Neidio i'r prif gynnwy

Bydd hwb ariannol o £180m ar gael y flwyddyn nesaf ar gyfer cynlluniau i ddarparu system iechyd a gofal cymdeithasol ddi-dor sy’n helpu pobl i fyw bywydau iach ac annibynnol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae’r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, a’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, wedi amlinellu eu blaenoriaethau gwario ar gyfer 2019-20. 

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen Cymru Iachach, y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fel rhan o’r broses o drawsnewid y system iechyd a gofal cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru am i bawb allu cael gafael ar un pecyn integredig o ofal iechyd a gofal cymdeithasol pan fo’u hangen arnynt. Gall hwn gael ei ddarparu gan nifer o wahanol wasanaethau, yn unol ag anghenion pobl.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Yng Nghymru, rydyn ni wedi pennu gweledigaeth glir i drawsnewid y system iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd pobl yn cael un pecyn integredig o ofal iechyd a gofal cymdeithasol a hwnnw wedi’i deilwra i weddu i’w hanghenion a’u dymuniadau.

“Mae’r pecyn buddsoddi gwerth £180m yr ydyn ni’n ei gadarnhau heddiw ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn fuddsoddiad ychwanegol sylweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd yn cael ei dargedu ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, i adlewyrchu ein dull gweithredu integredig ar gyfer datblygu modelau gofal di-dor.”

Bydd £130m o gyllid yn 2019-20 yn helpu i ddarparu’r pecyn cymorth integredig, a bydd ar gael i bartneriaethau rhanbarthol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy Gymru. Caiff y cyllid ei ddyrannu mewn tri phrif faes:

  • £50m o gyllid refeniw ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig, sydd â’r nod o leihau pwysau ar y system ysbytai a gofal cymdeithasol drwy helpu i atal derbyniadau diangen i’r ysbyty, derbyniadau amhriodol i ofal preswyl, ac oedi cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty
  • £30m i’w ddyrannu drwy’r byrddau partneriaeth rhanbarthol – cyrff yw’r rhain lle gwneir penderfyniadau ar y cyd gan y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol. Bydd gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol ran flaenllaw yn y broses o roi Cymru Iachach ar waith
  • £50m i’r Gronfa Trawsnewid, i’w ddyrannu i raglenni a gymeradwyir gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn datblygu modelau gofal newydd a’u rhoi ar waith.

Mae’r Gweinidogion wedi cadarnhau hefyd y bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yn cael £50m y flwyddyn nesaf – bydd £20m yn cael ei ddarparu fel rhan o grant cynnal refeniw llywodraeth leol a £30m arall fel grant penodol o’r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Ychwanegodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:

“Bydd ein buddsoddiad ychwanegol o £50m mewn gofal cymdeithasol yn helpu’r gwasanaethau i fodloni’r galw cynyddol am wasanaethau ac i ddiwallu anghenion unigolion mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru.

“Mae’r pecyn buddsoddi ehangach hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu system iechyd a gofal cymdeithasol wirioneddol ddi-dor yng Nghymru.”

Daw’r cyhoeddiad wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cam dau o Gyllideb ddrafft 2019-20, sef y cynigion gwario manwl sy’n nodi sut y bydd y cyllid ar gyfer pob portffolio gweinidogol yn cael ei ddyrannu i wahanol raglenni a grantiau.