirioneddol. Byddai’r cynigion yn sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd yn fwy cadarn, yn gwneud teithiau yn gynt ac yn fwy dibynadwy a diogel.
Mae’r cynllun cyntaf, sy’n ystyried materion amgylcheddol a pherianyddol yn fanylach, yn parhau i gael ei ddatblygu a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i barhau i fod yn rhan o’r broses.