Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig heddiw (dydd Mawrth 8 Hydref) fod Syr David Henshaw wedi'i gadarnhau’n gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru - mae'n cyflogi 1,900 o staff ar draws Cymru ac mae ganddo gyllideb o £180 miliwn.

Syr David Henshaw yw cadeirydd dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd ac mae wedi bod yn ei swydd ers 1 Tachwedd 2018. Bydd Syr David yn ysgwyddo rôl Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 1 Tachwedd 2019.

Gan gadarnhau penodiad Syr David, dywedodd Lesley Griffiths:

“Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reoli, cynnal a defnyddio adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Rwy'n rhoi cryn bwys ar ei rôl a'r gwaith mae'n ei wneud.  

"Rwy'n falch i gadarnhau bod Syr David wedi’i benodi’n Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.  Mae gan Syr David gefndir o lwyddiant blaenorol o ran darparu arweinyddiaeth gref a thrawsnewid ar lefel Bwrdd. Bydd ei benodiad yn ei gwneud hi'n bosibl i'r sefydliad barhau i adeiladu ar y cynnydd da a wnaed ers ei benodi’n Gadeirydd dros dro."

Dywedodd Syr David Henshaw, cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rwy'n falch i gael fy mhenodi’n gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Pan wnes i ysgwyddo'r rôl o fod yn gadeirydd dros dro ym mis Tachwedd 2018 fy mwriad oedd i helpu'r sefydliad i ailadeiladu yn sgil rai o'r heriau ac yna trosglwyddo’r awenau i olynydd. Ond newidiodd hynny wrth i mi ddod i adnabod y sefydliad yn well.

"Angerdd, ymroddiad ac arbenigedd staff, pwysigrwydd y rôl y gallwn ni ei chwarae o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd ac argyfyngau amgylcheddol; a dealltwriaeth ddyfnach o'n llwyddiannau a'n gallu i wella presennol a dyfodol Cymru. Mae'r rhain yn rhesymau cryf pam roeddwn i'n dymuno aros yn hirach. 

"Mae llawer o waith i'w wneud o hyd, ond rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r swydd rwyf wedi dechrau arni, gan arwain y Bwrdd i gefnogi'r prif weithredwr a'i thîm i adeiladu llwyddiant Cyfoeth Naturiol Cymru."

Dywedodd Clare Pillman, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rwy'n falch iawn y bydd Syr David yn parhau fel ein cadeirydd, gan weithio gyda ni i symud ein sefydliad yn ei flaen. 

"Mae ei gymorth cadarn i staff y sefydliad hwn wedi bod yn ddiysgog. Mae ei arweinyddiaeth dros y 12 mis diwethaf wedi ein helpu nid yn unig i sefydlogi'r sefydliad, ond hefyd i'w lywio tuag at ddyfodol llwyddiannus ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef i helpu'r sefydliad i gyflawni ei botensial yn llawn."

Mae penodiad Syr David yn Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn ymarfer recriwtio agored a theg wedi'i reoleiddio gan y Comisiwn Penodiadau Cyhoeddus. Gwnaeth gwrandawiad cyn penodi gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r penodiad.