Neidio i'r prif gynnwy

Mae dau dafarndy traddodiadol yn y Gogledd wedi’u gweddnewid yn llwyr ar ôl iddynt gael cyllid o dan Gynllun Cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi mewn Twristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Plas yn Dre, y Bala, wedi bod yn fwyty teuluol ers 1990, ond diolch i £72,000 a gafwyd o dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, cafodd ei weddnewid yn 2017. Fe’i hadnewyddwyd yn llwyr ac ychwanegwyd 9 ystafell wely ar gyfer gwesteion.
Erbyn hyn, mae'r adeilad rhestredig Gradd II wedi agor yn llawn yn barod ar gyfer y Pasg, ac mae yno fwyty, lolfa a bar. Y prif waith oedd troi'r 2 lawr uchaf yn 9 ystafell wely en-suite. Ar ôl iddo agor y bwyty ar gyfer Sul y Mamau ym mis Mawrth, mae'r perchennog, Siôn Williams, wrth ei fodd â'r ymateb hyd yma ac yn edrych ymlaen at dymor prysur. Dywedodd: 
"Mae’r gwaith gorffenedig ymhell y tu hwnt i'r disgwyl ac mae ymateb y cwsmeriaid yn anghredadwy. Mae'r ystafelloedd yn llawn ar gyfer llawer o benwythnos y Pasg." 

Bydd tafarndy hanesyddol yr Erskine Arms yng Nghonwy yn agor yn mis Mai, ar ôl iddo gael ei ailddatblygu a'i weddnewid. Mae ynddo bellach fwyty a deg ystafell wely o ansawdd uchel. Cefnogwyd y gwaith o ailddatblygu'r dafarn Sioraidd draddodiadol hon â chymorth o £140,000 o dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, a bydd yn creu 23 o swyddi. 
Stange & Co. Ltd sy'n berchen ar yr Erskine, ac maent hefyd yn berchen ar y Glengower yn Aberystwyth a The Snowdon  and Cottage Loaf yn Llandudno. Mae Stange & Co. Ltd yn grŵp teuluol o dafarnau annibynnol sydd â chymeriad arbennig. Maent yn canolbwyntio ar gynnwys bwyd cartref ar eu bwydlenni ac yn cynnig cwrw casgen lleol wrth y bar. Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:   
“Dw i’n hynod falch ein bod wedi gallu rhoi help llaw i'r perchenogon ailddatblygu'r ddau dafarndy traddodiadol hyn.  Mae'n wych eu gweld yn cael bywyd newydd ac yn cael eu gweddnewid i safon uchel iawn, gan ddarparu swyddi yn yr ardal. Mae'r ddau hefyd yng nghanol y dref yn y Bala ac yng Nghonwy, sy'n bywiocáu'r trefi hyn a'u gwneud yn fwy deniadol. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r ddau ddatblygiad yn y dyfodol."