Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi cyhoeddi mai Kathryn Bishop yw’r ymgeisydd y mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio ei gweld yn dod yn Gadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyn iddi gael ei phenodi’n ffurfiol fel Cadeirydd, bydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal gwrandawiad cyn penodi ddydd Iau 16 Chwefror i glywed tystiolaeth gan Ms Bishop fel yr ymgeisydd a ffefrir.

Mae’r cyhoeddiad mai Ms Bishop yw’r ymgeisydd a ffefrir yn cael ei wneud yn dilyn argymhelliad gan banel penodi sy’n cael ei gadeirio’n annibynnol, a hynny wedi i ymarfer recriwtio teg ac agored, wedi’i reoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, gael ei gynnal.  

O dan Ddeddf Rheoli a Chasglu Trethi (Cymru), a gafodd ei phasio gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Ebrill 2016, cafodd trefniadau eu sefydlu ar gyfer datganoli trethi yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys creu Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.  
Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn dechrau ar ei waith ym mis Ebrill 2018, pan fydd treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru.

Bydd y corff yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, sy’n atebol i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threthdalwyr yng Nghymru.

Nodiadau

  • Mae gwrandawiad cyn penodi wedi cael ei drefnu ar gyfer Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru gan mai hon yw’r adran anweinidogol gyntaf i gael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru. Mae gwrandawiadau cyn penodi yn cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o’r DU i alluogi pwyllgorau i glywed tystiolaeth gan yr ymgeisydd a ffefrir gan y Llywodraeth yn achos penodiadau cyhoeddus penodol cyn i’r penderfyniad penodi terfynol gael ei wneud.
  • Bydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi adroddiad yn dilyn y gwrandawiad yn amlinellu ei farn am ba mor addas yw’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y swydd. Yn dilyn hynny, bydd y penderfyniad terfynol ynglŷn â’r penodiad yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Kathryn Bishop

  • Mae gan Kathryn fwy na 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda sefydliadau sy'n mynd drwy newid mawr – yn Accenture, Allied Dunbar, Eagle Star, Zurich a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, ac mae ei chefndir yn cynnwys gweithio ym meysydd Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol.  
  • Mae ganddi bellach bortffolio o ymrwymiadau ac mae’n Gymrawd Cyswllt o Ysgol Fusnes Saïd (Prifysgol Rhydychen). Yno, mae hi’n cyfarwyddo rhaglenni arweinyddiaeth ar gyfer cwmnïau gwasanaethau proffesiynol a chorfforaethau rhyngwladol eraill, ac mae hi hefyd yn dysgu ar y rhaglenni hyn.  
  • Cafodd Kathryn ei phenodi yn Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil ym mis Ebrill 2012 a bu’n gweithio fel Prif Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil Dros Dro o fis Ebrill i Medi 2016.  
  • Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr busnes ymgynghori lle mae hi’n rheoli prosiectau ar gyfer cleientiaid. Mae’r gwasanaeth a gynigir yn cynnwys cynorthwyo sefydliadau’r sector preifat, asiantaethau gweithredol, Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Chyrff Cyhoeddus Anadrannol â materion cynllunio strategol.  
  • Mae hi wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Anweithredol mewn amryw o sefydliadau’r llywodraeth, gan gynnwys Asiantaeth Ffiniau'r DU, Swyddfa Eiddo Deallusol y DU, ac yn Llywodraeth Cymru.

Awdurdod Cyllid Cymru (WRA)

Bydd gan Awdurdod Cyllid Cymru bwerau tebyg i awdurdodau trethi eraill y DU fel bod y corff yn gallu ymgymryd â’i swyddogaethau mewn modd cyson a chynhwysfawr.  

Yn ogystal â chasglu trethi, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn:

• Rhoi gwybodaeth, cyngor a help i drethdalwyr mewn perthynas â threthi
• Datrys cwynion ac anghydfodau
• Hybu cydymffurfiaeth â threthi
• Lleihau achosion o efadu trethi ac osgoi trethi
• Cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu polisi trethi