Bydd cymunedau yn Rhondda Cynon Taf – a welodd rai o’r llifogydd gwaethaf pan drawyd Cymru gan stormydd Ciara a Dennis yn gynharach eleni – yn elwa ar £1.1 miliwn yn rhagor o gyllid brys ar gyfer y gwaith atgyweirio y mae angen ei wneud ar unwaith ar asedau lliniaru llifogydd a gafodd eu difrodi.
Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at y £540,000 a roddwyd i’r awdurdod lleol ar gyfer gwaith i atgyweirio ac i adfer asedau lliniaru llifogydd, ac mae’n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfanswm o £1.6 miliwn i’r cyngor bwrdeistref ar gyfer gwaith o’r fath.
Bydd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn cadarnhau’r cyllid ychwanegol hwn wrth iddi ymweld â chynllun atal llifogydd yn Aberdâr heddiw (dydd Llun, 24 Awst 24) yng nghwmni’r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn golygu bod cyfanswm o ychydig llai na £4 miliwn wedi’i roi i awdurdodau lleol ar draws Cymru yn 2019/20 a 2020/21 ar gyfer gwaith atgyweirio.
Bydd y cyllid newydd yn caniatáu i’r awdurdod lleol wneud gwaith brys ar asedau lliniaru llifogydd sy’n bodoli eisoes.
Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys atgyweirio cegau a sgriniau cylfatiau, ynghyd ag archwilio ac atgyweirio asedau sy’n bodoli eisoes, ac atgyweirio neu newid cyfarpar monitro sy’n bodoli eisoes.
Dywedodd y Gweinidog:
Dw i’n falch iawn o fedru cadarnhau’r cyllid ychwanegol hwn wrth imi ymweld ag Aberdâr heddiw.
Rydyn ni wedi rhoi cyllid grant o 100% i bob un o’r ceisiadau a gyflwynwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer cynlluniau i liniaru perygl llifogydd, a byddwn ni’n parhau i gydweithio â’r awdurdod lleol wrth iddo ystyried sut i ymateb i berygl llifogydd ar draws dalgylch ehangach.
Mae’r awdurdod lleol wedi gweithio’n galed ers mis Chwefror i nodi’r gwaith atgyweirio y mae angen ei wneud ar asedau lliniaru llifogydd, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddiogelu cymunedau yn ystod unrhyw stormydd a ddaw i’w rhan yn y dyfodol.
Rydyn ni wedi rhoi cyllid llawn i’r holl awdurdodau lleol hynny ar draws Cymru a wnaeth gais am gyllid brys i atgyweirio amddiffynfeydd rhag llifogydd ac asedau lliniaru llifogydd, gan roi cyfanswm o ychydig yn llai na £4 miliwn.
Cafodd Cymru ei tharo’n arbennig o galed gan y stormydd ym mis Chwefror, ac rydyn ni wedi cyflwyno achos clir i Lywodraeth y DU o blaid yr angen am gyllid ychwanegol i fynd i’r afael â’r difrod a achoswyd. Rydyn ni’n edrych ’mlaen at weld Llywodraeth y DU yn gwireddu’i hymrwymiad i ganiatáu’r cyllid newydd hwnnw i Gymru er mwyn helpu gyda’r gwaith hanfodol hwn.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Rydyn ni’n parhau i annog yr awdurdodau lleol ac awdurdodau rheoli risg ym mhob cwr o Gymru i wneud cais am ragor o gyllid i helpu i fynd i’r afael â’r difrod a wnaed i asedau lliniaru llifogydd ac i amddiffynfeydd rhag llifogydd gan y stormydd ym mis Chwefror.
Wrth inni geisio ymateb i’r argyfwng hinsawdd, bydd yn rhai inni ddygymod â mwy o berygl llifogydd ledled Cymru.
Dyna pam rydyn ni nid yn unig wedi rhoi mwy o gymorth ariannol ac ymarferol i’r awdurdodau lleol ac i CNC – nid dim ond i helpu’r cymunedau hynny lle gwelwyd llifogydd yn gynharach eleni − ond hefyd er mwyn bwrw ’mlaen â chynlluniau newydd i amddiffyn rhag llifogydd, ac annog yr awdurdodau i gyflwyno mwy o brosiectau.
Mae’r cymorth hwn yn cynnwys cyllid grant o 100% ar gyfer yr holl waith ar baratoi a dylunio prosiectau, yn ogystal â’n rhaglen newydd i Reoli Llifogydd yn Naturiol, sy’n werth £2 filiwn.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
Rydyn ni’n croesawu’r cyllid hwn oddi wrth Lywodraeth Cymru yn fawr iawn. Mae’n caniatáu inni fwrw ’mlaen â phrosiectau pwysig i liniaru llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, a bydd yn lleihau cryn dipyn ar berygl llifogydd, er budd y trigolion lleol.
Roedd y stormydd welon ni ym mis Chwefror yn rhai na welwyd eu tebyg o’r blaen, ac achoson nhw ddifrod eang i eiddo ac i fusnesau ar draws ein bwrdeistref sirol. Roedd hynny’n ofid mawr inni i gyd.
Mae’r newid yn yr hinsawdd yn fygythiad gwirioneddol i’n cymunedau, ac mae’n debyg y bydd mwy a mwy o lifogydd wrth i’r hinsawdd barhau i newid. Erbyn hyn, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn diogelu’n cymunedau rhag bygythiad llifogydd, gan greu amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd, gwella’r seilwaith presennol, a chreu mwy o allu i’w gwrthsefyll.
Heblaw hynny, bydd y cyllid hwn yn helpu gyda mesurau i wella cydnerthedd yn ardal Pentre wrth inni nesáu at fisoedd y gaeaf, cyn i ragor o waith mwy hirdymor gael ei wneud.