Bydd Gwyliau Gottwood a Merthyr Rising yn cael eu cynnal dros benwythnos 9 i 12 Mehefin ac rydyn ni’n disgwyl ymlaen yn fawr at groesawu’r torfeydd yn ôl i ddau ben y wlad.
Mae perchenogion y ddwy ŵyl wedi cael cymorth mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru trwy Digwyddiadau Cymru i’w helpu i ehangu a datblygu.
Mae Merthyr Rising yn ŵyl sy’n cael ei chynnal i gofio un o’r gwrthryfeloedd cyntaf erioed i gael ei drefnu gan weithwyr, sef Gwrthryfel neu Derfysg Merthyr ym 1831. Mae’r ŵyl yn dathlu’r digwyddiad trwy wledd o gerddoriaeth, celf a thrafod gwleidyddol.
Mae Gottwood yn ŵyl danddaearol, annibynnol, ‘boutique’ ac agos atoch chi o gerddoriaeth electronig yng Nghaergybi, Ynys Môn. Yn ôl The Independent, “dyma un o’r gwyliau boutique pwysica’ yn y DU.”
Dywedodd Lyn Williams, Trefnydd Gŵyl Merthyr Rising:
“Mae Gŵyl Merthyr Rising yn ymrwymo i gynnal gŵyl sy’n hyrwyddo hanes a diwylliant ein tref yn ogystal â denu ymwelwyr i Ferthyr Tudful a’r cyffiniau. Mae’r cymorth rydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru yn amhrisiadwy a bydd yn ein helpu i dyfu dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y twf hwn yn cyd-fynd â’n gweledigaeth ar gyfer hybu gweithgarwch economaidd a delwedd yr ardal, fel y mae’n ei haeddu ac sydd ei hangen arni.
Dywedodd Tom Carpenter, Cyfarwyddwr Gŵyl Gottwood:
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am gyfraniadau Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru i gefnogi ein digwyddiad. Mae’r help hwn wedi bod yn amhrisiadwy ac yn gydnabyddiaeth bod gwyliau nid yn unig yn hynod o bwysig i ddiwylliant, yr economi leol ac iechyd meddwl ond hefyd yn gyfrwng i bobl ffoi rhag blynyddoedd anodd ac ynysig iawn. Heb y cymorth, ni fyddem wedi gallu fforddio’r cynnydd aruthrol yng nghostau cynnal gŵyl ar adeg o gynnydd anferth mewn costau byw a chostau cynhyrchu a llafur mor anwadal.
"Bydd Gottwood wastad yn ddiolchgar ac rydym yn disgwyl ymlaen yn eiddgar at weld o’r diwedd yr hyn sy’n bwysig i ni yn dwyn ffrwyth, sef pobl o bob rhan o Gymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt yn dod ynghyd i fwynhau cerddoriaeth mewn ardal sydd yn ein barn ni gyda’r harddaf yn y byd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Dyma ddwy enghraifft dda o ddigwyddiadau brodorol rydyn ni’n falch o gael eu cefnogi gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru trwy Digwyddiadau Cymru. Mae helpu digwyddiadau fel y rhain yn cyfoethogi’r arlwy celfyddydol a diwylliannol yn ein cymunedau, gan gynnig llwyfan i dalentau newydd o Gymru. Maen nhw hefyd yn gallu tyfu i fod yn ddigwyddiadau mawr sy’n dod â bri rhyngwladol i Gymru.
"Byddwn yn parhau i gefnogi digwyddiadau ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys ym meysydd diwylliant, y campau a busnes. Dwi’n disgwyl ymlaen at weld y sector digwyddiadau’n chwarae rôl bwysig yn ein dyfodol economaidd a diwylliannol.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf o 2019, gwnaeth y digwyddiadau a noddwyd gan Digwyddiadau Cymru ddenu 200,000 o ymwelwyr i Gymru gan greu £33.35 miliwn o effaith economaidd/gwariant ychwanegol net yng Nghymru a chynnal mwy na 770 o swyddi yn yr economi dwristiaeth ehangach.
Yn ystod y pandemig, cafodd rhagor na £108 miliwn o gymorth ariannol o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol ei neilltuo i helpu’r sectorau diwylliant, creadigol, digwyddiadau a chwaraeon.